Brexit, Darllen hir, Datganoli a'r Cyfansoddiad

Continwwm cyfansoddiadol

Mae’r DU yn wladwriaeth unedol sy’n cynnwys Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Mae cysylltiad diwylliannol a hanesyddol cynhenid rhwng pob un o’r gwledydd hyn yn yr oes fodern, drwy gyfrwng profiadau diwydiannol, gwleidyddol a rhyngwladol ar y cyd.

Nod datganoli oedd mynd i’r afael â dadrithiad ynghylch sut yr oedd y drefn lywodraethu wedi’i chanoli’n ormodol, ochr yn ochr â chadw sofraniaeth yn nwylo senedd San Steffan.

Mae’r graddau y mae’r DU wedi ymwahanu i’w weld yn y gwahaniaeth yng ngwleidyddiaeth y gwledydd hyn, eu pryderon ynghylch trafodaethau Brexit, ansicrwydd ynghylch ffin Gogledd Iwerddon ar ôl gadael yr UE, y posibilrwydd o gael ail refferendwm ynghylch rhoi annibyniaeth i’r Alban, a’r anesmwythder cyffredinol ynghylch Deddf Cymru 2017. Yn ôl Mae adroddiad Datganoli a Dyfodol yr Undeb (Uned Gyfansoddiadol: 2015): ‘nid yw’r DU yn unigryw, o bell ffordd yn wynebu heriau i’w strwythur a’i huniondeb…serch hynny, mae’n unigryw yn y modd y mae’n ceisio gwneud hynny heb gyfansoddiad ffurfiol ysgrifenedig.’  Mae’r adroddiad yn trin a thrafod tri ateb posibl ar sail cynyddu datganoli.

Yn ddiweddar, mae llawer o academyddion a gwleidyddion yn mynnu y dylai’r DU: ‘ddefnyddio’r broses o ailwladoli pwerau gan yr UE i sefydlu gwladwriaeth ffederal newydd o wledydd cyfartal.’ Mae’r Arglwydd David Owen o blaid strwythur ffederal sy’n seiliedig ar fodel yr Almaen, tra bod adroddiad ‘UK’s Changing Union’ (Canolfan Llywodraethiant Cymru: 2015) yn cynnig gwladwriaeth undeb yn hytrach na gwladwriaeth undebol sy’n: ‘cynnwys pedwar endid cenedlaethol yn rhannu sofraniaeth…ac sy’n cydsynio i gydweithio o fewn undeb, er eu lles cyffredin.” Mae hyn yn dynodi diwedd y daith i ddatganoli a symud tuag at fframwaith mwy agored-ffederal neu led-ffederal.

Mae’r Athro Jim Gallagher yn mynd ymhellach: ‘ Mae pobl yn sôn yn aml am ffederaliaeth fel petai’n ateb. Mewn gwirionedd, mae’r DU eisoes yn symud y tu hwnt i hynny, i sefyllfa fwy gydffederal.’ Wrth fyfyrio ar ei adroddiad Britain after Brexit (2016), mae Gallagher yn rhagweld: ‘cydffederasiwn o wledydd – gwahanol iawn o ran eu maint – yn rhannu pethau sydd o bwys aruthrol, fel rheoli economaidd, gwasanaethau lles ac amddiffyn.’

Efallai y bydd modelau cyfansoddiadol mwy cynnil o ddiddordeb hefyd. Yn ei erthygl, Confederal Federalism (Western European Politics, 1999), mae’r Athro John Kincaid yn esbonio: ‘ymddengys mai’r hyn sydd wedi datblygu yn yr UE … yw trefn lywodraethol gydffederal sy’n gweithredu mewn modd sylweddol ffederal o fewn meysydd ei chymhwysedd.’ Mewn gwirionedd, mae aelod-wladwriaethau wedi dirprwyo rhan o’u sofraniaeth dros amser i gyrff canolog sy’n cytuno ar ddeddfau ar eu rhan.

Mae proses barhaus Brexit, wrth ei natur, yn mynd rhagddi mewn modd fydd yn canoli pwerau, â hynny o blaid San Steffan. Mae hynny yn sgil rôl ddeuol y Senedd wrth hwyluso Llywodraeth y DU, a Lloegr, gan hynny. Mewn amser, bydd yn rhaid disodli rheoliadau EU-ganolog a welir ar hyn o bryd i hyrwyddo’r broses o ddatblygu fframwaith ynys gyfan. Bydd rhaid iddo fod wedi’i strwythuro i hwyluso marchnad sengl, cydymffurfio â rheolau rhyngwladol, trafod cytundebau masnachol, defnyddio adnoddau ar y cyd a diogelu hawliau. Fodd bynnag, fel y pwysleisiodd yr Athro Richard Rawlings yn ei adroddiad Brexit and Territorial Constitutions (Constitution Society, October 2017): ‘rhaid gwrthsefyll yn gadarn y duedd i ddilyniannu — y demtasiwn i drin agweddau datganoli fel pe baent yn rhyw fath o ail haen sy’n gweithio orau pan maent yn gwneud dim wrth i’r trafodaethau uwchgenedlaethol fynd rhagddynt, yn hytrach na’u datblygu ar y cyd mewn ysbryd o gydweithredu.

Mae trefniadau datganoli amrywiol wedi symud ymlaen mewn ffyrdd cynyddrannol ac anghymesur ers 1997. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r UE wedi bod yn rhan o’r edafedd sy’n dal y DU ynghyd. Mae goruchafiaeth cyfraith yr UE, a’r dehongliad ohono gan Lys Cyfiawnder yr UE, wedi diogelu cysondeb normau cyfreithiol a rheoleiddiol ar draws meysydd helaeth, gan gynnwys meysydd datganoledig. Confensiynau marchnad fewnol yr UE sydd wedi cynnal marchnad fewnol y DU. Felly, mae Brexit yn cyflwyno’r perygl y gallai’r cymwyseddau cydberthynol hyn ddod yn fwyfwy ansicr os na fydd fframwaith cyfansoddiadol newydd yn mynd i’r afael â hwy.

Gyda llawer o bwerau yn dychwelyd o Frwsel, dylai rhai fynd yn syth i’r gwledydd datganoledig. Dylai cyfrifoldebau eraill gael eu hystyried ochr yn ochr â newidiadau eraill y mae galw mawr amdanynt. Gallai agwedd gyfansoddiadol oleuedig arwain at roi grym ychwanegol yn uniongyrchol i’r union sefydliadau hyn sydd â’r pŵer i gydweithio â chyrff Ewropeaidd ar faterion megis iechyd, cyllid ymchwil, prifysgolion, cyfiawnder a phlismona.

I aralleirio Bernard Chartres, ‘Rydym yn sefyll ar ysgwyddau cewri.’ Gadewch inni wneud yn siŵr y gall cenedlaethau o bobl yn y dyfodol ddweud yr un peth o ran ein hymdrechion i greu Undeb fodern sy’n addas at y diben yn yr 21ain ganrif.’

Daw’r darn hwn o’r pamffled sydd newydd ei lansio ‘Brexit, Devolution and the Changing Union: 2018’ gan yr Arglwydd David Owen, Gwynoro Jones, yr Arglwydd Elystan Morgan a Glyndwr Cennydd Jones, gyda diweddglo gan Martin Shipton. Mae’r pamffled hwn yn trin a thrafod yr angen am Gonfensiwn Cyfansoddiadol ledled y DU — sy’n cynnwys holl bleidiau gwleidyddol ac elfennau o Gymdeithas Prydain — i drafod dyfodol yr Undeb, yn enwedig yng nghyd-destun Brexit.

Mae Glyndwr Cennydd Jones yn swyddog gweithredol mewn elusen sy’n gweithredu ledled y DU. Mae‘n annog mwy o gonsensws trawsbleidiol yng Nghymru.

Mae’r postiad hwn yn cynrychioli barn yr awduresau ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *