Economi a Masnach

Yr Economi Ôl-Brexit: Cyflwr y farchnad lafur yng Nghymru

Un maes pwysig o bryder i Gymru ar ôl Brexit fydd gallu’r farchnad lafur i gyflenwi swyddi sy’n fuddiol yn eu hanfod â thâl da i’r gweithlu yn y dyfodol, yn ôl yr Athro Andrew Henley. Yma mae’n asesu’r sefyllfa bresennol ac yn ystyried effaith Brexit ‘caled’ a ‘meddal’ ar Gymru, ac yn casglu beth bynnag yw’r math o Brexit a ddaw i’r amlwg, bod angen i Gymru barhau i fuddsoddi’n drwm yn sgiliau ei gweithlu. 

Yr hyn sydd gan Lywodraeth Cymru i’w ddweud am ddata ystadegol diweddar y farchnad lafur yng Nghymru yw bod y farchnad lafur yma’n perfformio’n well nag y mae mewn rhannau eraill yn y DU.

Mae’r niferoedd diweddaraf hyd at fis Chwefror eleni’n awgrymu, er gwaethaf diweithdra uwch, bod Cymru’n perfformio’n well na gweddill y DU o ran lleihad cyflymach yn y lefel o anactifedd economaidd. Ar ôl sawl degawd o ddelio gyda phroblem anactifedd economaidd uchel, mae swyddi yng Nghymru bellach yn cael eu creu ychydig yn gyflymach nag yng ngweddill y DU.

Ond gallai’r darlun ar ôl Brexit fod yn gymysg iawn. I allforwyr yng Nghymru mae’r cwymp mewn sterling wedi gwneud busnes yn fwy cystadleuol. Ac ar gyfer busnesau sy’n dibynnu ar y farchnad ddomestig, o leiaf ar hyn o bryd, mae hyder defnyddwyr wedi’i gynnal.

Fodd bynnag gallai hyder busnes yng ngallu llywodraeth y DU i gael setliad Brexit fydd yn cynnal masnachu da a chyfleoedd datblygu economaidd i Gymru gael ei ansefydlogi’n rhwydd. Os bydd hynny’n digwydd gallai’r adferiad bregus yn nata marchnad lafur Cymru ddiflannu’n fuan iawn.

Mae dadansoddiad o bleidlais Brexit y llynedd yn dangos bod pryderon am leoliad rheolaeth wleidyddol a chyfraddau uchel o fewnfudo yn flaenllaw wrth i bobl benderfynu sut i bleidleisio. Yng Nghymru, doedd pleidleiswyr ddim yn gallu gweld digon o fuddion economaidd o ran swyddi a ffyniant yn sgil gwariant datblygu Ewropeaidd i’w perswadio bod gwerth aros yn yr UE.

Cymru mewn Brexit ‘caled’

Gallai Brexit ‘caled’, sy’n gosod rheolaeth dynn yn y dyfodol ar fewnfudo gan weithwyr llai medrus fod yn newyddion drwg iawn i economi Cymru. Mae cyfartaledd enillion a lefelau sgiliau Cymru gryn dipyn yn is na chyfartaledd y DU, gyda llawer o sectorau’r economi yma, fel twristiaeth a lletygarwch, y sector gofal personol, a phrosesu bwyd, yn dibynnu ar argaeledd llafur cyflog isel.

Ar y naill law gallai symudiad yng nghydbwysedd galw a chyflenwi yn y farchnad lafur weld gwir gyflogau’n codi. Bydd hyn yn newyddion da i gartrefi mewn gwaith nad ydyn nhw prin wedi gweld cynnydd gwirioneddol yn eu cyflog os o gwbl dros y pump i ddeng mlynedd ddiwethaf.

Ar y llaw arall, bydd angen i fodelau busnes addasu’n gyflym os yw cyflogwyr am ymateb. I rai sectorau gallai hynny olygu mwy o ddibyniaeth ar brosesau wedi’u hawtomeiddio, fel y rheini a geir mewn cadwyni gwesty rhad mewn dinasoedd mawr. Mewn sectorau eraill, lle ceir dibyniaeth ar lafur sy’n agos at yr isafswm cyflog, gallai rhai cyflogwyr gau’n gyfan gwbl oherwydd y wasgfa ar broffidioldeb.

Yn anochel felly bydd strwythur cyflogaeth yn newid. Bydd angen sgiliau newydd, a bydd angen cyllid cyhoeddus ar gyfer hyfforddiant sgiliau. Mae’n werth cofio bod Cymru dros y 17 flynedd ddiwethaf wedi dibynnu i raddau helaeth ar gronfeydd strwythurol yr UE i dalu am yr uwchsgliio ac ailsgilio hwn.

Cymru mewn Brexit ‘meddal’

Gallai Brexit ‘meddal’, a fyddai’n parhau i ganiatáu cyflogwyr yng Nghymru i gyflogi gweithwyr o’r tu allan i’r DU fel bo’r angen, beth bynnag y lefel o sgiliau a chyflog, siomi rhai a bleidleisiodd dros Brexit. Ond gallai beri llai o niwed economaidd i Gymru, yn enwedig os yw’n cyd-fynd ag agwedd gadarn at hyrwyddo cyflog byw.

Mae ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar adeg derbyn aelod-wladwriaethau newydd yr UE yn Nwyrain Ewrop yn awgrymu nad oedd mewnfudo o’r gwledydd hyn yn cael unrhyw effaith negyddol ar economi Cymru, naill ai o ran creu diweithdra na chadw cyflogau pobl leol yn isel. Felly os yw’r DU yn gallu cynnal mynediad di-dariff at ei marchnadoedd cyfredol ac os yw hyder defnyddwyr a buddsoddwyr yn parhau, yna does fawr o reswm dros feddwl y bydd canlyniadau’r ymchwil hwn wyth mlynedd yn ôl wedi newid. Fel y nododd yr Athro Calvin Jones mewn blog cynharach, mae Cymru yn dibynnu’n drwm iawn ar y farchnad Ewropeaidd ar gyfer masnach.

Hunangyflogaeth a pharatoi Cymru ar gyfer Brexit

Ers yr argyfwng bancio ac ariannol, mae cyfran fawr o’r swyddi a grëwyd dros y naw mlynedd ddiwethaf wedi bod ar ffurf hunangyflogaeth. Mae hyn wedi pryderu llawer o sylwebwyr sy’n gweld hunangyflogaeth fel mynegiant o’r “anffurfioli” cynyddol yn y farchnad lafur, ac nad ydyn nhw’n gweld hunangyflogaeth fel arwydd o dwf microfusnesau, y gallai rhai ohonynt un diwrnod dyfu i fod yn rhai arloesol sy’n creu cyfoeth.

Ar sail fy ymchwil fy hun rwyf i’n ychydig yn llai pryderus bod y twf mewn hunangyflogaeth yn adlewyrchu diffyg “swyddi da”. Mae’r mwyafrif o bobl yn adrodd eu bod yn dewis hunangyflogaeth oherwydd y manteision a geir o ran synnwyr o annibyniaeth neu’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â mentro ar eich pen eich hun.

Mae ymchwil diweddar arall hefyd yn dangos bod pobl yn dewis hunangyflogaeth, pan fydd pethau eraill yn gyfartal, pan fydd eu heconomi leol yn gwneud yn dda. Er gwaethaf lefelau hanesyddol uchel o hunangyflogaeth mewn ardaloedd fel Cymru wledig, gwelwyd y twf cyflymaf yn Llundain a de ddwyrain Lloegr. Fel y cyfryw ni fydd y twf diweddar mewn hunangyflogaeth yn helpu Cymru o ran paratoi at Brexit, oherwydd mae Cymru’n cynnig nifer cymharol is o gyfleoedd ar gyfer dechrau busnes yn llwyddiannus. Yn wir mewn llawer o ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru, yn enwedig yn y Cymoedd a chanolfannau trefol tlotach, ceir lefelau hunangyflogaeth sydd ymhell o dan y cyfartaledd.

Y Pos Cynhyrchiant

Un nodwedd arall o’r economi sy’n bygwth llwyddiant yr economi ôl-Brexit, ac sy’n peri dryswch i economegwyr ac ystadegwyr yw perfformiad cynhyrchedd isel y DU ers yr argyfwng ariannol.

Mae cynhyrchedd, yn fras, yn mesur y gwerth a ychwanegir yn nhermau nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir gan weithiwr. Twf mewn cynhyrchedd sy’n galluogi twf gwirioneddol mewn cyflogau, er ei bod ymhell o fod yn glir pa un sy’n achosi pa un. Rhaid i fusnesau fod yn gynhyrchiol i allu fforddio talu codiadau cyflog. Ar y llaw arall, mae codiadau cyflog, fel y dangosodd ymchwil diweddar gan Ysgol Busnes Caerdydd ar y cyflog byw, yn ysgogi gweithwyr ac yn lleihau trosiant yn y gweithlu. Felly mae gwella cynhyrchedd yn dibynnu ar fuddsoddi a gweithgaredd ymchwil a datblygu gan gwmnïau, ond gallai gael ei gwtogi gan gyflogau isel.

Yma eto mae Cymru’n arbennig o fregus, ac ychydig yn unig o gysur a geir o brofiad y gorffennol. Gallai Brexit, yn enwedig Brexit ‘caled’, achosi rhywfaint o ysgwyd yn y cwmnïau sy’n perfformio waethaf. Ond mae ymchwil diweddar iawn yn dangos bod rhanbarthau dinesig Cymru dros y tymor hir wedi bod yn wael iawn yn cyflawni newid strwythurol sy’n codi cynhyrchedd o’u cymharu â pherfformwyr gorau’r DU.

Felly, beth bynnag yw’r math o Brexit fydd yn ymddangos, mae angen i Gymru barhau i fuddsoddi’n drwm yn sgiliau ei gweithlu.

Mae hyn yn golygu trafod cyllidebau gyda San Steffan unwaith y bydd dyraniadau cronfeydd strwythurol yr UE wedi diflannu.

Mae hefyd yn golygu rhoi ystyriaeth ofalus i ffurfweddu’r sgiliau y bydd eu hangen yn y tymor canolig i hir. Mae hynny’n golygu paratoi ar gyfer parhad yr economi ddigidol, ac arfogi pobl a busnesau i fanteisio ar seilwaith y rhyngrwyd. Rhaid i hyn ddigwydd ar draws yr economi ac nid yn yr hyn a elwir yn “sectorau arweiniol” yn unig.

Mae hefyd yn golygu parhau i weithio’n galed i oresgyn yr anfanteision cynhenid a wynebir gan bobl ar draws Cymru, o’i chymharu â rhanbarthau mwy llwyddiannus y DU, wrth ddymuno sefydlu eu busnesau eu hunain.

Yn olaf mae’n golygu gweithio’n rhagweithiol i gyflawni twf cynhyrchedd drwy ddenu diwydiant sy’n ychwanegu gwerth a sicrhau bod cwmnïau sy’n llusgo’u traed yn perfformio ar yr un lefel â’r gorau yn eu sectorau.

Mae’r Athro Andrew Henley’n Athro Entrepreneuriaeth ac Economeg, a Chyfarwyddwr Ymgysylltu ac Effaith Ymchwil, Ysgol Busnes Caerdydd

Mae’r cofnod hwn yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *