{"id":9899,"date":"2024-08-07T14:19:08","date_gmt":"2024-08-07T14:19:08","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9899"},"modified":"2024-08-19T10:04:09","modified_gmt":"2024-08-19T10:04:09","slug":"sut-i-ddod-o-hyd-i-chich-hun-yn-ein-fideos-archif-or-seremoniau-graddio","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2024\/08\/07\/sut-i-ddod-o-hyd-i-chich-hun-yn-ein-fideos-archif-or-seremoniau-graddio\/","title":{"rendered":"Sut i ddod o hyd i chi\u2019ch hun yn ein fideos archif o\u2019r seremon\u00efau graddio"},"content":{"rendered":"<p>Ydych chi&#8217;n cofio sut oeddech chi&#8217;n teimlo wrth i chi gerdded ar lwyfan Neuadd Dewi Sant? Oeddech chi&#8217;n teimlo\u2019n nerfus, yn chwilio am eich teulu ymysg y dorf, neu&#8217;n barod i fwynhau\u2019r teimlad o glywed eich enw yn cael ei alw! Er bod blynyddoedd lawer wedi mynd heibio, gallwch chi ail-fyw&#8217;r foment trwy ddod o hyd i&#8217;ch hun yn ein harchifau Graddio. Porwch ein harchifau graddio o <a href=\"https:\/\/youtube.com\/playlist?list=PL5e0LFsOYWrs1fntWKa5Pyh76TUD6wVl0&amp;si=YwPbRh2j38LY3IDo\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">2004<\/a>, <a href=\"https:\/\/youtube.com\/playlist?list=PL5e0LFsOYWruZD_Jxww9sm1V8TMaDlZBK&amp;si=R4PmwV0salcSn84M\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">2005<\/a>, <a href=\"https:\/\/youtube.com\/playlist?list=PL5e0LFsOYWrv9D2Yq6CLQ2QzYCcU3XzXi&amp;si=JU3X8fj6UHHYgdTa\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">2006<\/a>, <a href=\"https:\/\/youtube.com\/playlist?list=PL5e0LFsOYWrv_GRDO_CJSAqIRSZ4tjQva&amp;si=M1YyFxNwInCxREbd\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">2007<\/a>, <a href=\"https:\/\/youtube.com\/playlist?list=PL5e0LFsOYWrtFe0S7QyxUeORVkUFhIS8a&amp;si=14c2M5RAh2l2RfJ7\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">2008<\/a>, <a href=\"https:\/\/youtube.com\/playlist?list=PL5e0LFsOYWrtYVCzItrIWQ57ndp6lKLwv&amp;si=iu5URQLTrEjMKFel\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">2009<\/a> a <a href=\"https:\/\/youtube.com\/playlist?list=PL5e0LFsOYWrv9rQX_iOfgCqt4W2izzShy&amp;si=bK0ZK9n-Jz9GO3Vk\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">2010<\/a>.<\/p>\n<p>Gallwch chi weld seremon\u00efau Graddio mwy diweddar <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/graduation\/past-ceremonies\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ar ein gwefan<\/a>.<\/p>\n<p>Dyma ein hawgrymiadau ar gyfer dod o hyd i chi\u2019ch hun neu&#8217;ch ffrindiau yn y fideos.<\/p>\n<ul>\n<li>Byddwch chi\u2019n gweld rhestr lawn o\u2019r ysgolion hynny sy\u2019n rhan o seremoni benodol yn y disgrifiad o\u2019r fideo ar YouTube.<\/li>\n<li>Tua awr a hanner yw hyd pob seremoni, a bydd enwau\u2019r graddedigion yn cael eu darllen tua 15-20 munud ar \u00f4l dechrau\u2019r fideo.<\/li>\n<li>Yn y seremon\u00efau, bydd yr ysgolion yn cael eu cyflwyno yn \u00f4l y drefn a nodir yn y disgrifiad.<\/li>\n<li>Dyfernir graddau israddedig pob ysgol yn gyntaf. Bydd y rhain yn cael eu rhannu fesul cwrs, a byddwn yn galw ar y graddedigion yn nhrefn yr wyddor yn y cwrs. Unwaith y bydd yr holl raddau israddedig wedi cael eu galw, bydd y graddau meistr yn cael eu galw, unwaith eto fesul cwrs, ac yna yn nhrefn yr wyddor. Yn olaf, gelwir graddau PhD pob pwnc.<\/li>\n<li>Gair i gall \u2013 ewch ati i droi\u2019r is-deitlau awtomatig ymlaen, clicio ar &#8216;more&#8217; yn y disgrifiad o\u2019r fideo a dewis &#8216;Show transcript&#8217;. Gan ddefnyddio&#8217;r swyddogaeth chwilio (CTRL + f ar eich bysellfwrdd), chwiliwch am eich enw cyntaf neu\u2019ch enw canol. Gallwch chi hefyd geisio chwilio am eich cyfenw, ond sylwer efallai na fydd yr is-deitlau awtomatig yn sillafu&#8217;ch enw yn gywir.<\/li>\n<li>Wedi ichi ddod o hyd i chi\u2019ch hun, defnyddiwch y botwm &#8216;Share&#8217; er mwyn anfon y fideo at eich ffrindiau a&#8217;ch teulu. Ticiwch y blwch &#8216;Start at&#8217; i gael dolen sy\u2019n dangos eich eiliad arbennig chi.<\/li>\n<li>Os ydych chi&#8217;n bwriadu rhannu\u2019r fideo ar <a href=\"https:\/\/x.com\/CardiffAlumni\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">X<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/CardiffUniAlumni\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Facebook<\/a> neu Prigysgol Caerdydd ar <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/school\/9126\/admin\/dashboard\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">LinkedIn<\/a>, cofiwch ein tagio ni.<\/li>\n<li>Rhannwch y cariad a rhoi gwybod i\u2019ch ffrindiau. Os nad ydyn nhw eisoes wedi cael ein e-gylchlythyr i gyn-fyfyrwyr, gallan nhw gofrestru i\u2019w gael <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/stay-connected\/sign-up-to-alumni-news\">yma<\/a>.<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ydych chi'n cofio sut oeddech chi'n teimlo wrth i chi gerdded ar lwyfan Neuadd Dewi Sant? Er bod blynyddoedd lawer wedi mynd heibio, gallwch chi ail-fyw'r foment trwy ddod o hyd i'ch hun yn ein harchifau Graddio.","protected":false},"author":1812,"featured_media":9893,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166],"tags":[],"class_list":["post-9899","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9899","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1812"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9899"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9899\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9914,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9899\/revisions\/9914"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9893"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9899"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9899"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9899"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}