Economi a Masnach

Does gan Gymru ddim i’w ofni gan ‘Brexit caled’

Byddai rhai beirniaid Brexit yn dadlau bod gan Gymru lawer mwy i’w golli nag unrhyw ran arall o’r DU os bydd ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn golygu nad oes mynediad i’r farchnad sengl. Yma, mae’r Athro Kent Matthews yn gwerthuso’r goblygiadau economaidd i economi Cymru o beidio â chael mynediad at farchnad sengl yr UE, a daw i’r casgliad nad oes gan Gymru ddim i’w ofni gan ‘Brexit caled’, ac y gallai gael budd o gostau byw is. 

Sut byddai Cymru yn ymdopi yn y byd ôl-Brexit heb Gytundeb Masnach Rydd – mewn geiriau eraill ‘Brexit caled’?

Byddai’r Jeremeias yn dweud wrthym y byddai’r DU yn gwneud yn wael a Chymru’n gwneud hyd yn oed yn waeth pe bai Brexit yn golygu nad oes ganddynt fynediad at y  farchnad sengl. Pam? Oherwydd bod 61 y cant o allforion Cymru yn mynd i’r UE (sydd tua 13 y cant o’r economi yr effeithir arno’n uniongyrchol) sy’n cymharu â llai na 50 y cant o’r allforion y DU gyfan.

Mae Brexit heb Gytundeb Masnach Rydd gyda’r EU yn golygu y bydd y DU yn cael ei thrin yr un fath â gwledydd eraill y Cenhedloedd a Ffefrir Fwyaf sy’n allforio i’r UE o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd. Bydd Cymru yn wynebu’r Doll Allanol Gyffredin sy’n wynebu gwledydd eraill nad ydynt yn yr UE wrth fasnachu gyda’r UE.

Wrth gwrs nid yw hyn yn golygu na all allforwyr Cymru werthu i’r UE. Mae’n golygu y byddant yn wynebu tollau a fydd yn amrywio o 2.3 y cant ar gyfer yr hyn a weithgynhyrchir (tua 70 y cant o’r holl allforion), 10 y cant ar gyfer cynhyrchion moduro, ymlaen at 42.1 y cant ar gyfer cynhyrchion llaeth.

Mae’r rhwystrau heb dollau a ddaw i’r amlwg rai blynyddoedd ar ôl Brexit yn fwy o fygythiad. Fodd bynnag, bydd colli diogelwch undeb tollau’r UE hyd yn oed yn fwy o fygythiad i sector gweithgynhyrchu Cymru, sy’n golygu y byddai’n wynebu cystadleuaeth gan gyflenwyr o’r tu allan i’r UE. Yn ogystal, yn ôl pob tebyg, byddai colli diogelwch yr UE, heb fod iawndal y Trysorlys yn cael ei osod yn ei erbyn, yn dileu ffermio mynydd Cymru.

Haul ar fryn?

Ond a oes haul ar fryn ynghanol yr holl besimistiaeth hon?

Byddai angen cydbwyso effeithiau negyddol costau uwch masnachu â’r UE â nifer o ffactorau lliniaru.

Yn gyntaf, gwyddom nad yw’r tariffau’n cael eu cyflwyno nes cwblhau Brexit a allai gymryd hyd at ddwy flynedd.

Yn ail, mae dibrisiant y bunt o ryw 10 y cant yn erbyn yr Ewro wedi gwella cystadleurwydd y sector allforio nawr ac mae mwy o archebion. Bydd hyn yn lleddfu effaith tollau pan gânt eu gorfodi.

Yn drydydd, bydd cymhlethdod y cadwyni cyflenwi yn ei gwneud hi’n anos i gwmnïau’r UE sy’n mewnforio cydrannau o Gymru ddod o hyd i gyflenwyr eraill yn y tymor byr, sy’n golygu bod hyd at ddwy flynedd gan allforwyr Cymru i edrych ar farchnadoedd amgen. Yn ôl damcaniaeth safonol masnach byddant yn symud eu masnachu i farchnadoedd y byd ar brisiau’r byd. Yn wir, bydd allforwyr Cymru’n wynebu prisiau is y byd pan fyddant yn colli diogelwch yr UE. Bydd dibrisiant y bunt yn lleddfu’r effaith ond yn y tymor hwy bydd yn rhaid iddynt godi cynhyrchiant a symud i fyny’r gadwyn werth i gystadlu’n effeithiol.

Yn olaf, gwyddom fod rhwystrau heb dollau’n gosod costau llawer uwch ar fasnach na thollau, ond gan fod y DU yn y farchnad sengl ar hyn o bryd, ni all yr UE ddefnyddio rhwystrau heb dollau i gyfyngu ar allforio nwyddau Cymru i Ewrop, yn y dyfodol agos.

Bydd effaith peidio â chael mynediad am ddim i’r farchnad sengl ar weddill economi Cymru yn dibynnu i raddau ar sut mae’r sectorau gweithgynhyrchu ac amaethyddol yn ymateb i ragolygon gosod tollau.

Mae dibrisiant y gyfradd gyfnewid wedi golygu bod cystadleurwydd y sector allforio yng Nghymru wedi gwella’n fawr. Er nad yw data’r sector cynhyrchu (sy’n cynnwys gweithgynhyrchu) ar gyfer Cymru ar gael eto, ar ôl Brexit byddai’n rhesymol tybio y bydd gwella cystadleurwydd yn ysgogi archebion allforio yng Nghymru, yn gymorth i ddod o hyd i farchnadoedd newydd, a hefyd yn hyrwyddo twristiaeth.

Enillion posibl i ddefnyddwyr a gostwng costau byw

Mae beirniaid y strategaeth ‘Brexit caled’ yn canolbwyntio eu dadleuon ar y colledion posibl i gynhyrchwyr, ond yn methu gweld y manteision posibl i ddefnyddwyr.

Bydd cael gwared ar rwystrau tollau a thollau allanol cyffredin ar nwyddau amaethyddol wedi’u mewnforio ar ôl cwblhau Brexit yn cael effaith fawr ar leihau costau byw yn y DU, hyd yn oed os bydd prisiau nwyddau sy’n cael eu mewnforio yn codi ar ôl y dibrisiant.

Gallai’r enillion i aelwydydd o ddileu rhwystrau masnach i weddill y byd ostwng costau byw gymaint ag 8 y cant dros y tymor hir. Byddai Cymru fel un o ranbarthau tlotaf y DU yn elwa’n aruthrol.

Gan na ddigwyddodd y dirywiad sydyn yn yr economi yn dilyn y bleidlais o blaid Brexit, mae’r gwybodusion wedi bod yn diwygio eu rhagolygon ar gyfer yr economi i fyny, dan arweiniad yr IMF a Banc Lloegr.

Mae’r rhagolwg consensws yn nes at 2 y cant ar gyfer 2017. Yr hyn sy’n gyrru’r rhagolwg cadarnhaol hwn yw ymateb y gyfradd gyfnewid a’r rhagdybiaeth y bydd polisi Brexit ‘caled’ yn cael ei fabwysiadu. Nid oes unrhyw reswm i gredu na fydd Cymru’n rhannu yn y rhagolwg twf cadarn hwn. Yn wir, mae ymchwil gan ddefnyddio model econometrig i Gymru’n awgrymu bod yr economi lleol yn ymateb yn fwy i ysgytiadau cyfradd gyfnewid y DU.

Efallai bod Cytundeb Masnach Rydd gyda’r UE yn amcan dymunol am resymau gwleidyddol ond os nad yw’n bosib ei gael, nid oes gan Gymru ddim i’w ofni gan ‘Brexit caled’.

Mae’r cofnod hwn yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

 Yr Athro Kent Matthews yw Athro Bancio a Chyllid Syr Julian Hodge yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *