Brexit, Economi a Masnach

Cymru a’r Farchnad Sengl: Asesiad o’r Bygythiad

Yn ôl Calvin Jones, mae disgwyl i Gymru golli mwy nag unrhyw ran arall o’r DU, o ganlyniad i’r penderfyniad i adael, yn enwedig os anwybyddir dymuniad Llywodraeth Cymru i aros yn rhan o’r Farchnad Sengl o blaid Brexit ‘caled.’

Wrth inni gychwyn ar y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd, mae mwy o sylw yn cael ei roi i’r agweddau gwahanol sydd rhwng gwledydd y DU ac effeithiau Brexit arnynt.

Yn yr Alban, mae’r sylw ar yr agweddau ond yng Nghymru, yr effeithiau sy’n hawlio’r sylw. Mae Cymru am golli nifer o fanteision o fod yn rhan o’r UE, a bydd hyn yn digwydd beth bynnag fo natur Brexit. Mae’r manteision hyn yn cynnwys taliadau i bysgodfeydd ac amaethyddiaeth (i ffermydd bach yn bennaf), cymorth Datblygu Gwledig; Cronfeydd Strwythurol fel ERDF ac ESF, ac arian ymchwil.

Gyda’i gilydd mae’r rhain werth dros £500m y flwyddyn o gyllid ychwanegol i Gymru. Fodd bynnag, byddai gan Brexit ‘caled’ oblygiadau arwyddocaol ychwanegol, wrth osod y DU y tu allan i ffiniau tariff yr UE.

Ie… allforion

Wrth ystyried allforion, mae Cymru’n dibynnu llawer yn fwy ar yr UE ar gyfer ei marchnad allforio na’r DU ar gyfartaledd. Mae dwy ran o dair o allforion Cymru yn mynd i’r UE, o’i gymharu â ffigwr y DU sydd ychydig yn is na 50%. Roedd allforion Cymru i’r byd gwerth £12.3bn. Un o’r nifer bychan o fanteision economaidd rhanbarthol yw allforion.

Yn ogystal ag allforion uniongyrchol i’r UE a thu hwnt, mae Cymru yn creu nifer o gynhyrchion canolradd sy’n cael eu hallforio i rannau eraill o’r DU. Mae’r rhain yn cael eu gosod mewn nwyddau eraill i’w cwblhau, sydd wedyn yn cael eu hallforio. Nid oes data ar gael i amcangyfrif y gweithgaredd hwn ond efallai mai’r enghraifft fwyaf perthnasol yw Tata. Yn 2012, roedd Tata yn cefnogi 18,000 o swyddi yng Nghymru a chan fod eu cynhyrchion yn cael eu defnyddio wrth becynnu, mewn moduron, tyrbinau gwynt, offer trydanol a nifer o nwyddau eraill, roedd rhai yn cael eu hallforio i’r UE (a thu hwnt).

Yn yr Ysgol Busnes, amcangyfrifwyd gennym fod allforion rhanbarthol (gan gynnwys allforion i’r DU a’r Byd gyda’i gilydd), i’w cyfrif am 30% o’r galw diwydiannol yng Nghymru yn 2007.

Rhagolygon ar gyfer masnachu mewn Marchnad Ôl-Sengl

Ar hyn o bryd, mae’r DU yn masnachu yn yr EU heb dalu unrhyw dariffau, ac yn masnachu gyda gweddill y byd drwy dariffau a benderfynwyd arnynt gan yr UE. Mae cyfartaledd y tariff hwn 1.5% yn is na’r tariff o beidio â bod yn rhan o farchnad sengl yr UE (sydd tua 5%) ac mae’n well o lawer na chyfartaledd tariff y byd o 2.9% (yn 2012).

Ar hyn o bryd, UDA yw marchnad sengl fwyaf allforion Cymru, lle mae gan y DU cyfartaledd lefel tariff o lai na 3% gyda’r UDA, oherwydd nifer o gytundebau rhwng yr UE ac UDA.

Fodd bynnag, nid tariffau yw’r rhan bwysicaf o’r stori. Awgryma tystiolaeth a gasglwyd o’r Bartneriaeth Masnach a Buddsoddiad Trawsatlantig (TTIP) mai’r broblem fwyaf sy’n wynebu effeithlonrwydd masnach yw’r rhwystrau nad ydynt yn ymwneud â thariffau.

Y tu allan i’r Farchnad Sengl, bydd angen i’r DU (neu ei chwmnïau) drafod telerau nad ydynt yn ymwneud â thariffau i gael mynediad at farchnad y UDA a phob gwlad arall neu flociau masnach eraill. Bydd angen gwneud hyn ar lefel pob cynnyrch unigol. Bydd hyn yn cynnwys cymeradwyo’r math o gynnyrch a’r cynnyrch ei hun, eiddo deallusol, labelu a phecynnu, trwyddedu ac ati. Bydd hyn yn ychwanegol at drafod y tariffau (neu ddiffygdalu lefelau uwch Sefydliad Masnach y Byd).

Gall y broses o gael mynediad at farchnad gymryd blynyddoedd, ac mae angen bod yn fedrus wrth wneud hyn, hyd yn oed o fewn yr UE ac i sectorau cymharol syml fel dillad. Nododd Laura Tennison MBE hyn yn ei darlith Cartref Arloesedd diweddar ym Mhrifysgol Caerdydd.  Ceir peth tystiolaeth nad oes gan Lywodraeth y DU y gallu i helpu cwmnïau yn y maes hwn, neu gynnal y trafodaethau hyn yn foddhaol.

A’r economi wledig?

Gall mynediad tariff am ddim i fwyd a chynhyrchion amaethyddol eraill o du allan i’r UE (os cytunir ar delerau), leihau costau i ddefnyddwyr yn y DU. Yn baradocsaidd efallai, canlyniad llwyddiannus i drafodaethau ar delerau masnachu rhydd ehangach – er enghraifft gydag Awstralasia – gallai niweidio ardaloedd gwledig yng Nghymru yn sylweddol. Er enghraifft, marchnad yr UE yw’r farchnad fwyaf o bell ffordd i wlân, cig a chynhyrchion gardd Awstralasia, er bod tariffau arnynt (12.8% i gig oen) a chwota i’r UE i gyd.

Byddai cig oen heb dariffau a chwota o Seland Newydd yn y DU (wedi ei gynhyrchu heb gymorthdaliadau ar ffermydd effeithlon a’u cludo i’r DU yn oer ac ar gost isel) fwy neu lai yn dinistrio’r farchnad cynnyrch pwysicaf i nifer o ffermydd bach Cymru. Byddai hyn yn digwydd ar yr un pryd â chyflwyno newidiadau sylweddol i gymorthdaliadau incwm i ffermydd (a gostyngiad posibl iddynt). O safbwynt economegydd, mae’r cynnydd yn yr effeithlonrwydd hwn yn newyddion da. Fodd bynnag, ni fydd yn newyddion cystal o safbwynt cymdeithasol, diwylliannol ac ieithyddol yn ôl pob tebyg.

Caffael

Rydym yn aml yn clywed bod Cyfarwyddiadau’r UE ar gaffael cyhoeddus yn cyfyngu ar lefelau uwch o gyrchu lleol a datblygiad economaidd lleol yn sgîl hynny.  Mae ymlyniad wrth Gyfarwyddiadau o’r fath yn rhan o fod yn aelod o’r Farchnad Sengl, ac felly gallai Brexit fod yn gyfle da. Fodd bynnag mae’n werth nodi:

Awgrymir uchod bod yn rhaid i’r sector cyhoeddus yng Nghymru weithio’n hynod o galed – ac yn wahanol iawn – er mwyn troi unrhyw fantais ddamcaniaethol o safbwynt caffael o ganlyniad i Brexit yn realiti.

Mae disgwyl y bydd Cymry yn colli mwy nag unrhyw ran arall o’r DU wrth adael yr UE. Os bydd hyn yn cynnwys gadael y Farchnad Sengl, bydd y colledion i arian adeiladu ac arian i ardaloedd gwledig yn gwaethygu o ganlyniad i’r amharu sylweddol ar fasnach dros nifer o flynyddoedd mewn sectorau economaidd, amgylcheddol a diwylliannol o bwys. Nid mynediad at yr EU ei hun sy’n hanfodol yma, ond y mynediad at y marchnadoedd trydydd parti a gynigir gan yr EU. Yn aml iawn, nid oes rhwystrau na thariffau mawr yn gysylltiedig â nhw.

Mae Cymru yn gyfyng o ran ei gallu i symud yn gyflym er mwyn cipio cyfleoedd yn y sector cyhoeddus ac ym myd diwydiant.  Fel y mae’r Prif Weinidog wedi ei nodi, ni fydd gan bobl a sefydliadau yng Nghymru lawer o ddylanwad ar sut y bydd gadael y Farchnad Sengl yn edrych gan fod y prif benderfyniadau yn cael eu gwneud yn San Steffan, Brwsel, Mwmbai neu Toulouse. Mae’n debygol y bydd unrhyw ostyngiad mewn mynediad at y Farchnad Sengl a’r manteision o fod yn rhan ohoni i fasnach trydydd parti, yn achosi niwed sylweddol ar economi Cymru; yn enwedig yn y tymor byr a chanolig.

Calvin Jones, Athro Economeg, Ysgol Busnes Caerdydd.  

Mae’r cofnod hwn yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Prifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *