Cymunedau a Diwylliant, Datganoli a'r Cyfansoddiad

Ewrop, Brexit a Lles: Pam fod barn pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol yn bwysig

Voting concept - Ballot box painted into national flag colors - United Kingdom of Great Britain
Voting concept - Ballot box painted into national flag colors - United Kingdom of Great Britain

Mae’r mesurau mae llywodraethau yn eu mabwysiadu i wella lles cymdeithasol pobl, o ofal iechyd ac addysg i dai a budd-daliadau cymdeithasol, bob amser yn bynciau llosg yn etholiadau’r DU ac yn debygol o fod ar frig agenda etholwyr wrth iddyn nhw fynd i bleidleisio ymhen ychydig dros tair wythnos.  Ond sut mae pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol yn defnyddio sefydliadau goruwch-genedlaethol fel yr Undeb Ewropeaidd a newidiadau i strwythurau llywodraethu yn sgil datganoli i bwyso am newid mewn polisi cymdeithasol? Yma mae’r Athro Paul Chaney yn edrych ar y defnydd o iaith mewn maniffestos, areithiau a dogfennau polisi yn etholiadau diweddar Cymru a’r Alban, a refferendwm Brexit, i edrych ar brofiad Plaid Cymru a Phlaid Genedlaethol yr Alban (SNP). Mae hefyd yn edrych sut mae pwyso am newid lles yn cael ei fframio gydag ymadroddion allweddol gan gynnwys adeiladu cenedl, estyn gwarchodaeth gymdeithasol ac ymwrthedd i raglenni llywodraeth ganolog.

Yn sgil yr Ail Ryfel Byd, roedd yr SNP yn ystyried bod cyrff rhyngwladol fel yr UE, Cymuned Economaidd Ewrop ar y pryd, yn cynnig amgylchedd sefydlog i wledydd bach mewn byd a allai fod yn elyniaethus. Roedd hyn yn golygu dod o hyd i gydbwysedd, wrth i’r Blaid ddadlau am ymreolaeth genedlaethol ac integreiddio Ewropeaidd ar yr un pryd.

Dros amser newidiodd y ddwy blaid genedlaetholgar leiafrifol eu safbwynt ar Ewrop. Roedd hyn yn arbennig o drawiadol yn achos yr Alban. Ar y dechrau roedd yr SNP yn elyniaethus i’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd / Undeb Ewropeaidd oherwydd ofnau y gallai integreiddio danseilio ei nod o sicrhau annibyniaeth.  Er enghraifft, fel y dengys detholiad o gyhoeddiad Scotland’s Future Plaid Genedlaethol yr Alban yn 1974: ‘Mae’r Alban wedi dioddef gormod eisoes yn sgil canoli ym Mhrydain. Gallai canoli yn y Farchnad Gyffredin fod yn ergyd farwol i’n bodolaeth fel cenedl.’ Yn ddiweddarach gwnaeth y Blaid ymrwymiad i dynnu Alban annibynnol allan o’r CEE. Heddiw, mae aelodaeth o’r UE yn gonglfaen ei pholisi ar hunanlywodraeth.

Mewn cyferbyniad, mae Plaid Cymru wedi gweld Cymru fel cenedl Ewropeaidd ers 1925. Yn nodedig, yn y 1980au cofleidiwyd integreiddio Ewropeaidd fel modd i sicrhau mwy o ymreolaeth. Yn y pen draw mynegwyd hyn yn yr ymadrodd ‘statws cenedlaethol llawn i Gymru yn Ewrop’ fel y gwelir yng nghyhoeddiad Plaid Cymru yn 1990 An Independent Wales – The Future Beyond. Felly, gweledigaeth Plaid oedd un ble byddai sofraniaeth San Steffan yn lleihau wrth i bwerau gael eu trosglwyddo ar yr un pryd i Gymru ac i ail gorff cynrychioliadol yn yr UE yn cynrychioli rhanbarthau a ‘chenhedloedd hanesyddol’.

Mae’r ddwy blaid dro ar ôl tro yn cynnig sail resymegol a/neu gymhariaeth Ewropeaidd i gefnogi eu cynigion i ehangu a gwella polisi cymdeithasol. Mae enghreifftiau’n cynnwys, yn yr Alban ‘gallai a dylai ein gwasanaeth iechyd gyfateb i’r gorau yn Ewrop’ (o Faniffesto etholiad yr SNP yn 2003: The Complete Case For A Better Scotland) ac mai ‘arweinyddiaeth wael ers cychwyn datganoli sydd wedi rhoi i ni wasanaeth wedi’i strwythuro’n wael ac yn delifro deilliannau iechyd gwaeth o lawer na rhannau cymharol Ewrop’ (Plaid Cymru, 2016: 94).

Mae dadansoddiad o gyhoeddiad Plaid Cymru yn 2016 yn dangos sut caiff Ewrop ei ddefnyddio hefyd i bwyso am les cymdeithasol blaengar. Er enghraifft, ‘Bu Ewrop Gymdeithasol o les i Gymru.   Bu polisïau cymdeithasol o gymorth i ennill cyfleoedd mwy cyfartal, amddiffyniad gwell i weithwyr…mi gynigiwn ni gytundeb arbennig rhwng y Comisiwn Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru i sicrhau y gall Cymru optio mewn [i’r Bennod Gymdeithasol – cyfraith yr UE sydd ymhlith pethau eraill yn egluro hawliau gweithwyr] ac aros o fewn telerau’r Bennod.’

Mae’r canfyddiadau hefyd yn dangos sut mae rhannu risg ymhlith gwledydd yn yr UE yn ddeniadol i gynlluniau lles y pleidiau. Mae Plaid ac SNP dro ar ôl tro’n cyfeirio at ddefnyddio cymorth economaidd gan yr UE i gyllido eu rhaglenni cymdeithasol. Er enghraifft, ‘ Mi ddefnyddiwn Gronfa Gymdeithasol Ewrop i hyfforddi pobl ifainc sy’n ymuno o’r newydd â’r gweithlu i ddod yn weithwyr gofal-plant ac i sefydlu eu busnesau gofal-plant eu hunain’.

Yn ogystal mae eu hiaith yn dangos sut maen nhw’n defnyddio’r Undeb Ewropeaidd i ddatblygu ‘adeiladu cenedl’ (neu, hyrwyddo sefydliadau a diwylliant fel sail i syniadau am Gymru ac Alban hyderus annibynnol).

Yn gysylltiedig â hyn, mae’r pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol yn defnyddio Ewrop i bwyso am fwy o reolaeth ar les ac ymwrthedd i bolisïau San Steffan. Er enghraifft dywedai Maniffesto Plaid Cymru yn 1999: ‘Byddwn yn mynnu bod cyllid Ewrop yn dod yn uniongyrchol i’r Cynulliad Cenedlaethol ac nid i’r Trysorlys yn San Steffan’.

Mae trafodaethau cyn-Brexit y pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol yn tanlinellu barn y pleidiau bod parhau ag aelodaeth Cymru a’r Alban o’r UE yn ddeniadol oherwydd cydsafiad, a rhannu risg a gwarchodaeth.

Yn nodedig, yn y cyd-destun hwn mae trafodaethau Plaid Cymru’n defnyddio’r term ‘trefn hyblyg ond sicr’ i fynegi teimladau o’r fath. Er enghraifft, ‘cydlyniant ar y lefel leol ac amrywiaeth ar raddfa uchel yn yr ystyr hwn yw cryfderau mwyaf Ewrop: mae’r UE yn drefn hyblyg ond sicr ar gyfer cyfandir o genhedloedd bach, a’u dinasyddion; falf diogelwch yn erbyn amrywiadau’r farchnad, yn rhannu risg heb bylu rheidrwydd entrepreneuraidd’.

Mae’r Blaid hefyd yn pwysleisio manteision ariannol y rhwyd diogelwch lles a gynigir gan yr UE. Dywedodd fod pleidlais Gadael y llynedd yn ergyd ddifrifol i Gymru’n economaidd, gan rybuddio mai’r tlotaf a fyddai’n talu’r pris, gan ychwanegu y bydd Brexit yn golygu canlyniadau difrifol i ddyfodol y gwasanaeth iechyd ar draws y DU.

Yn yr un modd dywedodd yr SNP fod yr UE yn ‘gwarantu cyd-hawliau a gwarchodaeth gymdeithasol …Rwyf yn ofni’n wirioneddol y bydd y DU sy’n gweithio y tu allan i’r farchnad sengl [Ewropeaidd] yn ceisio cystadleurwydd economaidd drwy ddadreoleiddio a ras i’r gwaelod.’

Mae’r ddwy blaid yn tanlinellu rôl yr UE fel amddiffynfa yn erbyn polisïau San Steffan nad oes croeso iddynt. Mae Plaid yn amlygu methiant y llywodraeth ganolog i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â dosbarth ac anghydraddoldeb. Ac yn nodedig, mae’r ddwy blaid yn pwysleisio’r modd y mae’r bleidlais ‘gadael’ wedi atgyfnerthu’r pwysau i geisio annibyniaeth i’r Alban ac i Gymru o fewn yr Undeb Ewropeaidd.  Mewn cynhadledd arbennig yn dilyn y refferendwm pleidleisiodd cynrychiolwyr Plaid gyda mwyafrif llethol i atgyfnerthu ymrwymiad y blaid i Gymru annibynnol yn Ewrop. Ac roedd yr SNP hefyd yn gyflym iawn yn arwyddo ei bwriad i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban.

Ymhlyg yn hyn mae’r syniad y bydd gan Alban a Chymru annibynnol yn yr UE ymreolaeth dros les, fel y dywedodd Plaid ‘Mae’n amlwg na all y DU barhau yn ei ffurf bresennol… Ar y bore tywyll ac ansicr hwn [ar ôl pleidlais y refferendwm] i’n gwlad, gallwn sicrhau pobl ein bod ni’n benderfynol o wneud popeth y gallwn i rymuso ein sefydliad cenedlaethol [Cynulliad Cenedlaethol Cymru] a diogelu ein cymunedau’.

Yn y ddau achos, y nod yw gweledigaeth flaengar Ewropeaidd o les.

Mae trafodaeth Plaid yn mynnu na fydd yn rhoi’r gorau i’r dyhead o weld Ewrop gymdeithasol, ac yn achos yr Alban, cyfeirir at archwilio opsiynau ar gyfer diogelu perthynas yr Alban gyda’r UE, lle’r Alban yn y farchnad sengl a’r manteision cymdeithasol, cyflogaeth ac economaidd a ddaw yn sgil hynny.

Mae arwyddocâd y canfyddiadau hyn yn gorwedd mewn gwell dealltwriaeth o’r modd, fel enghreifftiau allweddol o bleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol, mae Plaid ac SNP yn defnyddio datganoli, yr UE a Brexit i bwyso am newid mewn lles cymdeithasol. Mae hyn oherwydd ei fod yn pennu’r math o ofal iechyd, tai, addysg a budd-daliadau cymdeithasol sydd ar gael i bob un ohonom ni.

Ac mae hyn yn bwysig. Mae’r ddwy blaid wedi dal swyddi llywodraethol – a gyda’r posibilrwydd o weld newid sylweddol eto yn y modd y caiff y ddwy wlad eu llywodraethu – mae’n bwnc sy’n effeithio ar bawb.

Yn gryno, mae’n penderfynu’r math o gymdeithas rydyn ni’n byw ynddi a’r gwerthoedd rydyn ni’n dewis eu cefnogi yn y blwch pleidleisio.

Gellir gweld y papur llawn –  ‘Governance transitions’ and minority nationalist parties’ pressure for welfare state change:  Evidence from Welsh and Scottish elections – and the UK’s ‘Brexit’ referendum, Global Social Policy  yma.

Mae’r cofnod hwn yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Paul Chaney is Professor of Policy and Politics, School of Social Sciences, and Co-Director of the Wales Institute of Social Economic Research and Data (WISERD). Mae wedi ysgrifennu a golygu dros gant o lyfrau, papurau ac adroddiadau ar gydraddoldeb, hawliau dynol, polisi cymdeithasol a chyhoeddus, astudiaethau deddfwriaethol, cynrychiolaeth wleidyddol a gwleidyddiaeth diriogaethol. Mae wedi gweithio fel ymgynghorydd allanol i’r llywodraeth, gan gynnwys fel aelod o Adran Masnach a Diwydiant Llywodraeth y DU a Thasglu a Grŵp Llywio’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Roedd hefyd yn Ymgynghorydd i Swyddfa Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon a’r Adolygiad Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Adran 75.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *