Brexit, Darllen hir, Economi a Masnach

Brexit ac economi Cymru

Un syniad ynghylch economi Cymru yw’r hyn y gall Llywodraeth Cymru ddylanwadu arno drwy gyfrwng ei offerynnau polisi economaidd.  Mae’r cysyniad hwn yn llywio pryder ynghylch Brexit i’r offer polisi posibl newydd sy’n codi yn sgil dychwelyd pwerau o Frwsel, yn enwedig cymorthdaliadau amaethyddol. Mae amaethyddiaeth yng Nghymru yn derbyn mwy o gymhorthdal nag yn Lloegr, felly’n naturiol ddigon, mae gan ffermwyr Cymru diddordeb mewn gwybod a fydd yr un lefel o gyllid yn parhau o Whitehall ac a fydd hwnnw o dan reolaeth Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth Prydain? Gallant obeithio’n ogystal y gellir cyflawni polisi â ffocws gwell.  Os yw Trysorlys Prydain yn ildio’r arian i Lywodraeth Cymru, mae’n debygol o fynd i mewn i’r grant bloc. Bydd Llywodraeth Cymru, wedyn, yn wynebu’r dewis diddorol o barhau i wario cymaint ar amaethyddiaeth (yn ogystal ag ar ba ffurf) neu newid adnoddau i achosion teilwng eraill, megis iechyd neu ofal cymdeithasol.

Cymorth Rhanbarthol

Ail faes pwysig o ddychwelyd pwerau yw cymorth rhanbarthol. Gan ail-lunio ffiniau mewn modd dyfeisgar, cafodd Cymru symiau sylweddol o arian yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Mae oddeutu dau biliwn o ewros i’w talu rhwng 2014 a 2020. A fydd Llywodraeth y DU yn parhau i dalu’r lefel hon o gymorth?  Nid oes llawer o dystiolaeth bod gwariant trwm am flynyddoedd lawer wedi cyflawni’r hwb disgwyliedig i’r ardal, â barnu yn ôl pryderon Archwilydd Cyffredinol Cymru yn y gorffennol.  Yng ngwerthusiad terfyn rhaglen prosiect yr UE, dim ond sefydlu bod yr arian wedi’i wario ar yr hyn a nodwyd yn nogfennau’r prosiect sydd wedi’i gynnwys ynddo. Ar y llaw arall mae’r broses werthuso a hyrwyddwyd gan lywodraeth ganolog y DU ac a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn ymwneud â canlyniadau. Ni roddwyd cynnig ar dull o’r fath hyd yn hyn, mwy na thebyg am y byddai’r canfyddiadau tebygol yn peri gormod o embaras. Felly, ar y cyfan, nid yw’n debygol bod y lefel hwn a’r math o ariannu polisi’n mynd i gael ei ddisodli gan y llywodraeth ganolog.  Serch hynny, mae’n bosibl y gellir dod o hyd i bolisi adfywio mwy effeithiol.

O safbwynt gwahanol, nid oes economi cydlynol gan Gymru, dim ond dau neu’n fwy o economïau sydd wedi’u cysylltu â meysydd economi Lloegr, yn hytrach nag â’i gilydd. Mae Gogledd Cymru yn gysylltiedig â Lerpwl lle cyhoeddwyd y papur newydd Cymraeg cyntaf. Mae Canolbarth Cymru yn fwy cysylltiedig â Birmingham nag â Gogledd neu Dde Cymru. Y cytrefiad mwyaf yng Nghymru o bell ffordd yw Caerdydd-Casnewydd ond â barnu ar sail telathrebu, nid yw’r ardal hon yn cysylltu’n fwy â gweddill Cymru nag ydyw â Lloegr, a Bryste, yn benodol. Mae canlyniadau Brexit ar gyfer Cymru, felly, wedi’u cysylltu’n agos â’r canlyniadau ar gyfer Lloegr. Mae’r canlyniadau hyn yn y pen draw o lawer mwy o bws i Gymru, at ei gilydd, na cymorth rhanbarthol neu gymorthdaliadau amaethyddol.

