{"id":9981,"date":"2024-09-24T12:24:12","date_gmt":"2024-09-24T12:24:12","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9981"},"modified":"2024-09-24T12:27:32","modified_gmt":"2024-09-24T12:27:32","slug":"mentoriaeth-gyrfa-i-gynnal-interniaeth-profiad-un-cyn-fyfyriwr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2024\/09\/24\/mentoriaeth-gyrfa-i-gynnal-interniaeth-profiad-un-cyn-fyfyriwr\/","title":{"rendered":"Mentoriaeth gyrfa i gynnal interniaeth \u2013 profiad un cyn-fyfyriwr"},"content":{"rendered":"<p><strong>Bu\u2019r cyn-fyfyriwr, Peter Sueref, (BSc 2002), cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Technoleg Empirisys, yn mentora\u2019r myfyriwr Ritika Srivastava (MSc 2024) cyn cynnig interniaeth iddi. Yma, mae Peter yn myfyrio ar ei brofiad o fod yn fentor a sut mae\u2019r rhaglen wedi bod o fudd iddo ef a\u2019i fusnes.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Beth yw eich cysylltiad \u00e2 Phrifysgol Caerdydd?<\/strong><\/p>\n<p>Ges i fy ngeni a fy magu yng Nghaerdydd ac rwy\u2019n fab i rieni a oedd yn berchen ar siop pysgod a sglodion. Arhosais i yng Nghaerdydd i astudio fy ngradd oherwydd roeddwn i\u2019n dal i weithio yn y busnes teuluol. Rwy\u2019 wedi bod o gwmpas Cathays a&#8217;r Brifysgol am y rhan fwyaf o fy mywyd, mwy neu lai.<\/p>\n<p>Graddiais gydag MSc mewn Cyfrifiadureg yn 2002 a chefais i swydd yn syth gyda Nwy Prydain yn datblygu meddalwedd, gwneud peirianneg meddalwedd, a pheirianneg data, ac arhosais i yno am y rhan fwyaf o fy ngyrfa. Yn 2015\/2016, cysylltais i \u00e2 Phrifysgol Caerdydd a\u2019r adran Gyfrifiadureg a dechreuais i ailgysylltu \u00e2 nhw.<\/p>\n<p>Ers hynny, rwy\u2019 wedi gweithio gyda&#8217;r Brifysgol yn gyson ac mae nifer o fyfyrwyr wedi dod i weithio i\u2019r cwmni, ac mae rhai ohonyn nhw wedi dod yn aelodau parhaol o staff.<\/p>\n<p><strong>Pam wnaethoch chi gymryd rhan yn y Rhaglen Mentora Gyrfa?<\/strong><\/p>\n<p>Roeddwn i\u2019n gwybod y byddai o fantais i fi, ond, a dweud y gwir, roedd yn ganlyniad o gael fy mentora ambell waith yn gynnar yn fy ngyrfa. Roeddwn i&#8217;n teimlo ei bod yn ddefnyddiol iawn cael rhywun uwch na fi a oedd yn fodlon gwrando a rhoi cyngor synhwyrol i fi.<\/p>\n<p><strong>Oes gennych chi unrhyw gyngor i gyn-fyfyrwyr eraill sy&#8217;n ystyried cymryd rhan yn y rhaglen?<\/strong><\/p>\n<p>Y peth allai fod wedi gwneud i fi ailystyried cymryd rhan oedd fy mod i\u2019n amau a oedd gen i ddigon o wybodaeth i&#8217;w rhannu \u00e2 rhywun, ac a fyddan nhw&#8217;n gwrando arna i. Efallai mai \u2018syndrom twyllwr\u2019 sydd ar fai am hynny, ond rwy&#8217;n falch iawn fy mod i wedi cymryd rhan yn y cynllun. Hyd y gwn i, efallai nad oes gen i brofiad mewn meysydd penodol, ond rwy&#8217;n bendant yn gwybod sut beth yw cynnal prosiect, rwy&#8217;n bendant yn gwybod sut beth yw dechrau busnes, rwy&#8217;n gwybod sut beth yw delio \u00e2 chleientiaid &#8211; felly hyd yn oed os na alla i wneud unrhyw un o&#8217;r pethau eraill, galla i rannu gwybodaeth am y meysydd hynny. Mae&#8217;n debyg nad oes miloedd o bobl yn gwirfoddoli i fod yn fentoriaid chwaith, ac nad oes llu ohonyn nhw ar gael, felly hyd yn oed os nad fi bydd y mentor gorau yn y byd, efallai bod y ffaith fy mod i\u2019n gwirfoddoli ac yn ceisio helpu yn ddigon.<\/p>\n<p><strong>Sut arweiniodd y cynllun mentora at interniaeth i Ritika?<\/strong><\/p>\n<p>Yn ein sesiynau mentora, roeddwn ni\u2019n trafod y pynciau roedd Ritika yn eu hystyried ar gyfer ei thraethawd hir, a oedd yn ymwneud \u00e2 dadansoddi data a llunio stori ddiddorol y tu \u00f4l i&#8217;r data. Yn ffodus, cafodd Empirisys y cyfle i weithio ar brosiect ar gyfer cleient mawr iawn a oedd yn gofyn i rywfaint o ddata gael eu dadansoddi. Felly, roedden ni\u2019n ffodus iawn i allu cynnig cyfle i Ritika weithio ar y prosiect blaenllaw hwn yn uniongyrchol, gan gyfrannu at brosiect cleient go iawn a oedd hefyd yn cefnogi ei thraethawd hir. Hi oedd y person cywir ar yr adeg cywir. Roedd yn bosib inni gynnig y lleoliad oherwydd yr arian a gawson ni drwy Brifysgolion Santander, a oedd yn swm sylweddol o arian i fusnes bach. A ninnau\u2019n fusnes ymgynghori, rydyn ni&#8217;n dibynnu ar y prosiectau rydyn ni&#8217;n eu derbyn, felly rydyn ni&#8217;n chwilio am yr un nesaf drwy\u2019r amser. Roedd yr arian yn ddigon i ni allu cyfiawnhau cynnig interniaeth i Ritika er mwyn iddi hi weithio ar brosiect cleient.<\/p>\n<p><strong>Beth oedd effaith cynnal myfyriwr ar interniaeth?<\/strong><\/p>\n<p>Mae wedi bod yn gadarnhaol iawn. Roedd y cleient yn hapus iawn gyda\u2019r gwaith ac maen nhw bellach eisiau gweithio gyda ni ar brosiect sydd ychydig yn wahanol. Felly roedd yn ddefnyddiol iawn i ni gan ei fod wedi helpu i gryfhau ein perthynas \u00e2 nhw. Arweiniodd y gwaith hefyd at ddrafftio bapur gwyn a gafodd ei rannu a\u2019r diwydiant cyfan, felly mae wedi cael effaith sylweddol iawn.<\/p>\n<p><strong>Pam fyddech chi&#8217;n argymell bod busnesau bach a chanolig eraill yn cymryd rhan yn y math hwn o brosiectau cyflogadwyedd myfyrwyr?<\/strong><\/p>\n<p>Yn hytrach na hynny, byddwn i\u2019n gofyn: pam na fyddech chi eisiau cymryd rhan? Pam na fyddech chi eisiau dod \u00e2 thalent i&#8217;ch sefydliad i weithio ar brosiectau, sydd wedyn naill ai\u2019n gallu ymuno \u00e2&#8217;ch busnes neu wneud y diwydiant cyfan yn well? Sut ydych chi\u2019n mynd i ddechrau ar eich gyrfa os nad ydych chi\u2019n gwneud rhywbeth fel hyn? Hyd yn oed os nad yw&#8217;n gweithio, o leiaf mae pawb wedi dysgu rhywbeth. Mae Empirisys wedi elwa ar Ritika\u2019n cymryd rhan mewn prosiect penodol na fydden ni wedi gallu ei wneud hebddi hi. Mae hynny wedi helpu&#8217;r berthynas gyda&#8217;r cleient ac mae&#8217;n rhoi profiad i Ritika hefyd. Mae&#8217;n teimlo fel bod pawb ar eu hennill.<\/p>\n<p><strong>Ritika \u2013 sut mae cael eich mentora ac yna ymgymryd ag interniaeth wedi bod o fudd i chi?<\/strong><\/p>\n<p>Pan wnes i gais am y rhaglen fentora, doeddwn i ddim yn gwybod bod cyfleoedd profiad gwaith yn rhan ohono hefyd. Fy mwriad oedd dysgu cymaint ag y gallwn i gan fy mentor.<\/p>\n<p>Roeddwn i eisiau newid fy ngyrfa ac roeddwn i eisiau cyngor ar symud i ddiwydiant newydd. Pan wnes i gwrdd \u00e2 Peter am y tro cyntaf, dywedais i wrtho ar unwaith fy mod i hefyd yn chwilio am rywfaint o brofiad gwaith, felly roedd e\u2019n gwybod mai dyna oedd un o fy nodau. Fe wnaeth y Rhaglen Mentora Gyrfa fy helpu i ddod o hyd i&#8217;r arweiniad a&#8217;r profiad roeddwn i eu hangen.<\/p>\n<p>Yn ystod yr interniaeth, roeddwn i\u2019n gallu datblygu sgiliau gan ddefnyddio meddalwedd nad oeddwn i wedi ei ddefnyddio o&#8217;r blaen. Roedd dysgu rhywbeth newydd ac yna gweithio ar brosiect amser real yn y byd go iawn a defnyddio fy sgiliau wir yn brofiad dymunol. Nawr, mae gen i fy mhrosiect fy hun rwy\u2019n gallu ei ddangos i gyflogwyr a recriwtwyr, ac mae gen i brofiad gwaith yn y DU sydd wir yn mynd i fy helpu. Rwy mor ffodus fy mod i wedi gwneud cais am y cynllun hwn, ac fod mod i wedi cael fy mharu \u00e2&#8217;r person cywir. Byddwn i\u2019n ei argymell i unrhyw un.<\/p>\n<h3>Galw am fentoriaid sy\u2019n gyn-fyfyrwyr<\/h3>\n<p>Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli er mwyn cefnogi&#8217;r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol yn eich sector gan rannu eich gwybodaeth, eich sgiliau a&#8217;ch profiad?<\/p>\n<p>Rydyn ni\u2019n chwilio am Gyn-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd i gynorthwyo myfyrwyr presennol o ran cael cyngor a dealltwriaeth werthfawr; mae hyn i\u2019w helpu i fagu hyder yn eu dewisiadau o ran gyrfa trwy ein <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/volunteer\/mentoring#mentorastudent\" rel=\"noopener\">Rhaglen Mentora Gyrfa, ar-lein<\/a>. <a href=\"https:\/\/forms.office.com\/e\/5hzXzPZ2ma\" rel=\"noopener\">Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Sul 20 Hydref<\/a>.<\/p>\n<p>Mae llawer o ffyrdd eraill y gallwch chi <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/volunteer\" rel=\"noopener\">wirfoddoli eich amser a&#8217;ch arbenigedd<\/a> i helpu i ysbrydoli a chefnogi cenhedlaeth nesaf myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Bu\u2019r cyn-fyfyriwr, Peter Sueref, (BSc 2002), cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Technoleg Empirisys, yn mentora\u2019r myfyriwr Ritika Srivastava (MSc 2024) cyn cynnig interniaeth iddi.","protected":false},"author":904,"featured_media":9977,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,1975,170],"tags":[],"class_list":["post-9981","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-gyrfaoedd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9981","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9981"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9981\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9984,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9981\/revisions\/9984"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9977"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9981"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9981"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9981"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}