Brexit, Darllen hir, Datganoli a'r Cyfansoddiad

Llafurio’r cwestiwn

Mae llawer o’r sylw academaidd ac yn y cyfryngau i Brexit yn ddigon dealladwy wedi canolbwyntio ar y dimensiwn allanol: y trafodaethau cymhleth rhwng y DU a’r UE ynghylch gadael a’r berthynas yn y dyfodol.

Mae llawer o sylw hefyd wedi’i roi i’r wleidyddiaeth fewnol anodd yn San Steffan – gyda llywodraeth Theresa May, heb fwyafrif seneddol ac yn llawn rhaniadau mewnol dwfn, yn ceisio rheoli’r dasg anoddaf i’r DU fel gwladwriaeth ei hwynebu mae’n debyg ers yr Ail Ryfel Byd.

Ar goll yng nghanol hyn i gyd i raddau mae’r dimensiwn rhynglywodraethol, oddi mewn i’r DU. Ond mae’n un sydd wedi datblygu i fod yn bwysig iawn. Creodd Brexit raniadau mewnol yn y DU o’r dechrau, gyda dwy o’r cenhedloedd wedi pleidleisio i Adael a dwy’n cefnogi Aros. Yn groes i’r hyn ddywed y Prif Weinidog am ‘y wlad yn dod at ei gilydd’ dros Brexit, cynyddu mae’r rhaniadau hyn.

O’r diwrnod ar ôl y refferendwm, mae Llywodraeth yr Alban wedi mynegi pryder fod yr Alban yn cael ei gorfodi allan o’r UE yn erbyn ei hewyllys. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn anhapus ers tro: er nad oes ganddi fandad i wrthwynebu Brexit fel sydd gan Lywodraeth yr Alban, mae’n ymwybodol iawn o’r ffyrdd niferus y mae Cymru’n ddibynnol ar aelodaeth o’r UE yn economaidd ac felly mae wedi ceisio sicrhau’r Brexit mwyaf meddal posibl. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ceisio defnyddio Brexit fel modd i ddechrau ailffurfio’r DU yn sylfaenol fel gwladwriaeth; tra bo’r weinyddiaeth yng Nghaeredin dan arweiniad yr SNP yn ystyried ail refferendwm ar annibyniaeth, gyda Brexit yn cynnig rheswm dros wneud hynny.

Er gwaetha’r hanes hir o chwerwder rhwng Llafur a’r SNP, mae llywodraethau Caerdydd a Chaeredin yn aml wedi bod ar yr un ochr dros Brexit. Mae gweinidogion o’r ddwy lywodraeth wedi beirniadu llywodraeth y DU yn gyhoeddus dros eu hymdriniaeth o Brexit – yn benodol eu hymddygiad yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, lle mae llywodraeth y DU i fod i ymgynghori’n ffurfiol gyda’i chymheiriaid datganoledig. A thros y flwyddyn ddiwethaf mae Caerdydd a Chaeredin wedi sefyll gyda’i gilydd i wrthwynebu’r darpariaethau datganoli yn y Bil Ymadael â’r UE. Cyhoeddodd y ddau Brif Weinidog Nicola Sturgeon a Carwyn Jones ddatganiad ar y cyd yn gwrthwynebu’r bil pan gafodd ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2017; gan atgyfnerthu eu cyd-wrthwynebiad yn ddiweddarach.

Fodd bynnag chwalodd y gynghrair hon ym mis Ebrill. Cafwyd cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llundain ar elfennau datganoledig y Bil Ymadael â’r UE. Ond mae anghytundeb yn parhau rhwng Llundain a Chaeredin. Ymhellach, mae pob plaid yn Holyrood ar wahân i’r Ceidwadwyr wedi cefnogi safbwynt Llywodraeth yr Alban.

Mae hyn wedi gadael y blaid Lafur mewn sefyllfa arbennig o ddiddorol. Mewn tystiolaeth ddiweddar i bwyllgor dethol yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd arweinydd Llafur yr Alban, Richard Leonard, fod y Bil Ymadael yn parhau’n annerbyniol. Eto i gyd, mewn araith bwysig yng Nghaerdydd, amddiffynnodd y gweinidog yng Nghymru sy’n gyfrifol am Brexit, a mwy na thebyg y Prif Weinidog nesaf, Mark Drakefor,d y ‘cyfaddawd’ roedd wedi’i wneud gyda Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, roedd Drakeford i’w weld yn anghyfforddus pan gafodd ei herio ar y rhaniadau gyda’i gymheiriaid yn Llafur yr Alban.

O dan elfennau penodol y Bil Ymadael â’r UE ceir cyd-destun ehangach y gwahaniaeth yn hynt Llafur yn yr Alban ac yng Nghymru. Cyn datganoli, ac am rai blynyddoedd wedi hynny, Llafur oedd y blaid gryfaf yn y ddwy genedl. Ond dim ond mewn un ohonynt mae hynny’n wir bellach. Yng Nghymru mae Llafur wedi hwylio yn ei blaen heb gael ei herio, ond yn yr Alban mae wedi llithro i’r drydydd safle.

Mae rhan o’r gwahaniaeth hwn yn ffawd Llafur yn deillio o safon eu gwrthwynebwyr: mae’r SNP yn llawer mwy effeithiol yn wleidyddol na Phlaid Cymru, ac yn ddiweddar mae arweinyddiaeth y Ceidwadwyr wedi bod yn llawer gwell yn yr Alban nag yng Nghymru. Ond cafwyd gwahaniaethau mawr hefyd yn y ffordd mae Llafur wedi rheoli gwleidyddiaeth datganoli.

Cafodd Llafur Cymru sioc gas yn 1999. Dan arweiniad Alun Michael, oedd yn cael ei weld yn eang fel rhywun a orfodwyd arnynt gan Tony Blair, roedd eu canlyniadau yn etholiad cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol yn llawer gwaeth na’r disgwyl – gyda Phlaid Cymru’n elwa fwyaf. Ers 2000, dan Rhodri Morgan ac yna Carwyn Jones, mae eu harweinyddiaeth yn y Cynulliad wedi dod o’u hadain fwy ‘Cymreig’ ac ymreolaethol. Nid yw’r ymagwedd hon wedi bod yn boblogaidd gan bawb drwy’r amser. Roedd rhai yn gwrthwynebu cytundeb y glymblaid gyda Phlaid Cymru yn 2007, gan gynnwys cyn arweinydd y blaid yn y DU, Neil Kinnock. Dros y misoedd diwethaf, roedd rhai ASau Llafur Cymru yn llai ha hapus am eu cynghrair Brexit gyda’r SNP. Ond mae’r ymagwedd hon wedi parhau am ei bod yn gweithio’n wleidyddol. Ac yn etholiad cyffredinol 2017, pan oedd Llafur yn wynebu’r hyn oedd yn ymddangos i ddechrau fel ymgyrch anodd iawn, trodd at frandio Llafur Cymru cryf, arweinyddiaeth Carwyn Jones, a negeseuon oedd ar adegau’n swnio fel Plaid Cymru, a phrofodd hyn yn y pen draw yn amddiffyniad llwyddiannus iawn o safle trechol y blaid yng Nghymru.

Ar y llaw arall, dros y blynyddoedd yn dilyn datganoli, newidiodd y canfyddiad o’r Blaid Lafur, a wnaeth fwyaf i ddod â Senedd ddatganoledig i Gaeredin, ac yn gynyddol roedd yn cael ei gweld yn blaid o ‘dribiwniaid San Steffan’. Mae rhai wedi priodoli hyn i ddylanwad cryf Gordon Brown dros y blaid yn ei famwlad; yn rhannol roedd hefyd yn adlewyrchu’r gyfres o arweinwyr gwan a brofodd y blaid Lafur yn yr Alban yn dilyn marwolaeth drasig y Prif Weinidog cyntaf, Donald Dewar. Yna daeth refferendwm annibyniaeth 2014 – a chynghrair o blaid yr undeb rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr, a ddinistriodd lawer o’u cefnogaeth ymhlith y dosbarth gweithiol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llafur yn yr Alban wedi’i dal rhwng safbwyntiau gwleidyddol: mae Ceidwadwyr yr Alban, sydd ar gynnydd, wedi hawlio’r safbwynt unoliaethol sy’n gwrthwynebu annibyniaeth yn chwyrn, tra bo llawer o gefnogwyr dosbarth gweithiol a chanol-chwith ymhlith y rheini sydd o leiaf yn fodlon ystyried annibyniaeth wedi symud i’r SNP (neu hyd yn oed Plaid Werdd yr Alban). Yng Nghymru, mae llawer o ‘genedlaetholwyr meddal’ yn dal i fod yng nghornel Llafur.

Mae Llafur yn dal i fod yn blaid sydd o blaid yr undeb yng Nghymru a’r Alban. Ond beth mae bod o blaid yr undeb yn ei olygu mewn gwirionedd erbyn hyn? A sut mae gwneud hynny’n safbwynt effeithiol yn wleidyddol? Mae bod yn ‘ddatganolwr unoliaethol’ wedi bod yn gydbwysedd anodd ei gynnal ers tro; yn sicr dyw Brexit ddim wedi’i wneud yn ddim haws.

Mae’r Athro Roger Awan-Scully yn Athro Gwyddor Wleidyddol yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, sydd wedi’i lleoli yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Mae hefyd yn cynnal y blog Etholiadau yng Nghymru.

Mae’r postiad hwn yn cynrychioli barn yr awduresau ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *