{"id":9966,"date":"2024-09-19T15:44:36","date_gmt":"2024-09-19T15:44:36","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9966"},"modified":"2024-09-19T16:01:41","modified_gmt":"2024-09-19T16:01:41","slug":"rhedeg-hanner-marathon-caerdydd-i-helpu-teuluoedd-fel-fy-un-i","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2024\/09\/19\/rhedeg-hanner-marathon-caerdydd-i-helpu-teuluoedd-fel-fy-un-i\/","title":{"rendered":"Rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i helpu teuluoedd fel fy un i"},"content":{"rendered":"<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Ym mis Hydref, bydd Isabel Irvine (BSc 2024) yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i gefnogi ei mam, a gafodd ddiagnosis o ganser y llynedd. Hyd yma, mae hi wedi codi swm anhygoel o \u00a31,100 er budd ymchwil canser Prifysgol Caerdydd yn y cyfnod cyn y ras. Dyma rannu ei stori yn ogystal \u00e2&#8217;i chynlluniau ar gyfer yr wythnosau i ddod. <\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Pam wnaethoch chi benderfynu cofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd a chodi arian er budd ymchwil canser Prifysgol Caerdydd?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Yr haf diwethaf, cafodd fy mam ddiagnosis o ganser y gwaed. Roedd yn sioc fawr, ac roedd yn rhaid iddi hi gael sesiynau cemotherapi dwys bob pythefnos \u2013 wyth sesiwn i gyd \u2013 gan fod ei chanser yn ymosodol iawn. Roedd hi&#8217;n anodd iawn gwylio Mam yn cael triniaeth a gweld pa mor flinedig ac yn s\u00e2l roedd y driniaeth yn ei gwneud hi, ynghyd \u00e2 sgil-effeithiau fel colli gwallt a gwendid.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Cafodd wybod ei bod yn rhydd o ganser ychydig wythnosau yn \u00f4l, diolch byth. Rwy&#8217;n gwybod nad yw pob teulu yn cael y canlyniad hapus hwn, ac rwy&#8217;n ddiolchgar iawn i&#8217;r ymchwilwyr a&#8217;r meddygon a wnaeth hyn yn bosibl i ni. Felly, pan welais i fod Prifysgol Caerdydd yn cynnig lleoedd noddedig yn Hanner Marathon Caerdydd i godi arian er budd yr adran ymchwil canser, penderfyniad hawdd oedd cofrestru.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Pryd wnaethoch chi ddechrau rhedeg a pham?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Dechreuodd fy nhad, rhywun y byddwn i erioed wedi ei ddychmygu\u2019n rhedeg, ar y cynllun &#8216;soffa i 5k&#8217; yr haf diwethaf a mwynhaodd yn fawr. Wedi&#8217;i ysbrydoli ganddo, ac ar \u00f4l gwylio fy ffrind yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd y llynedd, dechreuais i\u2019r cynllun &#8216;soffa i 5k&#8217; ym mis Hydref y llynedd. Sylweddolais i nad oeddwn i\u2019n gwneud llawer o ymarfer corff a doeddwn i ddim yn hoffi mynd i\u2019r gampfa, felly roedd rhedeg yn ymddangos yn berffaith i fi &#8211; mae&#8217;n hygyrch ac mae\u2019n rhoi cyfle i dreulio amser tu allan. Roeddwn i\u2019n synnu pa mor anodd oedd hi i redeg hyd yn oed am bum munud ar y dechrau, felly pan wnes i gwblhau&#8217;r cynllun ac roeddwn i\u2019n gallu rhedeg am hanner awr, roeddwn i&#8217;n teimlo fy mod i wedi cyflawni rhywbeth. Ers hynny, dwi wedi ceisio rhedeg o leiaf ddwywaith yr wythnos, gan gynnwys gwneud &#8216;parkrun&#8217; yn aml.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Beth yw eich cynllun ymarfer yn ystod yr wythnosau cyn y ras?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Roeddwn i\u2019n gwybod bod gen i le yn Hanner Marathon Caerdydd tua wyth wythnos cyn y digwyddiad, gan fy mod i ar y rhestr wrth gefn. Roeddwn i&#8217;n poeni na fyddwn i&#8217;n barod mewn pryd, gan mai dim ond un 10k rwy\u2019 wedi\u2019i redeg o\u2019r blaen, ac fel arfer rwy\u2019n rhedeg 5k bob wythnos. Fodd bynnag, rwy\u2019 wedi datblygu trefn o redeg 6.5k, 8k, ac yna un sesiwn hir unwaith yr wythnos. Dechreuais i drwy redeg 8k ac rwy wedi cynyddu&#8217;r pellter hwn yn raddol bob wythnos, gan gyrraedd 10k, 13k, a gobeithio, yn yr wythnosau i ddod, 16k, 18k, ac yn olaf 21k.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Rydych chi eisoes wedi cyrraedd eich targed o ran codi arian. Oes gennych chi unrhyw gynlluniau codi arian pellach ar gyfer yr wythnosau nesaf?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Fe wnes i greu tudalen <a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/fundraising\/br-NKEBSWBELLNH-2024-principality-cardiff-half-marathon\">JustGiving<\/a> a&#8217;i rhannu gyda fy nheulu. Ar \u00f4l iddyn nhw roi arian, roeddwn i&#8217;n teimlo&#8217;n ofnus &#8211; oherwydd doedd e ddim yn bosib tynnu\u2019n \u00f4l bellach \u2013 ac yn ddiolchgar iawn!<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Yna fe wnes i fagu\u2019r hyder i&#8217;w bostio fel stori Instagram, oedd yn teimlo&#8217;n frawychus ac yn lletchwith gan nad oedd y rhan fwyaf o bobl sy\u2019n fy nilyn i yn gwybod bod fy mam wedi cael canser. Roedd y gefnogaeth a gefais i\u2019n anhygoel; mewn 24 awr, roeddwn i wedi codi tua \u00a3700 ac wedi derbyn cymaint o negeseuon caredig. Mae&#8217;r holl roddion cynnar hyn yn bendant wedi fy ysgogi i wrth redeg. Dros yr wythnosau nesaf, rwy&#8217;n bwriadu rhannu&#8217;r ddolen ar Instagram eto a&#8217;i hanfon at ychydig o grwpiau eraill.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Beth ydych chi&#8217;n edrych ymlaen ato ar ddiwrnod y ras?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Rwy&#8217;n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd \u00e2 fy holl ffrindiau o\u2019r brifysgol. Graddiais i eleni a symudais i o Gaerdydd, ond mae llawer o fy ffrindiau yno o hyd, naill ai&#8217;n gweithio neu&#8217;n astudio. Mae rhai ohonyn nhw hefyd yn rhedeg yr Hanner Marathon, ac rwy\u2019n edrych ymlaen at redeg ochr yn ochr \u00e2 nhw eto. Ond, a dweud y gwir, rwy&#8217;n edrych ymlaen yn bennaf at gael diod a chinio rhost ar \u00f4l y ras!<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Sut mae eich teulu a&#8217;ch ffrindiau wedi ymateb eich bod chi\u2019n ymgymryd \u00e2 Hanner Marathon Caerdydd i godi arian er budd ymchwil canser yn eich cyn-Brifysgol?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Pan ddywedais i wrth fy nheulu, roedden nhw\u2019n methu \u00e2 chredu (yn enwedig gan mai dim ond wyth wythnos oedd gen i i ymarfer), ond roedden nhw\u2019n hapus iawn hefyd. Roedd fy mam yn hynod falch. Fe wnaeth fy nhad, fydd yng Nghaeredin y noson cyn yr Hanner Marathon, brynu taith awyren i Gaerdydd am 7 o\u2019r gloch y bore er mwyn dod i wylio! Mae fy ffrindiau hefyd wedi bod yn gefnogol iawn, gan addo bod yno i floeddio a dal arwyddion i fyny.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Beth fyddech chi&#8217;n ei ddweud wrth rywun arall sy&#8217;n ystyried rhedeg i godi arian er budd ymchwil Prifysgol Caerdydd?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Ewch amdani! Hyd yn oed os nad ydych chi wedi rhedeg o&#8217;r blaen, mae o fewn eich cyrraedd os ydych chi\u2019n ymarfer yn gyson a chynyddu&#8217;ch pellter yn raddol. Hefyd, mae&#8217;n achos pwysig i godi arian ar ei gyfer.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Noddwch Isabel<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/fundraising\/br-NKEBSWBELLNH-2024-principality-cardiff-half-marathon\">Noddwch Isabel ar JustGiving<\/a> a&#8217;i helpu i roi hwb i&#8217;w chyfanswm codi arian.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Rhedwch Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>\u00a0<\/strong>Oes gennych chi le ar Hanner Marathon Caerdydd? Bydden ni wrth ein bodd petaech chi\u2019n ymuno \u00e2 #TeamCardiff a chefnogi ymchwil canser neu niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\/run-the-cardiff-half-marathon\">Rhagor o wybodaeth.<\/a><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Ymgymryd \u00e2 her egn\u00efol wahanol<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Does dim rhaid i chi fod yn rhedwr hanner marathon i godi arian! Beth bynnag yw lefel eich ffitrwydd neu allu, mae digwyddiadau yn cael eu trefnu y gallwch chi ymuno \u00e2 nhw yn rhan o #TeamCardiff. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\">Dyma\u2019r ystod lawn o heriau sydd ar gael.<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ym mis Hydref, bydd Isabel Irvine (BSc 2024) yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i gefnogi ei mam, a gafodd ddiagnosis o ganser y llynedd. Hyd yma, mae hi wedi codi swm anhygoel o \u00a31,100 er budd ymchwil canser Prifysgol Caerdydd yn y cyfnod cyn y ras.","protected":false},"author":904,"featured_media":9965,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[212,166,204],"tags":[],"class_list":["post-9966","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-teamcardiff-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-donate-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9966","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9966"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9966\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9974,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9966\/revisions\/9974"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9965"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9966"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9966"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9966"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}