Cymunedau a Diwylliant, Datganoli a'r Cyfansoddiad

Mae ymchwil newydd yn dangos bod rhaniadau dwfn yn parhau ynghylch Brexit

Gan dynnu ar yr archwiliad mwyaf manwl o farn y cyhoedd yng Nghymru am benderfyniad Cymru i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’r Athro Roger Scully yn amlinellu’r modd y mae’r ymchwil diweddaraf ar agweddau ynghylch Brexit yn datgelu bod rhaniadau dwfn yn parhau rhwng pleidleiswyr Aros a Gadel, ac nad oes consensws yn dod i’r amlwg ymhlith pobl Cymru ar y broses Brexit.

Yn ôl ym mis Mawrth, ysgrifennais ar y Blog hwn am ymchwil newydd – wedi’i ariannu gan Brifysgol Caerdydd – y byddem yn ei gynnal, i’n galluogi i edrych yn llawer manylach ar p’un a oedd gwybodaeth pobl am Brexit, a’u hagweddau tuag ato, wedi newid ers i Gymru bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016.

Heddiw, gallwn ryddhau rhai o ganfyddiadau cynnar y gwaith hwn. Mae’r canfyddiadau hyn yn tynnu ar ein arolygon Baromedr i olrhain tueddiadau cyffredinol eang yn rheolaidd, yn ogystal ag arolwg academaidd sylweddol o’r cyhoedd i archwilio lefelau o wybodaeth, ac agweddau, lawer yn fwy trwyadl. Yn ogystal, rydym wedi bod yn cynnal rhywfaint o waith grŵp ffocws ansoddol, gan ganolbwyntio i ddechrau ar bleidleiswyr Gadael yn y cymoedd a bleidleisiodd mor drwm dros Brexit.

Yn ôl ein data, mae rhaniadau dwfn yn parhau rhwng pleidleiswyr Aros ac Ymadael 2016 ynghylch Brexit: nid yn unig o ran yr hyn y maen nhw am ei weld yn digwydd, ond hefyd o ran canlyniadau Brexit yn eu barn nhw, a hyd yn oed sut dylid rheoli proses Brexit.

Mae’r data’n dangos:

  • Nad oes consensws ynghylch pa fath o gytundeb y dylai’r Deyrnas Unedig ei cheisio gyda’r UE. Byddai’r mwyafrif o bleidleiswyr Ymadael (78%) yn hoffi gweld y Deyrnas Unedig yn adennill rheolaeth lawn dros sut llywodraethir Prydain a phwy sy’n gallu byw yn y Deyrnas Unedig, hyd yn oed petai hynny’n golygu bod heb berthynas fasnach rydd gyda’r Undeb Ewropeaidd. Mewn cyferbyniad, mae tua 63% o’r pleidleiswyr Aros naill ai am i Brydain aros yn yr UE wedi’r cyfan (41%) neu am gadw cysylltiadau agos trwy aelodaeth gyswllt (22%).
  • Pan ofynnwyd a fydden nhw’n bersonol mewn sefyllfa well neu waeth o ganlyniad i Brexit, nid oedd yn syndod bod 73% o’r rhai oedd am Aros yn credu y byddent mewn sefyllfa waeth, o gymharu ag 17% yn unig o’r rhai oedd am Ymadael. Mae’r rhan fwyaf o Ymadawyr (53%) yn teimlo na fydd gwahaniaeth canfyddadwy, er bod bron traean ohonynt (30%) yn credu y byddan nhw’n bersonol mewn sefyllfa well ar ôl Brexit.
  • Gwelir canfyddiadau tebyg wrth holi am ganlyniadau Brexit i Gymru, gan fod 82% o’r Arhoswyr yn credu y bydd y genedl mewn sefyllfa waeth, o gymharu â 24% yn unig o’r Ymadawyr. Unwaith eto mae mwyafrif yr Ymadawyr (52%) yn disgwyl na fydd gwahaniaeth amlwg, tra bod 24% ohonynt yn meddwl y bydd Cymru mewn sefyllfa well.

Holwyd barn yr ymatebwyr hefyd ynghylch effaith gadael yr UE ar feysydd polisi allweddol, gan gynnwys diweithdra, mewnfudo, dylanwad byd-eang Prydain a faint mae’r llywodraeth yn ei wario ar y GIG.  Roedd y data’n dangos:

  • Ar fater diweithdra, bod mwyafrif y pleidleiswyr Ymadael (60%) yn disgwyl i ddiweithdra aros rywbeth yn debyg i’r hyn ydyw yn awr, ond bod rhyw 30% yn credu y bydd yn gostwng ar ôl Brexit. Nid oes braidd neb o blith y pleidleiswyr Aros yn credu y bydd diweithdra’n gostwng: mae’r mwyafrif (54%) yn credu y bydd yn uwch, ac mae 39% arall yn meddwl y bydd yn aros tua’r un lefel.
  • O droi at fewnfudo i’r Deyrnas Unedig, mae mwyafrif yr Ymadawyr (70%) yn disgwyl gweld mewnfudo’n lleihau, ond dim ond 30% o’r Arhoswyr sy’n credu y bydd mewnfudo’n lleihau – mae 63% ohonynt yn disgwyl iddo barhau tua’r un fath.
  • Ar fater dylanwad byd-eang Prydain, ychydig iawn o bleidleiswyr Ymadael (10%) sy’n credu y bydd gan Brydain lai o ddylanwad ar ôl Brexit, o’i gymharu â 68% o bleidleiswyr Aros sy’n disgwyl y bydd lle Prydain yn y byd yn gwanhau.
  • A pan ddaw’n fater o drafod a fydd mwy neu lai o arian yn cael ei wario ar y GIG pan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr UE, dim ond 11% o’r pleidleiswyr Ymadael oedd yn meddwl y byddai hynny’n lleihau, o gymharu â 50% llawn o’r pleidleiswyr Aros. Ychydig iawn o’r Arhoswyr sy’n credu y bydd mwy o arian yn dod i’r GIG ar ôl Brexit (6%, o’i gymharu â 35% o bleidleiswyr Ymadael).

Pan ofynnwyd iddynt beth hoffen nhw ei weld yn digwydd wedi i’r trafodaethau ddod i ben, eto nid oes unrhyw gonsensws ymhlith y pleidleiswyr. Credai’r rhan fwyaf o bleidleiswyr Ymadael y dylai unrhyw gytundeb rhwng y Deyrnas Unedig a’r UE naill ai gael ei weithredu ar unwaith (40%) neu ei weithredu yn dilyn pleidlais yn ei gadarnhau yn senedd y Deyrnas Unedig.  Mewn cyferbyniad, mae mwyafrif o’r rhai a bleidleisiodd dros Aros yn 2016 yn dymuno gweld naill ai ail refferendwm i gymeradwyo cytundeb (33%), neu’n meddwl y dylai senedd y Deyrnas Unedig a seneddau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon orfod cymeradwyo unrhyw fargen.

Astudiaeth ansoddol gyntaf o bleidleiswyr Gadael o’r dosbarth gweithiol

Roedd ein hymchwil i farn y cyhoedd ynghylch Brexit hefyd yn cynnwys yr astudiaeth ansoddol fanwl gyntaf o bleidleiswyr Ymadael dosbarth gweithiol yng Nghymoedd y De.

Mae’r cymoedd wedi derbyn cymorth helaeth o Gronfeydd Strwythurol yr UE yn ystod y cyfnod diweddar – ac eto pleidleisiodd pawb ohonynt dros Ymadael, y rhan fwyaf â mwyafrif sylweddol.  Mae grwpiau ffocws a gynhaliwyd gyda phleidleiswyr Ymadael dosbarth gweithiol yn awgrymu (yn unol â’r polau piniwn) mai ychydig iawn o bleidleiswyr Ymadael sydd wedi newid eu meddwl ynghylch Brexit ers y refferendwm.

Canfu’r grwpiau ffocws hefyd:

  • Fod gelyniaeth sylweddol yn parhau ymhlith llawer o’r pleidleiswyr hyn tuag at fewnfudo, a’u bod yn cyfeirio’n benodol ar broblemau mewnfudwyr yn cymryd swyddi pobl leol ac yn gyrru’r cyflogau i lawr – er budd y cyflogwyr yn hytrach na’r gweithwyr cyffredin;
  • Roedd cyfranogwyr y grwpiau ffocws yn amheus iawn ynghylch y gosodiad bod Cymru’n elwa o gyllideb yr UE. A’r farn ynghylch llawer o’r gwariant UE yn y cymoedd oedd eu bod yn ‘brosiectau balchder’ gwastraffus.
  • Mae llawer o bleidleiswyr Ymadael yn disgwyl y gallai Brexit achosi problemau yn y tymor byr, ond maent yn disgwyl y bydd yn werth chweil yn y tymor hwy.

Mae’r gwaith ymchwil hwn wedi rhoi i ni’r ddealltwriaeth fwyaf manwl hyd yma o farn y cyhoedd ynghylch Brexit yng Nghymru. Nid yw’r darlun a gyfleir ganddo yn un cadarnhaol. Nid oes fawr ddim arwyddion o gonsensws yn dod i’r amlwg o ran barn y cyhoedd am Brexit: nid ydym yn dod at ein gilydd, fel mae’r Prif Weinidog wedi awgrymu; yn hytrach mae’r rhaniadau dwfn rhyngom yn parhau.

Nid yn unig mae Arhoswyr ac Ymadawyr mis Mehefin y llynedd am gael gwahanol bethau yn sgîl Brexit. Maent hefyd yn disgwyl i bethau gwahanol ddigwydd o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r UE. Mae ganddyn nhw hyd yn oed farn wahanol ynghylch y broses wleidyddol – ynghylchsut dylai Brexit ddigwydd.

Cynhaliwyd yr arolwg gan YouGov ar gyfer Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd. Cynhaliwyd cyfweliadau â rhyw 3014 o ymatebwyr, a hynny rhwng 23 Mehefin a 6 Gorffennaf 2017.

Cynhaliwyd y grwpiau ffocws ymhlith pleidleiswyr Ymadael dosbarth gweithiol yng nghymoedd De Cymru (Merthyr Tudful a’r Rhondda) ddiwedd mis Awst 2017. Roedd pob grŵp ffocws yn cynnwys 7-11 o oedolion o Gymru, pawb ohonynt dros 18 oed. 

Mae’r postiad hwn yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Mae’r Athro Roger Scully yn Athro Gwyddor Wleidyddol yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, sydd wedi’i lleoli yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Ef yw’r Prif Ymchwilydd ar gyfer Astudiaeth Etholiadau Cymru 2016. Mae Roger hefyd yn ysgrifennu Blog Etholiadau yng Nghymru 

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *