Cymunedau a Diwylliant, Datganoli a'r Cyfansoddiad

Mae’r Ddealltwriaeth o Gymru yn y Deyrnas Unedig yn Broblem

Mae Craig Johnson yn dadlau bod diffyg cyfryngau Cymreig unigryw yn cyfyngu ar sut mae Cymru yn cael ei chynrychioli a’i deall yn y Deyrnas Unedig yng nghyswllt materion megis Brexit a datganoli.

Ym mis Mawrth cyhoeddwyd y bydd sianel deledu BBC newydd yn darlledu yn yr Alban o 2018. Bydd ganddi gyllideb o £30m, sy’n cyfateb yn fras i BBC Four. Ochr yn ochr â hynny, bydd yr Alban yn cael mwy o arian i greu rhaglenni ledled y Deyrnas Unedig.

Efallai mai’r datblygiad mwyaf diddorol yw y bydd amserlen y sianel newydd yn cynnwys rhaglen newyddion awr o hyd, fydd yn cael ei golygu a’i chyflwyno o’r Alban.  Bydd hynny’n arwain at greu 80 o swyddi newydd i newyddiadurwyr.  Hyd yn oed os bydd ffigurau gwylio’r sianel newydd yn isel, bydd yn dal yn hwb sylweddol i newyddiaduraeth yn yr Alban.

Mae hyn yn newyddion gwych ar gyfer yr Alban, ac mae Sarah Smith, o BBC Scotland, yn dadlau ‘bod y BBC bellach yn cyflawni dymuniad y rhai oedd am gael rhaglen newyddion oedd yn edrych ar y byd o safbwynt yr Alban, wedi’i gynhyrchu a’i gyflwyno yn yr Alban’.  Fodd bynnag, mae hynny’n codi’r cwestiwn: beth am Gymru?

Gwta ddiwrnod ynghynt,  roedd y BBC wedi cyhoeddi y byddai £8.5m ychwanegol yn cael ei wario yng Nghymru ar raglenni newyddion ac adloniant yn Saesneg.  Er bod hyn yn dal yn newyddion i’w groesawu i Gymru – ac mae’n werth cofio bod gan Gymru S4C o hyd, ac y bu ganddi ar un adeg  BBC 2W – roedd Llywodraeth Cymru, Aelodau Cynulliad a’r Sefydliad Materion Cymreig wedi gofyn am ffigur llawer uwch (£30m). Dylid nodi hefyd bod £9m o arbedion effeithlonrwydd eisoes wedi’u cyhoeddi. O gymharu hyn â’r Alban, mae’n anodd peidio â dod i’r casgliad bod hon yn fargen wael i Gymru.

Cadw proffil isel

Nid yw proffil cyfryngau Cymru yn adlewyrchu’r hyn y gellid ei ddisgwyl o ystyried pwerau Llywodraeth Cymru, ac mae hyn i’w weld y tu hwnt i gyhoeddiadau sy’n ymwneud â’r BBC.

Ers refferendwm y llynedd ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, mae’r sylw yn y cyfryngau wedi canolbwyntio ar sut mae’r llywodraeth yn ymdrin â Brexit, ac mae hynny’n ddigon rhesymol.  Dyma un o’r materion mwyaf diffiniol yng ngwleidyddiaeth Prydain ac Ewrop.

Fodd bynnag, er gwaethaf y ffaith bod Theresa May yn mynnu y bydd gan y gweinyddiaethau datganoledig ‘linell uniongyrchol’ i helpu i lywio strategaeth Brexit y Deyrnas Unedig, mae’n swnio fwyfwy fel nad oes gan lywodraeth y Deyrnas Unedig  fawr o ddiddordeb mewn codi’r ffôn. Mae Carwyn Jones wedi dweud bod gan Theresa May ‘glust fyddar’ ar faterion datganoli, tra bod Mark Drakeford yn dadlau bod proses ymgynghori Llywodraeth y Deyrnas Unedig ‘wedi bod yn gyfrwng ar gyfer rheoli ac atal materion anodd yn hytrach na mynd i’r afael â nhw ac ymgysylltu â hwy’.

Ac eto, nid problem ar gyfer yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ar y cyd yn unig yw hon.  Mae hefyd yn broblem benodol i Gymru.

Mae’r Alban yn dal i gael llawer osylw yn y cyfryngau ynghylch Brexit oherwydd bod pŵer ffurfiol ac anffurfiol yno yng nghyswllt trafodaethau Brexit, ,a chynorthwyir hynny gan arweinyddiaeth effeithiol, a hefyd gan bresenoldeb Plaid Genedlaethol yr Alban yn Holyrood a San Steffan fel ei gilydd. Mae Gogledd Iwerddon hefyd wedi derbyn mwy o sylw yng nghyswllt Brexit.  Prin y sonnir am Gymru. Gweler, er enghraifft, yr erthygl olygyddol  hon  o’r New Statesman ddiwedd mis Ionawr.  Dim ond unwaith y mae Cymru yn ymddangos yn yr erthygl, yn dilyn y geiriau ‘England and…’.

Mae o leiaf ddau reswm posibl am hynny.  Yn gyntaf, yn wahanol i’r tiriogaethau datganoledig eraill, nid yw Cymru’n cyflwyno bygythiad uniongyrchol i fodolaeth y Deyrnas Unedig. Mae’r gefnogaeth i annibyniaeth Cymru yn dal yn isel iawn, ac yn is na’r gefnogaeth i ddychwelyd yr holl bwerau datganoledig i San Steffan.

Yn ail, fel y Deyrnas Unedig gyfan, pleidleisiodd Cymru i adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn debyg i’r Deyrnas Unedig, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ymdrin â phryderon y rhai a bleidleisiodd i adael, ac mae wedi mabwysiadu dull o fynd ati i drafod sy’n achosi llai o wrthdaro na Llywodraeth yr Alban. Felly er bod Llywodraeth Cymru wedi codi cwestiynau sylfaenol ynghylch sut mae’r Deyrnas Unedig yn gweithredu naill ai fel gwladwriaeth neu fel marchnad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, ac wedi datblygu safbwynt pendant ar rôlCymru a’i pherthynas â’r Deyrnas Unedig oddi mewn i hynny, mae cwestiynau o’r fath yn dal yn eilaidd yng nghyd-destun y  Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.

Byddai’r rhai sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth yng Ngogledd Iwerddon yn iawn i brotestio na cheir adroddiadau digonol o Ogledd Iwerddon ychwaith.  O ganolbwyntio’n fwy penodol ar y ddealltwriaeth o wleidyddiaeth Gogledd Iwerddon, dewch i sylweddoli bod y sylw yn adlewyrchu’r effaith o ran ansefydlogi trafodaethau Brexit llawer mwy na thrafodaeth sylweddol ar Ogledd Iwerddon ei hun.

Ond nid yw hyn yn diystyru’r problemau gwaelodol sy’n benodol i Gymru. Mae problem gyffredinol o ran sut mae Cymru’n cael ei chydnabod yn y Deyrnas Unedig.  Yn dilyn etholiad maer Llundain 2016, cyfeiriodd amrywiol gyfryngau (gweler  The Guardian, The Daily Record, Huffington Post a’r Daily Mirror) yn hael at Sadiq Khan fel ‘gwleidydd mwyaf pwerus’ y Blaid Lafur yn y Deyrnas Unedig. Anwybyddwyd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, sydd mewn gwirionedd yn wleidydd mwyaf pwerus y Blaid Lafur yn y Deyrnas Unedig, i raddau helaeth yn y cyhoeddiad hwn (rhaid cymeradwyo Bloomberg, a ddywedodd mai Khan oedd ‘gwleidydd mwyaf pwerus y Blaid Lafur y tu allan i Gymru’).

Cydnabod Cymru

Mae hyn yn awgrymu problemau o ran sut mae Cymru’n cael ei chydnabod a’i deall ar draws y Deyrnas Unedig.  Mewn ymateb i feirniadaeth bod BBC Scotland yn cael hwb ariannol enfawr o’i gymharu â BBC Cymru Wales, dywedodd llefarydd ar ran y BBC  fod ‘anghenion [y] gynulleidfa yn yr Alban yn wahanol’. Fodd bynnag, nid yr anghenion sy’n wahanol, ond y gofynion. Mae’n anodd anwybyddu canlyniadau’r ymgyrch dros  annibyniaeth a’r refferendwm yn y cyhoeddiadau hyn. Mae’r Alban yn gallu weiddi’n uwch na Chymru, ac mae mwy o ddylanwad ganddi yng ngwleidyddiaeth Prydain o ganlyniad.

Elfen gysylltiedig â hyn yw prinder y cyfryngau Cymreig dylanwadol. Er bod gan yr Alban a Gogledd Iwerddon gyfryngau domestig rhesymol iach, nid yw hynny’n wir am Gymru. Mae Daniel Evans wedi ysgrifennu darn manwl ar y ‘diffyg gwybodaeth’ yng Nghymru. Ynddo, mae’n dadlau bod ‘Cymru yn dioddef problem unigryw bod yn anweledig, sef dim gwybodaeth yn hytrach na gwybodaeth wedi’i hystumio’. Mae problem cyflenwad o ran y cyfryngau yng Nghymru, ac mae angen rhoi sylw i hynny.  Mae hyn yn golygu ei fod yn bwysicach fyth i gyfryngau’r Deyrnas Unedig (neu Loegr) roi sylw priodol i Gymru, neu bod Cymru’n dadlau’n fwy croch dros gyfran fwy o’r arian a’r gydnabyddiaeth.

Gellid dadlau bod ‘proffil isel’ Cymru ar yr un pryd yn achos ac effaith her ehangach cymdeithas ddinesig wan: Mae cyfryngau Cymru yn wan oherwydd na all cymdeithas ddinesig eu bwydo (neu efallai nad oes awydd i wneud hynny); ac mae cymdeithas ddinesig yn wan oherwydd nad yw cyfryngau Cymru yn bwrw goleuni ar Gymru na materion Cymreig (neu oherwydd na allant wneud hynny).

Mae tystiolaeth o berthynas yma: bu’r Comisiwn Etholiadol yn gwneud gwaith ymchwil ar etholiadau Cynulliad Cymru yn 2011.  Roedd mwy o bobl yn credu bod sylw yn y cyfryngau i refferendwm y Bleidlais Amgen nag i etholiadau’r Cynulliad.  Maent yn dadlau bod hyn ‘yn adlewyrchu’r sylw mwy amlwg i’r refferendwm ledled y Deyrnas Unedig gan y cyfryngau yn Llundain, sy’n cael ei ddarllen, ei weld neu ei glywed yng Nghymru’. Mae hyn rywfaint yn llai o broblem yn yr Alban, sydd â fersiwn yr Alban o bapurau newydd cenedlaethol.

Mae data a gasglwyd gan BBC Cymru Wales ar ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r cyfrifoldeb ynghylch meysydd polisi allweddol yn tynnu sylw at y mater hwn. Llai na hanner yr ymatebwyr (48%) oedd yn gwybod mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y GIG yng Nghymru. Roedd nifer tebyg (42%) yn anghywir yn eu barn mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am waith yr heddlu yng Nghymru.  Roedd yn fwy calonogol bod 61% yn gwybod mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am addysg. Mae Roger Scully  yn dod i’r casgliad, ‘ar ôl degawd a hanner o ddatganoli… nad yw [y cyhoedd yng Nghymru] yn gwybod llawer iawn am ddatganoli, nac â rhyw feddwl uchel iawn o’i effaith’.

Mewn system ddemocrataidd iach ac effeithiol, mae angen mecanweithiau, a’r rheiny’n rhai cadarn, i gynnwys y cyhoedd yng ngweithrediad polisi a’r broses wleidyddol. Gellid barnu bod cryfhau’r cyfryngau yng Nghymru yn ganolog i gyflawni hyn.

Mae lle i fod yn optimistig. Fel mae Emily St. Denny yn dadlau’n awdurdodol, yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Cymru wedi gallu ‘datblygu ymatebion unigryw, priodol i’w lle, i’r materion’ y mae’n eu hwynebu.  Mae datganoli wedi bod o gymorth mawr i’r amcan hwn.  Fodd bynnag, os na chyfunir hyn â llwyfan unigryw, priodol i’w le, er mwyn adrodd ar y materion hyn a’u herio, bydd yn parhau i gyfyngu ar sut mae Cymru’n cael ei chynrychioli a’i deall.

Mae Craig Johnson yn Swyddog Ymchwil yn Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru.  

Barn yr awduron a gyflwynir yn y postiad hwn, ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Cyhoeddwyd y Blog hwn yn wreiddiol gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *