Cymunedau a Diwylliant

Brexit a Phobl Cymru: Beth Rydym yn ei Wybod? Beth Gallem ei Wybod?

Roedd canlyniadau 23 Mehefin 2016 yn glir: pleidleisiodd 52.5% o boblogaeth Cymru i adael yr Undeb Ewropeaidd ac er bod awgrym o ‘Bregret’ am ychydig, ymddengys mai prin y bu newid yn y farn gyhoeddus ers hynny. Yma mae’r Athro Roger Scully yn ystyried beth mae’r arolygon barn yn ei ddweud wrthym ar hyn o bryd ac yn nodi sut bydd ymchwil ansoddol a meintiol newydd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yn dechrau holi beth mewn gwirionedd y mae etholwyr Cymru yn ei wybod, yn ei deimlo ac yn ei ddeall am Brexit.

Drysodd pleidlais Brexit Cymru yr hyn yr oedd holl elît gwleidyddol Cymru bron i gyd yn ei argymell, a gwrth-ddweud hunanddelwedd Cymru fel cenedl o blaid Ewrop yr oedd llawer o’r elît hwnnw’n ei hyrwyddo. Ond cynhyrchodd ganlyniad yn y refferendwm a oedd yn adlewyrchu bron yn berffaith yr un a gafwyd yn y DU yn ei chyfanrwydd.

Drysodd pleidlais Brexit Cymru yr hyn yr oedd holl elit gwleidyddol Cymru bron i gyd yn ei argymell, a gwrth-ddweud hunanddelwedd Cymru fel cenedl o blaid Ewrop yr oedd llawer o’r elit hwnnw’n ei hyrwyddo. Cynhyrchodd Cymru ganlyniad yn refferendwm yr UE ym mis Mehefin 2016 (Gadael 52.5% i Aros 47.5% ) a oedd yn adlewyrchu bron yn berffaith yr un a gafwyd yn y DU yn ei chyfanrwydd.

Roedd yr arolygon barn rheolaidd yng Nghymru, Baromedr Gwleidyddol Cymru (ffrwyth cydweithio rhwng ITV Cymru-Wales, YouGov, a Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd) wedi awgrymu’n gywir y byddai canlyniad y refferendwm yng Nghymru yn agos, gyda siawns o ddifrif y byddai Gadael yn ennill y dydd. Ers hynny maent wedi parhau i ofyn cwestiynau sy’n gysylltiedig â Brexit.

Beth mae’r canlyniadau yn ei awgrymu am y farn sy’n esblygu sydd gan bobl yng Nghymru?

Mae’r tri arolwg a gynhaliwyd yng Nghymru ers y refferendwm wedi holi sut gallai pobl bleidleisio petai refferendwm Brexit yn cael ei ail-redeg. Ar ôl awgrym o ‘Bregret’ am ychydig yn yr arolwg cyntaf o’r fath, mae pethau fel petaen nhw wedi dychwelyd fwy neu lai i’r man lle roedden nhw:

BrexitGraphsCym-1

Yn aml gall sefydlogrwydd cyfanredol o’r fath mewn arolygon guddio ‘corddi’ enfawr ar lefel unigol: gall llawer o bobl newid eu meddyliau ond ar y cyfan maen nhw’n diddymu ei gilydd. Fodd bynnag yn yr achos hwn nid dyna sydd wedi digwydd. Ychydig iawn o bobl sydd wedi newid eu meddyliau ers mis Mehefin diwethaf; mae mwyafrif llethol y pleidleiswyr Aros a Gadael yn dangos y byddent yn dal i bleidleisio yn yr un modd mewn refferendwm arall. Ac mae’r rhaniad parhaus yma rhwng Gadael ac Aros yn berthnasol i agweddau mwy cyffredinol yn ogystal.

Er enghraifft, pan oedd yr arolwg barn diwethaf yn cynnig nifer o opsiynau i bobl ar gyfer y math o fargen Brexit y dylai’r DU geisio ei chael, nid oedd consensws clir ynghylch un dewis, ac roedd y diffyg cytuno hwn yn adlewyrchu barn wahanol iawn ymysg pleidleiswyr Aros a Gadael:

BrexitGraphsCym-2

Felly mae dros dri chwarter y pleidleiswyr Aros yn ffafrio naill ai Brexit ‘meddal’ neu ddim Brexit o gwbl, tra mae cyfran hyd yn oed yn uwch o bleidleiswyr Gadael yn dewis rhyw ffurf ar ‘Brexit caled’.

Yn yr un modd, os ydym yn holi pobl am flaenoriaeth gymharol masnach rydd neu reolaeth dros ffiniau, mae safbwyntiau pleidleiswyr Aros a Gadael yn wahanol iawn:

BrexitGraphsCym-3

Ac mae’r gwahaniaethau hyn hefyd yn berthnasol i ddisgwyliadau am y dyfodol. Pan ofynnwyd am effaith Brexit ar Gymru, mae safbwynt pleidleiswyr Aros yn llawer mwy pesimistaidd:

BrexitGraphsCym-4

Ac mae bylchau canfyddiad tebyg yn ymwneud hyd yn oed ag effaith bersonol Brexit: er bod pleidleiswyr Aros yn tueddu i fod yn fwy cefnog na phleidleiswyr Gadael ar gyfartaledd, maent yn disgwyl i Brexit gael effaith fwy negyddol ar eu sefyllfa nhw eu hunain:

BrexitGraphsCym-5

Yn gryno, ar y cyfan, ychydig iawn o newid agweddau a welwn yng Nghymru ers mis Mehefin diwethaf. Yn fwy trawiadol, gwelwn nad oes arwyddion gwirioneddol eto fod consensws cyhoeddus ynghylch Brexit yn dod i’r amlwg: Mae pleidleiswyr Aros a Gadael yn ymddangos yn fwy, yn ôl geiriau enwog Disraeli, fel “dwy wlad lle nad oes dim ymwneud a dim cydymdeimlad rhyngddynt; sy’n gwybod dim am arferion, meddyliau, a theimladau ei gilydd, fel petaen nhw’n breswylwyr mewn parthau gwahanol, neu’n drigolion planed wahanol”.

Eto mae llawer nad ydym yn ei wybod o hyd.

Ychydig a wyddom am lefelau gwybodaeth a dealltwriaeth y cyhoedd am y materion sy’n ymwneud â Brexit. Ac nid oes gennym lawer o syniad eto pa mor hydrin y gallai’r agweddau hynny fod yn wyneb digwyddiadau allanol.

O gofio mai Brexit, siŵr o fod, fydd y mater gwleidyddol ac economaidd diffiniol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, mae Prifysgol Caerdydd wedi darparu cyllid a gaiff ei ddefnyddio i gynnal ymchwil llawer mwy manwl er mwyn ceisio datblygu ein gwybodaeth ymhellach.

Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r arolygon Baromedr i olrhain tueddiadau cyffredinol eang yn rheolaidd ond byddwn hefyd yn cynnal arolwg academaidd manylach i edrych yn fwy trwyadl ar wybodaeth ac agweddau. A hefyd byddwn yn cynnal rhywfaint o waith grŵp ffocws ansoddol, gan ganolbwyntio i ddechrau ar bleidleiswyr Gadael yn y cymoedd a bleidleisiodd mor drwm dros Brexit.

Mae cymaint yn fwy i’w ddysgu yn y maes hwn, a bydd Prifysgol Caerdydd yn arwain y ffordd wrth wneud hynny.

Mae’r cofnod hwn yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Prifysgol Caerdydd. 

Mae’r Athro Roger Scully yn Athro Gwyddor Wleidyddol ac yn Gyfarwyddwr Dros Dro, Canolfan Llywodraethiant Cymru, sydd wedi’i lleoli yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Ef yw’r Prif Ymchwilydd ar gyfer Astudiaeth Etholiadau Cymru 2016. Mae Roger hefyd yn rhedeg Blog Etholiadau yng Nghymru

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *