{"id":9952,"date":"2024-09-12T11:53:32","date_gmt":"2024-09-12T11:53:32","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9952"},"modified":"2024-09-12T12:22:31","modified_gmt":"2024-09-12T12:22:31","slug":"dychwelyd-i-redeg-i-gefnogi-ymchwil-hanfodol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2024\/09\/12\/dychwelyd-i-redeg-i-gefnogi-ymchwil-hanfodol\/","title":{"rendered":"Dychwelyd i redeg i gefnogi ymchwil hanfodol"},"content":{"rendered":"<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Eleni, bydd un o\u2019n cyn-fyfyrwyr Daniel Nicolas (MBA 2020) yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd, i gefnogi ymchwil i niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd. Yma, mae&#8217;n s\u00f4n am ei gymhellion personol ar gyfer rhedeg Hanner Marathon Caerdydd, ei ras gyntaf ers y pandemig.\u00a0<\/strong><\/p>\n<figure id=\"post-9947 media-9947\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"width: 309px;height: 412px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/09\/Cardiff-Half-Picture-Sep24-scaled.jpg\" alt=\"\" width=\"285\" height=\"380\" \/><\/figure>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Beth wnaeth eich ysbrydoli chi i gofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd a chodi arian ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Cafodd fy Modryb ddiagnosis o ddementia yn 2023, felly rwy \u2018di gweld yn uniongyrchol, natur wanychol y clefyd hwn a\u2019i effeithiau ar y teulu agos. Mae gen i ffrindiau sydd wedi cael diagnosis o ADHD, ac mae eu plant yn eu tro wedi cael diagnosis hefyd. Byddai\u2019n anhygoel cefnogi ymchwil i achosion cyflyrau iechyd meddwl, sydd \u00e2\u2019r potensial i wella ansawdd bywyd cynifer o bobl.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Ym mis Ionawr 2024, penderfynais i ailgynnau fy angerdd dros redeg er mwyn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd, ac yn ogystal, codi arian ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl. Cyn y pandemig, roeddwn i&#8217;n rhedeg 100 milltir yr wythnos. Yna, yn ystod y cyfnod clo, rhoddais i\u2019r gorau i redeg yn llwyr. Rwy wedi rhedeg Hanner Marathon Caerdydd bum gwaith (gan gynnwys pencampwriaeth y byd) yn y gorffennol, ond dyma fydd fy ras neu hanner marathon cyntaf ers dros bedair blynedd.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Pryd dechreuoch chi redeg a pham?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Pan oeddwn i\u2019n iau, roeddwn ni\u2019n cymryd rhan mewn chwaraeon ar lefel ryngwladol\/lled-broffesiynol. Yn anffodus, ces i ddau anaf difrifol \u2013 un yn y pigwrn ac un yn y garddwrn, a bu\u2019n rhaid cael llawdriniaethau adluniol. O ganlyniad, rhoddais i\u2019r gorau i chwaraeon cystadleuol yn 20 oed.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Treuliais i\u2019r 10 mlynedd nesaf yn cadw\u2019n heini drwy fynd i\u2019r gampfa ac, yna yn 2011, penderfynais i gymryd rhan yn y Parkrun ym Mhorthcawl. Dyma ddechrau fy nhaith rhedeg \u2013 ymunais i yn syth \u00e2 chlwb rhedeg lleol, a thros y blynyddoedd symudais i ymlaen o 5K i 10K, yna i hanner marathon (Hanner Marathon Caerdydd oedd y cyntaf). Symudais i ymlaen wedyn i Farathon Eryri ac yna uwch-marathonau. Y pellter pellaf rwy wedi ei redeg yw 53 milltir yn y <em>Race to the King<\/em>.<\/p>\n<figure id=\"post-9946 media-9946\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"width: 478px;height: 339px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/09\/Screenshot-2024-09-12-at-12.16.16.png\" alt=\"\" width=\"493\" height=\"350\" \/><\/figure>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Beth yw eich cynllun hyfforddi yn ystod yr wythnosau cyn y ras?\u00a0<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Gan nad \u2018wy wedi rhedeg ers amser maith, rwy wedi bod yn canolbwyntio ar adeiladu sylfaen aerobig gadarn i ddechrau. Hefyd, rwy wedi bod yn gwella fy nghryfder a datblygiad corfforol i wneud yn si\u0175r nad wy&#8217;n cael anafiadau. Ar hyn o bryd rwy&#8217;n gwneud tair sesiwn hyfforddi\u2019r wythnos, sy&#8217;n cynnwys hyfforddiant ysbeidiol, hyfforddiant cyflymder, ac yn olaf rhediad araf hir. Mae\u2019r hyfforddiant wedi mynd yn dda ac rwy\u2019n edrych ymlaen at yr Hanner Marathon.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Rydych chi eisoes wedi cyrraedd eich targed codi arian o \u00a3250! Ers cofrestru ar gyfer y ras, sut ydych chi wedi mynd ati i godi arian?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Rwy wedi bod yn anhygoel o lwcus gan fod fy ffrindiau, teulu, a chydweithwyr wedi bod yn hael iawn yn y cyfnod yn arwain at y ras.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae fy nheulu a fy ffrindiau wedi bod yn gefnogol iawn, naill ai&#8217;n cyfrannu at fy nhudalen <a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/page\/daniel-nicholas-1705586781428\">JustGiving<\/a> neu&#8217;n rhedeg gyda fi.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae amser o hyd i godi arian ychwanegol \u2013 gobeithio galla i gyrraedd \u00a3500.<\/p>\n<figure id=\"post-9948 media-9948\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"width: 254px;height: 339px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/09\/Snowdon-Marathon-Picture-2.jpg\" alt=\"\" width=\"264\" height=\"351\" \/><\/figure>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Beth ydych chi&#8217;n edrych ymlaen ato ar ddiwrnod y ras?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Rwy&#8217;n edrych ymlaen yn fawr at yr awyrgylch anhygoel. Hefyd, bydd fy nheulu a ffrindiau yno i fy nghefnogi, a fydd yn ei wneud hyd yn oed yn fwy arbennig. Ac wrth gwrs, fel y rhan fwyaf o redwyr, rwy\u2019n edrych ymlaen at ychwanegu medal newydd at fy nghasgliad. Dyma\u2019r un cyntaf ers sbel!<strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Beth fyddech chi&#8217;n ei ddweud wrth rywun arall sy&#8217;n ystyried rhedeg i godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd?\u202f<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Ewch amdani! Byddwch chi\u2019n cael manteision iechyd a lles wrth redeg a hyfforddi ar gyfer y digwyddiad, ond byddwch chi hefyd yn cael cyfle i godi arian at achos gwych. Hefyd, mae\u2019r gefnogaeth a\u2019r cyfathrebu gan d\u00eem Prifysgol Caerdydd wedi bod yn ardderchog.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Cefnogwch Daniel<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Noddwch Daniel ar <a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/page\/daniel-nicholas-1705586781428\">JustGiving<\/a> i ychwanegu at ei gyfanswm.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Rhedwch Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref<\/strong><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Oes gennych chi le yn Hanner Marathon Caerdydd? Bydden ni wrth ein bodd petaech chi\u2019n ymuno \u00e2 #TeamCardiff a chefnogi ymchwil canser neu niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\/run-the-cardiff-half-marathon\">Rhagor o wybodaeth.<\/a><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Ymgymryd \u00e2 her egn\u00efol wahanol<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Does dim rhaid i chi fod yn rhedwr hanner marathon i godi arian! Beth bynnag yw lefel eich ffitrwydd neu allu, gallwch chi ymuno \u00e2 digwyddiadau sydd wedi\u2019u trefnu ar ran #TeamCardiff. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\">Gallwch chi weld yr ystod lawn o ddigwyddiadau sydd ar gael.<\/a><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">I gael rhagor o wybodaeth am godi arian ym Mhrifysgol Caerdydd, e-bostiwch <a href=\"mailto:donate@cardiff.ac.uk\">donate@caerdydd.ac.uk<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Eleni, bydd un o\u2019n cyn-fyfyrwyr Daniel Nicolas (MBA 2000) yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd, i gefnogi ymchwil i niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd. Yma, mae'n s\u00f4n am ei gymhellion personol ar gyfer rhedeg Hanner Marathon Caerdydd, ei ras gyntaf ers y pandemig.\u00a0","protected":false},"author":904,"featured_media":9945,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[212,166,170,203],"tags":[],"class_list":["post-9952","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-teamcardiff-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9952","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9952"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9952\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9956,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9952\/revisions\/9956"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9945"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9952"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9952"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9952"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}