{"id":9839,"date":"2024-06-14T11:29:29","date_gmt":"2024-06-14T11:29:29","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9839"},"modified":"2024-06-14T11:31:52","modified_gmt":"2024-06-14T11:31:52","slug":"cwrdd-ar-ymchwilydd-emma-weir","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2024\/06\/14\/cwrdd-ar-ymchwilydd-emma-weir\/","title":{"rendered":"Cwrdd \u00e2\u2019r Ymchwilydd \u2013 Emma Weir"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae Emma Weir (Biowyddorau 2021-) ym mlwyddyn olaf ei PhD yn Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd, ac rwy\u2019n ymchwilio i fecanweithiau anhwylderau niwroddatblygiadol megis Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), awtistiaeth, a sgitsoffrenia. Mae\u2019n dweud wrthon ni am ei gwaith, sy\u2019n ceisio rhoi diagnosis mwy cywir i gleifion a gwell cymorth yn gynt.<\/strong><\/p>\n<p><span class=\"TextRun SCXW246111414 BCX4\" lang=\"EN-GB\" xml:lang=\"EN-GB\" data-contrast=\"auto\"><span class=\"NormalTextRun SCXW246111414 BCX4\">Mae <\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW246111414 BCX4\">fy<\/span> <span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW246111414 BCX4\">ymchwil<\/span> <span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW246111414 BCX4\">yn<\/span> <span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW246111414 BCX4\">ymwneud<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW246111414 BCX4\"> \u00e2 <\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW246111414 BCX4\">newidiadau<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW246111414 BCX4\"> DNA <\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SpellingErrorHighlight SCXW246111414 BCX4\">sy&#8217;n<\/span> <span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW246111414 BCX4\">arwain<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW246111414 BCX4\"> at <\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW246111414 BCX4\">ddatblygiad<\/span> <span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW246111414 BCX4\">annormal<\/span> <span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW246111414 BCX4\">yn<\/span> <span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW246111414 BCX4\">yr<\/span> <span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW246111414 BCX4\">ymennydd<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW246111414 BCX4\"> ac <\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW246111414 BCX4\">sy&#8217;n<\/span> <span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW246111414 BCX4\">cynyddu&#8217;r<\/span> <span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW246111414 BCX4\">risg<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW246111414 BCX4\"> o <\/span><span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW246111414 BCX4\">ddatblygu<\/span> <span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW246111414 BCX4\">anhwylderau<\/span> <span class=\"NormalTextRun SpellingErrorV2Themed SCXW246111414 BCX4\">niwroddatblygiadol<\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW246111414 BCX4\">.<\/span><\/span>\u00a0O bryd i\u2019w gilydd, byddwn ni\u2019n gweld newidiadau genetig mawr yn DNA cleifion, pan fydd rhanbarthau o gromosomau naill ai wedi cael eu dileu neu eu dyblygu. Nid yw\u2019r newidiadau hyn yn digwydd yn aml, ond hwyrach eu bod yn dangos a fydd rhywun yn datblygu cyflwr niwroddatblygiadol a&#8217;r tebygolrwydd y bydd rhai symptomau, megis nam gwybyddol, yn bresennol. Hwyrach bod rhywun sydd \u00e2 mwtaniad yn asymptomatig, neu efallai y bydd ei gyflwr yn un difrifol. Efallai hefyd nad ydyn nhw yn ymwybodol bod ganddyn nhw risg genetig o ddatblygu cyflwr hyd nes iddyn nhw drosglwyddo\u2019r risg genetig hyn i&#8217;w plant. Fy ngwaith yw trin a thrafod y fioleg sy\u2019n sail i&#8217;r achosion hyn o ddyblygu a dileu a\u2019r hyn mae hyn yn ei olygu i gleifion.<\/p>\n<p>Er bod pethau wedi datblygu&#8217;n sylweddol, mae cymaint o hyd nad ydyn ni\u2019n ei wybod am yr ymennydd, gan fod gwneud biops\u00efau ar yr organ benodol hon yn anodd. Felly, mae ein t\u00eem yn defnyddio techneg labordy arbennig er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y cysylltiad rhwng newidiadau mewn DNA a chyflyrau niwroddatblygiadol. Drwy gymryd samplau gwaed sy&#8217;n cynnwys DNA cleifion, gallwn ni greu b\u00f4n-gelloedd i&#8217;w defnyddio yn y labordy. O&#8217;r b\u00f4n-gelloedd hyn, gallwn ni dyfu celloedd yr ymennydd a chreu modelau 3D. Yn y b\u00f4n, mae modelau\u2019r ymennydd bach hyn &#8211; a elwir yn organoidau &#8211; yn gop\u00efau unfath yn enetig o ymennydd claf penodol.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r organoidau hyn yn gwneud byd o wahaniaeth i\u2019n hymchwil. Maen nhw\u2019n ein galluogi i ail-greu gweithrediadau&#8217;r ymennydd o dan amodau labordy, fel y gallwn ni brofi damcaniaethau a thriniaethau na fydden ni yn gallu eu profi fel arall.\u202fEr enghraifft, gallwn ni ddefnyddio organoidau i ymchwilio i ba fathau o gyffuriau a allai weithio orau i leddfu cyflyrau penodol. Mae t\u00eem y labordy yn ymchwilio i\u2019r ffordd y mae celloedd gwahanol yn yr ymennydd yn newid ac yn rhyngweithio \u00e2&#8217;i gilydd. Rwy\u2019n ceisio dysgu sut mae celloedd sy\u2019n creu myelin yn effeithio ar weithgarwch niwronau, er enghraifft, tra bod fy nghyd-ymchwilwyr yn edrych ar fathau eraill o gelloedd yr ymennydd.<\/p>\n<p>Drwy weithio ar y cyd, mae ein hymchwil yn ein helpu i ddeall yr ymennydd mewn ffordd newydd a gwell, sy\u2019n golygu y gallwn ni roi diagnosis mwy manwl gywir i gleifion, gwybodaeth feddygol mwy personol, yn ogystal \u00e2\u2019r cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn gynharach. Mae ein hymchwil amlddisgyblaethol ar y cyd yn chwyldroi ein dealltwriaeth o\u2019r ymennydd, gan ein galluogi i roi diagnosis mwy manwl gywir i gleifion, arbenigedd meddygol mwy personol a chymorth amserol yn gynharach.<\/p>\n<p><strong>Dysgwch ragor am <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/donate\/how-you-can-help\/neuroscience-and-mental-health-research\">niwrowyddoniaeth ac ymchwil iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd<\/a>.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Emma Weir (Biowyddorau 2021-) ym mlwyddyn olaf ei PhD yn Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd, ac rwy\u2019n ymchwilio i fecanweithiau anhwylderau niwroddatblygiadol megis Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), awtistiaeth, a sgitsoffrenia. ","protected":false},"author":904,"featured_media":9836,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,204,170],"tags":[],"class_list":["post-9839","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-donate-cy","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9839","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9839"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9839\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9845,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9839\/revisions\/9845"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9836"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9839"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9839"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9839"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}