Datganoli a'r Cyfansoddiad, Economi a Masnach

Ail-greu polisi rhanbarthol: amser am fodel datblygu newydd

Y ail ran o’r blogiad dwy ran hwn yn edrych ar ddyfodol polisi rhanbarthol ar ôl Brexit, yn ôl yr Athro Kevin Morgan, er mai Cymru sydd â’r mwyaf i’w golli pan ddaw’n fater o gyllido, mae nawr yn gyfle, os yw am fod yn glyfar yn gynaliadwy ac yn gynhwysol, i arwain y ffordd a chynllunio polisi rhanbarthol newydd sy’n uno model datblygu economi wybodaeth traddodiadol â’r model economi sylfaenol.

Wrth i drafodaethau Brexit ddechrau, mae’n ddealladwy mai ar y goblygiadau ariannol y bydd y prif ffocws.

Yn achos polisi rhanbarthol, dyrannwyd €16.42 biliwn i’r DU o Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewrop dros y cyfnod 2014-2020, sy’n cynyddu i €27.29 biliwn pan gaiff cyfraniad y DU ei gynnwys.

Does dim un rhan o’r DU yn fwy dibynnol ar y cyllid hwn na Chymru, lle mae’n werth tua £370 miliwn yn flynyddol, ffigur sy’n cynyddu i £680 miliwn y flwyddyn i Gymru pan gaiff yr holl gyllid UE arall ei gynnwys fel y Polisi Amaeth Cyffredin a Horizon 2020.

Yn ei Phapur Gwyn ar Brexit, dywed Llywodraeth Cymru yn dilyn yr addewid “na fyddai Cymru geiniog ar ei cholled y tu allan i’r UE”, ei bod “yn glir ein bod yn benderfynol o sicrhau bod yr addewid hwnnw’n cael ei gadw”.  Haws dweud na gwneud oherwydd pwy mewn grym sy’n atebol am yr addewidion hyn?

Er y bydd yn anodd perswadio Llywodraeth Geidwadol sydd o blaid llymder i anrhydeddu “addewidion yr ymgyrch”, mae gwleidyddion yng Nghymru’n ymwybodol o leiaf o’r her ariannu.

Ond ydyn nhw hefyd yn ymwybodol o’r her ddeallusol yn sgil ailddyfeisio polisi rhanbarthol a fframio model newydd o ddatblygu, model sy’n rhoi parch cydradd i effeithlonrwydd a chydraddoldeb?  Ac ydyn nhw’n gyfarwydd ag ymarfer da yn y DU a thu hwnt o ran beth sy’n gweithio ymhle a pham?

Bydd y byd ar ôl Brexit yn galw am agwedd meddwl lai plwyfol a mwy cosmopolitan at ddatblygu rhanbarthol yng Nghymru. Mae hyn yn golygu adeiladu ar y gorffennol (oherwydd mae angen i ni gyflymu’r hyn sy’n gweithio) yn ogystal â thorri cyswllt â’r gorffennol (oherwydd ni all polisi rhanbarthol ysgwyddo baich model newydd o ddatblygu ar ei ben ei hun).

Adeiladu ar y gorffennol… y model economi wybodaeth a’i gyfyngiadau

Nid yw ailddyfeisio polisi rhanbarthol yng Nghymru’n golygu ailddechrau o’r dechrau oherwydd mae creu polisi yn broses sy’n dibynnu ar y llwybr – mae’r hyn mae rhanbarth neu wlad yn gallu ei wneud yn y dyfodol yn dibynnu’n rhannol ar yr hyn mae wedi’i wneud yn y gorffennol a’r hyn a ddysgodd o’r gorffennol.

Bydd penseiri polisi rhanbarthol felly’n dymuno adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio’n dda yn rhaglen gyfredol yr UE a phenderfynu a yw’r blaenoriaethau’n briodol ar gyfer dyfodol mwy heriol.

Dyna Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop er enghraifft. Ei blaenoriaethau allweddol yw hyrwyddo:

  • gallu ymchwil ac arloesedd (drwy feithrin ecosystemau rhanbarthol o gwmpas cwmnïau a phrifysgolion ac ati)
  • cystadleurwydd busnesau bach a chanolig (drwy well mynediad at gyllid a defnydd digidol uwch)
  • ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni
  • cysylltedd a datblygu trefol (gan gynnwys Metro De Cymru)

Mae’n anodd dychmygu y caiff unrhyw rai o’r blaenoriaethau hyn eu diosg yn llwyr gan eu bod i gyd yn bwysig, felly’r her yw nodi pa lefydd yw’r rhai gorau ar gyfer datblygu’r flaenoriaeth.

A chymryd y bydd polisi rhanbarthol ôl-Brexit yn fwy hyblyg gan na fydd bellach yn gaeth i raniadau rhanbarthol llym yr UE rhwng Gorllewin Cymru a’r Cymoedd a Dwyrain Cymru, bydd cyfle i gynllunio dull mwy integredig ar sail llefydd a ffurfio synergeddau a chyfatebolrwydd rhwng llefydd.

Bydd angen i wneuthurwyr polisi rhanbarthol hefyd gyfeirio at a rhyngweithio gyda’r Strategaeth Ddiwydiannol sy’n ymddangos yn y DU yn dilyn cyhoeddi’r Papur Gwyrdd yn gynharach eleni. Mae’r Papur Gwyrdd yn arwydd o bennod newydd mewn syniadaeth Geidwadol mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, mae’n derbyn bod gan y wladwriaeth ran fwy a mwy cadarnhaol i’w chwarae i feithrin datblygiad, ac yn ail, mae’n cydnabod bod sefydliadau sydd wedi’u lleoli mewn mannau penodol yn hanfodol i lwyddiant “ecosystemau arloesi lleol” yn yr economi wybodaeth.

Ar hyn o bryd, model datblygu’r economi wybodaeth – sy’n seiliedig ar wyddoniaeth, technoleg ac arloesi yn yr ystyr technegol cul – sydd amlycaf ym myd polisi Brwsel, Llundain a Chaerdydd, ac mae polisi rhanbarthol wedi dod yn gyfrwng pwysig ar gyfer y model hwn.   Y brif broblem gyda’r model hwn yw nid ei fod yn anghywir, ond ei fod yn rhannol. Mae’n fodel nad yw ond yn wirioneddol berthnasol i rai sectorau technoleg uchel, ond mae’n awgrymu bod ei fuddion yn treiddio i lawr i sectorau a mannau eraill, er ei bod yn amlwg nad ydynt.

Mae polisi rhanbarthol sy’n gwbl gaeth i’r model economi wybodaeth yn bolisi rhanbarthol na all honni bod yn glyfar, cynaliadwy a chynhwysol – sef y profion allweddol ar gyfer polisi sy’n sicrhau parch cydradd i effeithlonrwydd a thegwch.

Gadael y gorffennol: meithrin y model economi sylfaenol

I wneud yn iawn am elfen rannol y model economi wybodaeth, bydd angen i bolisi rhanbarthol ôl-Brexit wneud llawer mwy i hybu twf cynhwysol, fel y dadleuodd Sefydliad Bevan mewn ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar flaenoriaethau economaidd yng Nghymru.

Felly bydd angen i bolisi rhanbarthol newydd gofleidio a meithrin yr economi sylfaenol, sy’n cynnwys cynhyrchu anghenion dydd i ddydd yn arferol.

Cynlluniwyd y model economi sylfaenol gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Manceinion, ac mae’n cyfeirio at y rhan honno o’r economi sy’n creu ac yn dosbarthu’r nwyddau a gwasanaethau a ddefnyddir gan bob un ohonom ni gan eu bod yn cynnal bywyd bob dydd.  Mae’r economi sylfaenol yn cynnwys rhwydweithiau a changhennau cwmnïau preifat neu asiantau’r wladwriaeth sy’n dosbarthu er enghraifft gwasanaethau iechyd, addysg, cyfleustodau a bwyd.

Yn wahanol i ddiwydiant technoleg uchel, mae’r economi sylfaenol yn ddwys o ran cyflogaeth. Mae’n cyflogi hyd at 40 y cant o’r gweithlu drwy’r wlad a’r her yw gwella telerau ac amodau’r swyddi hyn, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol a darparu bwyd, lle mae’r angen dynol yn fawr a’r cyflogau’n isel.

Nid yw polisi rhanbarthol confensiynol yn gyfarwydd ag ymdrin â sectorau cyffredin yr economi sylfaenol am ei fod wedi canolbwyntio ar sectorau gwelededd uchel yr economi wybodaeth yn unig. Ond bydd angen i bolisi rhanbarthol yn y dyfodol gofleidio’r ddau fodel os yw am fod yn glyfar, yn gynaliadwy ac yn gynhwysol.

Y tu hwnt i bolisi rhanbarthol confensiynol … rhannu baich datblygu

Disgwyl i un polisi – polisi rhanbarthol – ysgwyddo baich datblygu rhanbarthol, yw’r methiant mwyaf mewn polisi gofodol ers y 1930au.  I gywiro’r broblem hon, dylai fod yn ddyletswydd ar bob sefydliad – boed gyhoeddus, preifat neu drydydd sector – i ddangos pa gyfraniad mae’n ei wneud i lesiant cymdeithasol ac economaidd yn ei ardal leol.

Dyma ddwy enghraifft:

  • Bydd angen i Lywodraeth Cymru gael mwy o werth cyhoeddus o’r pwrs cyhoeddus ac o’r sector cyhoeddus ehangach. Un o’r prif heriau yw sicrhau bod cyrff cyhoeddus ac awdurdodau lleol yn atebol am amrywiadau annerbyniol o ran perfformiad. Mae hyn yn hirddisgwyliedig o ran caffael cyhoeddus, lle gellid defnyddio grym pwrcasu’n fwy effeithiol i hyrwyddo uwchsgilio a chadwyni cyflenwi lleol;
  • Mae Prifysgolion yng Nghymru ymhlith y sefydliadau angori pwysicaf yn eu hardaloedd lleol a gallent a dylent wneud mwy i ddangos eu cyfraniadau i’r economi a chymdeithas. Er enghraifft dylai holl brifysgolion Cymru fod yn gyflogwyr Cyflog Byw cwbl achrededig i ddangos eu hymrwymiad i ddatblygu cynhwysol (ond dim ond un brifysgol – Prifysgol Caerdydd – sy’n achrededig ar hyn o bryd).

Mae angen cyllid, syniadau ac arweinyddiaeth er mwyn llunio model datblygu newydd.

O safbwynt ariannol, dylid trosglwyddo’r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd sydd ar hyn o bryd yn llifo o Frwsel i grant bloc Cymru.

O ran syniadau, gellid defnyddio’r sector Prifysgol lawer yn ehangach i ddarparu tystiolaeth am yr hyn sy’n gweithio ymhle a pham yn y DU a thu hwnt.

Ac o ran arweinyddiaeth, bydd angen i Lywodraeth Cymru ddangos mwy o ymrwymiad gwleidyddol i fodel datblygu sy’n sicrhau parch cydradd i’r economi wybodaeth a’r economi sylfaenol os yw am gynhyrchu dulliau datblygu mwy cynhwysol.

Mae rhan gyntaf y blog hwn i’w weld yma.

Mae’r erthygl hon yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Mae Kevin Morgan yn Athro Llywodraethu a Datblygu yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd, lle mae hefyd yn Ddeon Ymgysylltu. Ar hyn o bryd mae’n aelod o ‘Mirror Group’ y Comisiwn Ewropeaidd o gynghorwyr arbennig ar Arbenigaeth Glyfar.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *