Datganoli a'r Cyfansoddiad

Unigrwydd yr unoliaethwyr sydd o blaid datganoli

Mae’n amlwg y bydd gadael yr UE yn cael effaith enfawr ar gysylltiadau allanol y DU. Ond mae hefyd yn cael effaith fawr ar wleidyddiaeth fewnol y DU: mae eisoes wedi helpu i ailddechrau’r drafodaeth am annibyniaeth i’r Alban, ac wedi chwarae rhan sylweddol yn yr ansicrwydd gwleidyddol diweddar yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r sefyllfa yng Nghymru yn llai dramatig. Yma, mae consensws hirdymor o blaid datganoli; er bod y rhan fwyaf o bobl am gael rhywfaint o ymreolaeth o fewn y DU, prin yw’r rhai sydd am fynd mor bell ag annibyniaeth. Ond nid yw hynny’n golygu bod pethau’n fêl i gyd. Yn wir, mae Cymru’n helpu i amlygu rhai o broblemau ehangach yr Undeb, sydd wedi dod yn fwy amlwg yng nghyd-destun Brexit.

Yn gyffredinol, mae ysgolheigion sy’n astudio rhanbartholdeb o fewn gwladwriaethau yn defnyddio dau gysyniad craidd i ddeall y dylanwad sydd gan lefelau rhanbarthol o lywodraeth. Y cyntaf yw ymreolaeth, rhywbeth yr ydym yn gyfarwydd iawn â hi o ganlyniad i ddatganoli: hynny yw, rhwydd hynt i reoli materion mewnol heb ymyrraeth y  wladwriaeth ganolog.

Yr ail yw cyd-reolaeth, rhywbeth nad oes gennym ni yn y DU lawer o ddealltwriaeth na phrofiad ohono. Ystyr y cysyniad hwn yw bod rhanbarthau’n cymryd rhan, yn uniongyrchol ac ar y cyd, yn y gwaith o reoli elfennau o faterion sy’n effeithio ar y wladwriaeth gyfan. Mae’r gynrychiolaeth uniongyrchol sydd gan daleithiau’r Almaen yn y Bundesrat (y siambr uchaf yn senedd ffederal yr Almaen) yn enghraifft o hyn, ynghyd â Chyngor Llywodraethau Awstralia.

Sut mae hyn yn berthnasol i Brexit? Ymhlith y meysydd polisi a ddatganolwyd i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon mae amaethyddiaeth, pysgodfeydd a’r amgylchedd. Hyd yma, mae pob un o’r rhain wedi bod mewn cyd-destun Ewropeaidd iawn: penderfynir ar lawer o’r polisïau ar lefel yr UE, ond gweinidogion y gwledydd datganoledig sy’n gyfrifol am roi’r polisïau ar waith, ac weithiau rhoddir rhywfaint o ryddid iddynt benderfynu sut i wneud hynny. Ar ôl Brexit gallwn dybio y bydd y cyfyngiadau hyn gan yr UE ar lunio polisïau yn cael eu diddymu – rhywbeth ddylai rhoi mwy o ryddid i weinidogion gwledydd datganoledig wrth lunio polisïau.

Fodd bynnag, mae safbwynt Llywodraeth y DU braidd yn wahanol. Yn ôl pob golwg, yr agwedd sy’n gyffredin yn Whitehall a San Steffan yw y bydd pwerau i lunio polisïau’n cael eu ‘dychwelyd’ o Frwsel i’r DU ar ôl Brexit, ac mai’r Llywodraeth a’r Senedd yn Llundain fydd yn penderfynu pa bwerau caiff eu trosglwyddo i lawr i Gaerdydd, Caeredin a Belfast.

Ar raglen Sunday Politics ar 2 Ebrill, siaradodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, am fwriad llywodraeth y DU i gadw’r pwerau hyn nes y byddant wedi penderfynu – wrth ymgynghori â’r llywodraethau datganoledig hefyd – lle a sut i’w defnyddio orau.

Y rheswm a roddwyd gan Cairns am safbwynt y DU oedd yr angen i amddiffyn uniondeb ‘marchnad sengl y DU’. Rhennir rhai o’r pryderon, i ryw raddau o leiaf, gan y llywodraethau datganoledig. Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi trafod yr angen am drefniadau ar y cyd ar gyfer rhai meysydd polisi, megis lles anifeiliaid; mae gweinidog Brexit yr SNP, hyd yn oed, wedi cydnabod bod angen rhywfaint o gydweithio.

Ond mae barn y llywodraethau datganoledig yn dueddol fod yn wahanol i Lundain o ran y ffordd orau o gydlynu. Roedd Papur Gwyn Llywodraeth Cymru am Brexit – a gafodd ei gytuno a’i gyhoeddi ar y cyd â Phlaid Cymru, sy’n dweud llawer – yn dadlau y dylai unrhyw fframweithiau ar gyfer y DU gyfan gael eu seilio ar “[g]ydsyniad rhydd y tair deddfwrfa a gweinyddiaeth ddatganoledig i gyfranogi ar delerau cyfartal
gyda Llywodraeth y DU, a fydd yn cynrychioli buddiannau Lloegr.” (tudalen 26). Pe bai’r fath beth yn digwydd, byddai cyd-reolaeth yn bendant wedi cyrraedd yn y DU.

Ni wnaeth y syniad hwn ymddangos yn y Papur Gwyn o ‘nunlle. Mae Carwyn Jones wedi bod yn hyrwyddo’r math hwn o syniad ers sawl blwyddyn, gan alw am Gonfensiwn Cyfansoddiadol a thrawsnewidiad sylfaenol i drefniadau llywodraethu’r DU, gan gynnwys datblygu cysylltiadau rhynglywodraethol fel cam i gyfeiriad cyd-reolaeth, yn hytrach na pherthynas hierarchaidd rhwng lefel y DU a llywodraethau datganoledig ‘israddol’.

Am y rhan fwyaf o’r cyfnod hwnnw, prin iawn oedd y gefnogaeth i syniad Jones – gan gynnwys gweddill Plaid Lafur Cymru, hyd yn oed, heb sôn am sicrhau consensws mwy eang i gefnogi’r syniad hwn. Fodd bynnag, mewn digwyddiad cyhoeddus gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yng Nghaerdydd ar 29 Mawrth, dangosodd Gordon Brown, John Prescott a Kezia Dugdale fwy o ddiddordeb nag o’r blaen yn y math o agenda y mae Jones wedi ei hyrwyddo ers tro.

Er gwaethaf hyn, mae’r agenda hon yn annhebygol iawn o gael ei gwireddu. Un o’r rhesymau am hyn yw bod trafferthion presennol y Blaid Lafur yn golygu nad yw’n debygol y bydd modd iddi roi unrhyw bolisïau ar waith ar lefel y DU am rai blynyddoedd. Ond mae yna broblem fwy sylfaenol. Byddai trawsnewid y DU mewn modd radical drwy gyflwyno trefniadau cyd-reolaeth sylweddol yn anodd ar unrhyw adeg, hyd yn oed pe bai ewyllys da ymhlith llawer o wleidyddion ar gyfer y syniad; mae cyflwyno newidiadau cyfansoddiadol mawr yn anodd. Ond nid yw’r fath ewyllys da’n bodoli.

Nod Llywodraeth yr Alban, a hanner Llywodraeth Gogledd Iwerddon (pan fo’n weithredol), yw gadael gwladwriaeth y DU, yn hytrach na’i hail-lunio. Yn yr un modd, nid oes gan lywodraeth y DU lawer o ddiddordeb mewn unrhyw newid sylfaenol i’r modd y caiff y wladwriaeth ei llywodraethu, ar wahân i’r hyn sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â Brexit – mater sy’n mynnu bron i holl sylw Whitehall ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi mabwysiadu safbwynt y gallem ei alw’n ‘unoliaeth ddatganoledig radical’. Maent am aros yn y DU, ond yn dymuno gweld newidiadau radical i’r wladwriaeth a fyddai’n rhoi llawer mwy o rym i’r gwledydd datganoledig. Yn anffodus iddyn nhw, nid yw’r un o lywodraethau eraill y DU yn cefnogi’r syniad hwn.

Cwestiwn y dylid ei ofyn, fodd bynnag, yw sut byddant yn ymateb, a sut ddylent ymateb, pan gaiff y syniad hwnnw ei wrthod, sy’n anochel yn ôl pob golwg. Yn y cyfamser, er y gallai Brexit newid gwladwriaeth y DU mewn modd sylfaenol, go brin y gwelwn gyd-reolaeth go iawn yn yr ynysoedd hyn cyn bo hir.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon gyntaf ar flog UK in a Changing Europe

Mae’r erthygl hon yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit a Chymru, nac ychwaith Prifysgol Caerdydd.

Mae’r Athro Roger Scully yn Athro Gwyddor Wleidyddol ac yn Gyfarwyddwr Dros Dro, Canolfan Llywodraethiant Cymru, sydd wedi’i lleoli yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Ef yw’r Prif Ymchwilydd ar gyfer Astudiaeth Etholiadau Cymru 2016. Mae Roger hefyd yn ysgrifennu Blog Etholiadau yng Nghymru 

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *