{"id":9928,"date":"2024-08-28T14:45:15","date_gmt":"2024-08-28T14:45:15","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9928"},"modified":"2024-08-28T14:45:30","modified_gmt":"2024-08-28T14:45:30","slug":"newid-adfywiol-mewn-gyrfa-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2024\/08\/28\/newid-adfywiol-mewn-gyrfa-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/","title":{"rendered":"Newid adfywiol mewn gyrfa \u2013 I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr"},"content":{"rendered":"<div>\n<p class=\"paragraph\"><span class=\"normaltextrun\"><b><span lang=\"CY\">Cyn iddi ailhyfforddi i fod yn gogydd, treuliodd Ceri Jones (BMus \u200b\u200b2003) ddegawd yn adeiladu gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth. Yma, mae hi\u2019n myfyrio ar ei phrofiad o gymryd y naid, ac i le mae ei hangerdd am goginio wedi mynd \u00e2 hi hyd yn hyn. \u00a0<\/span><\/b><\/span><\/p>\n<\/div>\n<div>\n<p class=\"paragraph\"><span class=\"normaltextrun\"><span lang=\"CY\">Yn 2003, graddiais i o Brifysgol Caerdydd gyda BMus, ac ro\u2019n i\u2019n benderfynol o ddod o hyd i lwybr gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth glasurol \u2013 felly sut wnes i ddod i addysgu coginio ac ysgrifennu llyfr coginio?\u202f\u202f\u00a0<\/span><\/span><\/p>\n<\/div>\n<div>\n<p class=\"paragraph\"><span class=\"normaltextrun\"><span lang=\"CY\">I ddechrau, fe wnes i gychwyn ar lwybr yn y diwydiant cerddoriaeth. Yn syth ar \u00f4l graddio o Brifysgol Caerdydd, fe ddechreuais i weithio ar leoliad yn nh\u00eem gweinyddol Cerddorfa Oes yr Oleuedigaeth (OAE), a daeth honno\u2019n swydd barhaol. Yn ystod y 10 mlynedd pan oeddwn i\u2019n gweithio i\u2019r OAE, ro\u2019n i wastad yn dynn ar sodlau cerddorion proffesiynol, ac yn trefnu cyngherddau a theithiau. Dyna&#8217;r yrfa ro\u2019n i wastad wedi bod a bryd arni, ac ar \u00f4l bod yn rhan o\u2019r byd cerddorol ers yn ifanc, do\u2019n i ddim wedi bwriadu gwneud unrhyw beth arall.<\/span><\/span><\/p>\n<p class=\"paragraph\">Serch hynny, ar \u00f4l tua wyth mlynedd yn OAE, daeth yr ysfa am newid. O un flwyddyn i\u2019r llall, dechreuodd y calendr o gyngherddau a theithiau ddilyn yr un hen drefn, a dim ond hyn a hyn o weithiau y gallai unrhyw un oddef gorfod trefnu fis\u00e2u i gerddorion ar fyr rybudd, neu oddef yr holl ffwdan o orfod cofrestru wrth y ddesg yn y maes awyr am 6 o\u2019r gloch y bore. Bryd hynny, ro\u2019n i hefyd wedi dechrau datblygu fy angerdd am goginio gartref, wedi dechrau rhannu ryseitiau ar flog, ac ro\u2019n i\u2019n dyheu am ysgrifennu llyfr coginio.<\/p>\n<\/div>\n<div>\n<figure id=\"post-9917 media-9917\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"width: 473px;height: 316px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/08\/Ceri-Food-Educator-1.jpeg\" alt=\"\" width=\"473\" height=\"316\" \/><\/figure>\n<p><span style=\"background-color: #ffffff\">Yn ystod yr un cyfnod, aeth fy Mam yn ddifrifol wael, prin bedair blynedd ar \u00f4l i fy nhad farw. Arhosais yn fy swydd am gyfnod llawer hirach nag y dylwn i fod wedi. Roedd angen sefydlogrwydd arnaf i ar adeg lle\u2019r oeddwn i dan straen aruthrol. Pan fu farw Mam rhai misoedd ar \u00f4l fy mhen-blwydd yn 30 oed, roedd yn bryd imi newid pethau. Wedi i\u2019r broses o werthu cartref y teulu ddod i ben yn fuan wedyn, ro\u2019n i&#8217;n teimlo&#8217;n ddigon cadarn yn ariannol i ymddiswyddo a chofrestru ar gwrs hyfforddi cogyddion am chwe mis. Ro\u2019n i&#8217;n dwlu ar y cwrs \u2013 roedd y profiad o ymgolli mewn rhywbeth newydd yn un mor adfywiol.<\/span><\/p>\n<p class=\"paragraph\"><span class=\"normaltextrun\"><span lang=\"CY\">Yn ystod fy amser dan hyfforddiant, ro\u2019n i\u2019n helpu mewn ysgol goginio. Roedd yn teimlo fel y ffordd orau o ddefnyddio fy sgiliau newydd. Ro\u2019n i wrth fy modd yn rhannu fy m\u00e2n awgrymiadau a helpu i roi hwb i hyder y rhai oedd yn cymryd rhan. Ar y pryd, doedd gen i ddim syniad beth o\u2019n i&#8217;n mynd i&#8217;w wneud ar \u00f4l imi gymhwyso\u2019n gogydd newydd, ond y gobaith oedd y byddai addysg bwyd yn rhan o fy nghynlluniau mewn rhyw ffordd neu gilydd. <\/span><\/span>Mae 11 mlynedd wedi mynd heibio ers imi newid gyrfa, ac ar \u00f4l rhoi cynnig ar ambell i swydd llawrydd, mae fy ngwaith bellach wedi\u2019i rannu i dri phrif faes \u2013 gweithio\u2019n rhan-amser yn addysgu ym maes Bwyd a Choginio yn y Garden Museum yn Llundain, ysgrifennu am fwyd, a bod yn gogydd o dro i dro.<\/p>\n<\/div>\n<div>\n<p class=\"paragraph\"><span class=\"normaltextrun\"><span lang=\"CY\">A minnau\u2019n addysgwr ym maes bwyd, rwy&#8217;n arwain gweithdai i ystod eang o bobl, yn dechrau o bump oed a h\u0177n. Mae&#8217;r swydd yn hynod foddhaus, a phleser yw gweld unigolion yn mireinio sgiliau nad oedden nhw hyd yn oed wedi sylweddoli bod ganddyn nhw. Yn y sesiynau coginio, rydyn ni wastad yn mynd i\u2019r afael \u00e2 sgiliau cyllyll, dysgu sut i werthfawrogi llysiau, technegau coginio syml, a sut i ychwanegu blas at fwyd. Fel nifer o bobl sydd o\u2019r un oedran \u00e2 fi, doedd dim llawer o gyfleoedd inni astudio addysg bwyd yn yr ysgol, a dysgais fy hun sut i goginio yn y brifysgol pan ro\u2019n i wedi diflasu \u00e2 choginio pasta \u00e2 <i>pesto<\/i>.\u202fMae&#8217;n wych gallu defnyddio fy sgiliau a fy ngwybodaeth er mwyn ateb y galw am addysg goginio, yn enwedig ar gyfer yr unigolion hynny na chawson nhw\u2019r cyfle i\u2019w hastudio yn y gorffennol.<\/span><\/span><\/p>\n<figure id=\"post-9918 media-9918\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"width: 468px;height: 310px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/08\/Ceri-Jones-Veg-shop-1.jpeg\" alt=\"\" width=\"473\" height=\"313\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<div>\n<p class=\"paragraph\"><span class=\"normaltextrun\"><span lang=\"CY\">Yn gynharach eleni, ar \u00f4l gwneud cryn dipyn o waith arno, fe wnes i gyhoeddi fy llyfr coginio cyntaf, sef &#8216;It Starts with Veg: 100 seasonal suppers and sides&#8217; a gafodd ei gyhoeddi gan Pavilion Books, sy\u2019n rhan o Harper Collins. A thrwy gyd-ddigwyddiad llwyr, mae fy ngolygydd comisiynu, Lucy Smith, hefyd yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd! Mae &#8216;It Starts with Veg&#8217; yn llyfr llawn ryseitiau, yn ogystal \u00e2 bod yn llawlyfr ar lysiau. Mae&#8217;n cynnwys beth i&#8217;w wneud \u00e2<u> <\/u>40 o lysiau gwahanol ac yn cynnwys 100 o ryseitiau ar sut i\u2019w coginio \u2013 dyma lyfr a defnyddiol os hoffech chi fwyta amrywiaeth ehangach o lysiau neu\u2019n chwilio am ychydig o ysbrydoliaeth ynghylch beth i wneud gyda moronen!<\/span><\/span><\/p>\n<\/div>\n<div>\n<p class=\"paragraph\"><span class=\"normaltextrun\"><span lang=\"CY\">Mae ysgrifennu ryseitiau yn ymddangos yn hollol wahanol i gerddoriaeth. Ond sut fyddwn i erioed wedi ymroi i\u2019r dasg anferth o ysgrifennu llyfr heb y blynyddoedd o brofiadau y ces i yn dysgu ac ymarfer offeryn cerdd? <\/span><\/span>Mae 11 mlynedd wedi mynd heibio ers imi newid gyrfa, ac rwy&#8217;n hapus o hyd fy mod i wedi gwneud y newid hwnnw \u2013 er fy mod i eto i gyrraedd yr un cyflog oedd gen i gynt, sy\u2019n un anfantais. Rwy\u2019 hefyd wedi sylweddoli bod creadigrwydd wrth goginio ac ysgrifennu yn rhoi rhywbeth imi nad oedd y gerddorfa yn gallu ei gynnig \u2013 ro\u2019n i\u2019n gweithio mewn diwydiant creadigol, ond doedd fy swydd yn un creadigol o gwbl. Bellach, rwy\u2019n canu ac yn chwarae cerddoriaeth er pleser yn unig, ac yn ceisio gwrthsefyll y demtasiwn i wneud unrhyw waith gweinyddol\/trefnu!<\/p>\n<\/div>\n<div>\n<p class=\"paragraph\"><span class=\"normaltextrun\"><b><span lang=\"CY\">Gallwch chi ddod i wybod mwy am waith Ceri a\u2019i llyfr ar ei gwefan <\/span><\/b><\/span><span lang=\"CY\"><a href=\"https:\/\/cerijoneschef.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><span class=\"normaltextrun\"><b>cerijoneschef.com<\/b><\/span><\/a><\/span><span class=\"normaltextrun\"><b><span lang=\"CY\"> a dod o hyd iddi ar Instagram ac X: <\/span><\/b><\/span><span lang=\"CY\"><a href=\"https:\/\/www.instagram.com\/cerijoneschef\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><span class=\"normaltextrun\"><b>@cerijoneschef<\/b><\/span><\/a><\/span><span class=\"normaltextrun\"><b><span lang=\"CY\">.\u00a0<\/span><\/b><\/span><\/p>\n<\/div>\n<div>\n<p class=\"paragraph\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/category\/cyswllt-caerdydd\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/\"><span lang=\"CY\"><span class=\"normaltextrun\"><b>\u2018I Gyn-fyfyrwyr, Gan Gyn-fyfyrwyr\u2019<\/b><\/span><\/span><\/a><span class=\"normaltextrun\"><b><span lang=\"CY\"> yw ein cyfres newydd o flogiau sy\u2019n rhoi sylw i\u2019r straeon yr hoffech chi s\u00f4n amdanyn nhw wrth eich cyfoedion. Efallai eich bod yn rhan o brosiect cymunedol anhygoel neu fod eich sefydliad yn arloesi ac yn datrys problemau?\u202f<\/span><\/b><\/span><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\"><span lang=\"CY\"><span class=\"normaltextrun\"><b>Cyflwynwch eich syniad<\/b><\/span><\/span><span class=\"normaltextrun\"><b><span lang=\"CY\">.<\/span><\/b><\/span><\/a><\/p>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Cyn iddi ailhyfforddi i fod yn gogydd, treuliodd Ceri Jones (BMus \u200b\u200b2003) ddegawd yn adeiladu gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth. Yma, mae hi\u2019n myfyrio ar ei phrofiad o gymryd y naid, ac i le mae ei hangerdd am goginio wedi mynd \u00e2 hi hyd yn hyn.","protected":false},"author":904,"featured_media":9916,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,1975,202,170,203],"tags":[],"class_list":["post-9928","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-gyrfaoedd","category-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9928","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9928"}],"version-history":[{"count":11,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9928\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9943,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9928\/revisions\/9943"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9916"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9928"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9928"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9928"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}