Uncategorized @cy

Brexit ac Iaith: Pa ddyfodol sydd i’r Saesneg ac Ieithoedd Lleiafrifol y DU?

Mae angen i ddyfodol Saesneg ac ieithoedd lleiafrifol yn yr UE a’r DU yn dilyn Brexit gael lle mwy amlwg yn y drafodaeth gyhoeddus yn ôl yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost a Dr Matteo Bonotti. Gan ddadlau bod Brexit yn debygol o fod â goblygiadau difrifol i ieithoedd yn yr UE a’r DU, maen nhw’n honni bod angen sylw brys a gofalus gan academyddion a gwneuthurwyr polisi i sicrhau nad yw’r fframwaith cyfreithiol a’r normau polisi cyhoeddus sydd wedi llywio agwedd yr UE a’r DU at amrywiaeth ieithyddol yn cael eu niweidio.

Ym mis Hydref 2016, awgrymodd Michael Barnier, prif negodwr Brexit yr UE, y dylid cynnal y trafodaethau Brexit arfaethedig rhwng y DU a’r UE yn Ffrangeg, ei famiaith.

Cafwyd ymateb cymysg i gynnig Barnier, gyda rhai yn cofleidio’r ddadl na ddylai’r Saesneg bellach fod yn un o ieithoedd swyddogol yr UE ar ôl Brexit ac eraill, gan gynnwys Prif Weinidog Prydain, Theresa May, yn herio’r cynnig hwn.

Yn fwy diweddar, dywedodd Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Jean-Claude Juncker fod ‘Saesneg yn colli ei phwysigrwydd’.

Fodd bynnag, er gwaethaf y datganiadau achlysurol hyn, sy’n adlewyrchu’r anghydfod diplomataidd cynyddol rhwng yr UE a’r DU, nid yw iaith hyd yma wedi bod yn flaenllaw yn y drafodaeth gyhoeddus ac academaidd ar Brexit.

Mae hyn yn broblematig oherwydd ei bod yn debygol y bydd gan Brexit oblygiadau dwys o ran ieithoedd yn yr UE a’r DU.  Yn fwy penodol, mae Brexit yn debygol o ailffurfio’r fframwaith cyfreithiol a normau polisi cyhoeddus sydd wedi llywio agwedd yr UE a’r DU at amrywiaeth ieithyddol ers i’r Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd ddod i rym yn 1993.

Gyda golwg ar y dimensiwn Ewropeaidd, dylid nodi mai’r Saesneg yw’r iaith fwyaf cyffredin yn sefydliadau’r UE ers 1993. Fodd bynnag, yn hytrach na herio’r sefyllfa hon, fel mae cynnig Barnier yn ei awgrymu, mae Brexit mewn gwirionedd yn cryfhau’r achos athronyddol dros hyrwyddo Saesneg fel lingua franca yr UE.

Gyda’r DU yn gadael yr UE, dim ond lleiafrif bach o siaradwyr Saesneg brodorol fydd ar ôl yn yr UE ar ôl Brexit (tua 1 y cant o boblogaeth gyfan yr UE), a hynny’n bennaf ymhlith dinasyddion Iwerddon a Malta. Bydd hyn yn lleihau’r nodweddion Eingl-ganolog a gysylltir fel arfer a’r iaith Saesneg, ac yn golygu bod Saesneg de facto yn dod yn iaith cyfathrebu fwy niwtral nag ieithoedd Ewropeaidd eraill fel Ffrangeg ac Almaeneg.

Gallai Saesneg, mewn geiriau eraill, ddod yn ‘Esperanto newydd’ i ddinasyddion a gwneuthurwyr polisi’r UE.

Pan ystyriwn ddimensiwn y DU, mae’r trawsnewidiadau cyfansoddiadol yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE, ynghyd ag ymrwymiad y llywodraeth gyfredol i dynnu allan o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, yn cryfhau’r achos dros gydnabyddiaeth de jure i Saesneg fel iaith swyddogol y DU.

Er mwyn deall pam, dylid cofio mai un o effeithiau esblygiad cyfansoddiad y DU ar ôl datganoli fu datgan mewn cyfraith statud bod y Gymraeg yng Nghymru (Mesur yr Iaith Gymraeg [Cymru] 2011; Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru [Ieithoedd Swyddogol] 2012) a Gaeleg yn yr Alban (Deddf yr Iaith Aeleg [Alban] 2005) yn ieithoedd swyddogol.

Nid yw’r Saesneg yn mwynhau’r fath statws; caiff hyn ei ystyried yn nodwedd sydd ‘ar goll’ o gyfansoddiad y DU. Mae Brexit felly’n agor senarios newydd yn y maes hwn ac yn atgyfnerthu’r dadleuon o blaid cydnabyddiaeth de jure i Saesneg fel iaith swyddogol y DU.

Ymhellach, mae Brexit yn debygol o fod â goblygiadau difrifol i ieithioedd cyfunfrodorol, neu mewn geiriau eraill ieithoedd lleiafrifol cynhenid y DU.

Effaith aelodaeth y DU o’r UE, ac yn benodol yr agenda o integreiddio sefydliadol dwysach a gychwynnwyd gan Gytuniad Maastricht (Cytuniad  yr Undeb Ewropeaidd 1992) fu achosi i genhedloedd is-wladwriaethau’r DU ddod o hyd i gyd-deithwyr ideolegol yng nghyd-destun yr hyn a elwid yn ‘Ewrop y rhanbarthau’.

Roedd eu gweithredu’n cynnal geirfa hawliau ac yn rhoi sylw i dreftadaeth ieithyddol Ewrop yn ehangach, boed yn nhermau’r syniad o iaith swyddogol a gwaith neu’r cysyniad o ddinasyddiaeth ieithyddol yr UE.

Mae Brexit yn dad-angori’r actorion ieithyddol oedd yn ymwneud â chenhedloedd is-wladwriaethau’r DU (yng Ngogledd Iwerddon, Cymru a’r Alban) oddi wrth y peth dychmygol hwn gan agor gofod radical ar gyfer aildrefnu.

Yn ogystal, gyda’r DU yn tynnu allan o awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop, ac o bosib o Lys Hawliau Dynol Ewrop, mae hyn yn golygu ei bod yn debygol y ceir mwy o bwysau ar gydnabod hawliau a rhyddid ieithoedd cyfunfrodorol lleiafrifol mewn cyfansoddiad diwygiedig yn y DU, gan na fyddai siaradwyr yr ieithoedd swyddogol de jure hyn, er enghraifft y Gymraeg a Gaeleg yr Alban, bellach yn gallu cyrchu rhwymedïau mewn llysoedd rhyngwladol.

Mae colli’r cyd-destun cyfreithiol Ewropeaidd hefyd yn golygu canlyniadau posibl i’r Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon, y darperir ar gyfer ei statws dan gytuniad, cyfreithiau a chytundebau statudol rhwng y DU, Gweriniaeth yr Iwerddon ac actorion gwleidyddol eraill yng Ngogledd Iwerddon ei hun. Rhan o’r tensiwn gwleidyddol mewn perthynas â’r Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon yw ei bod yn iaith gyfunfrodorol a hefyd yn iaith allanol. Rydym ni’n dadlau yng nghyd-destun Brexit bod Deddf Iaith Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon yn hanfodol.

Yn olaf, mae Brexit yn debygol o fod â goblygiadau pwysig i siaradwyr ieithoedd lleiafrifol allanol, ieithoedd mewnfudwyr, yn enwedig o ran gofynion iaith Saesneg ar gyfer dinasyddiaeth a cheisiadau lloches, darparu gwasanaethau cyfieithu a throsi i fewnfudwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus a lleoliadau swyddogol, a darpariaeth dysgu iaith mewn addysg gynradd ac uwchradd.

Mae angen sylw brys a gofalus ar y materion hyn i gyd gan academyddion a gwneuthurwyr polisi.

Mae’r erthygl hon yn cynrychioli barn yr awduron ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

 Mae’r Athro Diarmait Mac Giolla Chríost yn Ysgol y Gymraeg ac yn aelod o Uned Ymchwil yr Ysgol ar Iaith, Polisi a Chynllunio.

 Mae’r Dr Matteo Bonotti yn Ddarlithydd Theori Wleidyddol, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *