Datganoli a'r Cyfansoddiad

Refferendwm yr UE: Flwyddyn yn Ddiweddarach – Ail-wladoli cymwyseddau

Dr Jo Hunt sy’n edrych ar sut mae’r drafodaeth am ail-wladoli pwerau’r UE o ganlyniad i Brexit wedi datblygu dros y 12 mis diwethaf gan awgrymu bod pryder cynyddol ymhlith cenhedloedd datganoledig y bydd ymdrech yn San Steffan i gipio grym, sy’n yn golygu bod diffyg undod gartref wrth i Lywodraeth y DU ddechrau ar y trafodaethau.

Yn ystod ymgyrch refferendwm yr UE, soniwyd llawer am y DU yn ‘cymryd rheolaeth yn ôl’ ar bwerau deddfu o Frwsel, ac roedd y mater yn sicr yn taro tant gyda llawer o bleidleiswyr. Mae bod yn rhan o’r UE wedi golygu bod llawer o gyfreithiau’r DU yn deillio o Frwsel. Mae deddfu yn yr UE yn golygu gosod safonau ledled yr UE mewn meysydd mor amrywiol â rheoli bancio, amaethyddiaeth, yr amgylchedd, diogelu defnyddwyr a hawliau cyflogaeth. Gyda’r DU yn tynnu allan o’r UE, caiff y pwerau hyn eu hail-wladoli i’r DU. Mae graddau’r hyblygrwydd fydd gan y DU mewn gwirionedd i osod ei deddfau ei hun ar ôl hyn yn parhau’n ansicr, a bydd yn dibynnu i raddau helaeth ar delerau ein cytundebau rhyngwladol cyfredol ac yn y dyfodol.

Ond mae agwedd arall o ail-wladoli’r pwerau hyn yn peri cur pen cyfansoddiadol. Efallai fod Brexit yn golygu ailafael mewn rheolaeth dros ddeddfu – ond i ble fydd y rheolaeth hon yn dychwelyd?

Mae’r DU bellach wedi profi yn agos i 20 mlynedd o ddatganoli.

Mae gan yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon eu llywodraethau a’u seneddau eu hunain, gyda phrif gyfrifoldeb polisi am feysydd yn cynnwys iechyd, addysg, diogelu’r amgylchedd a pholisi amaethyddol. Mae grantiau bloc gan y Trysorlys i’r gweinyddiaethau datganoledig wedi’u hategu gan ffrydiau cyllido pwysig o’r UE, sy’n arbennig o arwyddocaol i sectorau amaethyddol y cenhedloedd datganoledig, yn ogystal ag i’w prifysgolion.

Tra bod y DU wedi bod yn rhan o’r UE, mae’r pwerau y mae’r cenhedloedd datganoledig yn eu dal wedi’u hymarfer o fewn cyfyngiadau cyfraith yr UE. Maen nhw wedi rhoi rhai cyfreithiau UE ar waith eu hunain (gan arwain at rywfaint o wahaniaeth ar draws y DU yn y rheolau ar gymhwysedd ar gyfer taliadau amaethyddol, er enghraifft), yn ogystal â sicrhau bod eu polisïau eu hunain yn cydymffurfio â gofynion cyfraith yr UE.

Felly, er enghraifft, aeth cynlluniau’r Alban i osod isafswm pris ar alcohol i drafferthion gyda chyfreithiau marchnad fewnol yr UE, gan gyfyngu ar weithredoedd Llywodraeth yr Alban. Fel y cyhoeddodd  pennaeth Ymgyrch Gadael yr Alban cyn y refferendwm, byddai Brexit yn codi’r cyfyngiadau hyn ac yn golygu bod yr Alban yn cael ‘pwerau newydd mawr’. Yn ôl y ddadl hon byddai datganoli’n cael ei gyfoethogi wrth i gyfyngiadau’n deillio o’r UE mewn meysydd polisi a ddatganolwyd dan Ddeddf yr Alban, Deddf Llywodraeth Cymru a Deddf Gogledd Iwerddon diflannu.

Beth sydd wedi digwydd ers y refferendwm?

Mae graddau’r amlygrwydd y cafodd y ddadl datganoli hon ymhlith pleidleiswyr yn y refferendwm yn anhysbys.

Fodd bynnag, fe wyddom fod yr awgrym a wnaed gan rai ymgyrchwyr y byddai Brexit yn arwain at ehangu pwerau’r cenhedloedd datganoledig yn profi’n ddadleuol yn gyfansoddiadol.

I lywodraethau’r cenhedloedd datganoledig, serch hynny, mae’n fater syml. Rhaid parchu’r setliadau datganoli presennol, a rhaid i bwerau dros y meysydd datganoledig hynny sy’n dychwelyd o Frwsel fynd i Belfast, Caerdydd a Chaeredin, ynghyd â’r modd priodol i’w hariannu. Yna dylid cydnabod bod Gogledd Iwerddon, Cymru a’r Alban yn cael pennu eu polisïau eu hunain dros feysydd datganoledig, gan gynnwys pysgodfeydd, amaethyddiaeth a’r amgylchedd. Cytunodd y Goruchaf Lys yn achos Erthygl 50 Miller, gan ddweud y byddai “tynnu cyfyngiadau’r UE wrth dynnu allan o Gytuniadau’r UE yn newid cymhwysedd sefydliadau datganoledig oni bai bod cyfyngiadau deddfwriaethol newydd yn cael eu cyflwyno.

Yn absenoldeb cyfyngiadau o’r fath, bydd tynnu allan o’r UE yn cynyddu cymhwysedd datganoledig.”

Ond i Lywodraeth y DU, mae angen cyfyngiadau deddfwriaethol o’r fath. Ni fydd pwerau mewn meysydd polisi datganoledig yn llifo’n uniongyrchol i’r deddfwriaethau datganoledig, ond yn dychwelyd i San Steffan. Fel cam cyntaf, fel y rhagwelwyd ym Mhapur Gwyn y Bil Diddymu Mawr, bydd y fframweithiau cyfreithiol a osodwyd ar lefel yr UE, y mae’r DU a’i chenhedloedd datganoledig yn gweithredu ynddynt, yn cael eu cadw. Mae hyn er budd sicrwydd cyfreithiol, ac i sicrhau bod cysondeb cyfreithiol ar ôl Brexit, heb unrhyw dyllau du’n dod i’r amlwg. Wedi hynny, ac yn dilyn ‘trafodaethau dwys’ gyda’r cenhedloedd datganoledig, gellid gwneud penderfyniadau pellach i bennu ymhle bydd angen dulliau gweithredu sy’n berthnasol i’r DU gyfan, ac ymhle y gallai pwerau orwedd ar lefel ddatganoledig, gan gynnwys lefel llywodraeth leol. Disgwylir y bydd rhai fframweithiau cyffredin yn ymddangos ar amaethyddiaeth, yr amgylchedd, pysgodfeydd a pholisi rhanbarthol – meysydd sydd wedi’u datganoli, ond sydd wedi bod yn ddarostyngedig i gyfraith yr UE. Mae Llywodraeth y DU yn dadlau bod hyn yn angenrheidiol i sicrhau na fydd amharu ar farchnad fewnol y DU ei hun – ar y sail bod gwahaniaethau yn y gyfraith yn creu rhwystrau costus a diangen i fasnach ar draws y DU. Yn ogystal, dywedir bod ei angen er mwyn i’r Llywodraeth ymgymryd â thrafodaethau masnach rhyngwladol, gyda’r pwerau hyn yn gorwedd yn

Llundain i’w hymarfer ar gyfer y DU gyfan. I’r cenhedloedd datganoledig, fodd bynnag, mae’r dull hwn gyfystyr â chipio pŵer ac yn tanseilio’r setliad datganoli cyfredol, ac yn sicr does dim modd gwarantu eu cefnogaeth.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Mae beth mae hynny’n ei olygu mewn termau cyfansoddiadol, a’i arwyddocâd ar gyfer dyfodol tymor hir y DU, yn parhau’n ansicr. Cyn yr etholiad, roedd y Bil Diddymu Mawr ar fin dechrau ar ei daith ddeddfwriaethol drwy’r Senedd cyn toriad yr haf. Er bod disgwyl i hyn ddigwydd o hyd, mae’n bosibl y bydd cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer y cenhedloedd datganoledig yn wynebu gwrthwynebiad yno. Eto i gyd mae’r cyfle i’r seneddau a llywodraethau datganoledig fwydo i’r broses ddeddfu hon yn gyfyngedig iawn, er gwaethaf yr arwyddocâd hanfodol fydd yn deillio iddyn nhw a’u pwerau. Mae hyn adlewyrchu diffyg profiad o “rannu’r” broses creu rheolau ymhlith gwahanol lefelau llywodraeth y DU. Gallai’r seneddau datganoledig fynegi eu gwrthwynebiad drwy wrthod caniatáu Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol. Yn ôl confensiwn, mae’r rhain yn ofynnol pan fydd San Steffan yn deddfu ar faterion datganoledig neu er mwyn newid cwmpas y pwerau datganoledig. Yn ôl y Goruchaf Lys yn achos Miller, fodd bynnag, nid oes modd gorfodi’r confensiwn hwn yn gyfreithiol, ac mae’n gweithredu fel cyfyngiad gwleidyddol yn unig. Gallai unrhyw wrthdaro dilynol dros bwerau ysgogi symudiad pellach at annibyniaeth yn yr Alban. Yng Nghymru, mae’r Llywodraeth wedi gofyn am gonfensiwn cyfansoddiadol ac ailddiffinio peirianwaith y DU ar hyd llinellau mwy ffederal, gan greu system newydd ar gyfer llunio polisïau cyffredin. Beth bynnag a ddaw, bydd Llywodraeth y DU yn mynd i’r trafodaethau Brexit gyda diffyg undod gartref, a allai yn y pen draw fod yn fwy na dim ond anhawster annymunol.

Dr Jo Hunt, Darllenydd yn y Gyfraith, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Uwch-gymrawd ESRC, Menter y DU mewn Ewrop sy’n Newid.

Ymddangosodd yr erthygl hon gyntaf yn y Deyrnas Unedig yng nghyhoeddiad Changing Ewrop, “Refferendwm yr UE: flwyddyn yn ddiweddarach”. 

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *