Rhaid i Gymru ddatblygu model newydd ‘ffermio a mwy’ i sicrhau polisi amaethyddol cynaliadwy ar ôl Brexit.
Mae Brexit yn cynrychioli her ddifrifol a chyfle i ailgynllunio polisi bwyd-amaeth, datblygu rhanbarthol a gwledig yng Nghymru,
Er mai cyllid sector cyhoeddus y Deyrnas Unedig fu’r maes cyllido mwyaf o bell ffordd (drwy fformiwla Barnett) i effeithio ar y meysydd hyn yn ystod cyfnod y byddwn o bosib bellach yn ei ystyried fel cyfnod cyntaf (20-mlynedd) llywodraethu datganoledig yng Nghymru, mae’r meysydd polisi hyn hefyd wedi dibynnu’n drwm ar raglenni Undeb Ewropeaidd neilltuedig sy’n gysylltiedig â chyllid Datblygu Rhanbarthol a chyllid y Polisi Amaethyddol Cyffredin (CAP).
Seiliwyd y rhaglenni hyn ar set o flaenoriaethau ar sail angen a luniwyd yn sgîl cenhadaeth yr EU o leihau gwahaniaethau economaidd rhanbarthol, adeiladu capasiti rhanbarthol a chefnogi teuluoedd ffermio i ddarparu cyfuniad o nwyddau cyhoeddus a marchnad.
Nawr ein bod yn wynebu bwgan Brexit a realiti ymddatod oddi wrth y fframweithiau polisi cymhleth hyn, mae’n hanfodol bod Cymru yn datblygu gweledigaeth newydd ar y cyd o’i datblygiad gwledig a rhanbarthol cynaliadwy ei hun, sydd bellach yn cyfateb yn llwyr i’r egwyddorion a’r gwerthoedd a geir yn ei Deddfau ynghylch Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Amgylchedd a’i rhwymedigaethau statudol.
Mae hynny’n golygu – er ein bod yn cydnabod yn llawn y cysylltiadau economaidd hynod integredig â gweddill y Deyrnas Unedig a’r angen mewn llawer o feysydd rheoleiddio (e.e. masnach a safonau bwyd) am gyfranogi a dylanwadu’n rhagweithiol ar fframweithiau’r Deyrnas Unedig gyfan yn ystod ac ar ôl proses Brexit – mai cam arall hanfodol yw bod Cymru’n datblygu ei gweledigaeth a’i strategaeth unigryw ei hun ar gyfer yr economi bwyd-amaeth, gwledig a rhanbarthol, a hynny ar sail dull gweithredu ecolegol-economaidd (eco-economaidd) cadarn.
Y cynnig sydd dan sylw yw bod strategaeth a gweledigaeth yn cael eu llunio i feithrin y pontio sydd eisoes ar waith at fodel ôl-garbon a mwy cynhwysol o ddatblygu economaidd cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar dwf, ac yn sgîl hynny yn ychwanegu at unigrywiaeth a phosibiliadau Cymru o ran datblygu economi werdd arloesol sy’n arwain y byd.
Bydd angen i’r economi a’r weledigaeth sicrhau bod ardaloedd gwledig a’u natur a reolir (h.y. cyfuniadau amrywiol o randdeiliaid, gan gynnwys tirddeiliaid, coedwigwyr a thirweddau dynodedig) yn ganolog i gyflawni agenda Cenedlaethau’r Dyfodol yn ystod gweddill y ganrif hon.
Un o oblygiadau creu a datblygu’r weledigaeth a’r strategaeth hon yw pwysigrwydd edrych ar sut gallwn ni greu proses fwy integredig o lunio a chyflawni polisi sydd nid yn unig yn lliniaru anghydraddoldebau gofodol a chymdeithasol ledled Cymru, ond hefyd yn dathlu a chydnabod amrywiaeth yr economi ecolegol yng Nghymru; yn anad dim drwy ddatblygu dulliau gweithredu mwy pwrpasol, seiliedig ar le.
Mae hwn yn gyfle i integreiddio polisi rhanbarthol, gwledig ac amaethyddol gan greu polisi datblygu gwledig cynaliadwy – yr hyn rwyf fi’n ei alw’n ddull gweithredu “ffermio a mwy”.
Mae ffermio yn dod yn gyfrwng canolog ar gyfer cyflawni datblygu gwledig cynaliadwy, ynghyd ag amrywiaeth ehangach o weithgareddau economaidd gwledig aml-swyddogaeth – ynni adnewyddadwy, twristiaeth gynaliadwy a mentrau gwledig.
Mae hyn yn rhan annatod o weledigaeth y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) o’r “patrwm datblygu gwledig newydd” sydd bellach yn cael ei ddatblygu mewn llawer rhanbarth yn Ewrop.
O ganlyniad, mae’n amserol dychwelyd amaethyddiaeth a ffermio i’w lle amlwg yn yr economi wledig, a datblygu mecanweithiau cymorth sy’n hybu economïau lleol busnesau aml-swyddogaeth.
Nid oes unrhyw reswm pam na allai gweledigaeth a strategaeth a rennir gan Gymru ategu ymagwedd esblygol ehangach y Deyrnas Unedig, ond gan fod ar yr un pryd yn unigryw ac “yn eiddo” i ffurflywodraeth Cymru, er mwyn cadw rheolaeth ar fecanweithiau dyrannu seiliedig ar Gymru (gweler yn ddiweddarach yn yr erthygl hon).
Ffynonellau a chyfryngau cyllid
Yn amlwg, mae’r ddau brif faes o gymorth posibl ar gyfer y dull gweithredu uchod yn gysylltiedig ag amcanion datblygu rhanbarthol y Deyrnas Unedig yn ei Chronfa Ffyniant a Rennir (amhenodedig hyd yma); a chefnogaeth y Deyrnas Unedig i’r byd amaethyddol wrth “bontio” ac yn y pen draw yn y cyfnod ôl-Brexit.
Mae angen i Lywodraeth Cymru gael trafodaethau rhagweithiol gyda Whitehall ar frys ynghylch y ddau fater hyn, er mwyn i ni fedru mynegi a hyrwyddo ein gweledigaeth a’n strategaeth, a chyfiawnhau cyllid hollbwysig ar gyfer Cymru yn y ddau faes hyn.
Bydd angen ennill y ddadl, faint bynnag o gyllid sydd ar gael i Gymru o dan y cynlluniau hyn, bod angen i’r cyllid hwnnw fod: (a) yn seiliedig ar leihau anghysondebau CMC ledled Cymru; (b) yn seiliedig ar asesiad ar sail anghenion; ac (c) yn caniatáu i gymorth barhau, o leiaf ar sail model sy’n lleihau, ar gyfer cymorth cynhyrchu fferm sy’n dilyn y dull aml-swyddogaeth ehangach a ddarluniwyd uchod.
Mae perygl gwirioneddol yma y bydd pa gyllid bynnag sy’n cael ei ddarparu ac sy’n cael ei ddyrannu yn y pen draw o dan y cynlluniau hyn, yn: (a) hynod gystadleuol, yn enwedig â rhanbarthau eraill yn Lloegr; (b) yn gysylltiedig â chysyniad confensiynol o gynhyrchiant a thwf, sy’n gwahaniaethu yn erbyn ardaloedd gwledig a rhai â phoblogaeth ddarniog, gan ffafrio yn eu lle economïau trefol, sydd wedi’u crynhoi; ac (c) mae’n canolbwyntio gormod ar nwyddau cyhoeddus sydd heb fynd i’r farchnad yn hytrach na chyfuniad o gynhyrchu a gwasanaethau.
Dyna pam mae’n hanfodol bwysig, yn fy marn i, peidio â chael ein llethu gan brosesau “pontio” ôl-Brexit, ond datgan gweledigaeth i Gymru y tu hwnt i’r cyfnod pontio. Ar ben hynny, byddwn i’n argymell rhoi sylw difrifol i gynnig bod pa gyllid bynnag o San Steffan sy’n cymryd lle’r cyllid CAP a Datblygu Rhanbarthol (Cydgyfeiriant) yn cael ei yrru gan fformiwla, a hynny ar fodel “Barnett a mwy” yr ychwanegir ato.
Gallai hyn ddigwydd dros gyfnodau cynllunio o 5-7 mlynedd er mwyn rhoi peth sicrwydd ac adolygu buddsoddiadau dros amser.
Systemau dyrannu datganoledig: cymryd rheolaeth
Mae’r cynnig uchod yn awgrymu bod angen sefydlu Asiantaeth neu Fwrdd Datblygu Rhanbarthol a Gwledig strategol yng Nghymru, gyda datblygu rhanbarthol, bwyd-amaeth a datblygiad economi wledig Cymru gyfan yn rhan o’i gylch gorchwyl, gan adrodd i’r cabinet a’r Cynulliad Cenedlaethol. Dylai hyn gyfateb i gyflawni gweledigaeth Cenedlaethau’r Dyfodol, ymdrin ag adfer bioamrywiaeth, ffermio teuluol a’r economi wledig leol yng Nghymru, a thrafod gyda Whitehall ynghylch dyraniadau cyllido a phrosesau Barnett a mwy.
Bydd y corff, felly, yn rheoli dyraniadau datganoledig ledled Cymru, gan gynnwys cefnogi asiantaethau darparu (rhanddeiliaid gwledig). Yn fy marn i, bydd y dull gweithredu hwn yn lleihau’r cynnydd posibl yng nghostau trafodion sy’n gysylltiedig â’r hyn a allai fod yn gyllid “a drosglwyddir i lawr am resymau gwleidyddol” a chyllid cystadleuol mwyfwy dethol gan Whitehall. A bydd yn rhoi llais cryfach ar y cyd i Gymru ar draws y gwledydd datganoledig, ac yn parhau i greu cysylltiadau cadarnhaol, wedi’u rhwydweithio gyda’r Undeb Ewropeaidd (nid lleiaf ynghylch cyllideb Ymchwil a Datblygu FP9), yn ogystal â’r trafodaethau ynghylch polisïau gwledig a bwyd sy’n datblygu ar hyn o bryd.
Systemau targedu a darparu
Dylai targedu a darparu cymorth ariannol yng Nghymru yn ystod ac ar ôl y cyfnod pontio roi pwyslais ar systemau cymorth datganoledig ar gyfer partneriaethau sy’n seiliedig ar le ar amrywiaeth o raddfeydd gofodol gwahanol.
Gallai’r rhain gyfateb i is-ranbarthau datganiad ardal Cyfoeth Naturiol Cymru, ac i gynllunio dalgylchoedd a phartneriaethau. Gallai ffermwyr barhau i fod yn brif dderbynwyr y cronfeydd hyn cyhyd â’u bod yn gweithio mewn partneriaeth ac yn cydweithio â’r ystod ehangach o randdeiliaid seiliedig ar le, ac yn dangos sut roeddent yn cysoni cynhyrchu bwydydd ansawdd uchel yn gynaliadwy, ynghyd â nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol eraill (gan gynnwys coetir, rheoli dŵr, ynni adnewyddadwy ac amwynder cynaliadwy a thwristiaeth).
Mae hyn yn ganolog i’r dull gweithredu “ffermio a mwy”. Gall Tirweddau Dynodedig Cymru (dros 25% o wyneb y tir), er enghraifft, ddod yn enghreifftiau disglair o arloesi er mwyn meithrin y dulliau gweithredu hyn mewn partneriaeth. Yng Nghymru ceir llawer o arbrofion rhagorol ac arloesol o weithio mewn partneriaeth yn seiliedig ar le. Mae angen yn awr i’r rhain symud yn fwy i’r brif ffrwd, os yw ein gweledigaethau i gael eu gwireddu.
Ffermio ar gyfer y dyfodol: creu a chynhyrchu ar gyfer y cyhoedd a’r farchnad
O safbwynt Cymru, felly, mae ymgynghoriad presennol Defra ar Iechyd a Chytgord yn cyflwyno diffiniad o nwyddau cyhoeddus a phreifat sy’n llawer rhy gul a di-liw. Nid yw’n cymryd i ystyriaeth yr angen i ddatblygu pontio i systemau cynhyrchu bwyd cynaliadwy lleol a rhanbarthol a mathau lleol o ddatblygu economaidd gwledig.
Rhaid i ddull Cymru fod yn fwy integredig ac wedi’i dargedu at greu modd i ni gynnal yr economi wledig a thirddeiliaid bach a ffermwyr mewn ffyrdd sy’n adeiladu eu capasiti i fod yn asiantau cyflenwi mawr ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.
Ni ddylem dderbyn, felly, bod parhau i grynhoi ffermio a gweld teuluoedd ffermio yn diflannu yn ganlyniad anochel. O dan y weledigaeth a’r strategaeth a amlinellir yma, byddant yn hytrach yn dod yn fusnesau hanfodol ar gyfer cyflawni economi a natur wledig cynaliadwy.
O ganlyniad mae datblygu strategaeth bwyd-amaeth o ansawdd, wedi’i brandio a’i hadfywio, ar sail set fwy amrywiol o arferion ffermio, yn dod yn elfen hanfodol o’r dull gweithredu ôl-Brexit yng Nghymru.
Yr Athro Terry Marsden yw Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae’r postiad hwn yn cynrychioli barn yr awduresau ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.
Sylwadau
No comments.