Brexit, Darllen hir, Datganoli a'r Cyfansoddiad

Brexit a Chymru

Pleidleisiodd Cymru dros Brexit – er mawr syndod i bron bob un o hoelion wyth y sefydliad gwleidyddol ac economaidd-gymdeithasol.

Tanseiliodd y bleidlais hunanddelwedd Cymru: gwlad sy’n draddodiadol amharod i gefnogi’r Ceidwadwyr mewn etholiadau, a chenedl fwy wleidyddol flaengar na’i chymydog, Lloegr. Ychydig allai ddadlau bod y ddelwedd hon yn gywir yn dilyn y bleidlais i adael a llwyddiant etholiadol sylweddol UKIP cyn hynny rhwng 2014 a 2016.

Roedd y bleidlais i adael hefyd yn mynd yn groes i’r hyn oedd o fudd economaidd, yn ôl pob golwg. Tra bod y Deyrnas Unedig wedi gwneud cyfraniad net sylweddol i gyllideb yr UE ers tro byd, dangosodd dadansoddiad cyn y refferendwm gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru bod Cymru ar ei hennill i raddau helaeth. Roedd Cymru – yn enwedig llawer o gymoedd y de sy’n parhau i ddioddef effaith diwedd y diwydiant glofaol – wedi elwa’n sylweddol o Gronfeydd Strwythurol yr UE.

Mae natur ryfedd amaethyddiaeth yng Nghymru – ffermio da byw ar raddfa fechan, yn bennaf – yn golygu ei bod wedi elwa o’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, tra bod llawer o gynnyrch ffermydd Cymru yn cael ei allforio i wledydd eraill yr UE. Mae gweddill economi sector preifat Cymru yn dibynnu’n helaeth ar ychydig o weithgynhyrchwyr mawr, sy’n canolbwyntio ar allforio, ac sydd â chysylltiad agos â marchnad sengl yr UE. Mae’r farchnad sengl hefyd yn bwysig dros ben i rai o gymunedau Cymru: mae’r mwyafrif helaeth o holl allforion ffisegol Gweriniaeth Iwerddon yn symud drwy dair o borthladdoedd Cymru. Yn syml, gallai Cymru fod ar ei cholled yn sylweddol o ganlyniad i Brexit.

O ystyried y buddiannau hyn, mae ceisio sicrhau Brexit mor feddal â phosibl wedi bod yn un o flaenoriaethau cyson Llywodraeth Cymru ers mis Mehefin 2016. Cyhoeddodd (gyda Phlaid Cymru) bapur polisi yn amlinellu’r safbwynt hwn ym mis Ionawr 2017. Serch hynny, prin iawn yw’r grym bargeinio sydd gan Gymru yn y DU, os o gwbl; ni all Llywodraeth Cymru fygwth Llundain mewn modd credadwy ac nid oes ganddi’r mandad cyhoeddus i wrthsefyll Brexit. Yn ogystal, fel y mae Noah Carl ac Anthony Head yn ei nodi yn yr adroddiad hwn, nid yw’r cysyniad o ddatganoli pŵer i Gynulliad Cymru cyn gryfed ymhlith etholaeth Cymru o’i gymharu ag yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon. Felly, nid yw’n syndod bod ymdrechion o’r fath wedi methu gan nad yw pryderon Cymru yn rhan flaenllaw o safbwynt Llywodraeth y DU wrth iddynt gynnal eu trafodaethau ynglŷn â Brexit.

Yn dilyn yr etholiad cyffredinol ym mis Mehefin 2017, dechreuodd Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar oblygiadau Brexit i’r drefn lywodraethu yma yng Nghymru. Ar ôl cael hwb i’w statws a’i hyder yn sgil ei rôl fel arweinydd ymgyrch etholiadol y Blaid Lafur yng Nghymru, lansiodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, bapur polisi uchelgeisiol newydd Llywodraeth Cymru, ‘Brexit a Datganoli’. Roedd yn hyrwyddo dadl hirdymor Jones dros ail-lunio cyfansoddiad y DU yn ei gyfanrwydd: galwodd am “gydweithio dyfnach a mwy cynaliadwy rhwng gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU ar ôl gadael yr UE”. Fodd bynnag, llugoer fu’r ymateb yn San Steffan unwaith eto.

Yn wir, yn hytrach nag ysgogi ymdrech o’r newydd i adfywio datganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn sefyllfa lle mae’n teimlo ei bod yn gorfod brwydro i ddal ei gafael ar ran helaeth o bwerau Cymru i reoli ei hun. Pan gafodd Bil Ymadael â’r UE ei gyhoeddi gyntaf ym mis Gorffennaf 2017, cafodd ei feirniadu’n hallt ar unwaith gan Brif Weinidog Cymru fel ymgais i ‘fachu pwerau’.

Mae’r gwrthwynebiad i’r Bil yn deillio o’r ffaith bod nifer o’r prif feysydd cyfrifoldeb sydd wedi’u datganoli (megis amaethyddiaeth, pysgodfeydd a’r amgylchedd) wedi cael eu gweithredu mewn cyd-destun Ewropeaidd hyd yma. Fodd bynnag, roedd y Bil Ymadael yn pennu y byddai’r cymwyseddau hynny’n mynd i Lundain ar ôl Brexit (gan ddibynnu ar y math o Brexit a gaiff ei roi ar waith) yn hytrach na chael eu dychwelyd i’r cenhedloedd datganoledig yn syth.

Mae pob un o lywodraethau’r DU – hyd yn oed Llywodraeth yr Alban – yn cydnabod bod angen fframweithiau cydweithredol mewn rhai o’r meysydd hyn. Mae Carwyn Jones yn aml wedi cyfeirio at reoliadau lles da byw fel enghraifft, gan ddadlau y byddai’n gwneud fawr o synnwyr sefydlu rheolau gwahanol mewn gwahanol wledydd yn y DU, at ddibenion rheoleiddio.

Fodd bynnag, sut y dylid cytuno ar unrhyw fframwaith newydd? Mae’r llywodraethau datganoledig yn mynnu bod y meysydd datganoledig yn y DU yn cael eu datganoli. Felly, dylai unrhyw bwerau a ‘ailwladolir’ o’r UE fynd yn syth iddyn nhw. Mae Llywodraeth y DU yn mynnu mai nhw yn y pen draw fydd yn penderfynu pa rai o’r pwerau hyn a ailwladolir o’r UE fydd yn cael eu datganoli, a pha rai fydd yn dychwelyd i San Steffan. Felly, mae’n dadlau mai nhw ddylai ddal eu gafael ar unrhyw bwerau o’r fath yn y lle cyntaf. Mae Llywodraethau Cymru a’r Alban yn ystyried hyn fel ymgais i ad-hawlio pwerau mewn meysydd datganoledig ac maent wedi bod yn gwbl glir nad ydynt yn barod i gefnogi ymgais o’r fath.

Ar ben hyn i gyd, mae diffyg ymddiriedaeth llwyr, bron, rhwng Llundain a’r gweinyddiaethau datganoledig. Nid yw hynny’n syndod yn achos yr Alban, gan fod ei llywodraeth wedi ymrwymo i adael y DU yn y pen draw. Mae’n fwy trawiadol yng Nghymru, gan fod ei llywodraeth yn parhau i fod wedi ymrwymo i’r Undeb (er yn awyddus i’w ail-lunio’n sylweddol). Mae mwy i hyn na diffyg ymddiriedaeth rhwng llywodraeth Lafur yng Nghymru a’r Torïaid sydd wrth y llyw yn Llundain. Mae llawer o’r ddrwgdybiaeth yn deillio o’r broses hirfaith a arweiniodd at Ddeddf Cymru 2017 pan gafodd setliad datganoli Cymru ei ail-lunio gan San Steffan. Cafodd hyn ei ystyried gan Brif Weinidog Cymru a llawer yng Nghaerdydd fel ymgais flêr gan San Steffan i fachu pwerau.

O gofio’r elyniaeth hirsefydlog a dwfn rhwng Llafur a’r SNP, rhaid nodi pa mor drawiadol oedd y datganiadau ar y cyd gan Carwyn Jones a Nicola Sturgeon ar y Bil Ymadael – ym mis Gorffennaf 2017 yn ei wrthwynebu, ac ym mis Medi 2017 yn galw am welliannau sylweddol i atal San Steffan rhag ‘bachu pwerau’. Efallai mai dyma’r ymateb mwyaf eglur i ba mor flêr y mae Llywodraeth y DU wedi trin gwleidyddiaeth mewnol Brexit.

O ystyried bod rhannau helaeth o’r Bil Ymadael yn eu lle i raddau helaeth, go brin y caiff y Bil gydsyniad deddfwriaethol gan Senedd yr Alban neu Gynulliad Cymru yn ôl pob tebyg. Mae dyfarniad y Goruchaf Lys yn achos Miller yn awgrymu y gall Llywodraeth a senedd y DU fwrw ymlaen beth bynnag. Mae’r Cynulliad wedi cymeradwyo ‘Bil Parhad’ a gynigwyd gan Lywodraeth Cymru i gynnwys rheoliadau cyfredol yr UE mewn meysydd datganoledig yng nghyfraith Cymru. Fodd bynnag, gallai hwn hefyd fod yn annigonol gerbron y llysoedd. Yr unig beth sy’n sicr yn ôl pob golwg yw pa mor anochel fydd gweld gwrthdaro pellach rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig.

Mae’r Athro Roger Awan-Scully yn Athro Gwyddor Wleidyddol yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, sydd wedi’i lleoli yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Mae hefyd yn cynnal y blog Etholiadau yng Nghymru.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn y DU yn Adroddiad Newid Ewrop 2018 Brexit: Llywodraeth Leol a Datganoledig.

Mae’r postiad hwn yn cynrychioli barn yr awduresau ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *