Datganoli a'r Cyfansoddiad

Gyda chi neu hebddoch….? Bil Ymadael â’r UE, y gweinyddiaethau datganoledig a chydsyniad deddfwriaethol

Yr wythnos llwyodd y Bil Ymadael â’r UE i oresgyn ei rwystr seneddol cyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin. Cyflwynodd Llywodraethau’r Alban a Chymru femoranda ynghylch cydsyniad deddfwriaethol, oedd yn mynegi’n glir eu bod yn gwrthwynebu’r bil fel ag y mae. Mewn erthygl wadd, mae’r Athro Nicola McEwen yn amlygu’r prif faterion sydd yn y fantol ar gyfer datganoli, a’n ystyried rhai o’r camau nesaf.

Beth yw’r materion sydd o dan sylw?

Un o swyddogaethau sylfaenol y Bil Ymadael â’r UE yw diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, tra’n diogelu cyfraith gyfredol yr UE.  Diben hynny yw sicrhau parhad wrth i’r DU adael yr UE. Mae’r bil yn cyflawni hynny drwy greu categori cyfreithiol newydd – ‘cyfraith gadwedig yr UE’. Yn ogystal, mae’n rhoi pwerau i weinidogion i ddefnyddio deddfwriaeth eilaidd i addasu cyfraith gadwedig yr UE, er mwyn ‘atal, unioni neu liniaru’ unrhyw ddiffygion. Roedd llawer o’r gwrthwynebiad yn ystod dadl yr Ail Ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin yn canolbwyntio ar hyd a lled y pwerau gweinidogol hyn, ac i ba raddau y maent yn cymryd grym oddi wrth y Senedd. Fodd bynnag, effaith y ddeddfwriaeth ar awdurdod y seneddau a’r cynulliadau datganoledig sydd wedi hawlio sylw Llywodraethau’r Alban a Chymru.

Roedd y ddeddfwriaeth wnaeth greu Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei gwneud yn ofynnol bod cyfreithiau datganoledig yn gydnaws â chyfreithiau’r UE. Heb unrhyw newidiadau eraill, byddai’r gofyn hwnnw’n cael ei ddiddymu ar ôl Brexit, gan olygu bod rhwydd hynt gan y deddfwrfeydd hynny i ddeddfu mewn meysydd datganoledig – fel amaeth, yr amgylchedd a physgota – fu’n cael eu llywodraethu gan gyfraith yr UE. Fodd bynnag, mae Cymal 11 o’r Bil Ymadael â’r UE yn disodli’r angen i fod yn gydnaws â chyfraith yr UE, gyda chyfyngiad newydd: mae’n rhaid i gyfraith ddatganoledig fod yn gydnaws â ‘chyfraith gadwedig yr UE’. Mae’r Bil, yn ogystal, yn rhoi ychydig o rym i weinidogion y gweinyddiaethau datganoledig i addasu cyfraith gadwedig yr UE mewn meysydd sydd eisoes wedi’u datganoli’n llawn. Serch hynny, mae’n cynnwys cyfyngiad i’r perwyl fod yn rhaid i unrhyw newid a wnaed gan y sefydliadau datganoledig fod yn gyson ag addasiadau a wnaed gan lywodraeth y DU.

Bwriedir i’r cyfyngiadau hyn fod yn rhai trosiannol. Mae’r Bil yn darparu ar gyfer trosglwyddo grym pellach i sefydliadau datganoledig – er mwyn eu rhyddhau o’r cyfyngiad newydd – os, yn dilyn trafodaethau rhwng y DU a’r llywodraethau datganoledig, y penderfynir nad oes rhaid i bawb gadw at yr un polisïau. Ar eu rhan hwythau, mae’r llywodraethau datganoledig wedi dangos parodrwydd i ddatblygu dulliau cyffredin, pe bod angen, cyn belled ag y cyflawnir hynny drwy gytundeb a chydsyniad deddfwriaethol.

O ystyried y posibilrwydd cryf, yn yr hinsawdd sydd ohoni, na all y llywodraethau ddod i gytundeb, byddai’r sefyllfa ddiofyn y cafodd ei chreu gan y Bil yn gadael yr awdurdod ar gyfer cyfraith gadwedig yr UE yn nwylo Llywodraeth a Senedd y DU. Os felly, mae’n bosibl na fyddai llai o bwerau gan y deddfwrfeydd datganoledig na’r hyn sydd ganddynt heddiw. Serch hynny, byddai’r cydbwysedd grym rhyngddynt a Llywodraeth y DU wedi symud o blaid Llywodraeth y DU.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Mae’r memoranda cydsyniad deddfwriaethol a gyhoeddwyd gan Lywodraethau’r Alban a Chymru wedi nodi pam na allant argymell cydsyniad ar gyfer y Bil fel ag y mae’n sefyll. Gall y llywodraethau datganoledig geisio dylanwadu ar y Bil mewn tair ffordd.

Y ffordd gyntaf yw drwy drafod a chydweithio’n uniongyrchol â llywodraethau’r DU, gan ddibynnu ar ddwyn perswâd a diplomyddiaeth gan bwyll. Profiad rhwystredig dros ben a gafodd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion yn ddiweddar yn sgil y diffyg trafod a’r diffyg dylanwad dros flaenoriaethau Llywodraeth y DU ynghylch Brexit. Cafodd y cyd-bwyllgor ei sefydlu er mwyn cytuno ar ddull y DU o ran trafodaethau Erthygl 50. O ganlyniad, collwyd ymddiriedaeth rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig, ac mae diffyg hyder yng ngallu cysylltiadau rhynglywodraethol i ddarparu rhagor na chyfleodd prin iawn i ddylanwadu.

Yr ail ffordd yw ceisio diwygio’r Bil yn uniongyrchol wrth y cam Pwyllgor, gan weithio gyda chyfoedion yn Senedd San Steffan. Gellir dibynnu ar y 35 o Aelodau Seneddol yr SNP i ddilyn agenda Llywodraeth yr Alban yn Nhŷ’r Cyffredin. Gallai 13 Aelod Seneddol Torïaidd Ruth Davidson ddod o dan bwysau i herio darpariaethau sydd wedi’u cynnwys yn y Bil pe ystyrir eu bod yn bygwth datganoli.  Efallai y gall Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ddwyn perswâd ar ei gyfoedion Llafur yn San Steffan i geisio newid yn Bil yn unol â delfrydau Llywodraeth Cymru. Er i’r Bil basio ei ail ddarlleniad yn gyfforddus, gallai’r ffaith nad oes gan Lywodraeth y DU fwyafrif olygu y gallai golli pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin, pe gallai’r gwrthbleidiau ddod ynghyd. Yn ogystal, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cydweithio â’r Arglwyddi, gan adeiladu ar lwyddiant diweddar wrth wella deddfwriaeth ddatganoli Cymru.

Drwy’r deddfwrfeydd datganoledig y ceir y trydydd ffordd. O dan Gonfensiwn Sewel, fel arfer, ni fydd Senedd y DU yn deddfu ynghylch materion datganoledig, nac yn newid cymhwysedd datganoledig, heb ganiatâd y deddfwrfeydd datganoledig o dan sylw. Mae pwyllgorau trawsbleidiol o fewn Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal eu hymchwiliadau eu hunain ynghylch effaith y Bil ar eu setliadau datganoli unigol. Bydd eu hadroddiadau yn amlygu gwendidau ymddangosiadol, yn awgrymu gwelliannau ac yn y pen draw, yn cynnig barn ynghylch cydsyniad deddfwriaethol.

Gall un neu fwy o’r ffyrdd hyn gynhyrchu rhai newidiadau i’r Bil. Bydd newidiadau mwy sylweddol yn dibynnu ar ewyllys gwleidyddol Llywodraeth y DU i gyfaddawdu â’r sefydliadau datganoledig. Heb newidiadau sylweddol, mae’n bosibl iawn y bydd Llywodraethau datganoledig a deddfwrfeydd yn gwrthod cydsyniad ar gyfer y Bil. Ni fyddai hynny’n gyfystyr â feto. Fel i’r Goruchaf Lys ei wneud yn glir wrth ddyfarnu ynghylch materion datganoli a godwyd yn yr apêl ynghylch Brexit, mae Confensiwn Sewel yn gweithredu fel ‘cyfyngiad gwleidyddol ar weithgarwch Senedd y DU’, ond nid yw’n dal grym cyfreithiol.

Pe gwrthodir cydsyniad, gwleidyddiaeth, ac nid cyfraith, fyddai’n pennu’r hyn sy’n digwydd nesaf. Yn dilyn gwerthusiadau strategol o’r costau a’r buddiannau gwleidyddol, bydd Llywodraeth a Senedd y DU fel ei gilydd yn gorfod ystyried sut a pham i roi sylw i ddymuniadau’r deddfwrfeydd datganoledig. Yn y pen draw, etholwyr yr Alban a Chymru fydd yn penderfynu a yw’r cyfan o bwys.

Mae Nicola McEwen yn Athro Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caeredin, ac yn Gyfarwyddwr Cyswllt Canolfan ESRC ar Newid Cyfansoddiadol (CCC)

Ymddangosodd y blog hwn yn gyntaf ar Flog y Ganolfan ar Newid Cymdeithasol

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *