Brexit, Darllen hir, Datganoli a'r Cyfansoddiad, Economi a Masnach, Uncategorized @cy

Y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol

Ddwy flynedd ar ôl i’r DU bleidleisio dros adael y DU, mae Llywodraeth Prydain, o’r diwedd, wedi cyhoeddi ei strategaeth ar y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol mewn Papur Gwyn a gyflwynwyd ar 12 Gorffennaf 2018.

Mae’r Papur Gwyn yn cynnig Brexit ‘meddal’ er mwyn cyfyngu ar yr effeithiau negyddol ar economi Prydain wrth adael yr UE.

Eto i gyd, cynnig yn unig yw hwn, sydd ond yn sail ar gyfer safbwynt y DU at ddibenion trafodaethau Brexit ym Mrwsel gyda’r 27 o aelod-wladwriaethau eraill yr UE. Disgwylir y bydd pryderon ar ochr yr UE – os nad gwrthwynebiad – o ran rhai o’r pwyntiau a awgrymir gan Lywodraeth y DU.

Yn gryno, beth yw’r prif bwyntiau yn y Papur Gwyn?

Yn gyntaf, mae gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer partneriaeth economaidd yn awgrymu ardal fasnach rydd ar gyfer nwyddau. Byddai hyn yn sicrhau mynediad parhaus i farchnad sengl yr UE ac, ar yr un pryd, yn osgoi ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. Mae’r bartneriaeth economaidd hon nid yn unig yn cynnwys ymrwymiad i gynnal y trefniadau presennol ar gyfer nwyddau ac amaethyddiaeth, mae hefyd yn rhagweld trefniadau newydd ar wasanaethau, yn enwedig gwasanaethau ariannol, a digidol.

Yn y gorffennol, mae’r UE wedi beirniadu’r safbwynt hwn fel ‘dewis a dethol’, gyda’r DU yn ceisio cynnal yr holl fanteision yn y meysydd sydd o fudd i Brydain, tra’n ceisio osgoi gorfod cydymffurfio ag unrhyw un o’i goblygiadau blaenorol o dan aelodaeth o’r UE. Go debyg y disgwylir consesiynau pellach gan y DU yn y maes hwn.

Yn ail, mae’r bartneriaeth ddiogelwch arfaethedig yn awgrymu parhau i gymryd rhan mewn asiantaethau Ewropeaidd penodol – megis Europol ac Eurojust – yn ogystal â chydweithredu ym meysydd trosedd a diogelwch rhyngwladol. Er ei bod yn bosibl i wladwriaeth nad yw’n aelod-wladwriaeth gymryd rhan a chydweithredu yn y meysydd hyn, cyfyngir – wrth reswm – ar yr arfer o rannu gwybodaeth yn dilyn Brexit, gyda’r DU yn gorfod derbyn ei bod yn chwarae rhan ar y cyrion.

Y trydydd prif bwynt yw safle’r DU yn y byd. Wrth dynnu’n ôl o’r UE, bydd yn bosibl trafod cytundebau masnachu annibynnol gyda phartneriaid eraill ledled y byd. Fodd bynnag, bydd y DU yn parhau i fod wedi’i chyfyngu gan reolau’r UE, po fwyaf meddal y Brexit. Bydd hynny, wedyn, yn ei gwneud yn anoddach i’r DU fasnachu’n rhydd gyda gwledydd eraill, megis yr Unol Daleithiau, gyda’r Arlywydd Trump eisoes yn cwestiynu pa mor fuddiol fyddai cytundeb o’r fath gyda’r DU iddo.

A yw’r cynnig yn cyflwyno safbwynt unedig ar ran y DU ynghylch Brexit?

Na. Yn wir, mae anghytuno cryf o fewn y DU ar sawl lefel am yr hyn y mae Brexit yn ei olygu mewn gwirionedd. Gan orfod dibynnu ar fwyafrif bychan yn y Senedd – yn ogystal â chyfyngiadau tynn iawn o ran amser ar gyfer dirwyn y broses gyfan o adael i ben ym mis Mawrth 2019 – mae cynigion y Llywodraeth wedi ennyn tensiynau newydd.

Mae’r gyfres o ymddeoliadau diweddar – yr Ysgrifennydd Brexit, David Davis, yr Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, yn ogystal â dau o Is-gadeiryddion y Blaid Dorïaidd – wedi amlygu’r rhaniadau o fewn y Llywodraeth ynghylch y cynllun Brexit arfaethedig yn fwy fyth. Gallai unrhyw gonsesiynau ychwanegol sy’n angenrheidiol yng ngolwg y 27 aelod-wladwriaeth ym Mrwsel er mwyn llunio cytundeb terfynol, gynyddu’r pwysau mewnol ar y Prif Weinidog.

Yn ogystal, mae gan wahanol ranbarthau’r DU fuddiannau a safbwyntiau gwahanol iawn o ran Brexit, sy’n ychwanegu at y gwrthdaro ym Mhrydain. Tra mai’r mater pennaf o dan sylw yng Ngogledd Iwerddon yw’r ffin â’r Weriniaeth, gallai’r Alban ddewis ceisio cael annibyniaeth eto, fel dewis olaf. O ran Cymru, mae gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones ei farn bersonol hefyd ynghylch Brexit, ac mae wedi beirniadu Llywodraeth y DU am ei dull “dryslyd ac yn un sy’n peri dryswch”.

Beth mae’n ei olygu i Gymru a busnesau/dinasyddion Cymru?

Yn gyntaf, nid Papur Gwyn y Llywodraeth ei hun yw’r ddogfen derfynol sy’n rheoleiddio’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol. Yn hytrach, mae’n nodi man cychwyn ar gyfer trafodaethau dwys gyda’r 27 aelod-wladwriaeth. Felly, bydd rhagor o newidiadau yn ôl pob tebyg cyn y cytunir ar unrhyw beth sy’n rhwymol yn ôl y gyfraith.

Tra bod y Papur Gwyn yn rhagweld y bydd safonau uchel yn cael eu cynnal o ran yr amgylchedd neu warchod defnyddwyr er mwyn bodloni gofynion yr UE, nid oes sicrwydd cyfreithiol o hyd i fusnesau na dinasyddion ynghylch beth y bydd Brexit yn ei olygu iddyn nhw mewn gwirionedd. Gallai’r ansicrwydd hwn atal darpar fuddsoddwyr rhag buddsoddi ymhellach yng Nghymru ac ardaloedd eraill yn y DU.

Yn ail, dim ond ychydig o ddatganiadau amwys y mae’r Papur Gwyn yn eu cynnig o ran parhau i barchu’r cymwyseddau datganoledig a sefydlwyd o dan y setliadau datganoli. Mae’n cydnabod yr angen am ‘gydweithrediad agos’ mewn rhai meysydd datganoledig, megis amaeth a’r amgylchedd.

Fodd bynnag, mae’n glir hefyd o’r cynigion bod yn rhaid i’r rhanbarthau datganoledig gyd-fynd â’r ‘DU yn ei chyfanrwydd’, a gallai’r gweinyddiaethau datganoledig golli grym o ganlyniad i hynny. O ran amaeth yn enwedig, gallai marchnad fewnol fwy integredig olygu y byddai llai o gefnogaeth/arian i ffermwyr mewn ardaloedd mwy difreintiedig yng Nghymru a’r rhanbarthau datganoledig eraill.

Dr Annegret Engel, Cymrawd Ymchwil Gwadd yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru (EngelA@caerdydd.ac.uk). Mae Annegret yn arbenigo yng nghyfraith yr UE a chytundebau rhyngwladol, gyda phwyslais penodol ar y terfynau a osodir ar gymwyseddau.

Mae’r postiad hwn yn cynrychioli barn yr awduresau ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *