{"id":9999,"date":"2024-09-26T11:39:11","date_gmt":"2024-09-26T11:39:11","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9999"},"modified":"2024-09-26T11:39:11","modified_gmt":"2024-09-26T11:39:11","slug":"rhedeg-hanner-marathon-caerdydd-er-mwyn-cefnogi-ymchwil-iechyd-meddwl-yn-benderfyniad-hawdd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2024\/09\/26\/rhedeg-hanner-marathon-caerdydd-er-mwyn-cefnogi-ymchwil-iechyd-meddwl-yn-benderfyniad-hawdd\/","title":{"rendered":"Rhedeg Hanner Marathon Caerdydd er mwyn cefnogi ymchwil iechyd meddwl yn \u2018benderfyniad hawdd\u2019."},"content":{"rendered":"<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Mae Charley Bezuidenhout (Seicoleg 2022-) a Lizzy Braithwaite (Seicoleg 2022-) yn ffrindiau ac yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Maen nhw wedi penderfynu rhedeg Hanner Marathon Caerdydd 2024 gyda\u2019i gilydd er mwyn cefnogi\u2019r ymchwil iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth hanfodol sy\u2019n digwydd ar y campws. <\/strong><strong>Yn yr erthygl hon, maen nhw\u2019n trafod eu hyntiau rhedeg yn ogystal \u00e2\u2019u rhesymau dros ymuno \u00e2 Hanner Marathon Caerdydd.\u00a0 <\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Beth wnaeth eich ysbrydoli chi i gofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd a chodi arian ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd? <\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae\u2019r ddau ohonon ni yn caru rhedeg a&#8217;n cwrs \u2013 Seicoleg \u2013 felly roedd dewis rhedeg Hanner Marathon Caerdydd er mwyn cefnogi ymchwil iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth Prifysgol Caerdydd yn benderfyniad hawdd.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Ar ben hynny, mae&#8217;r ddau ohonon ni yn ymgymryd \u00e2 blwyddyn ar leoliad ymchwil gyda&#8217;r Brifysgol. Mae un ohonon ni yn gweithio yng Nghanolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) ac mae un ohonon ni yn gweithio i&#8217;r BabyLab yng Nghanolfan Gwyddoniaeth Datblygiad Dynol Prifysgol Caerdydd. Felly, mae ymchwil niwrolegol yn achos sy&#8217;n hynod o bwysig i\u2019r ddau ohonon ni!<\/p>\n<figure id=\"post-9991 media-9991\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"width: 422px;height: 347px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/09\/Charley-and-Lizzy-3.jpg\" alt=\"\" width=\"459\" height=\"378\" \/><\/figure>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Pryd dechreuoch chi redeg a pham?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><em>Lizzy:<\/em> Dechreuais i redeg rasys 5k yn ystod y cyfnod clo er mwyn cael y cyfle i fynd allan o&#8217;r t\u0177 a symud. Pan ddes i i\u2019r brifysgol, roeddwn i eisiau herio fy hun i redeg ymhellach, felly rhedais i Hanner Marathon Caerdydd ar ddechrau fy ail flwyddyn ac roeddwn i wrth fy modd gyda\u2019r profiad. Roeddwn i\u2019n arfer ystyried rhedeg yn rhywbeth diflas, ond rwy bellach yn ei garu gan ei fod yn cynnig cyfle i mi gysylltu \u00e2 fy meddyliau fy hun wrth gael ychydig o awyr iach.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae ymarfer corff a chadw&#8217;n heini wedi bod yn bwysig i mi erioed, felly mae cael nod fel rhedeg hanner marathon Caerdydd yn ysgogiad gwych. Rwy\u2019n cofio bod yn hynod o nerfus cyn rhedeg fy hanner marathon cyntaf, gan nad oeddwn i erioed wedi rhedeg mor bell o\u2019r blaen, ond roedd yr awyrgylch a\u2019r torfeydd yn bendant wedi fy ysgogi i ddal ati.<\/p>\n<p><em>Charley:<\/em> Dechreuais i redeg ym mis Ionawr eleni, a hynny fel ymdrech cryfder meddwl yn hytrach nag ymdrech cadw\u2019n heini. Er fy mod i eisiau cadw&#8217;n heini, roeddwn i hefyd eisiau cael ymrwymiad yr oedd rhaid i mi gadw ato &#8211; a dyna&#8217;n union ddigwyddodd. Roeddwn i\u2019n codi ac yn mynd allan o fy fflat stiwdio ac yn gweld mwy o Gaerdydd a&#8217;r cyffiniau nag y byddwn i wedi os nad oeddwn i\u2019n rhedeg. Fy hoff ran o\u2019r wythnos yw\u2019r amser rwy\u2019n treulio yn rhedeg yn yr awyr agored, ar ben fy hun yn gwrando ar fy ngherddoriaeth. Dydw i erioed wedi rhedeg Hanner Marathon Caerdydd o&#8217;r blaen &#8211; dydw i ddim yn gwybod beth i&#8217;w ddisgwyl ar ddiwrnod y ras, sy&#8217;n gyffrous ac yn frawychus!<\/p>\n<figure id=\"post-9991 media-9991\" class=\"image align-center\"><\/figure>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Pam wnaethoch chi benderfynu ymuno \u00e2&#8217;ch gilydd? A ydych chi\u2019n meddwl bod hyn wedi eich helpu chi i aros yn gryf eich cymhelliant wrth ymarfer?\u00a0<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Fe wnaethon ni gwrdd yn ystod Wythnos y Glas yng Nghaerdydd a daethon ni\u2019n nes wrth i&#8217;n flwyddyn gyntaf fynd rhagddo. Ar \u00f4l i gwpl o fisoedd o\u2019n hail flwyddyn fynd heibio, dywedodd Charley ei bod am ddechrau rhedeg eto.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Awgrymodd ein bod yn ymuno \u00e2 chlwb rhedeg lleol wnaethon ni ei weld ar y cyfryngau cymdeithasol, o&#8217;r enw Girls Who Run. Mae\u2019n gr\u0175p o ferched, myfyrwyr, a gweithwyr proffesiynol yn ardal De Cymru, sy&#8217;n cyfarfod cwpl o weithiau bob mis i redeg gyda&#8217;i gilydd. Rydyn ni&#8217;n gallu cwrdd \u00e2 merched gyda phob math o hyntiau a phrofiadau rhedeg. Roedd yn ffordd berffaith i fwynhau rhedeg gan ein bod yn gallu cymdeithasu a chwrdd \u00e2 phobl newydd bob mis.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae cofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd gyda\u2019n gilydd yn bendant wedi ein helpu i gadw ar y trywydd iawn gydag ymarfer ac i annog ein gilydd. Mae&#8217;r ddwy ohonon ni yn mwynhau defnyddio Strava er mwyn cofnodi ein cynnydd, ysgrifennu capsiynau hwyliog, a phostio lluniau tra bod ni allan yn rhedeg. Gallwn ni gefnogi ein gilydd hyd yn oed pan nad ydyn ni\u2019n rhedeg gyda&#8217;n gilydd, sy&#8217;n hyfryd ac yn ffordd wych o ddal ati pan mae rhedeg yn anoddach!<\/p>\n<figure id=\"post-9992 media-9992\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"width: 336px;height: 447px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/09\/Charley-and-Lizzy-5-scaled.jpg\" alt=\"\" width=\"358\" height=\"477\" \/><\/figure>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Beth yw eich cynlluniau ymarfer yn ystod yr wythnosau cyn y ras?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Rydyn ni\u2019n anelu at redeg am bellter byr cwpl o weithiau pob wythnos a rhedeg am bellter hir unwaith yr wythnos, gan ffitio&#8217;r rhedeg o amgylch ein gwaith \u2013 mae Lizzy hyd yn oed wedi bod yn rhedeg ar ei gwyliau! Rydyn ni hefyd wedi rhedeg gyda&#8217;n gilydd ychydig o weithiau, er mwyn i ni gynnal cyflymder sgwrsio ac awyrgylch ar gyfer y diwrnod mawr, ac rydyn ni fel arfer yn cael coffi a theisen crwst ar \u00f4l gorffen rhedeg.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Rydyn ni\u2019n bwriadu ymarfer drwy redeg gyda&#8217;n gilydd pan fydd y ddau ohonon ni n\u00f4l yng Nghaerdydd ar gyfer ein trydedd flwyddyn. Rydyn ni eisiau ymlacio cymaint \u00e2 phosib yn ystod yr wythnos cyn y ras er mwyn i\u2019n cyrff ni allu cyflawni hyd eithaf eu gallu. Rydyn ni wedi trefnu diwrnod sba yn yr wythnos cyn yr Hanner Marathon er mwyn i ni allu ymlacio&#8217;n llwyr!<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Beth ydych chi&#8217;n edrych ymlaen ato ar ddiwrnod y ras? <\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Rydyn ni\u2019n edrych ymlaen yn fawr at rannu&#8217;r cyflawniad gyda&#8217;n gilydd &#8211; rydyn ni eisoes wedi cynllunio ein gwisgoedd cyfatebol ar gyfer diwrnod y ras \u2013 ac i ddathlu gyda&#8217;n ffrindiau ar y llinell derfyn (gyda llawer o win pefriog!). Mae ein ffrindiau a\u2019n teulu yn falch iawn ohonon ni ac yn edrych ymlaen!<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Beth fyddech chi&#8217;n ei ddweud wrth rywun arall sy&#8217;n ystyried rhedeg i godi arian ar gyfer Prifysgol Caerdydd?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae t\u00eem #TeamCardiff yn bobl hyfryd ac yn rhoi cymaint o gefnogaeth os oes angen. Mae hefyd yn achos anhygoel i\u2019w gefnogi, a gan fod ymchwil Prifysgol Caerdydd yn arwain y byd, gallwch chi fod yn sicr y bydd yr holl arian rydych chi\u2019n ei godi yn mynd tuag at brosiectau enfawr a chanfyddiadau anhygoel. Rydyn ni\u2019n argymell cefnogi&#8217;r achos hwn yn fawr iawn!<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Noddwch Charley a Lizzy <\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/team\/charbezlizbiz\">Noddwch Charley a Lizzy ar JustGiving<\/a> a helpwch nhw i roi hwb i&#8217;w cyfanswm codi arian.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Rhedwch Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref\u00a0<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Oes gennych chi le yn Hanner Marathon Caerdydd? Bydden ni wrth ein bodd petaech chi\u2019n ymuno \u00e2 #TeamCardiff a chefnogi ymchwil canser neu niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\/run-the-cardiff-half-marathon\">Rhagor o wybodaeth.<\/a><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Ymgymryd \u00e2 her egn\u00efol wahanol\u00a0<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Does dim rhaid i chi fod yn rhedwr hanner marathon i godi arian! Beth bynnag yw lefel eich ffitrwydd neu allu, mae yna ddigwyddiadau wedi\u2019u trefnu y gallwch chi ymuno \u00e2 nhw yn rhan o #TeamCardiff. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\">Gallwch chi weld yr ystod lawn o heriau sydd ar gael.<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Charley Bezuidenhout (Seicoleg 2022-) a Lizzy Braithwaite (Seicoleg 2022-) yn ffrindiau ac yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Maen nhw wedi penderfynu rhedeg Hanner Marathon Caerdydd 2024 gyda\u2019i gilydd er mwyn cefnogi\u2019r ymchwil iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth hanfodol sy\u2019n digwydd ar y campws.","protected":false},"author":904,"featured_media":9986,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[212,166,204,170],"tags":[],"class_list":["post-9999","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-teamcardiff-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-donate-cy","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9999","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9999"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9999\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10003,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9999\/revisions\/10003"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9986"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9999"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9999"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9999"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}