Cymunedau a Diwylliant

Pobl ifanc, Brexit a Chefnogaeth Bleidiol – edrych ymlaen at yr etholiadau lleol

Er bod etholiadau lleol, mewn theori, ynghylch materion lleol a pherfformiad awdurdodau lleol, mewn gwirionedd maen nhw’n amlach na pheidio’n adlewyrchu gwleidyddiaeth genedlaethol. Eleni, maent yn debygol o gael eu dominyddu gan y ffyrdd y mae’r pleidiau’n cynnig delio â goblygiadau aneglur Brexit.  Mae Dr Sioned Pearce yn edrych ar bobl ifanc yng Nghymru i amlygu’r ffyrdd y gallai Brexit effeithio ar gyfraniad pobl ifanc at yr etholiadau lleol sydd ar y gweill.

Cynhelir etholiadau lleol ledled y DU ar 4 Mai 2017. Caiff aelodau i bob un o 22 awdurdod lleol Cymru eu hethol i gynrychioli eu wardiau ac i wneud penderfyniadau ar y cyd ar fwy na 700 o wasanaethau, gan gynnwys ystod o faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc.

Er enghraifft, mae cynghorwyr lleol yn pleidleisio ar bolisïau cynlluniau datblygu lleol (CDLl) sy’n pennu targedau tai fforddiadwy, sy’n golygu y gallai canlyniadau etholiadau lleol ddylanwadu ar nifer y bobl ifanc a all brynu tŷ yn eu hardal yn y dyfodol. Pris cyfartalog prynu fflat yng Nghaerdydd, lle mae rhan sylweddol o swyddi yng Nghymru, yw tua £175,000 o’i gymharu ag £83,000 yn Rhondda Cynon Taf, neu £75,000 ym Merthyr Tudful lle mae swyddi’n brinnach.

Enghraifft glir arall yw Papur Gwyn diweddar Llywodraeth Cymru ar roi pwerau i awdurdodau lleol leihau’r oedran pleidleisio mewn etholiadau lleol.

Er gwaethaf pwysigrwydd materion lleol i bobl ifanc, er bod 73% o bobl ifanc 18-24 oed yn ymwybodol o ymgyrch gofrestru’r Comisiwn Etholiadol yn etholiadau lleol Cymru yn 2012, roedd y nifer a fwriadodd bleidleisio ymhlith y grŵp hwn yr isaf o blith yr holl grwpiau oedran. Dengys canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru (2015) taw dim ond 5% o bobl ifanc 16-24 oed sydd wedi cysylltu â’u cynghorydd lleol dros y 12 mis diwethaf, o’i gymharu ag 11% o bobl 24-44 oed, 14% o bobl 45-65 oed ac 18% o bobl 65-74 oed. Dim ond 15% o bobl 16-24 oed sy’n cytuno’n gryf eu bod yn deall yr hyn y mae eu cynghorydd lleol yn ei wneud, o’i gymharu ag 18% o bobl 25-44 oed, 28% o bobl 45-64 oed a 40% o bobl 65-74 oed. Y grŵp oedran ieuengaf yw’r un sydd wedi’i ymgysylltu leiaf ac yn gwybod lleiaf am ganlyniadau a goblygiadau etholiadau lleol, ynghyd ag effaith penderfyniadau lleol ar bobl ifanc, ac mae blogiau blaenorol ar y wefan hon wedi amlygu’r cysylltiad rhwng materion gwleidyddol sy’n peri pryder i bobl ifanc a llywodraethiant lleol.

Yn gryno, mae materion lleol yn rhan o lunio dyfodol pobl ifanc a’u syniadau am wleidyddiaeth, ond mae nifer y bobl ifanc sydd wedi’u datgysylltu o etholiadau lleol yng Nghymru cyn waethed ag ydyw ag unrhyw ffurf arall ar gyfranogiad democrataidd nad yw’n cynnwys mater pendant ac ymgyrch danllyd (gweler y refferenda eraill ar annibyniaeth i’r Alban a gadael yr UE).

A fydd Brexit yn newid hyn?

O ran meddwl am sut y gallai Brexit effeithio ar gynnwys pobl ifanc mewn etholiadau lleol mae’n werth edrych yn ôl at ganlyniadau refferendwm 2016.

O’r pum awdurdod lleol a bleidleisiodd i aros yn yr UE (Gwynedd, Ceredigion, Bro Morgannwg, Caerdydd a Sir Fynwy), dim ond yng Nghaerdydd y mae dros 10% o’r boblogaeth yn 16-24 oed. Mae gan Wynedd, Ceredigion a Chaerdydd oll brifysgolion, sy’n golygu bod crynodiad o bleidleiswyr sy’n fyfyrwyr, sy’n egluro’n rhannol y bleidlais i ‘aros’ yn yr ardaloedd hyn.

O ystyried hyn, gallai’r un poblogaethau fod yn fwy tebygol o bleidleisio ar 4 Mai, ar ôl cael eu siomi gan y bleidlais Brexit.

O’r pum awdurdod lleol hyn, arweinir Caerdydd a Bro Morgannwg gan Lafur (o blith 10 awdurdod lleol a arweinir gan Lafur yng Nghymru). Yng Ngwynedd, mae gan Blaid Cymru 49% o’r seddi, ac yng Ngheredigion mae ganddi 45%. Yn Sir Fynwy, mae gan y Ceidwadwyr 44% o’r seddi.

Ar ôl refferendwm yr UE, o ran pobl ifanc yng Nghymru a bleidleisiodd i aros, ac sy’n fwy tebygol o gefnogi Brexit ‘meddal’, mae’r pleidiau canlynol yn annhebygol o ddenu cefnogaeth o’u plith yn yr etholiadau sydd i ddod: UKIP a’r blaid Geidwadol sy’n pwyso am Brexit ‘caled’ a Llafur a gefnogodd Brexit ‘caled’ yn Nhŷ’r Cyffredin.

I’r un bobl ifanc hynny, mae’r pleidiau canlynol yn debygol o fod yn opsiynau deniadol: Plaid Cymru, sydd bellach yn pwyso dros refferendwm ar annibyniaeth ar adeg pan fo canlyniadau polau’n dangos cynnydd bach yn y gefnogaeth i annibyniaeth ymhlith y Cymry, a gallai’r Alban gael refferendwm yn 2018; y Democratiaid Rhyddfrydol sy’n arddel Brexit meddal yn gryf; a’r Blaid Werdd sydd hefyd yn cefnogi Brexit meddal.

O ystyried canlyniadau polau a gasglwyd yn Chwefror 2016 a pholau diweddarach yn Ionawr 2017, gallwn weld y newid canlynol yng nghefnogaeth y pleidiau gwleidyddol ymhlith pobl ifanc 18-24 oed yng Nghymru:

Chwefror 2016 Ionawr 2017
Llafur 33 30(-3)
Ceidwadwyr 21 26(+5)
Plaid Cymru 23 18(-5)
UKIP 11 7(-4)
Dem Rhydd 11 13(+2)
Gwyrdd 1 4(+3)

 

Efallai ei bod yn syndod i Lafur, Plaid Cymru ac UKIP golli cefnogaeth ymhlith y grŵp iau, gyda’r gostyngiad mwyaf i gefnogaeth Plaid Cymru. Mae’r Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd oll wedi ennill cefnogaeth, gyda’r cynnydd mwyaf o 5% i’r Ceidwadwyr.

Os yw Brexit yn dylanwadu ar gefnogaeth bleidiol ymhlith pobl ifanc, o ystyried bod y rhan fwyaf o bobl ifanc wedi cefnogi aros yn yr UE ac o ganlyniad eu bod yn fwy tebygol o gefnogi Brexit meddal, mae’r newid yng nghefnogaeth y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru’n syndod.

O ran y nifer a bleidleisiodd yn Chwefror 2016, dywedodd 9% o bobl ifanc 18-24 oed yng Nghymru na fyddent yn pleidleisio, ac nid oedd 19% yn gwybod p’un ai a fyddent yn pleidleisio pe cynhelid etholiad. Erbyn mis Ionawr eleni, mae’r ganran na fyddai’n pleidleisio wedi bron dyblu i 16% ond mae’r ganran nad ydynt yn gwybod wedi lleihau i 16%.

Dengys hyn ostyngiad posibl yn nifer y bobl ifanc 18-24 oed fydd yn pleidleisio yng Nghymru ar ôl refferendwm yr UE. Mae hefyd yn dangos lleihad yn yr ansicrwydd ynghylch pleidleisio a chynnydd yn y nifer nad ydynt am bleidleisio. Er bod y newidiadau hyn yn fach ac y gallent newid wrth agosáu at yr etholiadau lleol, ar hyn o bryd maent yn awgrymu cwymp yn nifer y bobl ifanc fydd yn pleidleisio yng nghyd-destun Brexit.

Mae’r canlyniadau hyn yn awgrymu fod Brexit prin wedi cael effaith ar ddewis pleidiol a’r tebygolrwydd o bleidleisio. Ar hyn o bryd, mae’r patrymau pleidleisio ymhlith pobl ifanc yn yr etholiadau lleol sydd i ddod yr un mor debygol o gael eu hennyn gan faterion sydd heb eu cysylltu â Brexit, neu wedi’u cysylltu’n anuniongyrchol â Brexit, ag yr ydynt gan y DU yn gadael yr UE.

Ymddangosodd y post hwn yn gyntaf ar flog WISERD.

Mae’r cofnod hwn yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Prifysgol Caerdydd.

Mae Dr Sioned Pearce yn Gydymaith Ymchwil yn Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru  (WISERD). Yn ddiweddar enillodd WISERD arian gan yr ESRC i gynnal astudiaeth amlddisgyblaeth newydd ar sut y mae pobl ifanc yn y DU yn teimlo ynghylch, ac yn ymateb i, fater polisi mwyaf y Senedd hon: ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *