{"id":9856,"date":"2024-06-26T08:13:35","date_gmt":"2024-06-26T08:13:35","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9856"},"modified":"2025-02-04T11:32:13","modified_gmt":"2025-02-04T11:32:13","slug":"cefnogi-niwroamrywiaeth-yn-y-gweithle-bossing-it","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2024\/06\/26\/cefnogi-niwroamrywiaeth-yn-y-gweithle-bossing-it\/","title":{"rendered":"Cefnogi niwroamrywiaeth yn y gweithle \u2013 Bossing It"},"content":{"rendered":"<p><strong>Gall amgylchedd niwrogynhwysol roi&#8217;r cymorth sydd ei angen ar staff i lwyddo, gwella lles a chynhyrchiant a rhoi gwerthoedd cwmniau pwysig ar waith. <\/strong><strong>Fe wnaethon ni ofyn i\u2019n cyn-fyfyrwyr arbenigol am eu cyngor ar sut i rymuso a bod yn gynghreiriad i gydweithwyr niwroamrywiol yn eich gweithle.<\/strong><\/p>\n<h2>Jennifer Griffiths (BA 2001)<\/h2>\n<p><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/jennifergriffithsthinkdif\/\">Jennifer<\/a> yw sylfaenydd <a href=\"https:\/\/thinkdif.uk\/\">ThinkDIF<\/a>, gwasanaeth hyfforddi ac ymgynghori sy&#8217;n cefnogi sefydliadau i ddod yn fwy niwrogynhwysol. Cyn hyn, bu Jennifer yn gweithio yn y sector technoleg fel uwch-weithiwr adnoddau dynol uchel iawn ei pharch. Mae hi\u2019n angerddol am gefnogi gweithwyr a chynnig amgylchedd gwaith addas iddyn nhw gael bod ar eu gorau. Mae hi&#8217;n gweithio gydag oedolion sydd wedi cael diagnosis o gyflyrau niwroamrywiol, a hefyd o fewn sefydliadau i addysgu timau am niwroamrywiaeth.<\/p>\n<figure id=\"post-9851 media-9851\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"width: 267px;height: 267px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/06\/Jennifer-headshot-scaled-e1719326850581.jpg\" alt=\"\" width=\"267\" height=\"267\" \/><\/figure>\n<p><strong>Creu lle diogel i gael mynediad at gefnogaeth<\/strong><\/p>\n<p>Mae canran uchel o weithwyr yn dewis peidio \u00e2 dweud wrth eu cyflogwr am ddiagnosis o gyflwr niwroamrywiol. Gallai hyn fod oherwydd nad ydyn nhw\u2019n ymwybodol bod addasiadau ar gael iddyn nhw gael gweithio ar lefel gyfartal \u00e2&#8217;u cyfoedion. Efallai eu bod nhw wedi cael profiad gwael yn y gorffennol, neu eu bod nhw\u2019n ofni y bydd yn gwneud drwg i&#8217;w rhagolygon gyrfa.<\/p>\n<p>Rhaid addysgu\u2019r cwmni cyfan ar niwroamrywiaeth er mwyn annog gweithwyr i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Rhaid hyfforddi ac ymgysylltu \u00e2 rheolwyr a thimau AD, cyhoeddi gwybodaeth am addasiadau rhesymol, a chael polisi sy&#8217;n sicrhau bod eich gweithwyr yn teimlo\u2019n ddiogel i siarad gyda chi.<\/p>\n<p><strong>Adeiladu dealltwriaeth ac ymdeimlad o dderbyn yn eich t\u00eem<\/strong><\/p>\n<p>Mae t\u00eem niwrogynhwysol yn cydnabod y cryfderau y gall pob unigolyn ddod i&#8217;r gweithle gyda nhw, yn seiliedig ar y ffordd y mae eu hymennydd yn prosesu gwybodaeth a sut maen nhw&#8217;n gweld y byd. Maen nhw\u2019n croesawu ac yn dathlu gwahanol ffyrdd o feddwl, a chaiff pawb eu derbyn a&#8217;u cefnogi am eu ffyrdd amrywiol o feddwl.<\/p>\n<p>Dylid creu man lle gall y t\u00eem drafod cryfderau a dewisiadau gwaith pawb, er mwyn bodloni pob aelod o\u2019r t\u00eem a gwella cydweithio. Pan fydd timau&#8217;n gwneud hyn yn effeithiol, maen nhw\u2019n perfformio&#8217;n well ac yn rhoi hwb i ganlyniadau eich busnes.<\/p>\n<h2>Andrei Hodorog (BSc 2017, PhD 2024)<\/h2>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae <a href=\"https:\/\/profiles.cardiff.ac.uk\/staff\/hodoroga\">Andrei<\/a> yn Gydymaith Ymchwil yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd ac mae\u2019n eiriolwr dros unigolion sy\u2019n niwrowahanol. Mae ei ymchwil yn arloesol, ond mae hefyd yn gwneud gwahaniaeth \u2013 mae\u2019n arbenigwr ym maes dadansoddi\u2019r cyfryngau cymdeithasol, dylunio profiad y defnyddiwr, a thechnolegau adeiladu clyfar. Mae Andrei yn arwain sawl prosiect elusennol fel <a href=\"https:\/\/www.aboutadhd.com\/\">AboutADHD.com<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/@aboutadhd\">sianel YouTube About ADHD<\/a>, ac <a href=\"https:\/\/www.despreadhd.ro\/\">About ADHD Romania<\/a>, sy&#8217;n cynnig cymorth ac yn ceisio codi ymwybyddiaeth am ADHD. Hefyd, cyfieithodd <a href=\"https:\/\/www.adhd-federation.org\/publications\/international-consensus-statement.html\">Ddatganiad Consensws Rhyngwladol Ffederasiwn ADHD y Byd<\/a> yn swyddogol i&#8217;r Rwmaneg.<\/p>\n<figure id=\"post-9852 media-9852\" class=\"image align-center\"><img decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"width: 267px;height: 267px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/06\/andrei.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Gwerthfawrogi cryfderau eich cydweithwyr <\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae ein cydweithwyr niwrowahanol yn dod \u00e2 chryfderau unigryw i&#8217;n t\u00eem. Mae eu safbwyntiau amrywiol a&#8217;u galluoedd eithriadol, megis rhoi sylw i fanylion, bod yn greadigol wrth ddatrys problemau, a chof rhyfeddol, yn fantais bwysig. Drwy gydnabod a gwerthfawrogi\u2019r cryfderau hyn, gallwn eu hysbrydoli i gyrraedd eu potensial llawn a chyfrannu hyd yn oed yn fwy at ein llwyddiant.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Gallwch annog cydweithwyr i ymgymryd \u00e2 mentora a chael cefnogaeth gan gymheiriaid, er mwyn gwella cyfraniadau a datblygiad eich cydweithwyr. Trwy drefnu sesiynau un-i-un rheolaidd ac annog rhoi adborth, gallwch wella&#8217;r cymorth rydych chi\u2019n ei roi i\u2019ch cydweithwyr yn barhaus.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Cynnal cyfarfodydd cynhwysol<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">A chithau\u2019n rheolwr, gallwch sicrhau bod cyfarfodydd yn bodloni anghenion amrywiol eich cydweithwyr trwy ddefnyddio nifer o strategaethau. Gallech anfon agend\u00e2u ymlaen llaw, caniat\u00e1u i bobl cyfrannu yn ysgrifenedig, a defnyddio cymhorthion gweledol i sicrhau cyfathrebu clir. Gallech hefyd gynnig seibiannau yn ystod cyfarfodydd i sicrhau nad yw synhwyrau pobl yn cael eu gorlwytho. Ystyriwch ddefnyddio fformatau amgen megis trafodaethau un-i-un, galwadau sain yn unig, neu gyfathrebu\u2019n ysgrifenedig ar gyfer y rhai sy&#8217;n ei chael hi\u2019n anodd mewn cyfarfodydd gr\u0175p.<\/p>\n<h2>Laura Connor (<span class=\"ui-provider a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z ab ac ae af ag ah ai aj ak\" dir=\"ltr\">PGCE <\/span>2016)<\/h2>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/laura-connor-44839b2b7\/\">Laura<\/a> wedi cymhwyso fel athrawes, yn hyfforddwr ardystiedig ac yn eiriolwr dros iechyd meddwl a niwroamrywiaeth. Mae hi&#8217;n cynnig ystod o wasanaethau yn <a href=\"https:\/\/theneurodiversityfairy.com\/\">The Neurodiversity Fairy,<\/a> gan gynnwys hyfforddiant amrywiaeth a chynhwysiant, hyfforddiant un-i-un a chyrsiau ar-lein. Nod y rhain yw meithrin cymuned fwy cefnogol a llawn dealltwriaeth. Mae Laura hefyd yn cynnig adnoddau ac awgrymiadau ar niwroamrywiaeth ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae dros filiwn o bobl wedi gweld ei chynnwys hyd yma.<\/p>\n<figure id=\"post-9853 media-9853\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"width: 267px;height: 267px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/06\/Laura-headshot-scaled-e1719327105700.jpg\" alt=\"\" width=\"261\" height=\"261\" \/><\/figure>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Siaradwch \u00e2 ni<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Gall y syniad bod &#8216;ein hymennydd yn gweithio&#8217;n wahanol&#8217; greu rhwystrau, fel pe taswn ni&#8217;n rhywogaeth wahanol. Mae&#8217;n well gen i edrych ar y peth fel y berthynas rhwng ceffyl a sebra &#8211; er bod ein bod ni\u2019n wahanol, rydyn ni\u2019n eitha\u2019 tebyg, mewn gwirionedd. Rhaid i chi siarad \u00e2 ni er mwyn deall ein hanghenion unigryw. Rydyn ni fel arfer yn croesawu sgyrsiau llawn cariad, tosturi a chwilfrydedd!<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae&#8217;n werth nodi bod llawer o unigolion niwroamrywiol yn cyfathrebu mewn ffordd uniongyrchol. Dydy hyn ddim yn golygu nad oes gyda ni ddigon o eirfa, na bod gyda ni\u2019r gallu i ddefnyddio trosiadau, ond yn hytrach, dydyn ni ddim yn ymgorffori ystyron cudd yn y ffordd rydyn ni\u2019n siarad \u2013 felly ceisiwch fod yn uniongyrchol ac yn glir.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Cefnogi anghenion synhwyraidd<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Gall unigolion niwroamrywiol brosesu gwybodaeth synhwyraidd mewn ffordd unigryw, gan wneud amgylcheddau fel swyddfeydd, siopau, a mannau prysur eraill yn hynod o anodd delio \u00e2 nhw. Er enghraifft, dychmygwch fod y ffliw arnoch chi; mae&#8217;ch pen yn curo, mae&#8217;ch croen yn boenus i&#8217;r pwynt lle mae hyd yn oed cwrlid yn teimlo&#8217;n anghyfforddus, ac mae golau&#8217;r haul yn ymddangos yn llachar iawn. Mae hynny&#8217;n debyg i&#8217;r teimlad o orlwytho synhwyraidd i rywun niwroamrywiol. Efallai y bydd deall y persbectif hwn yn egluro pam y gall disgleirdeb goleuadau stribed, mwmian cyfrifiaduron a synau uchel iawn beri gofid i ni.<\/p>\n<h2>Nathan Thomas (PgDip 2010)<\/h2>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/nathan-thomas-7897132b5\/\">Nathan<\/a> yn Gyfarwyddwr Creadigol Menter Gymdeithasol <a href=\"https:\/\/neuroexpression.co.uk\/\">Neuro Expression<\/a>, sy&#8217;n anelu at wneud y sectorau creadigol yn fwy niwroamrywiol ac o gymorth ar gyfer anableddau. Mae Neuro Expression yn helpu sefydliadau i wneud addasiadau rhesymol, creu mannau a deunyddiau hygyrch a chreu cyfleoedd cynhwysol i bobl o bob gallu ymgysylltu \u00e2&#8217;r celfyddydau.\u00a0Hyfforddwr a Siaradwr ar niwrowahaniaeth yw Nathan. Mae ganddo gefndir mewn gwaith cymdeithasol a chelfyddyd weledol ac mae&#8217;n defnyddio ei brofiad bywyd i helpu pobl eraill i ffynnu ym myd gwaith ac addysg.<\/p>\n<figure id=\"post-9854 media-9854\" class=\"image align-center\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"width: 267px;height: 267px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/06\/Nathan-Headshot-e1719327235674.jpg\" alt=\"\" width=\"267\" height=\"267\" \/><\/figure>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Edrych i mewn i Fynediad at Waith<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">P&#8217;un a ydych chi&#8217;n niwroamrywiol eich hun neu am gefnogi eich cydweithwyr, gwnewch hi&#8217;n flaenoriaeth i ddysgu am Fynediad at Waith &#8211; rhaglen gan y llywodraeth sy&#8217;n cefnogi pobl anabl i ddechrau gweithio neu aros mewn gwaith.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Efallai y bydd ganddyn nhw adnoddau ariannol i helpu i gael gwared ar rwystrau yn eich gweithle. Er enghraifft, gall y rhaglen ddarparu offer arbenigol neu hyfforddwr swydd. Efallai gallan nhw dalu costau teithio i\u2019r gwaith os na allwch chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ariannu addasiadau i\u2019ch cerbyd i gyrraedd y gwaith a gwneud newidiadau sydd yn gyfleus i\u2019ch gweithle. Gallant hyd yn oed ddarparu cefnogaeth os ydych chi&#8217;n ddarpar entrepreneur hefyd.<\/p>\n<p><strong>Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw o bobl sy\u2019n barod iawn eu cymwynas ac yma i\u2019ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Mae ein cyfres \u2018Bossing It\u2019 yn dod \u00e2 chyngor gan gyn-fyfyrwyr mewn sawl maes at ei gilydd \u2013 dewch i fanteisio ar eu doethineb a <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/news\/blog\">phori drwy awgrymiadau gwych ar ystod eang o bynciau<\/a>.<\/strong><\/p>\n<p><b>Yn barod i gysylltu \u00e2 chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? Ymunwch \u00e2\u2019n\u00a0<\/b><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/groups\/112830\/\"><b>gr\u0175p LinkedIn<\/b><\/a><b>\u00a0a dechrau rhwydweithio.<\/b><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Gall amgylchedd niwrogynhwysol roi'r cymorth sydd ei angen ar staff i lwyddo, gwella lles a chynhyrchiant a rhoi gwerthoedd cwmniau pwysig ar waith. Fe wnaethon ni ofyn i\u2019n cyn-fyfyrwyr arbenigol am eu cyngor ar sut i rymuso a bod yn gynghreiriad i gydweithwyr niwroamrywiol yn eich gweithle.","protected":false},"author":904,"featured_media":9848,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[207,166,171,1975,170],"tags":[],"class_list":["post-9856","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-bossing-it-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-our-alumni-cy","category-gyrfaoedd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9856","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9856"}],"version-history":[{"count":14,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9856\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10175,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9856\/revisions\/10175"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9848"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9856"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9856"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9856"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}