Dychwelyd i reolau Sefydliad Masnach y Byd

Mae’r hyn fydd yn digwydd ar unwaith yn sgil Brexit yn dibynnu ar y telerau a drafodir, a chyfnodau pontio – os o gwbl – nad ydym eto yn gwybod amdanynt. Mae’n anodd credu y gall 27 o wledydd gytuno ar lawer o sylwedd, y tu hwnt i ddal gafael ar y status quo. Mae’r gallu i brynu o’r farchnad Brydeinig, a gwerthu iddi, heb rwystrau yr un mor werthfawr i ddinasyddion y 27 â’r rheini sy’n drigolion y DU. Fodd bynnag, mae pŵer lobïau a’r pwysau o ran cyllid cyhoeddus yn fwy grymus, mwy na thebyg. Yn yr un modd, mae’n ymddangos yn annhebygol bod y llywodraeth Brydeinig yn ddigon cryf i wrthsefyll dig y rheini sydd o blaid Brexit drwy wneud rhyw lawer o gonsesiynau i’r UE, er bod rhai arwyddion o gydnabod bod hynny’n bris sy’n werth ei dalu ar gyfer setliad masnach ffafriol. Yn fy nhyb i, felly, ar hyn o bryd ychydig iawn o gonsesiynau fydd y DU yn eu cael, bydd y ‘bil ysgariad’ yn parhau i fod heb ei dalu a bydd cysylltiadau masnach yn dychwelyd at reolau Sefydliad Masnach y byd.  Mae’n bosibl y bydd mewnfudiaeth yn gostwng rhywfaint, gan arwain at bwysau cynyddol ar gyflogau ac felly ar gynhyrchiant. Fodd bynnag, prin iawn fydd y straen ariannol a gaiff ei leddfu am fod y rhan fwyaf o’r hyn a ddaw yn sgil mewnfudiaeth yn deillio o ffynonellau y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.  Bydd gwariant cyhoeddus yn parhau i gael ei wasgu am nad yw cyllideb y DU wedi gwella’n llwyr o’r argyfwng yn 2008 a bod y gymhareb dyled genedlaethol-Cynnyrch Domestig Gros yn rhy uchel i fod yn ddiogel. I ryw raddau, mae llethu twf gwariant cyhoeddus, bellach yn ymateb i’r ehangu mawr a fu cyn yr argyfwng; roedd cyfanswm gwariant Llywodraeth Cymru dros hanner gwaith yn fwy (55 y cant) mewn dim ond pedair blynedd ar ôl 2000-01. Rhaid i’r gyfradd hon o ehangu gael ei gwrthbwyso gan wasgfa’n ddiweddarach, heblaw bod twf cynhyrchiant yr economi yn cynyddu’n aruthrol, neu bod yna awydd cyffredinol pwerus i dalu trethi uwch o lawer.

Ni fydd y gwasanaeth iechyd yn methu oherwydd na allwn gyflogi personél o’r UE, mwyach, ar ôl Brexit. Mae’r camargraff mai hynny fydd yr achos yn gosod problemau’r gwasanaeth iechyd wrth y drws anghywir. Dangoswyd nad yw’r gostyngiad diweddar mewn personél o’r UE yn dod i mewn i’r gwasanaeth iechyd yn ganlyniad y bleidlais Brexit, ond yn hytrach allfudo rhagataliol cyn cyflwyno prawf iaith, a chanlyniadau hynny. Gallai cyflogau ac amodau addas ddatrys diffygion recriwtio. Y broblem sylfaenol yw mai twf cynhyrchiant araf gwaelodol yr economi fydd yn gorfod talu am wasanaethau iechyd yn y pen draw, ynghyd â galw cynyddol am y gwasanaethau hyn sy’n cael ei yrru gan boblogaeth sy’n heneiddio a’r posibiliadau a gynigir gan dechnoleg.

Masnach Rydd Ewrop a’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd

Gall Brexit ganiatáu cysylltiadau masnachu dilynol i droi’n ôl at hen ddyheadau, gydag effeithiau buddiol, o bosibl, ar economi Cymru. Pwysodd y DU am ardal Masnach Rydd Ewrop yn y 1950au ond mewn gwirionedd roedd y Gymuned Economaidd Ewropeaidd (neu’r ‘chwech’) wedi achub y blaen ar hynny. Erbyn hyn, mae’n debygol y bydd Prydain fydd yn dychwelyd i’r polisi hwnnw – waeth faint o amser fydd hynny’n cymryd. Ar yr olwg gyntaf, felly, bydd hyn yn annog ailstrwythuro economi Prydain – o dan fasnach rydd – tuag at wasanaethau ac oddi wrth weithgynhyrchu. Fodd bynnag, mae’n werth cofio profiad cynnar y Gymuned Economaidd Ewropeaidd cyn gwneud rhagolygon, er enghraifft, y bydd Tata Steel yn diflannu o Dde Cymru. Roedd y fargen Ffrengig-Almaenig wreiddiol wedi’i seilio ar y rhagdybiaeth y byddai gweithgynhyrchu Almaenig yn ei ddiddymu yn Ffrangeg, ac y byddai Ffrainc yn cynyddu ei harbenigedd amaethyddol. Cymorthdaliadau mawr ar gyfer amaethyddiaeth, felly, ar ffurf y Polisi Amaethyddol Cyffredin oedd pris mynediad i’r farchnad Ffrangeg ar ran yr Almaen. Serch hynny, ffynnodd diwydiant Ffrainc, yn groes i’r disgwyliadau hyn. Mae masnach mwy rhydd yn creu cyfleoedd sydd heb eu rhagweld. Mae cynhyrchiant Cymru yn y diwydiant gweithgynhyrchu yn eithaf da o’i gymharu â chynhyrchiant Cymru yn gyffredinol. Mae hyn yn awgrymu y gallai Cymru ar ôl Brexit, a symud i fasnach rydd, ddod o hyd i batrwm cynhyrchiol gwahanol o arbenigedd o lawer o weddill economi Prydain.

Mae ansicrwydd Brexit yn ddrwg dros dro ar gyfer twf economaidd, ond go brin yr effeithir ar y gyrwyr hirdymor. Bydd yn dal i fod yn bosibl i gynnal cysylltiadau masnachu buddiol agos ag Ewrop oherwydd am yn hir cyn i’r DU ymuno â’r ‘farchnad gyffredin’, er enghraifft, cafodd Ford Europe integredig – gan gynnwys Prydain – ei greu. Roedd rhesymeg economaidd yn pennu bod cysylltiadau masnach agos ag Ewrop yn bodoli cyn ymaelodi â’r gymuned Ewropeaidd, a byddant yn parhau i fod felly ar ôl gadael.  Bydd yr effaith andwyol byr o adael yn sicr yn llawer llai na’r hyn a gafwyd yn sgil yr argyfwng ariannol, sef pwynt cychwyn llawer o’r broblemau presennol economi Cymru a Phrydain.  Â llywodraethu da, bydd cyfleoedd o Brexit ar gyfer polisïau sydd â gwell ffocws, rhai sy’n fwy effeithiol gyda chostau is y bydd economi Cymru’n buddio ohonynt.

Yr Athro James Foreman-Peck yw Cyfarwyddwr Sefydliad Cymru er Ymchwil ym maes Economeg a Datblygu (Welsh Institute for Research in Economics and Development) Mae’n gyn-Lywydd yr ‘European Historical Economics Society’. Yn ogystal, bu’n Ymgynghorydd Economaidd i Drysorlys Ei Mawrhydi.

Ymddangosodd y blog hwn yn gyntaf ar Cambria Nostra .

Mae’r postiad hwn yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *