Datganoli a'r Cyfansoddiad

Brexit a Chymru

Ar ôl rhoi cychwyn ar Erthygl 50, bydd y trafodaethau ffurfiol ar Brexit yn dechrau. Bydd hyn yn cael canlyniadau pellgyrhaeddol ar Gymru a chenhedloedd datganoledig eraill.  Mae Dr Jo Hunt yn edrych ar broblemau gan gynnwys aelodaeth cenhedloedd datganoledig â’r Farchnad Sengl, ac yn ystyried y cyfleoedd a’r bygythiadau y bydd Brexit yn eu cynnig i Gymru.

Ar 23 Mehefin 2016, pleidleisiodd Cymru dros weld y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Gan fod mwyafrif yng Nghymru, 52.5%, o blaid gadael, mae’n wahanol i’r cenhedloedd datganoledig eraill a bleidleisio dros aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Efallai bod y bleidlais yng Nghymru wedi peri cryn syndod. Wedi’r cwbl, mae wedi cael ei hystyried ers cryn amser fel cenedl fach adain chwith sydd o blaid Ewrop. Yn ogystal, yn wahanol i weddill y DU, mae wedi cael mwy o arian o’r UE na faint mae wedi ei roi iddo.

Tra bod cost yn gysylltiedig â bod yn aelod o’r UE, yn ystod y cyfnod ariannu cyfredol (2014-2020), mae hynny wedi dod â thua £3bn yn ôl i Gymru. Gwelir hyn yn arbennig drwy gronfeydd a buddsoddiad strwythurol ar gyfer datblygiad economaidd rhanbarthol a thrwy gyllid i amaethyddiaeth. Fodd bynnag, roedd barn y cyhoedd yng Nghymru yn debycach i farn Lloegr ar broblemau hollbwysig fel mewnfudo, er bod gan Gymru rai o’r lefelau isaf o fewnfudwyr yn y DU.

Roedd pleidlais Cymru dros adael hefyd yn golygu bod barn wahanol gan y cyhoedd â sefydliad gwleidyddol Cymru (ar wahân i arweinydd Ceidwadwyr Cymru) a oedd bron yn unfrydol yn gweld dyfodol Cymru yn rhan o’r UE a’r Farchnad Sengl.

Mae’r Farchnad Sengl yn cael ei diffinio yng Nghytundebau’r EU fel ‘ardal heb ffiniau mewnol, lle gwarentir symudiad rhydd nwyddau, gwasanaethau, pobl a chyfalaf.’ Fe’i dyluniwyd i ail-greu amodau masnachu un wlad rhwng y 28 gwladwriaeth sy’n aelod, yn ogystal â’i 500 miliwn o bobl. Ni ddylai fod unrhyw dariffau, o ddiffyndollaeth a gwahaniaethu wrth fasnachu yn y Farchnad Sengl.  Mae rheolau cyffredin yr UE neu’r ffaith bod y gwladwriaethau yn cydnabod rheolau ei gilydd fel rhai cyfatebol, yn mynd i’r afael â’r problemau posibl a allai godi wrth i gynnyrch deithio rhwng gwladwriaethau sydd â gwahanol ddeddfau.

Ym mis Ionawr, daeth Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ynghyd i gyflwyno’r Papur Gwyn ar ‘Ddiogelu Dyfodol Cymru.’ Mae’r papur yn nodi’n glir y flaenoriaeth dros gadw mynediad busnesau Cymru at y Farchnad Sengl. Mae manteision masnachu heb dariffau o fewn strwythur rheoleiddio cyffredin yn hanfodol ar gyfer llwyddiant diwydiannau fel bwyd-amaeth, haearn a dur yng Nghymru. Mae hefyd yn bwysig wrth ddenu buddsoddiad gan gwmnïau y tu allan i’r UE i Gymru.

Fodd bynnag, mae’r Prif Weinidog wedi pwysleisio nad yw Llywodraeth y DU o blaid aros yn rhan o’r Farchnad Sengl ar y telerau hyn. Disgwylir y bydd y DU yn gadael y Farchnad Sengl a’r undeb tollau. Mae’r UE yn ystyried symudiad rhydd nwyddau, gwasanaethau, pobl a chyfalaf fel elfennau na ellir eu gwahanu oddi wrth ei gilydd, gan olygu na fydd gan y DU y reolaeth yr hoffen nhw ei chael dros fewnfudo. Mae aelodaeth â’r undeb tollau er hyn yn cyfyngu ar allu cyfreithiol y wlad i negodi cytundebau masnachol unochrog – gan rwystro’r DU rhag gwneud cytundebau masnach fyd-eang ei hun.

Wrth edrych i gyfeiriad y gogledd, mae’r Alban, fel Cymru, hefyd yn ffafrio ‘Brexit’ ysgafn, yn hytrach na’r Brexit ‘caled’ fel sy’n debygol o ddigwydd ar hyn o bryd. Mae Cymru a’r Alban wedi dweud y byddent yn hoffi gweld y DU yn aros yn rhan o’r Farchnad Sengl drwy ymaelodi â Chymdeithas Masnach Rydd ac Ardal Economaidd Ewrop yn sgîl hynny.  Mae’r Alban wedi cymryd cam ymhellach eto, ac wedi gofyn am drefniant gwahanol iddynt fod yn rhan o Ardal Economaidd Ewrop ar ben ei hun os yw’r DU yn penderfynu gadael. Yn sicr nid yw safbwynt Llywodraeth y DU yn rhagweld cytundeb gwahaniaethol rhwng rhannau o’r DU â’r Farchnad Sengl a rhai yn aros allan. Yn hytrach, maen nhw’n mynd ymlaen ac yn ystyried y DU yn ei chyfanrwydd gyda chyfle i’r cenhedloedd datganoledig ddweud eu barn drwy Gyd-bwyllgorau’r Gweinidogion er nad yw’r rhain yn cael eu gwthio o’r canol nac yn fforymau cydweithio addas.

Er nad yw aelodaeth Cymru â’r Farchnad Sengl a’r undeb tollau yn cael ei hystyried ar hyn o bryd, mae’r potensial i wahaniaethu yn dod yn fwyfwy amlwg gyda Brexit. Hynny yw, i’r cenhedloedd datganoledig gael polisïau gwahanol ar feysydd fel amaethyddiaeth a’r amgylchedd. Mae hyn oherwydd bod y broses barhaus o drosglwyddo pwerau’r cenhedloedd datganoledig o Lundain i Gaerdydd, Caeredin a Belfast wedi digwydd yng nghyd-destun aelodaeth y DU yn yr UE. Mae cyfraith yr UE wedi gosod ffiniau pwysig ar sut y caiff cenhedloedd datganoledig ddefnyddio eu pwerau.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru yn nodi’n glir na all Cymru gyflwyno unrhyw fesur sy’n torri cyfraith yr UE. Er enghraifft, drwy darfu ar lwyddiant y Farchnad Sengl. Yn ogystal, mewn rhai meysydd sy’n derbyn llawer o gefnogaeth gan Ewrop, ac sydd hefyd yn feysydd datganoledig fel amaethyddiaeth a’r amgylchedd, mae Cymru wedi bod yn effeithiol iawn wrth roi penderfyniadau a wneir mewn mannau eraill ar waith. Felly, gallai dychwelyd y pwerau hyn o Frwsel o ganlyniad i Brexit, weld mwy o benderfyniadau yn cael eu gwneud yng Nghaerdydd. Er enghraifft, gall Cymru ddatblygu dull unigryw o ddiogelu’r amgylchedd a gwneud penderfyniadau gwahanol i’r DU ar bolisi amaethyddol.

Yn amlwg, oni bai bod Cymry hefyd yn cael yr adnoddau ariannol i weithredu’r polisïau hyn, ni fydd gweld y cymwyseddau yn dychwelyd i’r cenhedloedd datganoledig yn ymddangos mor ddeniadol wedi’r cyfan. Dim ond gwaethygu y bydd unrhyw broblemau cymhwysedd yn y byd gwleidyddol yng Nghymru os oes mwy o gyfrifoldebau ganddynt.

Ymhellach, nid oes unrhyw sicrwydd y bydd y pwerau yn dychwelyd i’r cenhedloedd datganoledig yn unol â dosbarthiad y pwerau yn Neddf Cymru.  Efallai y bydd ymdrech i ailganoli polisi, a dychwelyd pwerau i Lundain. Mae’n bosibl bod y Prif Weinidog wedi rhagweld y bydd Brexit yn ‘dychwelyd y pwerau cywir i San Steffan, a bydd y pwerau cywir yn cael eu rhoi i weinyddiaethau datganoledig yr Alban, Cymru ac Iwerddon.’ Er hyn, mae’n bosibl y bydd rhai yn gul eu meddwl ar beth fydd yn dychwelyd i Gymru. Hyd yn oed os bydd yr holl bwerau yn cael eu dychwelyd, mae’n glir y bydd mesurau newydd yn cael eu rhoi ar sut y bydd y pwerau hynny’n cael eu defnyddio. Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi nodi’n glir na fydd unrhyw rwystrau newydd ar fyw a masnachu o fewn y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit. Mae undeb economaidd y DU, a’r farchnad fewnol yn cael eu cynnal ar hyn o bryd drwy weithredu cyfraith yr UE. Drwy golli fframwaith yr UE, a rhoi pwerau datganoledig i genhedloedd y DU, gallai hynny arwain at ymatebion gwahanol ar reoleiddio, a’i gwneud yn anoddach ac yn ddrytach i fasnachu yn y DU. Felly, efallai y byddai’n addas creu egwyddor masnachu fewnol ar lefel genedlaethol yn y DU, a fydd angen mecanweithiau sefydliadol i’w gefnogi.

Gall hyn arwain at ddefnyddio rhai o’r sefydliadau sydd wedi gweithio gyda’r DU yn y gorffennol, ac sydd wedi bod yn rhan o broses cynllunio a negodi Brexit.

Yn dilyn y penderfyniad terfynol ar Ddeddf Cymru 2017, mae Confensiwn Sewel, sy’n nodi na fydd Senedd San Steffan yn gwneud deddfau ar faterion datganoledig heb ganiatâd y cenhedloedd datganoledig, bellach yn ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, fel y nodwyd yn y Goruchaf Lys yn achos Erthygl 50 Miller, dim ond hyn a hyn y mae’n gallu gwneud i ‘ddiogelu’ pwerau Cymru. Nodwyd yn yr achos hwn nad yw rhoi confensiwn mewn deddfwriaeth yn gwneud dim wrth orfodi’r rheolau – dim ond pŵer gwleidyddol sydd ganddo ac ni all y Llysoedd ei orfodi.

Yn sicr, nid oedd hawliau gan Gymru, yr Alban nac Iwerddon ynglŷn â rhoi cychwyn ar Erthygl 50. Ni fydd hawliau ganddynt chwaith wrth gytuno’n derfynol ar Brexit nac ar y ddeddfwriaeth a fydd yn dileu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a wnaeth sicrhau lle’r DU yn yr UE. Mae’r cyfan yn dibynnu ar wleidyddiaeth.

 

Ymddangosodd yr erthygl hon yn gyntaf yn agenda Gymreig y Sefydliad Materion Cymreig. 

Mae’r cofnod hwn yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Prifysgol Caerdydd.

Mae Dr Jo Hunt yn Ddarllenydd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd ac yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru. Mae hi’n Uwch Gymrawd DU ym Menter Ewrop sy’n Newid yng Nghanolfan Hyfforddi Ddoethurol Cymru (ESRC).

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *