Brexit, Darllen hir, Economi a Masnach

Gwyliwch y Bylchau: Brexit Bwyd, gwahaniaethau rheoleiddio a’r angen am fframwaith amaeth-fwyd newydd i’r DU

Gan drafod gydag ystod eang o bobl o’r diwydiant bwyd a chynrychiolwyr o sefydliadau bwyd allweddol dros y misoedd diwethaf, ers cyhoeddi ein hadroddiad: ‘Brexit Bwyd: amser i wynebu’r gwir’ [1]; mae consesiwn cyffredinol a chynyddol fod y diwydiant yn wynebu heriau difrifol a’i fod yn debygol yr amherir ar ystod eang o feysydd, wrth i Brexit caled ein hwynebu (h.y. gadael yr undeb tollau a’r farchnad sengl). Mae hyn yn cadarnhau i raddau helaeth ein casgliadau cynharach yn ein hadroddiad, ac yn atgyfnerthu’r angen i lobïo a chysylltu â’r Senedd ynghylch y canlyniadau difrifol hyn. Wrth imi ysgrifennu hyn, mae’r llywodraeth hyd yma’n amharod i ryddhau ei hadroddiadau ei hun ar effeithiau a chanlyniadau’r hyn y mae’n ei wneud ar Brexit; ond wrth siarad â’r diwydiant gwelwn yn glir yr heriau a’r addasiadau sylweddol y bydd angen ymdrin â nhw. Felly mae’n ddyletswydd bwysig i sylwebyddion fel fi gyfleu ac amlinellu’r materion hyn mewn ystod o fforymau cyhoeddus, er budd y cyhoedd.

Mae’r casgliadau critigol yr wyf i a’m cydweithwyr (Tim Lang ac Erik Millstone) yn dechrau dod atynt yn amharod ynghylch bwyd yn y DU yn y gwaith ymchwil ers y Refferendwm yn dwysau. Er enghraifft, mae prinderau llafur difrifol yn dechrau effeithio ar bob rhan o’r sector bwyd, ond yn enwedig yn y gwasanaeth bwyd, lletygarwch a’r sector prosesu a chynhyrchu bwyd. Mae cogyddion, cadwyr tŷ, gweinyddion a milfeddygon yn symud dramor ac mae angen hyd at 80,000 yn fwy o weithwyr ym maes lletygarwch er mwyn llenwi’r bwlch yn y dyfodol agos. Amcangyfrifir hefyd fod prinder cynyddol o 35,000 o yrwyr lorïau. Mae systemau logistaidd integredig y gadwyn cyflenwi bwyd yr ydym oll yn dibynnu arnynt am becynnau bwyd ffres ac wedi’u hoeri yn ein caffis, bwytai a bariau’n dod yn ddrutach a daw’n anos eu darparu ar ôl Brexit; gan eu bod yn dibynnu ar hawster mynediad rhyngwladol agos ond darfodus at gyflenwyr a chynhyrchwyr. Mae Marchnad Sengl Ewrop wedi ein galluogi i brynu bwydydd rhad, ffres fel madarch o Iwerddon a merllys o Sbaen a Ffrainc, a disgwyl cael bwyd ffres gydol y flwyddyn o gadwyni cyflenwi. Daw’r cadwyni cyflenwi dibynadwy a hygyrch, ar eu gorau, yn fwy costau ac ar eu gwaethaf yn llai dibynadwy, wrth i’r sector bwyd a logisteg gysylltiedig gael trafferth ymdopi ag ansicrwydd â breuder tollau newydd bwyd darfodus a safonau ansawdd ar ein ffiniau.

Caiff rhagdybiaethau a disgwyliadau defnyddwyr am ddarpariaeth ffres a chyflenwadau gydol y flwyddyn eu rhoi dan bwysau. Bydd prinder bwyd a chostau uwch yn gwaethygu diogelwch bwyd, ac mae angen i wleidyddion ddisgwyl y daw’r cyhoedd yn fwy pryderus wrth i Brexit ddigwydd. Os bydd gostyngiad ar un ochr ym mhris tariffau bwyd gan un ochr a gostyngiad ym mhrisiau bwyd i ddefnyddwyr ar ôl Brexit, fel y dywed rhai o’i gefnogwyr, bydd hyn yn cymryd y rhan orau o ddegawd i’w gyflawni, ac yn yr un modd yn lleihau’n ddifrifol y safonau a’r diogelwch bwyd y mae defnyddwyr ym Mhrydain wedi dod i’w disgwyl.

Rydym bellach yn gweld dechrau cyfnod maith o ymwahanu rheoleiddiol nid yn unig o ran maint a rheolau masnachu, ond o bosibl safonau bwyd, polisi marchnad a chynhyrchu, safonau diogelwch a thwyll, tollau a chyflawni logistaidd. Bydd angen rheoli’r ymwahanu hwn yn ofalus – ar y ffin ag Iwerddon, rhwng Iwerddon a’r DU, rhwng y DU a thir mawr Ewrop, a rhwng y DU a gweddill y byd. Bydd costau ychwanegol sylweddol o hyn i ddiwydiant bwyd y DU a’r UE, a bydd amharu mawr ar y lefelau integreiddio, sydd erbyn hyn yn uchel, yn y gadwyn fwyd rhwng Iwerddon a’r DU a rhwng y ddwy a’r UE. Y mae ymagwedd gyffredinol o ‘faglu ymlaen’ at yr ansicrwydd rheoleiddiol hwn, a’r diffyg cydnabyddedig o weledigaeth gadarnhaol ar ran y llywodraeth a sawl un yn y diwydiant bwyd yn awgrymu ymagwedd : ‘i gynllunio at y gwaethaf a gobeithio am y gorau’!

Creu fframwaith a strategaeth fwyd newydd i’r DU: apêl i fod yn rhesymol ac nid ildio i dynged?

Er nad yw dadlau dros fwy o hunanddibyniaeth amaeth-fwyd ddomestig yn y DU am ddatrys yr holl broblemau hyn, gall o leiaf fod yn rhan o’r ateb i rai o’r heriau. Yn ein hadroddiad cynharach ym mis Gorffennaf 2017, gwnaethom ddadlau dros yr angen i lywodraeth y DU arwain y blaen wrth lunio ymrwymiad polisi newydd at system fwyd gyfoes, effaith isel a rhyngwladol sensitif (deg) i’r DU sydd ag iechyd yn gnewyllyn iddo, yn seiliedig ar egwyddorion cydgysylltiedig diogelwch a gwydnwch bwyd sef digonolrwydd, cynaliadwyedd, diogelwch, iechyd a thegwch.[2] Ni all hyn ddisgwyl nes i’r trafodaethau ddod i ben ym Mawrth 2019; mae angen ei ddatblygu ar y cyd â’r broses o drafod a throsglwyddo.

Mae angen fframwaith statudol cydlynol a gweledigaethol ar y diwydiant bwyd ym Mhrydain a’r holl elfennau ohono i weithio oddi mewn iddo fel y gall reoli’r prosesau economaidd a rheoleiddiol ehangach sy’n ei wynebu yn y dyfodol wrth i Brexit fynd rhagddo. Mae angen i Lywodraeth arwain mewn ffordd ragweithiol a strategol a bwrw ystod o dargedau o ran diogelwch a chynaliadwyedd bwyd domestig sy’n cwmpasu’r cyflenwad bwyd, ansawdd, iechyd a defnydd, sy’n mynd y tu hwnt i faint y cyflenwad drwy integreiddio’r adferiad o ecosystemau a gwydnwch y system fwyd.

Bydd hyn yn gofyn am arweinyddiaeth ac awgrymwn sefydlu Comisiwn Cenedlaethol dros Fwyd ac Amaeth newydd ag amryw randdeiliaid (sy’n cynnwys rhanddeiliaid o bob rhan o’r diwydiant a’r awdurdodau datganoledig) a all oruchwylio a chynnig cyd-arweinyddiaeth ac adolygu; fel ei fod yn ffynhonnell o gyngor a gweithrediadau a ymddiriedir gan y cyhoedd a defnyddwyr. Amcan penodol corff o’r fath fyddai dwyn gweinidogion i gyfrif a chynnwys yn ddigonol y prif randdeiliaid preifat, cyhoeddus, defnyddwyr a dinesig fel y gall greu consensws cenedlaethol anghystadleuol mewn modd creadigol ar y blaenoriaethau a’r egwyddorion cyffredinol i’w mabwysiadu wrth i Brexit fynd rhagddo.

Daw cynsail hanesyddol hyn o bwyllgorau amaethyddol y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd, a hyd at y 1970au, ym mholisïau amaethyddol cenedlaethol cyffredinol a hyrwyddodd cynhyrchiant fel set o egwyddorion economaidd a diogelwch bwyd.[3]Bellach, dylid alinio’r DU ag ymrwymiadau cynaliadwyedd byd-eang (fel y Nodau Datblygu Cynaliadwy a’r gostyngiadau mewn allyriadau carbon yn dilyn COP21) yn ogystal ag ymgysylltu’n rhagweithiol â nodau datblygu rhyngwladol i sicrhau masnach fwyd decach a mwy cynaliadwy â gwledydd incwm is a chanolig, ag ymrwymiad domestig newydd i gynyddu hunan-ddibyniaeth y DU o ran cynhyrchu a defnyddio bwyd, o leiaf i’r lefelau a gyrhaeddwyd yng nghyfnodau ‘ffermio bras’ y 1970au – 80% neu’n fwy. Felly nid oes gwrthgyferbyniad rhwng safbwyntiau diogelwch a chynaliadwyedd bwyd wrth wella hunan-ddibyniaeth bwyd yn ddomestig A chreu perthnasau masnachu tecach dramor. Yn wir, Norwy a’r Swistir ddylai fod ein pwyntiau cyfeirio cenedlaethol, yn hytrach na Seland Newydd sydd â llai o reoleiddio. Mae’r rhan fwyaf, os nad pob un o wledydd datblygedig y byd am warchod a hyrwyddo eu systemau amaeth-fwyd; a dywed hanes wrthym nad yw llywodraethau sy’n anwybyddu eu cyfrifoldebau o ran hyn yn tueddu i bara’n hir iawn.

Felly beth ddylai fod yn rhai o’r egwyddorion sylfaenol i arwain fframwaith y DU ar gyfer amaeth-fwyd? Rwy’n bles ac yn galonogol gweld bod rhai o’r blaenoriaethau hyn yn gynyddol gael eu trafod gan sawl un yn San Steffan os nad yng nghanolbwynt y llywodraeth ar hyn o bryd. Byddaf yn rhestru rhai o’r egwyddorion hyn a gyflwynais wythnos diwethaf yng nghynhadledd Brexit Bwyd San Steffan a ddaeth â 300 o gynadleddwyr ynghyd o’r diwydiant bwyd.[4]

  • Ailddatblygu polisïau bwyd ac amaeth cenedlaethol sy’n meithrin systemau ffermio mwy amrywiol, amlswyddogaeth ac ecolegol gynaliadwy sy’n annog gwerth ychwanegol a thwf yn y cadwyni ‘byrrach’ i’r farchnad.
  • Buddsoddi wrth greu hunan-ddibyniaeth genedlaethol yn enwedig yn y sectorau ffrwythau a llysiau tymherus.
  • Cysylltu trefi a dinasoedd â’u cefngwlad gwledig ac amaethyddol drwy integreiddio cynllunio bwyd i gamau gweithredu llywodraeth leol.
  • Meithrin arallgyfeirio mewn ffermio a gwaith partneriaeth amgylcheddol, er enghraifft fel partneriaeth arloesol Dyffrynnoedd Gwy a Wysg gyda’r Gymdeithas Ffermio Gwyrdd a arweinir gan Dir Pori. Buddsoddi mewn ‘ffermio deallus’ yn seiliedig ar amrywiaeth o egwyddorion cylchol-economaidd, y gallai’r cyfan gyflwyno’n raddol ystod lawn ac amrywiol o fwyd organig, a chynlluniau ffermio amgylcheddol-sensitif ehangach (fel LEAF).
  • Dod o hyd i ffyrdd o ryddhau’r baich rheoliadol ar awdurdodau lleol a datganoledig i annog caffael cyhoeddus gwyrdd i gyrchu bwyd lleol a rhanbarthol.
  • Buddsoddi mewn hyfforddiant a sgiliau ffermio, bwyd, lletygarwch a thwristiaeth i ddenu pobl ifanc i’r sectorau hyn, gan gynnig llwybrau gyrfaol clir fel drwy ddulliau ariannu ymchwil a datblygu a gwella ac ehangu’r bartneriaeth hyfforddi Amaeth-fwyd.

 

‘Bod â chynllun’ ar gyfer dyfodol bwyd cynaliadwy i’r DU.

Ers peth amser bu’n anffasiynol wleidyddol i lywodraethau’r DU eirioli’n agored ddull cynllunio at sector amrywiol o’r economi a ffurflywodraethau. Mae’r breuder cronig yn niogelwch a chynaliadwyedd bwyd a ddaeth i’r amlwg yn enwedig ers argyfwng cyfunol bwyd, tanwydd, cyllid ac ariannol 2007-8, a bellach Brexit a’r ymwahanu rheoleiddio cyfamserol tebygol yn Ewrop, yn cyflwyno angen am ymarfer cynllunio cenedlaethol cadarn a chynhwysol ym maes diogelwch a chynaliadwyedd bwyd, yn un brys nas gwelwyd mo’i debyg ers y cyfnod a ddilynodd yr Ail Ryfel Byd. Mae system fwyd y DU yn ddioddef ar hyn o bryd o gyfres o fethiannau (yr oedd modd eu hosgoi) ar ran y farchnad a’r wladwriaeth. Os nad eir i’r afael â’r rhain mewn modd rhagweithiol, cânt eu gwaethygu’n sylweddol gan broses Brexit. Er ei bod yn debyg bod busnesau bwyd wrthi’n ‘paratoi am y gwaethaf a gobeithio am y gorau’, mae angen i San Steffan yn ei chyfanrwydd gydweithio â’r rhanbarthau datganoledig i fynd i’r afael â’r sefyllfa a gwarchod a meithrin gwydnwch bwyd cenedlaethol drwy unwaith eto fuddsoddi yn ei seilweithiau bwyd a ffermio.[5]

Yr Athro Terry Marsden yw Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd

Ymddangosodd y blog hwn yn gyntaf ar Flog y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy

Mae’r postiad hwn yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

 

[1] Brexit Bwyd: amser i wynebu’r gwir. Lang, T, Millstone, E a Marsden, T.K (2017)https://www.sussex.ac.uk/webteam/gateway/file.php?name=foodbrexitreport-langmillstonemarsden-july2017pdf.pdf&site=25

[2] Lang et al op cit. Ond gweler hefyd adroddiadau diweddar gan UCA a CPRE: Vision for the future of farming: a new domestic agricultural policy, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, 2017; a New model farming: resilience through diversity. Campaign to Protect Rural England, 2016.

[3]  Gweler ‘Food from our own resources’ MAFF 1976; Farming and the Nation (1979).

[4] Food Brexit: a new food conference. Queen Elizabeth 11 Hall, San Steffan, 31ainHydref, 2017.

[5] Mae’r erthygl hon yn seiliedig ar fy nghyflwyniad diweddar yng nghynhadledd Food Brexit: a new Food Conference yn San Steffan 31/10/2017; a dadansoddiad dyfnach o bolisi bwyd ac amaethyddiaeth yn y llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar: Agri-food and rural development: sustainable place-making.Terry Marsden. (2017, Bloomsbury, Llundain).

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *