Cymunedau a Diwylliant

Cyfyng gyngor – sut dylai gwasanaethau cyhoeddus Cymru fod yn cynllunio ar gyfer Brexit?

Mae Michael Trickey yn dadlau bod sylwadau diweddar gan Michael Bloomberg a’r ffrae ynghylch llythyr gan yr Aelod Seneddol Chris Heaton-Harris at brifysgolion yn cadarnhau bod y ddadl dros Brexit, os rhywbeth, yn dwysáu. Mae’n ystyried isod sut y dylai gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gynllunio ar gyfer Brexit.    

Mae 16 mis bellach ers refferendwm 2016 ac mae’r ddadl frwd yn parhau ynghylch a fydd Brexit yn sigo dan bwysau ei gymhlethdodau ei hun neu’n datgan dyfodol newydd disglair i’r DU a’i heconomi.

Nid ydym fawr callach am delerau’r datgysylltiad, y cyfnod trosi na’r goblygiadau ariannol. Mae hyn oll yn peri trafferth gynyddol i wasanaethau cyhoeddus ynghylch pryd a sut i baratoi ar gyfer digwyddiad posibl a allai gael effaith sylweddol arnynt, yn ariannol, yn gyfreithiol, yn strategol ac yn weithredol.

O wybod bod amser yn mynd heibio yn gyflym, mae posibilrwydd cynyddol y bydd penderfyniadau, pan gânt eu gwneud, yn cael eu gwneud ar frys, yn hwyr, yn aml ac yn fynych. Os nad yw gwasanaethau cyhoeddus yn barod, mae perygl y byddant yn cael eu dal yn ddiarwybod ac na fyddant yn gallu ymdrin â’r newid angenrheidiol.

Ond sut mae paratoi ar gyfer rhywbeth sydd â chymaint o ganlyniadau posibl? Wrth gwrs, fel y mae’r CBI ac eraill wedi pwysleisio, mae’r sector preifat yn wynebu cyfyng-gyngor tebyg iawn, er ei fod mewn maes gwahanol.

Mae hyn oll yn gwneud yr ymchwiliad newydd gan Bwyllgor Materion Allanol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i sut mae’r sector cyhoeddus a busnesau yng Nghymru’n paratoi ar gyfer Brexit yn arbennig o amserol.

Felly beth yn union yw’r problemau a’r risgiau i wasanaethau cyhoeddus?

Cyhoeddodd Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 bapur trafod yn union cyn y refferendwm ar y goblygiadau posibl i wasanaethau cyhoeddus lleol, fel y GIG, gofal cymdeithasol, addysg, trafnidiaeth, yr amgylchedd, y gwasanaeth tân a’r heddlu, a diwylliant. Mae’r rhestr o broblemau lefel uchel yn debyg iawn 16 mis yn ddiweddarach ond mae gwaith y cymunedau polisi amrywiol wedi dwysáu ein dealltwriaeth.

Gan adael o’r neilltu’r problemau cyfansoddiadol sylweddol yn sgil Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2017–19, mae materion ar yr agenda ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru’n cynnwys:

  • yr effaith ar yr economi a chyllid cyhoeddus a’r hyn y gallai hynny ei olygu o ran cyllid yn y dyfodol ac, yn ehangach, o ran llesiant economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol. Cafodd rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer iechyd cyllid cyhoeddus ei israddio o ganlyniad i bleidlais Brexit ond mae paratoi rhagolygon wedi hynny’n anodd iawn yn y cyd-destun presennol;
  • a fydd y cyllid o £680 miliwn y flwyddyn mae Cymru’n ei dderbyn ar hyn o bryd trwy raglenni’r UE, y mae rhywfaint ohono’n mynd tuag at wasanaethau cyhoeddus mewn gwahanol ffyrdd, yn cael ei gynnal dan unrhyw raglenni DU dilynol, fel y Gronfa Ffyniant Cyffredinol, ac i ba raddau bydd yn cael ei gynnal ac ar ba sail;
  • effaith y cyfyngiadau ar ryddid i symud gweithwyr o’r UE (ac eraill) ar y farchnad lafur, yn arbennig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol (lle ceir pryderon eisoes ynghylch prinder gweithwyr), ac addysg uwch ymysg pryderon ynghylch recriwtio talent;
  • yr amgylchedd rheoleiddio a masnachu yn y dyfodol ar gyfer y £6 biliwn mae Cymru’n ei wario bob blwyddyn ar gaffael cyhoeddus;
  • beth fydd yn digwydd gyda chyfyngiadau megis rheolau cymorth gwladwriaethol;
  • y goblygiadau i bolisi a rheoleiddio amgylcheddol, safonau bwyd ac agweddau eraill ar ddiogelu’r defnyddiwr – yn seiliedig i raddau helaeth ar fframweithiau’r UE – lle mae gan Gymru hanes blaenorol cynyddol;
  • cyfraniad at rwydweithiau Ewropeaidd yn y dyfodol ym meysydd iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd ac ymchwil;
  • yr effaith ar y galw am wasanaethau cyhoeddus gan wladolion yr UE (gan gynnwys myfyrwyr) a chydlyniad cymunedol.

Enghreifftiau yn unig yw’r rhain; mae’r Sefydliad Llywodraethu’n nodi 64 maes lle mae cyfreithiau’r UE a’r cymwyseddau a ddatganolwyd i Gymru’n croestorri ar hyn o bryd.

Mae rhai o’r rhain yn fwy agored i gynllunio wrth gefn nac eraill. Mae’r goblygiadau i gyllid cyhoeddus yn gydgysylltiedig ag agweddau eraill ar strategaeth economaidd ac ariannol fel lleihau diffyg.

Er yr addewidion a wnaed yn ystod ymgyrch y refferendwm, efallai y byddai’n ddoeth i wasanaethau cyhoeddus beidio â gohirio dewisiadau a phenderfyniadau anodd y maent eisoes yn eu hwynebu wrth ddisgwyl cynnydd sylweddol mewn gwariant cyhoeddus yn dilyn Brexit.  Y tu hwnt i leihau malltod cynllunio o’r fath, efallai bod y sbectrwm o bosibiliadau yn rhy eang i wasanaethau cyhoeddus allu ymgymryd â chynllunio ariannol ystyrlon nes y bydd pethau’n fwy eglur, yng Nghyllideb y Canghellor yn yr hydref efallai?

Ond mae llawer mwy o bosibiliadau i fynd i’r afael â nhw gyda rhai o’r materion eraill.

Mae papurau Llywodraeth Cymru wedi rhoi sylw i lawer ohonynt ar lefel genedlaethol ac mae gwaith i’w wneud ar lefel cyflawni, yn arbennig gan sefydliadau mwy, i archwilio’u data ac ymchwilio i’r risgiau (a’r cyfleoedd) maent yn eu hwynebu o ran recriwtio a chadw gweithlu, caffael, a rheoleiddio amgylcheddol ac iechyd y cyhoedd ac ati. Bydd deialog rhwng y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus yn hollbwysig wrth lunio ymateb gan Gymru.

Ymddengys bod enghreifftiau o hyn yn digwydd ond mae trafodaethau’n awgrymu nad yw llawer o sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yn hyderus am y ddealltwriaeth sydd ganddynt o’r hyn y gallai Brexit ei olygu iddynt a’u hymateb posibl iddo.

Mae amseru’r math hwn o ymgysylltiad yn iawn yn gamp anodd. Byddai cyfnod trosi o ddwy flynedd ar ôl Diwrnod Brexit, os cytunir iddo, yn sicr yn rhoi mwy o amser iddynt gael eu gwynt atynt, ond ymddengys bod dibynnu ar y cyfnod trosi hwnnw’n dipyn o risg ynddo’i hun ar hyn o bryd. Y naill ffordd neu’r llall, bydd angen mwy o bwyslais, nid llai, ar gyfathrebu o ansawdd uchel ynghylch Brexit rhwng y llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus a rhanddeiliaid.  Bydd mwy o ymdrech gan bawb yn hanfodol yn hyn o beth.

Mae’r erthygl hon yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit a Chymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Michael Trickey yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025.

Mae Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 yn felin drafod annibynnol a gynhelir gan Ysgol Fusnes Caerdydd ac a ariennir yn rhannol gan Brifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *