
Yn sgil y bleidlais yng Nghymru o blaid gadael yr UE, mae Dr Rachel Minto yn trafod yr her y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu wrth iddi geisio parhau i gael ei hystyried yn un o genhedloedd Ewrop.
Cymru – cenedl fach ond hyderus, o blaid Ewrop.
Ar un adeg, nid oedd unrhyw un yn herio’r syniad hwn. Heddiw, fodd bynnag, wrth i ni ddechrau’r trafodaethau ynglŷn â gadael yr UE yn sgil y refferendwm, mae’n anodd dweud hynny gydag argyhoeddiad.
Yn wir, er gwaethaf brwdfrydedd y dosbarth gwleidyddol yng Nghymru dros yr UE, er gwaethaf yr ymdrech i bortreadu Cymru fel cenedl Ewropeaidd ar lefel ryngwladol, ac er gwaethaf y miliynau o bunnoedd gan yr UE bob blwyddyn, nid oes modd dianc rhag yr hyn sy’n anochel.
Pleidleisiodd Cymru i Adael.
Roedd rhai’n ei chael hi’n anodd credu canlyniad Refferendwm yr UE yng Nghymru: roedd twrcïod wedi pleidleisio o blaid y Nadolig; roedd Cymru wedi gwneud niwed mawr i’w hun. Wrth gwrs, cafodd y canlyniad ei groesawu gan eraill; yn enwedig y mwyafrif o’r rhai a bleidleisiodd yng Nghymru ac a ddeffrodd ar 24 Mehefin 2017 ar ‘y tîm a enillodd‘ refferendwm yr UE.
I Lywodraeth Cymru, mae’r daith naw mis rhwng 24 Mehefin a heddiw wedi bod yn hir ac yn arw. Rhaid cyfaddef eu bod mewn sefyllfa annymunol: maent yn gorfod taro cydbwysedd rhwng eu dymuniad i’r DU barhau’n aelod o’r UE, a realiti’r bleidlais yng Nghymru o blaid Gadael.
Ar ôl ambell i fagliad a cham gwag, cafwyd rhyw fath o gyfaddawd rhwng y ddau nod gwrthwynebol ar ffurf y Papur Gwyn a gyhoeddwyd ar 23 Ionawr 2017. Yn y papur hwn cyflwynodd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Phlaid Cymru, eu cynllun ar gyfer Brexit yng Nghymru: ‘Diogelu Dyfodol Cymru: Pontio o’r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop’. Roedd y cynllun hwn yn trafod perthynas y DU â’r UE yn y dyfodol, a sut ddylai’r DU weithredu’n fewnol ar ôl Brexit, ar ffurf undeb o bedair cenedl.
Mae’r weledigaeth Gymreig hon o Brexit yn cyferbynnu’n llwyr â’r Brexit a gynigiwyd gan Brif Weinidog y DU yn ei haraith yn Lancaster House, a’r Papur Gwyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar ôl hynny.
Yn wahanol i Lywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru o blaid parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau. Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd parhau i roi’r hawl i bobl symud yn rhydd, ond ar sail cysylltiad cryfach rhwng rhyddid i symud a chyflogaeth na’r system sydd ar waith yn y DU ar hyn o bryd.
Mae’n dadlau y dylai Cymru barhau i gymryd rhan mewn nifer o raglenni UE, gan gynnwys Horizon 2020 (ar gyfer gwyddoniaeth ac ymchwil), ERASMUS+ (addysg a hyfforddiant), Ewrop Greadigol (cefnogi’r sectorau diwylliannol a chreadigol) a’r Rhaglen Cymru-Iwerddon. Yn ogystal â hynny, mae’n dadlau y dylai’r DU barhau i fod yn bartner ym Manc Buddsoddi Ewrop.
At hynny, mae’r Papur Gwyn yn tynnu sylw at ba mor werthfawr yw’r safonau cymdeithasol ac amgylcheddol a geir drwy fod yn aelod o’r UE; er mai dim ond rhwyd arbed yw’r rhain ar adegau, mewn achosion lle mae’r safon yn y DU yn uwch ar hyn o bryd. Daw’r haeriad hwn gan Gymru wrth i Brif Weinidog y DU awgrymu y gallai’r DU newid ei model economaidd os nad yw’n cael mynediad boddhaol at y Farchnad Sengl. Byddai hyn yn cynnwys creu amodau mwy ffafriol ar gyfer busnesau, a allai o bosibl olygu gwanhau hawliau cyflogaeth a llai o fesurau i amddiffyn yr amgylchedd.
Yn ôl y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, mae eu cynllun Brexit yn parchu pleidlais y mwyafrif yng Nghymru o blaid Gadael, ond nid yw’n dehongli’r canlyniad hwn fel pleidlais o blaid tanseilio swyddi yng Nghymru, neu o blaid niweidio gallu Cymru i allforio a denu buddsoddiadau uniongyrchol o dramor.
Canlyniad hyn yw bod y Brexit Cymreig hwn wedi’i seilio ar ymagwedd gadarnhaol at Ewrop, ac yn ddatganiad clir gan Lywodraeth Cymru bod y wlad am barhau i fod yn genedl Ewropeaidd.
Wrth gwrs, dim ond hyn a hyn o amser sydd ar ôl gan Gymru o fewn strwythur sefydliadol yr UE. Nid oes gan Gymru unrhyw allu cyfreithiol i gael perthynas annibynnol â’r UE, a phan fydd y DU yn ymadael â’r UE, bydd Cymru’n colli ei chynrychiolwyr neilltuedig yn Senedd Ewrop, ym Mhwyllgor y Rhanbarthau, a Phwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop.
Y tu hwnt i hyn, fodd bynnag, nid yw ffawd Cymru wedi’i selio eto yng nghyd-destun Ewrop.
Yn sicr, ar ôl Brexit, bydd yr UE yn llai perthnasol o safbwynt polisïau. Fodd bynnag, ni fydd Ewrop yn gwbl amherthnasol, ac mae’n debygol y bydd gan Gymru ryw fath o lais ym Mrwsel. Mae gan Gymru ei swyddfa ei hun ym Mrwsel, Tŷ Cymru. Yno, mae cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac Addysg Uwch Cymru Brwsel.
Bydd lefel a ffocws y gynrychiolaeth ar ôl Brexit yn dibynnu ar y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y pen draw; ac, y tu hwnt i hynny, ar strategaethau rhyngwladol sefydliadau o Gymru, yn enwedig Llywodraeth Cymru. Gallai strategaethau o’r fath gynnwys newid ffocws yn ein perthynas a’r rhwydweithiau sy’n gweithredu ledled Ewrop ac y tu hwnt, a meithrin partneriaethau â rhanbarthau eraill yn Ewrop, y tu mewn ac y tu allan i’r UE.
Ond mae hefyd yn bwysig cofio bod canlyniad Refferendwm yr UE yng Nghymru yn dangos rhaniad yn y genedl. Beth bynnag fydd dewis Cymru ar gyfer ei dyfodol yn Ewrop, ac ni waeth pa mor gryf yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol, bydd yn rhaid cyflawni’r agenda yng nghyd-destun y bleidlais o blaid Gadael yr UE yng Nghymru. Mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i gyfeillion Cymru yn Ewrop ei wynebu. Mae Erthygl 50 ar fin cael ei thanio, a golyga hynny fod yn rhaid codi pontydd gartref a thramor.
Mae Dr Rachel Minto yn Gydymaith Ymchwil yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a Chanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae’r cofnod hwn yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Prifysgol Caerdydd.
Sylwadau
No comments.