{"id":9826,"date":"2024-06-05T13:28:30","date_gmt":"2024-06-05T13:28:30","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9826"},"modified":"2024-06-05T13:29:28","modified_gmt":"2024-06-05T13:29:28","slug":"cerdded-yr-wyddfa-gydar-nos-er-budd-ymchwil-syn-newid-bywydau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2024\/06\/05\/cerdded-yr-wyddfa-gydar-nos-er-budd-ymchwil-syn-newid-bywydau\/","title":{"rendered":"Cerdded yr Wyddfa gyda&#8217;r nos er budd ymchwil sy&#8217;n newid bywydau"},"content":{"rendered":"<div>\n<p class=\"elementtoproof\"><b><span lang=\"CY\">Ym mis Gorffennaf, bydd Isabelle (Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol 2021-) yn mynd ar daith gyda\u2019r nos i fyny&#8217;r Wyddfa yng nghwmni ei chyd-godwyr arian #TeamCardiff. <\/span><\/b><b><span lang=\"CY\">Gyda&#8217;i gilydd, bydd ymdrechion y t\u00eem yn cefnogi ymchwil hanfodol canser a Niwrowyddoniaeth ac ymchwil Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd. Yma, mae Isabelle yn s\u00f4n am pam penderfynodd hi i gymryd rhan yn y sialens o gerdded copa uchaf Cymru.<\/span><\/b><\/p>\n<\/div>\n<div>\n<h4 class=\"elementtoproof\"><span lang=\"CY\">Beth oedd wedi eich ysbrydoli i gofrestru ar gyfer y daith a chodi arian ar gyfer ymchwil canser Prifysgol Caerdydd?<\/span><\/h4>\n<\/div>\n<div>\n<p><span lang=\"CY\">Fe welais i erthygl ar y daith a meddwl ei fod yn edrych fel her anhygoel (yn enwedig gyda&#8217;r elfen ychwanegol ohono yn digwydd gyda\u2019r nos). Roeddwn i eisiau rheswm penodol dros ddod yn fwy iach a heini, felly roedd yr her yma i\u2019w gweld yn gyfle gwych i wneud hynny. Hefyd, pan welais i at ba achosion y byddai\u2019r arian yn mynd, roedd yn teimlo fel dewis da.<\/span><\/p>\n<\/div>\n<div>\n<p><span lang=\"CY\">Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydw i wedi colli Nain a Thaid i ganser. Oherwydd yr holl driniaethau dderbyniodd Nain, roedd hi\u2019n medru treulio mwy o amser gyda ni &#8211; a daeth hynny o flynyddoedd o waith gan ymchwilwyr clyfar iawn. Mae hanes o anhwylderau iechyd meddwl yn fy nheulu ac mae gen i brofiad personol o\u2019r rhain, felly rydw i\u2019n ymwybodol bod ymchwil yn y maes hwn yn hanfodol er mwyn rhoi gofal tosturiol ac effeithiol.\u00a0<\/span><\/p>\n<\/div>\n<div>\n<h4><span lang=\"CY\">Sut ydych chi&#8217;n bwriadu hyfforddi a chodi arian dros y misoedd nesaf?<\/span><\/h4>\n<\/div>\n<div>\n<p><span lang=\"CY\">Hyd yn hyn, rydw i wedi bod yn codi arian ar y cyfryngau cymdeithasol drwy rannu gwybodaeth am yr her a&#8217;r achosion y mae&#8217;n eu cefnogi. Wrth i ni ddod yn agosach at y diwrnod mawr, rydw i yn bwriadu rhannu\u2019r newyddion diweddaraf o\u2019m hyfforddiant a chodi arian. Rydw i hefyd yn mwynhau celf, felly cefais y syniad o gynnig portreadau o bobl, anifeiliaid anwes, cymeriadau ac ati i&#8217;r rhai a oedd yn rhoi i\u2019r achos. \u00a0\u00a0<\/span><\/p>\n<\/div>\n<div>\n<h4><span lang=\"CY\">Beth ydych chi&#8217;n edrych ymlaen fwyaf ato am y daith?<\/span><\/h4>\n<\/div>\n<div>\n<p><span lang=\"CY\">Rydw i yn anelu at fod yn iachach (fel llawer o bobl eraill, roedd y cyfnod clo wedi gostwng fy lefelau ffitrwydd!) Ar wah\u00e2n i hyn, rydw i wir yn edrych ymlaen at weld yr holl olygfeydd. Rydw i wrth fy modd bod allan yn yr awyr agored ac mewn natur ac mae cerdded Yr Wyddfa gyda\u2019r nos gyda\u2019r s\u00ear uwch ein pennau yn swnio\u2019n anhygoel. Rwy&#8217;n dychmygu bydd gweld yr haul yn codi yn brofiad gwych hefyd (hyd yn oed os nad oes awyr clir). Rwy\u2019n gymysgedd o gyffro a gofid ar gyfer y daith ond gydag agwedd penderfynol, rydw i yn barod i wthio fy hun i\u2019r eithaf!<\/span><\/p>\n<\/div>\n<div>\n<h4><span lang=\"CY\">Sut mae eich teulu a&#8217;ch ffrindiau wedi ymateb i chi yn ymuno \u00e2&#8217;r daith?<\/span><span lang=\"CY\">\u00a0<\/span><\/h4>\n<\/div>\n<div>\n<p><span lang=\"CY\">I fod yn onest, mae\u2019r rhai rydw i wedi s\u00f4n wrthyn nhw am y sialens wedi ymateb mewn sioc (mae\u2019n her anodd iawn)! Fodd bynnag, mae pawb wedi bod mor falch a chefnogol boed trwy rannu eu geiriau caredig neu roi i&#8217;r achos. Rydw i wedi fy syfrdanu gan y gefnogaeth mae&#8217;r achos wedi&#8217;i dderbyn ac rydw i yn ddiolchgar dros ben. \u00a0<\/span><\/p>\n<\/div>\n<div>\n<h4><span lang=\"CY\">Pa gyngor fyddech chi&#8217;n ei roi i eraill sy&#8217;n angerddol am ymchwil canser ond nad ydyn nhw\u2019n si\u0175r sut i ddechrau codi arian?<\/span><\/h4>\n<\/div>\n<div>\n<p><i><span lang=\"CY\">\u00a0<\/span><\/i>Yn syml, ewch amdani! Byddwch chi\u2019n synnu pa mor gyflym y bydd pobl yn dechrau eich cefnogi chi. Os oes gyda chi diddordebau rydych chi&#8217;n eu mwynhau, ceisiwch ddod o hyd i ffordd y gallwch chi ddefnyddio hynny i godi arian! Hefyd, cymerwch fantais o\u2019r ochr gymdeithasol i godi arian &#8211; mae siarad am y sialens wedi agor sgyrsiau gyda phobl dydw i heb sgwrsio \u00e2 nhw ers sbel ac maen nhw wedi helpu i ledaenu&#8217;r gair ymhellach.<\/p>\n<\/div>\n<div>\n<h4><span lang=\"CY\">Beth fyddech chi&#8217;n ei ddweud wrth fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd sy&#8217;n meddwl ymuno \u00e2 her yr Wyddfa?<\/span><i><span lang=\"CY\">\u00a0<\/span><\/i><\/h4>\n<\/div>\n<div>\n<p><span lang=\"CY\">Mae\u2019n swnio fel her frawychus iawn, yn enwedig os nad ydych chi, fel fi, wedi cael llawer o gymhelliant i fod yn iachach. Fodd bynnag, mae hwn yn gyfle i wneud rhywbeth anhygoel i chi&#8217;ch hun wrth wneud rhywbeth gwych i eraill ar yr un pryd! Cofiwch y gall herio eich hun hefyd fod yn hwyl a gallwch chi ysgogi eich hun wrth wybod eich bod yn helpu achosion da.<\/span><\/p>\n<\/div>\n<div>\n<h4><b><span lang=\"CY\">Cefnogwch Isabelle<\/span><\/b><b><\/b><\/h4>\n<\/div>\n<div>\n<p><span lang=\"CY\">Dangoswch eich cefnogaeth i Isabelle a helpwch hi gyrraedd ei tharged codi arian. <\/span><span lang=\"CY\"><a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/page\/isabelle-lodge-1708963175359\">Noddwch Isabelle ar JustGiving.<\/a><\/span><\/p>\n<\/div>\n<div><b><span lang=\"CY\">Cerdded Yr Wyddfa o dan awyr serennog a chodi arian naill ai ar gyfer ymchwil canser neu Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd. <\/span><\/b><span lang=\"CY\"><b><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\/snowdon\">Cofrestrwch i gerdded gyda #TeamCardiff ar 20 i 21 Gorffennaf 2024 neu 19 i 20 Hydref.<\/a> <\/b><\/span><b><span lang=\"CY\">Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr her, e-bostiwch <\/span><\/b><span lang=\"CY\"><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\/trek-yr-wyddfa-snowdon-at-night-with-teamcardiff\"><b>donate@caerdydd.ac.uk<\/b><\/a><b>.<\/b><\/span><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ym mis Gorffennaf, bydd Isabelle (Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol 2021-) yn mynd ar daith gyda\u2019r nos i fyny'r Wyddfa yng nghwmni ei chyd-godwyr arian #TeamCardiff. Yma, mae Isabelle yn s\u00f4n am pam penderfynodd hi i gymryd rhan yn y sialens o gerdded copa uchaf Cymru.","protected":false},"author":904,"featured_media":9822,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[212,166,170],"tags":[],"class_list":["post-9826","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-teamcardiff-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9826","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9826"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9826\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9831,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9826\/revisions\/9831"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9822"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9826"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9826"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9826"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}