Brexit, Darllen hir, Economi a Masnach

Dyfodol pysgodfeydd Cymreig

Mae adroddiad newydd ar gyfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gan yr awduron Griffin Carpenter a Chris Williams o’r New Economics Foundation (NEF) a Suzannah Walmsley o ABPmer, yn ystyried goblygiadau gadael yr UE a’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (CFP) ar gyfer cyfleoedd i bysgota yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn dadlau bod Brexit yn cyflwyno tair prif echel o risg a gwobr i fflyd pysgota’r DU: mynediad at ddyfroedd; mynediad i gwotâu pysgota; a mynediad i farchnadoedd. Ar gyfer Pysgodfeydd Cymru, dylai mynediad di-rwystr parhaus i farchnadoedd Ewrop fod yn brif flaenoriaeth. Mae’n tynnu sylw hefyd at yr angen i fuddsoddi mewn ymchwil gydweithredol, ochr yn ochr ag ystyried dulliau amgen o ddyrannu cwota (sydd yn hanesyddol yn ffafrio llongau mawr dros rai bach) ac opsiynau polisi eraill.

Tebygolrwydd y bydd effaith negyddol ar bysgodfeydd Cymru 

Un o’r pethau allweddol a ragwelir y bydd badau pysgota Cymreig sydd heb gwota, hynny yw, pysgotwyr sy’n dal pysgod cregyn a rhywogaethau di-gwota eraill, yn waeth eu byd o dan bron a bod pob senario Brexit.  Mae hynny’n peri pryder yng Nghymru. Mae 92% o fflyd Cymru yn cynnwys cychod bach, o dan 10m o hyd, sy’n dal pysgod cregyn a rhywogaethau pysgod di-gwota, yn bennaf. Pysgod cregyn yw dwy rhan o dair o’r hyn sy’n cael ei ddal gan gychod Cymru yn ôl eu gwerth, ac o’r rheini, caiff 90% eu hallforio i’r UE ac i Asia drwy gyfrwng cytundebau masnach estynedig yr UE. Mae gwichiaid môr Cymreig sy’n werth £5.2 miliwn y flwyddyn yn cael eu hallforio yn y modd hwn i farchnad Corea. Dyrennir llai na 1% o gyfanswm cwota pysgota’r DU i fflydoedd Cymreig. Mae hyn oherwydd, yn hanesyddol, nad oedd yn ofynnol i gychod bach (o dan 10m) gofnodi’r hyn roeddent yn ei ddal. Felly, pan gyflwynwyd cwotâu ym 1989, dim ond cychod mwy o faint oedd yn gallu caffael cwotâu, oherwydd yr hyn yr oeddynt wedi’i gofnodi yn y gorffennol.

O ystyried y tair prif echel prif a amlinellir uchod, mae’r mwyafrif llethol o fadau Cymru yn rhy fach i fanteisio ar fynediad neilltuol i ardal bysgota estynedig; nid oes ganddynt ychwaith y cyfarpar cywir, na’r hawliau cwota i fanteisio ar enillion posibl o gwotâu. Yn hytrach, maent yn debygol o ddioddef o ganlyniad i golli mynediad i’r farchnad sengl a’r Undeb Tollau: pe byddent yn wynebu tariffau ar allforion byddai hynny’n golygu y byddai eu cynnyrch yn llawer llai cystadleuol o ran prisiau; at hynny, gallai oedi cynyddol ym mhorthladdoedd y DU neu’r UE ddifetha cynnyrch sensitif ffres cyn iddo gyrraedd y farchnad, a pheryglu cadwyni cyflenwi.

Mae dadansoddiad o berfformiad economaidd fflyd pysgodfeydd Cymru mewn gwahanol sefyllfaoedd yn dilyn Brexit yn datgelu bod y rhan fwyaf o longau, pysgotwyr a phorthladdoedd Cymru yn debygol o brofi ‘colled net’ yn sgîl Brexit, oni bai bod camau arwyddocaol i sicrhau masnachu diffwdan yn cael eu rhoi waith. Mae strwythur y fflyd bysgota yng Nghymru yn unigryw ac mae risg gwirioneddol iddi gael ei ‘gadael ar ei ôl’ o ganlyniad i ofynion buddiannau pysgota ehangach yn y trafodaethau rhwng y DU a’r UE.

… ond gallai fod cyfleoedd hefyd

Ac eto, hyd yn oed yng Nghymru, mae potensial ar gyfer enillion sylweddol pe byddai gadael yr UE a’r polisi pysgodfeydd cyffredin yn cael ei ystyried fel cyfle gwirioneddol i ailystyried strwythur y diwydiant yn llwyr yn y DU a thrawsnewid beth gaiff ei ddal, gan bwy, ble a sut. O dan y trefniadau presennol, byddai unrhyw gwota y gellir ei ennill o gychod yr UE nad ydynt yn rhai Prydeinig sy’n pysgota yn nyfroedd y DU ar hyn o bryd, yn cronni ar gyfer deiliaid cwotâu presennol – ac ychydig iawn o’r rheini sydd yng Nghymru. Fodd bynnag, o dan ddull amgen o ddyrannu, yn seiliedig ar y gyfran o stociau pysgod yn nyfroedd Cymru, mae awduron yr adroddiad yn cyfrifo y gallai fflyd Cymru hawlio hyd at 15,000 tunnell o gwota ychwanegol (cynnydd o 2000% o fan cychwyn cymharol isel, gweler yr atodiad i’r adroddiad). Gallai tyfu’r diwydiant gynnig cyfleoedd i ychwanegu gwerth at gynhyrchion pysgod. Gellir gwneud hyn drwy ddatblygu mentrau prosesu, cyflwyno marchnadoedd a datblygu cadwyni cyflenwi yng Nghymru. Dylai hynny ddarparu swyddi a buddsoddiad yng nghymunedau arfordirol Cymru.

