Brexit, Darllen hir, Economi a Masnach, Uncategorized @cy

Porthladdoedd Cymru a Brexit: Oes unrhyw beth wedi newid?

Ym mis Gorffennaf y llynedd pwysleisiais i mai un o’r cwestiynau mwyaf i borthladdoedd Cymru ar ôl Brexit fyddai natur y ffin rhwng y DU a Gweriniaeth Iwerddon. O ystyried y cytundeb rhwng llywodraeth y DU a’r UE a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, y cwestiwn yw a oes unrhyw beth wedi newid wrth i drafodaethau Brexit symud i’r cam nesaf.

Ar yr wyneb, nid oes digon o fanylion yn y cytundeb i alluogi porthladdoedd i gynllunio eu gweithrediadau’n effeithiol ar ôl Brexit, gyda’r wybodaeth honno’n debygol o gael ei phennu drwy’r fargen Brexit derfynol. Mae’r ansicrwydd hwn hefyd i’w weld yn y farchnad llongau fferi; mae Irish Ferries wedi cyhoeddi eu bod yn buddsoddi mewn fferi “mordeithio gwych” ar gyfer gwasanaethau Caergybi i’w gyflwyno yn 2020 tra bo Brittany Ferries yn lansio llwybr newydd yr haf hwn rhwng Iwerddon a Sbaen, na fydd yn cynnwys y DU o gwbl.

Fodd bynnag, o edrych ar y manylion, mae modd gwneud rhai casgliadau.

Y peth mwyaf cadarnhaol yw y bydd yr Ardal Teithio Cyffredin yn parhau, felly bydd llawer o’r 2.5 miliwn o deithwyr sy’n croesi Môr Iwerddon o borthladdoedd Cymru’n gallu parhau i wneud hynny’n rhwydd. O ran y porthladdoedd, mae hyn yn golygu nad oes angen newid gweithdrefnau sydd wedi’u sefydlu. Ymhellach, mae’r teithwyr hyn hefyd yn dod â chyfraniadau gwerthfawr i’r rhanbarthau lleol o gwmpas y porthladdoedd drwy ymweld ag atyniadau, prynu bwyd neu hyd yn oed aros dros nos.

Er y bydd teithwyr yn elwa o’r Ardal Teithio Cyffredin, mae cyfeiriad y cytundeb at “drefniadau i amddiffyn uniondeb y Farchnad Sengl” yn golygu y bydd nwyddau rhwng Gweriniaeth Iwerddon a’r DU yn debygol o wynebu gwiriadau cynyddol. Bydd porthladdoedd Cymru’n gorfodi’r “trefniadau” hyn gan fod gwasanaethau fferi’n mynd yn syth i Weriniaeth Iwerddon, fydd yn galw am wiriadau a seilwaith ychwanegol.

Fodd bynnag, heb wiriadau ffisegol ar y ffin rhwng Gweriniaeth a Gogledd Iwerddon, mae risg yn parhau y bydd llwybrau fel Belfast i Lerpwl yn dod yn fwy deniadol. Efallai y bydd llai o wiriadau ac oedi o ystyried yr awydd i beidio â llesteirio masnach rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y DU, neu gyfleoedd ar gyfer trawsgludo nwyddau o fewn Gogledd Iwerddon er mwyn osgoi gwiriadau UE-DU mewn porthladdoedd.

Ar nodyn mwy cadarnhaol o ran nwyddau, mae’r cytundeb hefyd yn cydnabod yn benodol y rôl sydd gan y DU fel pont tir ar gyfer masnach Iwerddon-UE, ac y bydd hyn yn nodwedd o’r cam nesaf yn y trafodaethau. Fel cyd-destun, mae mynd o Iwerddon i’r UE ar y môr yn uniongyrchol yn ychwanegu o leiaf 10 awr  i lawer o deithiau o’u cymharu a chroesi’r DU ar y ffordd.

Gallai fod yn briodol i gerbydau cludo o Iwerddon i’r UE gael statws arbennig. Pe bai cynwysyddion yn cael eu selio cyn ymadael, a bod gwiriadau’n cael eu gwneud i sicrhau nad oedd y seliau hynny’n cael eu torri tan iddyn nhw gyrraedd yr UE, gellid cyflymu’r trosglwyddiadau yn y porthladdoedd i’r cerbydau hynny. Mae eisoes yn bosibl i nwyddau sy’n cael eu mewnforio o du allan i’r UE gael eu clirio mewn lleoliadau mewndirol o fewn y DU, ac mae caniatáu i nwyddau o Iwerddon groesi i raddau’n estyniad o’r egwyddor honno. Yn amlwg, byddai angen sefydlu systemau i osgoi camddefnydd a chynlluniau wrth gefn i ymdrin â sefyllfaoedd fel cerbyd yn torri i lawr.

Felly, i ddychwelyd at y cwestiwn a ofynnwyd ar y dechrau, beth yw’r rhagolygon i borthladdoedd Cymru?

Mae llawer o ansicrwydd yn dal i fodoli am y prosesau masnach ar ôl Brexit, sy’n ei gwneud yn anodd cyfiawnhau gwariant ariannol sylweddol ar y cam hwn. Fodd bynnag, mae modd gwneud cynlluniau i sicrhau bod gofod digonol ar gael ar gyfer unrhyw wiriadau y bydd angen eu cynnal ar gerbydau.

Ond yn bwysicach, mae cyfle’n parhau i ddylanwadu ar ganlyniadau posibl; drwy sicrhau bod croesi drwy’r porthladdoedd mor hwylus â phosibl i nwyddau. Yn ddelfrydol byddai’r prosesau hyn yr un fath i bopeth er mwyn sicrhau cystadleurwydd parhaus. Ar gyfer nwyddau i mewn ac allan o’r DU, mae’n ymddangos yn debygol y byddai manteision teithio drwy Ogledd Iwerddon yn dod i’r amlwg. Ar gyfer traffig pont tir, mae sicrhau bod hyn yn derbyn blaenoriaeth arbennig yn werth ei ddilyn er mwyn cynnal cystadleurwydd yn erbyn llwybrau môr sy’n osgoi’r DU.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *