Brexit, Darllen hir, Economi a Masnach

A fydd strategaethau economaidd Cymru yn goresgyn y storm ar ôl Brexit?

Fis diwethaf, ychwanegodd Llywodraeth Cymru fwy o fanylion at ei chynlluniau i dyfu economi Cymru ar ôl Brexit. Mae’r Athro Kevin Morgan yn archwilio’r cynlluniau hynny yn fanylach ac yn ystyried rhai o’r heriau sy’n ein hwynebu.

Fel y bws diarhebol, rydym wedi aros yn hir am strategaeth economaidd newydd, ac yn sydyn mae dwy yn ymddangos ar yr un pryd.
Heb os nac oni bai, roedd mis Rhagfyr yn gyfnod hollbwysig i bolisi economaidd yng Nghymru wrth i Lywodraeth Cymru ddatgelu ei Chynllun Gweithredu Economaidd hir-ddisgwyliedig (EAP) a phapur polisi newydd o’r enw Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru Ar ôl Brexit. Tra bod y strategaeth gyntaf yn berthnasol i dymor presennol y Cynulliad, mae’r olaf yn berthnasol i’r cyfnod ar ôl 2020.

Mae pedair elfen amlwg i’r Cynllun Gweithredu Economaidd:

  • mae’n dynodi bod cytundeb economaidd newydd rhwng y llywodraeth a busnes gan ei bod yn mynnu bod cwmnïau yn cyflawni amcanion cymdeithasol i allu cael cymorth ariannol;
  • mae 3 sector thematig cenedlaethol, sef gwasanaethau masnachadwy, gweithgynhyrchwyr gwerth uchel a chyfleoedd tyfu fel ym maes digidol, yn disodli’r hen flaenoriaethau;
  • mae’n atgyfnerthu’r ymrwymiad i weithio’n rhanbarthol drwy greu Prif Swyddogion Rhanbarthol i gydlynu polisïau yng ngogledd Cymru, canolbarth a de-orllewin Cymru, a de-ddwyrain Cymru;
  • mae’n creu ymrwymiad ffurfiol i’r Economi Sylfaenol, term cyfunol ar gyfer sectorau sydd wedi eu hanwybyddu a’u tanbrisio gan wneuthurwyr polisïau er gwaethaf eu rôl bwysig wrth ddiwallu anghenion cymdeithasol, er enghraifft sectorau fel gofal a bwyd.

Er bod yr holl bethau hyn yn ganmoladwy, mae dwy brif wendid i’r Cynllun:

  • nid yw’n cynnwys unrhyw gerrig milltir na thargedau i asesu cynnydd. Heb y rhain, mae’n amhosibl dwyn y llywodraeth i gyfrif; a
  • mae wedi’i baratoi’n annibynnol heb fawr ddim mewnbwn gan y partneriaid – o feysydd busnes, prifysgolion a chymdeithas sifil – fydd yn gorfod ei gyflwyno.

Yn adran olaf y Cynllun am y Camau Nesaf, mae’n nodi “ar ôl cyhoeddi’r Cynllun hwn, byddwn yn ymgymryd â rhaglen ymgysylltu i lywio sut caiff ein hymagwedd newydd ei chyflwyno a’i rhoi ar waith”.
Ond mae partneriaethau go iawn – yn hytrach na phartneriaethau papur – yn cynnwys y partneriaid yn y dyluniad ac nid wrth gyflwyno’r cynllun yn unig.

Mae’r Polisi Buddsoddi Rhanbarthol (RIP) yn fwy o ymarfer sy’n edrych i’r dyfodol ac mae wedi’i gynllunio i baratoi Cymru ar gyfer sut bydd pethau ar ôl Brexit. Yn wleidyddol, mae’n ceisio mynd i’r afael â dwy gynulleidfa wahanol: yng Nghymru mae’n ceisio sicrhau ei rhanddeiliaid ei fod yn paratoi ar gyfer y dyfodol; ar y llaw arall, mae hefyd yn dangos ei bwriadau i San Steffan gan mai yno fydd llawer o’r polisïau economaidd yn cael eu llunio ar ôl Brexit.

Am ei bod yn cyfeirio at San Steffan, mae’r Polisi yn gwneud ei orau glas i bwysleisio’r angen parhaus am gymorth rhanbarthol ar y sail mai yng Nghymru y mae rhai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yn y DU. I bwysleisio’r pwynt, mae’n nodi bod gan Flaenau Gwent y gyfran uchaf a Merthyr y 5ed cyfran uchaf o oedolion heb unrhyw gymwysterau ymhlith holl awdurdodau lleol Cymru a Lloegr, sef 36% a 34.3%.  Er bod yr ardaloedd difreintiedig hyn yn ddibynnol tu hwnt ar yr Economi Sylfaenol, nid roddir unrhyw sylw i’r ail yn y ddogfen hon er yr holl sylw a roddwyd yn y Cynllun Gweithredu Economaidd.

Mae’r Polisi yn nodi y dylai Cymru ddysgu o’r gwersi a ddysgwyd o Gronfeydd Strwythurol yr UE, dull polisi rhanbarthol sy’n seiliedig ar egwyddorion sydd wedi’u profi – egwyddorion fel rhaglenni aml-flynyddol i gynnig gweledigaeth hirdymor; meini prawf tryloyw ar gyfer asesu prosiectau hyfyw; systemau monitro a gwerthuso cadarn i sefydlu beth sy’n gweithio ble a pham; ac yn anad dim, partneriaethau aml-lefel lle mae cyflawni ar lefel ranbarthol yn cael ei ategu gan oruchwyliaeth genedlaethol.

Fodd bynnag, does bosib fod Llywodraeth Cymru yn rhoi’r drol o flaen y ceffyl drwy ddweud “mae gennym y partneriaethau sydd eisoes ar waith, ar bob lefel, i fynd ymlaen i lwyddo yn y maes hollbwysig hwn”. Heb os, mae’r partneriaethau rhanbarthol yn Rhanbarth Cyfalaf Caerdydd, Bae Abertawe a Gogledd Cymru wedi datblygu’n gyflym mewn cyfnod byr, ond maent yn parhau i geisio ennill eu plwyf. Yn ffodus, mae amser o hyd i gynyddu adnoddau e.e. drwy ganolfannau rhagoriaeth rhanbarthol newydd. Fodd bynnag, ni fydd y mater hwn yn cael sylw dyledus os yw Llywodraeth Cymru o’r farn bod y partneriaethau hyn “eisoes ar waith”.

Er bod yr ymagwedd ranbarthol newydd i’w chroesawu, nid yw’n synhwyrol nac yn gynaliadwy i gyfuno Canolbarth Cymru ag ardal sydd fwy neu lai’n cyfateb i ardal dinas-ranbarth Bae Abertawe. Yn y tymor hwy, bydd angen pedair rhanbarth datblygu ar Gymru yn ôl pob tebyg i allu gwneud cyfiawnder â hanfodion economi, cymdeithas a diwylliant y wlad.

Mae un o benodau pwysicaf yr adroddiad yn canolbwyntio ar yr her o weithio ar draws ffiniau, gan fod ffiniau’n cael eu hystyried yn ddaearyddol ac yn fiwrocrataidd.

Mae dwy elfen i’r prif heriau trawsffiniol yng Nghymru: sut i wneud y gorau o’r UE er gwaethaf Brexit, a sut i reoli’r berthynas gyda San Steffan ar ôl Brexit.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i barhau i gymryd rhan yn rhwydweithiau’r UE cyhyd â phosibl, ac mae’n llygad ei lle i fynnu hyn oherwydd bydd y DU yn talu i gymryd rhan mewn rhaglenni Ewropeaidd fel Erasmus + a Horizon 2020. Felly, bydd angen i Gymru ailbwysleisio ei hymrwymiad i rwydweithiau ymchwil ac arloesedd Ewropeaidd oherwydd bydd y cysylltiadau hyn yn parhau’n bwysig am amser maith ar ôl Brexit. Mae’r un peth yn wir o ran y Farchnad Sengl, sydd eisoes yn cymryd 60% o allforion Cymru.

Ni fydd rheoli’r berthynas â Whitehall yn llai heriol gan nad yw’r llywodraethau ym Mae Caerdydd a Llundain yn ymddiried yn ei gilydd.
Mae dwy her uniongyrchol sy’n gysylltiedig â threfniadau llywodraethu a dosbarthu cronfeydd yr UE.

O ran llywodraethu, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cael Cyngor o Weinidogion Economaidd o’r pedair gwlad, fforwm a gynlluniwyd i gydlynu polisïau o fewn fframweithiau cyffredin y DU. Nid yw fforymau o’r fath wedi gweithio’n dda hyd yma, yn bennaf oherwydd y diffyg parch tuag atynt yn San Steffan.

Gallai’r gwrthdaro rhwng Bae Caerdydd a Llundain ddod i uchafbwynt ynghylch sut y dosberthir cronfeydd yr UE. Mae tua £680 miliwn yn dod i Gymru bob blwyddyn ar hyn o bryd, ac mae Llywodraeth Cymru am i’r swm hwn gael ei gynnwys yn ei Grant Bloc yn lle hynny. O’r swm hwn, mae cronfeydd polisi rhanbarthol yr UE i’w cyfrif am £370 miliwn, ac nid yw’n gwbl glir os caiff hyn ei weinyddu yng Nghymru neu yn San Steffan. Mae’r arwyddion cynnar yn awgrymu y byddai’n well gan San Steffan gyflwyno’r cronfeydd drwy Gronfa Rhannu Ffyniant y DU, sef polisi rhanbarthol newydd ledled y DU.

Gallai hyn achosi’r gwrthdaro cyntaf o bwys ym Mhrydain ar ôl-Brexit gan fod Llywodraeth Cymru yn dweud “Rydym yn ymwrthod yn llwyr ag unrhyw syniad o ganoli polisi datblygu economaidd rhanbarthol yn y DU, gan gynnwys creu Cronfa Ffyniant y DU a reolir yn San Steffan”.

Bydd y ddadl wleidyddol am Gronfa Rhannu Ffyniant y DU yn canolbwyntio ar ddau fater yn y lle cyntaf – maint y gronfa a sut caiff ei rheoli. Cyn bwysiced â hynny, fodd bynnag, fydd y meini prawf ar gyfer dyrannu’r gronfa – yn enwedig y gydbwysedd rhwng ecwiti ac effeithlonrwydd. Er bod y ddau’n angenrheidiol, bydd angen pwysleisio’r achos dros ecwiti oherwydd bod tueddiad gan rai yn San Steffan i feddwl bod ecwiti gyfystyr â “diwylliant o hawlio” y mae angen cael gwared arno.

Yng nghyd-destun cynifer o ffactorau mor annibynadwy, y cyfan y gallwn ei ddweud yn bendant yw y bydd Cymru mewn amgylchedd economaidd a gwleidyddol llymach ar ôl Brexit. Bydd ffyniant economi Cymru yn dibynnu ar lawer o bethau ar ôl 2020, yn enwedig mynediad dirwystr i’r Farchnad Sengl, cael cytundeb da yn San Steffan, a threfniadau partneriaeth mwy cadarn yng Nghymru.
Mae’r erthygl hon yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit a Chymru, nac ychwaith Prifysgol Caerdydd.

 

Ymddangosodd fersiwn gryno o’r erthygl hon yn y Western Mail ar 16 Rhagfyr 2017.

Mae Kevin Morgan yn Athro Llywodraethu a Datblygu yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd, lle mae hefyd yn Ddeon Ymgysylltu.

 

 

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *