Brexit, Darllen hir, Datganoli a'r Cyfansoddiad

Goblygiadau Brexit i Gymru a datganoli

Pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, bydd llawer o bwerau a chyfrifoldebau yn dychwelyd i Senedd y DU. Un mater sydd heb gael digon o sylw yw goblygiadau Brexit i ddatganoli a pholisi cyhoeddus yng Nghymru a gweinyddiaethau datganoledig eraill.

Mae llawer o’r meysydd polisi, lle bydd pwerau yn dychwelyd o’r Undeb Ewropeaidd, wedi’u datganoli, megis amaethyddiaeth a physgodfeydd. Bydd y modd y caiff y pwerau sydd wedi dychwelyd eu dyrannu, a’r fframweithiau y maent yn gweithredu ynddynt, yn hollbwysig nid yn unig yng Nghaerdydd, ond yn San Steffan hefyd.

Yn y cyd-destun hwn y bu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn arddangos ei hymchwil ar y materion hyn i gynulleidfa yn San Steffan yn mis Mawrth 2018. Canolfan ymchwil yw hon sy’n ceisio sicrhau bod gwasanaethau llywodraethol a chyhoeddus yng Nghymru yn defnyddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael i fynd i’r afael â materion polisi pwysig cyfredol. Ers y bleidlais Brexit, mae’r Ganolfan wedi paratoi adroddiadau ar gyfer Llywodraeth Cymru am fewnfudo, amaethyddiaeth, pysgodfeydd, hawliau llafur a thrafodaethau masnach. Fe’u cyflwynwyd i gynulleidfa yn San Steffan i dynnu sylw at gymhlethdodau proses Brexit i lywodraethu datganoledig yn y DU.

Roedd mewnfudo a symudiad teg y bobl yn bwnc llosg yn ystod ymgyrch y refferendwm, ac fe gynhaliodd Jonathan Portes (Coleg y Brenin Llundain) ymchwil ar gyfer y Ganolfan am y mater allweddol hwn. Mae ei waith yn tynnu sylw at gymhlethdod trafodaethau Brexit. Mae nifer o broblemau cyfreithiol a gweinyddol yn parhau i fod heb eu datrys ar gyfer yr 80,000 o wladolion yr AEE sydd yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’n aneglur o hyd ynghylch beth fydd y ddarpariaeth i sectorau sy’n dibynnu ar fewnfudo i Gymru (megis iechyd a gofal cymdeithasol, gweithgynhyrchu ac addysg uwch) yn y system fewnfudo ar ôl Brexit. Byddai symleiddio preswylio parhaus i wladolion yr AEE, sicrhau parhad symudiad rhydd am gyfnod penodol ar ôl Brexit, cyflwyno system mewnfudo newydd yn ofalus fesul cam, osgoi capiau a chwotâu, ystyried cynlluniau mewnfudo rhanbarthol a bod ag agwedd fwy agored at ddinasyddion y tu hwnt i’r UE yn lleihau’r risg i economi Cymru a’r farchnad lafur.

Cafodd gwaith ymchwil Jonathan i’r Ganolfan ei ganmol gan Dr Heather Rolfe, a gyflwynodd y dystiolaeth sydd ar gael am fewnfudo ac agweddau cyflogwyr. Dangosodd mai prinder gweithwyr Prydeinig yw’r prif reswm pam mae cyflogwyr yn cyflogi mewnfudwyr, a bod hyn wedi bod yn wir ers blynyddoedd. Ychydig iawn o gefnogaeth sydd gan gyflogwyr ar gyfer cynlluniau mewnfudo rhanbarthol, ac nid ydynt yn cefnogi targedau. Go brin y bydd Cymru’n elwa o’r naill neu’r llall, gan nad yw’r newidiadau demograffig o fantais i Gymru. Os bydd Cymru am weld twf economaidd yn y dyfodol, bydd angen mewnfudwyr i gyflawni hynny yn ôl pob tebyg. Mae rhagor o fanylion ar gael yma am waith Heather ar y pwnc.

Cyflwynodd yr Athro Janet Dwyer (Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a Chymuned) ei hymchwil ar ran y Ganolfan ar oblygiadau Brexit i amaethyddiaeth a’r defnydd o dir gwledig, gan ddadlau y byddai’r newidiadau mwyaf tebygol i amodau masnachu yn rhoi amaethyddiaeth Cymru o dan anfantais o’i chymharu â’u prif gystadleuwyr masnachu. Gallai ffermwyr defaid a chig eidion fod mewn sefyllfa arbennig o ddifreintiedig ar ôl Brexit. Mae’n debygol y bydd hyfywedd economaidd cynhyrchu defaid yn dirywio. Ar nodyn mwy gobeithiol, gallai ffermydd llaeth, garddwriaeth, cymysg a mathau eraill o ffermydd fod yn y sefyllfa orau i fanteisio ar y newidiadau ar ôl Brexit. Mae’n bosibl y bydd goblygiadau amgylcheddol i Brexit hefyd. Bydd cefnogi ffermwyr i reoli tir neu ei symud i sectorau eraill yn bwysig, ynghyd â sicrhau bod digon o gyllid ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yng Nghymru.

Bu Griffin Carpenter (New Economics Foundation) yn trafod ei ymchwil ar ran y Ganolfan ar oblygiadau Brexit i bolisi pysgodfeydd yng Nghymru. Dengys dadansoddiad o amrywiaeth o sefyllfaoedd Brexit fod y rhan fwyaf o gychod pysgota, pysgotwyr a phorthladdoedd yn debygol o fod yn ‘golledwyr net’ o ganlyniad i Brexit, tra bod modd i’r fflyd bysgota yng Nghymru elwa yn gyffredinol. Dim ond cyfran lai o gychod pysgota a allai elwa’n sylweddol, gan gynnwys rhai ‘fflaglongau’ sy’n dal y rhan fwyaf o’u pysgod yn Sbaen. Mae’r fflyd yng Nghymru hefyd yn cynnwys cychod pysgota ar raddfa fechan yn bennaf, na fyddai’n elwa o ddefnydd neilltuedig o ardal bysgota estynedig. Maent yn dal rhywogaethau pysgod cregyn yn bennaf nad ydynt yn cael eu rheoli drwy derfynau cwota. Mae’r rhan fwyaf o fwyd môr a gynhyrchir gan fflyd Cymru yn cael ei allforio i wledydd yr UE neu drwy gytundebau masnach yr UE. O ganlyniad, gall tollau posibl a rhwystrau masnach heb dollau gael effaith dirfawr ar fynediad i’r farchnad a chystadleuaeth. Amlygodd Griffin fod fflyd Cymru yn unigryw, ac y byddai rhaid i newidiadau sydd wedi’u targedu at sut y rheolir pysgodfeydd yng Nghymru, gael eu creu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ill dau.

Daeth yr Athro Richard Wyn Jones (Canolfan Llywodraethiant Cymru) â’r cyflwyniadau ynghyd drwy edrych ar yr anawsterau unigol sy’n ymwneud â Brexit a datganoli. Tynnodd sylw at sut mae datganoli yng Nghymru wedi bod yn araf ac yn ddryslyd, a bod Brexit yn creu hyd yn oed mwy o ansefydlogrwydd o ran sut mae’r system wleidyddol yng Nghymru yn gweithio. Ymddengys fod ymagwedd Llywodraeth y DU wedi bod o blaid ‘ailganoli’ hyd yma, tra bod llywodraethau Cymru a’r Alban yn cydweithio mewn modd nas gwelwyd erioed o’r blaen. Mae hyn i gyd yn digwydd yng nghyd-destun cymhlethdodau etholiadol Brexit, pan ddylanwadwyd ar y bleidlais gan ganfyddiadau pobl o’u hunaniaethau Prydeinig, Cymreig a Seisnig.

Ochr yn ochr â’r ymchwil a gyflwynwyd i gynulleidfa yn San Steffan, mae’r Ganolfan hefyd wedi cynnal ymchwil ar ran Llywodraeth Cymru ar oblygiadau Brexit i hawliau llafur yng Nghymru, a sut y bydd buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli mewn trafodaethau masnach yn y dyfodol. Gyda’i gilydd, mae’n gorff o dystiolaeth ac ymchwil a fydd, gyda lwc, yn arwain at ddealltwriaeth o bolisïau cyhoeddus a Brexit nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y DU a’r UE yn fwy cyffredinol.

Mae Dr Craig Johnson yn Swyddog Ymchwil yn Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.

Mae’r postiad hwn yn cynrychioli barn yr awduresau ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *