{"id":9887,"date":"2024-07-05T10:34:09","date_gmt":"2024-07-05T10:34:09","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9887"},"modified":"2024-07-05T10:44:07","modified_gmt":"2024-07-05T10:44:07","slug":"gyrfa-llawn-bwrlwm-ym-maes-cysylltiadau-cyhoeddus-digidol-i-gyn-fyfyrwyr-gan-gyn-fyfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2024\/07\/05\/gyrfa-llawn-bwrlwm-ym-maes-cysylltiadau-cyhoeddus-digidol-i-gyn-fyfyrwyr-gan-gyn-fyfyrwyr\/","title":{"rendered":"Gyrfa llawn bwrlwm ym maes cysylltiadau cyhoeddus digidol \u2013 I Gyn-fyfyrwyr, Gan Gyn-fyfyrwyr"},"content":{"rendered":"<p><strong>Astudiodd Annabelle Earps (BA 2020) Newyddiaduraeth a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae hi bellach yn gweithio ym maes cysylltiadau cyhoeddus digidol. Yn yr erthygl hon, mae&#8217;n trafod sut beth oedd dechrau gyrfa mewn tirwedd ddigidol sy&#8217;n newid.<\/strong><\/p>\n<p>Ers graddio o Brifysgol Caerdydd yn 2020, mae\u2019r cyfryngau wedi profi newidiadau mawr. Mewn ychydig flynyddoedd yn unig, mae&#8217;r byd wedi cael ei ddigideiddio fwyfwy ac mae brandiau wedi newid sut maen nhw&#8217;n ymgysylltu \u00e2&#8217;u cynulleidfaoedd, ac mae hyn yn cynnig heriau yn ogystal \u00e2 chyfleoedd. Wrth i mi ddechrau fy ngyrfa yn y diwydiant cysylltiadau cyhoeddus, roedd dulliau traddodiadol yn ildio i dechnolegau ac arferion newydd yn y cyfryngau, felly roedd angen i mi ddiweddaru fy sgiliau yn gyson. Mae fy ngyrfa wedi bod yn fyrlymus hyd yn hyn, ond mae wedi bod yn hynod gyffrous, ac rwy\u2019n edrych ymlaen at weld sut mae prosiectau yn datblygu yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Wrth i mi edrych yn \u00f4l ar fy astudiaethau, roeddwn wrth fy modd yn ystod fy amser yng Nghaerdydd. Astudiodd fy nhad beirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd yn yr 80au, ac ar \u00f4l symud i&#8217;r ddinas fy hun, dysgais i fod fy nghwrs yn cael ei gynnal yn Adeilad Bute &#8211; yr un ddarlithfa \u00e2 fy nhad. Roedd y ddau ohonon ni wrth ein bodd \u00e2\u2019r daith hel atgofion emosiynol hon, ac roedd yn caniat\u00e1u i fy nhad a minnau deimlo\u2019n agosach. Mae cerdded trwy ganol Caerdydd i Cathays hefyd wedi dod yn un o fy hoff atgofion. Mae cwrdd ag un o fy ffrindiau gorau, Hedda, i fynd i&#8217;r Ysgol Newyddiaduraeth gyda&#8217;n gilydd yn rhywbeth rwy bob amser yn hel atgofion amdano, ac yn rhywbeth rydyn ni\u2019n dal i chwerthin amdano gyda&#8217;n gilydd. Felly, rwy&#8217;n ddiolchgar i&#8217;r brifysgol am yr addysg rwy&#8217;n dal i&#8217;w defnyddio yn fy mywyd gwaith bob dydd a hefyd am y ffrindiau gydol oes cwrddais i \u00e2 nhw yno.<\/p>\n<p>Yn ystod fy astudiaethau, symudodd yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant i safle wrth ymyl Gorsaf Caerdydd Canolog a phencadlys y BBC, a oedd yn anhygoel i&#8217;w weld. Roeddwn i wir yn gwerthfawrogi&#8217;r cyfle i weithio mor agos at ganolfan y cyfryngau prysur. Yn fuan iawn daeth cysylltiadau cyhoeddus yn un o fy hoff bynciau yn y brifysgol \u2013 roedd yn bwnc a gafodd ei ddysgu gan fy hoff ddarlithydd \u2013 ac fe adeiladais i sylfaen gref o wybodaeth rydw i\u2019n ei defnyddio yn fy r\u00f4l heddiw yn Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus Digidol. Hyd yn hyn, mae uchafbwyntiau fy ngyrfa wedi cynnwys goruchwylio gwahanol bobl greadigol a gweithio gyda fideograffwyr, yn ogystal \u00e2 helpu fy nghwmni <a href=\"https:\/\/www.theworkplacedepot.co.uk\/news\/great-place-to-work-certification\/\">i ennill Ardystiad Lle Gwych i Weithio<\/a>.<\/p>\n<p>Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydw i hefyd wedi mwynhau ffocws Digital PR ar wella enw da brand, a\u2019i welededd ar-lein. Mae dulliau traddodiadol megis cysylltiadau\u2019r cyfryngau yn dal i chwarae rhan yn hyn, ond mae cysylltiadau digidol bellach yn ymestyn i reoli enw da ar-lein, partneriaethau gyda dylanwadwyr, a chreu cynnwys. Mae hyn yn golygu bod gweithwyr proffesiynol ym maes cysylltiadau cyhoeddus digidol fel fi yn anelu at gysylltu \u00e2 dylanwadwyr a chymunedau ar-lein yn ogystal \u00e2 newyddiadurwyr, gyda&#8217;r nod yn y pen draw o ddenu sylw cadarnhaol. Gallwn ni hefyd defnyddio dadansoddeg data i gael dealltwriaeth ddofn o sut mae cynulleidfaoedd yn ymddwyn. Fodd bynnag, mae dulliau fel y rhain yn parhau i ddatblygu, felly er mwyn aros yn gystadleuol, mae&#8217;n rhaid diweddaru\u2019ch gwybodaeth ar dueddiadau&#8217;r cyfryngau cymdeithasol a sut mae gwahanol dechnolegau yn datblygu yn gyson. Mae\u2019n rhaid i mi ddysgu am yr adnoddau deallusrwydd artiffisial sy\u2019n cael ei gyflwyno yn barhaus, er enghraifft.<\/p>\n<p>Yn yr oes ddigidol newydd hon, un o&#8217;r gwersi mwyaf gwerthfawr rydw i wedi&#8217;i ddysgu yw pa mor bwysig yw bod yn ddilys. Mae&#8217;n gyfnod o ormod o wybodaeth a dewis, felly mae cynulleidfaoedd yn creu cysylltiadau dyfnach ac yn cyfathrebu mewn ffordd fwy ystyrlon \u00e2 brandiau. Felly, trwy flaenoriaethu bod yn ddilys a dryloyw yn ein cyfathrebu, gallwn ni greu straeon cymhellol a meithrin ymddiriedaeth \u00e2 defnyddwyr.<\/p>\n<p>Pan fydd gweithwyr proffesiynol ym maes cysylltiadau cyhoeddus yn cydweithio, yn addasu ac yn aros yn rhagweithiol, gallwn ni lunio ymgyrchoedd arloesol sy&#8217;n taro deuddeg \u00e2&#8217;n cynulleidfaoedd. Yn debyg iawn i adeiladu eich gyrfa, mae angen gwneud y gorau o unrhyw rwystrau er mwyn barhau i ddatblygu.<\/p>\n<p><strong>Gallwch chi gysylltu ag Annabelle ar <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/annabelle-earps\/?originalSubdomain=uk\">LinkedIn<\/a> yn ogystal \u00e2 thrwy <a href=\"https:\/\/connected.cardiff.ac.uk\/user\/788808\">Cyswllt Caerdydd<\/a>, ein platfform rhwydweithio i gyn-fyfyrwyr.<\/strong><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cardiff-connect\/for-alumni-by-alumni\/\"><strong>\u2018I Gyn-fyfyrwyr, Gan Gyn-fyfyrwyr\u2019<\/strong><\/a><strong> yw ein cyfres newydd o blogiau sy\u2019n rhoi sylw i\u2019r straeon yr hoffech chi adrodd amdanyn nhw wrth eich cyfoedion. Efallai eich bod yn rhan o brosiect cymunedol anhygoel neu fod eich sefydliad yn arloesi a datrys problemau? <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni,-by-alumni\">Cyflwynwch eich syniad.<\/a><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Astudiodd Annabelle Earps (BA 2020) Newyddiaduraeth a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae hi bellach yn gweithio ym maes cysylltiadau cyhoeddus digidol. Yn yr erthygl hon, mae'n trafod sut beth oedd dechrau gyrfa mewn tirwedd ddigidol sy'n newid.","protected":false},"author":904,"featured_media":9883,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,171,1975,202,170,203],"tags":[],"class_list":["post-9887","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-our-alumni-cy","category-gyrfaoedd","category-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9887","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9887"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9887\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9890,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9887\/revisions\/9890"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9883"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9887"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9887"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9887"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}