Hyd yn oed pe cyflawnir cytundeb gwleidyddol ar newid radicalaidd o’r fath yn y DU, byddai angen trawsnewid ein seilwaith pysgota mewn modd sylfaenol, yn ogystal â fflyd Cymru i allu manteisio ar gwota newydd o’r fath. Ar hyn o bryd, mae’r nifer fechan o gychod o Gymru sy’n pysgota rhywogaethau cwota’n dal y rhan fwyaf o’u cynnyrch y tu allan i Gymru (90% yn ôl gwerth yr hyn a ddaliwyd), yn bennaf yng ngwledydd eraill yr UE (75%). Gan adlewyrchu’r patrwm hwn, mae porthladdoedd mwyaf Cymru yn dibynnu ar yr hyn y mae cychod yr UE nad ydynt yn rhai Prydeinig yn eu dal (Aberdaugleddau 60% ac Abertawe 90% yn ôl gwerth yr hyn sy’n cael ei ddal). Yn dilyn Brexit, pa sicrwydd sydd y bydd cychod y DU yn dewis dod i borthladdoedd Cymru â’r hyn y maent wedi ei ddal?  At hynny, bydd pysgota am rywogaethau newydd yn gofyn i fusnesau pysgota Cymru fuddsoddi mewn cychod newydd a gwneud addasiadau sylweddol i gyfarpar ac offer eraill; bydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i uwchraddio, ehangu a moderneiddio porthladdoedd a seilwaith cysylltiol a chynyddu capasiti rheoli a gorfodi.

Mae polisi pysgodfeydd effeithiol yn cysylltu sawl lefel o lywodraethu

Mae diwydiant pysgota Cymru, yn ei sefyllfa bresennol, yn gymharol fach yn economaidd ac yn wleidyddol. Mae rheoli pysgodfeydd yn faes sydd wedi’i ddatganoli – ond ar adeg ysgrifennu’r adroddiad, nid yw’n glir i ba raddau y caiff y pŵer dros gyfrifoldebau pysgota ei ‘ailwladoli’ i Lywodraeth y Cynulliad ar ôl Brexit, neu ei gadw yn ôl gan Llywodraeth y DU.

Beth bynnag fo’r canlyniad, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i feddu ar rywfaint o rym. Mae awduron yr adroddiad yn amlinellu chwe lefel o opsiynau polisi er mwyn rheoli cyfleoedd pysgota: mae tair o’r lefelau hyn yn ystyried sut y rhennir cwotâu rhwng gwladwriaethau a gweinyddiaethau datganoledig a’u dyrannu wedyn i longau; tra bod y tri arall yn cyfeirio at reoli pysgodfeydd, o ddulliau rhyngwladol i bennu cyfanswm terfynau pysgota, i systemau rheoli cenedlaethol a pholisïau ôl-ddyrannu. Mae’r opsiynau polisi manwl yn yr adroddiad yn trafod enghreifftiau rhyngwladol o’r modd y gallai cefnogi a datblygu pysgodfeydd yng Nghymru fod yn gysylltiedig â chanlyniadau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, fel bod phorthladdoedd Cymru a’r gymdeithas ehangach yn teimlo eu bod yn manteisio ar yr hyn sydd, yn y pen draw, yn adnodd cyhoeddus. Mae’r cyfiawnhad dros yr amcanion hyn yn cael eu cefnogi’n gryf mewn deddfwriaeth Gymreig – Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) a Deddf yr Amgylchedd (2016).

Trafododd panel ar adeg lansio’r adroddiad sut y mae dyfnder ac ehangder y data ac ymchwil wyddonol sydd eu hangen i ddeall a rheoli pysgodfeydd Cymru yn effeithiol, yn gyfwerth â gwledydd eraill sydd â fflydoedd pysgota llawer mwy. Mae hon yn dipyn o her, oherwydd bydd buddsoddi a chydweithredu ar gyfer ymchwil a datblygu pellach ymysg y prif flaenoriaethau er mwyn hwyluso datblygiad polisi pysgodfeydd cydlynol, a gynhyrchir ar y cyd ac y cytunir yn ei gylch ar gyfer Cymru. Yr hyn sydd eisoes yn amlwg yw mai cyflawni amgylchedd morol bioamrywiol a gwydn, cymunedau arfordirol iach, stoc gynaliadwy o bysgod a diwydiannau cynhyrchiol yw’r amcanion sylfaenol.

Mae Mair Bell yn Uwch-swyddog Ymchwil yng Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.

Ymddangosodd y blog hwn yn gyntaf ar flog y Brexit & Environment.

Mae’r postiad hwn yn cynrychioli barn yr awduresau ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *