Economi a Masnach

Sicrhau bod Brexit yn gweithio i gwmnïau bach Cymru

Mae llawer o’r drafodaeth ar Brexit hyd yma wedi canolbwyntio’n bennaf ar effaith Brexit ar sectorau busnes graddfa fawr fel gweithgynhyrchu ceir a gwasanaethau ariannol.  Ond cwmnïau bach a chanolig sy’n cynnal economi Cymru, felly mewn erthygl wadd mae Matthew Williams o Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) Cymru yn rhoi sylw i rai o ganfyddiadau gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan yr FSB i asesu effaith Brexit ar fusnesau bach a’r hunangyflogedig yng Nghymru.   

FSB yw sefydliad busnes mwyaf Cymru, ac mae ganddo ryw 10,000 o aelodau’n gweithredu mewn amrywiaeth o sectorau ledled Cymru.  Wrth i ni symud ymlaen gyda chyd-drafodaethau Brexit mae’n hanfodol bod buddiannau’r 250,000 o fusnesau bach yng Nghymru yn y blaen ac yn cael lle canolog ar hyd y trafodaethau ac wedi hynny.  Mae hyn yn wir am anghenion y Deyrnas Unedig gyfan, a hefyd am anghenion penodol busnesau Cymru oddi mewn i’r Deyrnas Unedig.

Ers i’r broses gyd-drafod gychwyn, mae FSB Cymru wedi galw’n gyson am fargen Brexit a fydd yn cynnal y cwmnïau bach a chanolig, sef asgwrn cefn economi Cymru. Trefniadau pontio cryf a chlir yn union wedi Brexit yw un o’r ffyrdd gorau o gyflawni hyn, felly roeddem ni’n falch bod y Canghellor a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’w gweld yn cefnogi’r safbwynt hwn.

Fel rhan o’n gwaith ar Brexit, mae’r FSB wedi cyhoeddi pedwar adroddiad sy’n cwmpasu agweddau allweddol Brexit a’r tu hwnt ar gyfer busnesau bach a’r hunan-gyflogedig, gyda’r nod o sicrhau bod y sector yn cael llais wrth i’r trafodaethau barhau, yn ogystal â darparu sylfaen o dystiolaeth y mae mawr angen amdani i lywodraethau yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig fedru gwneud penderfyniadau.

Dyma’r agweddau dan sylw: mynediad i farchnadoedd, sgiliau a llafur, arian yr UE a dyfodol rheoliadau’r UE yn y Deyrnas Unedig wedi Brexit.

Mynediad i Farchnadoedd

O ran mynediad i’r farchnad sengl, dengys ein gwaith ymchwil fod un o bob pum cwmni bach ar draws y Deyrnas Unedig yn allforio ar hyn o bryd, a bod cyfran tebyg o gwmnïau Cymru’n allforio. Gallai gadael y farchnad sengl roi cyfle i gwmnïau’r Deyrnas Unedig fasnachu’n haws gyda marchnadoedd byd-eang eraill yn y tymor hir, marchnadoedd megis UDA, Awstralia a Tsieina.

Fodd bynnag, mae’n amlwg o’n gwaith arolwg mai marchnad sengl yr UE yw’r prif gyrchfan masnach o hyd ar gyfer cwmnïau bach yn y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru.  Mae mwyafrif ein haelodau allforio yng Nghymru yn allforio gwasanaethau a gwasanaethau digidol, felly rydym ni’n arbennig o awyddus i weld trefn ffafriol heb rwystrau tariff ar ôl Brexit.

Mae ein hadroddiad Keep trade easy – What small firms want from Brexit yn gwneud nifer o argymhellion allweddol yn y maes hwn.  Mae’r rhain yn cynnwys creu credydau treth allforio i annog allforio, yn ogystal â chefnogaeth i helpu busnesau bach i archwilio marchnadoedd newydd o fewn y Deyrnas Unedig – cam cyntaf bychan tuag at allforio.

Mynediad at Sgiliau a Llafur

O ran mynediad at sgiliau, mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod tua un o bob pump o fusnesau yng Nghymru yn cyflogi dinasyddion Ewropaidd. Mae angen diogelu mynediad at y gronfa hon o ddoniau, yn enwedig lle mae bylchau sgiliau yn bodoli yng ngweithlu’r Deyrnas Unedig.  Dengys ystadegau FSB Cymru fod mwyafrif llethol gweithwyr yr UE yng Nghymru mewn swyddi sgiliau lefel ganolig neu uchel.

Efallai’n fwy arwyddocaol, mae cyfran sylweddol o’n haelodau yng Nghymru yn awgrymu y byddant, mewn ymateb i bolisïau llymach ynghylch hawl llafur yr UE i symud yn rhydd, naill ai’n ymdrechu o’r newydd i ddenu a hyfforddi gweithwyr o’r Deyrnas Unedig, neu’n ceisio ymdopi â chostau system fewnfudo newydd.   Mae’n hanfodol, felly, bod y Llywodraeth yn ceisio sicrhau bod costau unrhyw system hawlenni ôl-Brexit yn rhesymol, a’n bod yn gallu darparu hyfforddiant ac addysg priodol i ddiwallu ein hanghenion sgiliau.

Cyllid o’r Undeb Ewropeaidd

Fel mae pawb ohonom yn ymwybodol, mae’n siŵr, mae Cymru yn y gorffennol wedi cael symiau sylweddol o arian polisi rhanbarthol gan Ewrop ac mae cyfran sylweddol o hyn yn cael ei wario ar feysydd datblygu economaidd craidd. Er enghraifft, dengys ein gwaith ymchwil fod tua chwarter o Fentrau BaCh Cymru wedi derbyn cymorth o lifoedd ariannu Ewrop.

Defnyddiwyd y cymorth hwn i ddarparu hyfforddiant mewn sgiliau, ymchwil a datblygu a chymorth busnes ehangach. Er bod aelodau wedi sôn am anawsterau wrth ymgeisio am gyllid, neu bod yr amodau sydd ynghlwm wrth ariannu yn rhy gyfyngol, ymddengys bod y cronfeydd hyn wedi chwarae rôl allweddol wrth gefnogi busnesau Cymru, felly dylai cronfeydd tebyg fod ar gael ar ôl Brexit.

Yn fwy cyffredinol, mae ein haelodau yn adrodd bod arian yr UE wedi cael effaith net gadarnhaol ar eu busnes a’u hardal leol, a dim ond tua 15% o’r ymatebwyr i’n harolygon sydd wedi awgrymu na chafodd y cyllid unrhyw effaith, neu ei fod wedi cael effaith negyddol. Mae FSB Cymru, felly, o’r farn y dylai Cymru barhau i dderbyn cyllid o werth cyfartal neu debyg ar ôl Brexit.

Rheoliadau’r UE

Bydd yr adroddiad diweddaraf hwn, ynghylch beth fydd yn digwydd i reoliadau’r UE yn y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit, yn llywio’r drafodaeth ar y mater tymor hir hwn yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

Disgwylir y bydd rheoliadau’r UE yn cael eu trosglwyddo i gyfraith y Deyrnas Unedig (a Chymru) yn eu crynswth ar y diwrnod pan fyddwn ni’n gadael yr UE, ac mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad y byddai hynny’n osgoi sefyllfa fregus ar ymyl y dibyn i gwmnïau bach ac yn darparu peth sefydlogrwydd yn y tymor byr.   Mae’n awgrymu dull gweithredu graddol, yn hytrach na newidiadau sydyn i reoliadau yn dilyn hyn.

Mae FSB Cymru wedi cyhoeddi gwaith o’r blaen ar dirlun rheoliadol Cymru, ac rydym ni’n dal yn awyddus i weld argymhellion ein hadroddiad yn 2014 Better Regulation for Wales yn cael eu gweithredu gan Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.  Mae’r adroddiad hwn yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn mynd ar ôl agenda weithredol o wella’r rheoleiddio, fel ei bod hi’n haws i Fentrau BaCh gydymffurfio â’r gyfraith.

Mae’n hanfodol hefyd bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu cydweithio i sicrhau nad yw gwahanol bolisïau domestig o fewn y Deyrnas Unedig yn creu rhwystrau newydd i gwmnïau sy’n masnachu rhwng Cymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Un ffordd ymlaen o bosibl fyddai gwella’r Pwyllgorau Gweinidogol ar y Cyd, a chreu pwrpas newydd ar eu cyfer, er mwyn sicrhau bod fforwm ar gyfer cyfathrebu i’r diben hwnnw.

Matthew Williams yw Ymgynghorydd Polisi’r FSB yng Nghymru. 

Mae’r postiad hwn yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *