{"id":9812,"date":"2024-05-30T10:05:39","date_gmt":"2024-05-30T10:05:39","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9812"},"modified":"2024-05-30T10:29:42","modified_gmt":"2024-05-30T10:29:42","slug":"dathlu-wythnos-y-gwirfoddolwyr-2024","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2024\/05\/30\/dathlu-wythnos-y-gwirfoddolwyr-2024\/","title":{"rendered":"Dathlu Wythnos y Gwirfoddolwyr 2024"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol a gynhelir rhwng dydd Llun 3 Mehefin a dydd Sul 9 Mehefin eleni, gan gydnabod cyfraniad miliynau o bobl ledled y DU trwy wirfoddoli yn eu cymunedau.\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">Bob blwyddyn, mae cyn-fyfyrwyr gwych sy\u2019n gwirfoddoli yn cael cryn effaith ar bopeth a wnawn yma ym Mhrifysgol Caerdydd, boed hynny&#8217;n gefnogi myfyrwyr drwy gynlluniau mentora, llywio strategaeth y Brifysgol, dychwelyd yma i roi cyflwyniad ar yrfaoedd i ysbrydoli&#8217;r genhedlaeth nesaf o raddedigion, neu gynnig interniaethau i&#8217;n myfyrwyr i gael profiad mewn diwydiant wrth gwblhau eu hastudiaethau.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335557856&quot;:16777215,&quot;335559739&quot;:360}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">Rydyn ni am fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch yn arbennig i bob un o&#8217;n cyn-fyfyrwyr sy\u2019n gwirfoddoli ac sy&#8217;n cyfrannu at wneud gwahaniaeth yma ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335557856&quot;:16777215,&quot;335559739&quot;:360}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><strong>Yn 2023, rhoddodd ein cyn-fyfyrwyr sy\u2019n wirfoddolwyr 7,775 o oriau o\u2019u hamser!\u00a0<\/strong><\/p>\n<figure id=\"post-9813 media-9813\" class=\"image align-center\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/05\/Vol-graphic-Welsh-scaled.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p><span data-contrast=\"none\">Dyma ragor o wybodaeth <\/span><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/volunteer\"><span data-contrast=\"none\">am wirfoddoli<\/span><\/a><span data-contrast=\"none\">.<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">Mae ein cyn-fyfyrwyr sy\u2019n gwirfoddoli wedi rhannu eu profiadau a s\u00f4n am y boddhad maen nhw\u2019n ei gael wrth wneud hynny.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335557856&quot;:16777215,&quot;335559739&quot;:360}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<h4><strong>Tyrone Stewart (MSc 2022)<\/strong><\/h4>\n<p>Rhoddodd ein cyn-fyfyriwr, Tyrone, sgwrs i fyfyrwyr presennol am ei brofiadau a\u2019i yrfa hyd yn hyn. <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/09\/07\/grym-mentora-gan-gyn-fyfyrwyr\/\">Dyma ragor o wybodaeth<\/a><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/09\/07\/grym-mentora-gan-gyn-fyfyrwyr\/\">. <\/a><\/p>\n<p><em>&#8220;Yn ddiweddar, fe ddes i n\u00f4l i siarad gyda myfyrwyr presennol ynghylch mentora a sut roedd hynny wedi gweithio i fi. Roeddwn i eisiau s\u00f4n bod angen iddyn nhw fod yn rhagweithiol wrth ddilyn eu hamcanion. Fe wnes i elwa cymaint o&#8217;r rhaglen fentora ac o astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, felly roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn \u00f4l gan helpu darpar fyfyrwyr mewn unrhyw ffordd bosib.&#8221;<\/em><\/p>\n<h4><strong>Sophia Crothall (Diwydiannau Diwylliannol a Chreadigol 2023-)<\/strong><\/h4>\n<p>Aeth Sophia i sgwrs <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/11\/22\/cyn-fyfyrwyr-yn-ysbrydoli-gweithwyr-proffesiynol-cyfryngau-y-dyfodol\/\">panel gan gyn-fyfyrwyr am yrfaoedd<\/a>.<\/p>\n<p><em>&#8220;Rwy\u2019n annog cyn-fyfyrwyr eraill yn fawr i feddwl am roi sgwrs am eu gyrfa. I fyfyrwyr presennol Prifysgol Caerdydd fel fi, gall hyn gynnig sicrwydd bod y swyddi sydd o ddiddordeb i ni o fewn ein gafael, ac mae&#8217;n amlygu sut y mae\u2019r sgiliau rydyn ni\u2019n eu dysgu yn ystod ein gradd yn berthnasol i fyd gwaith.<\/em><\/p>\n<p><em>Mae hefyd yn gyfle gwych i ni ofyn cwestiynau a ffurfio ein barn ein hunain am ein gyrfaoedd. Hefyd, rwy&#8217;n tybio ei fod yn fuddiol i gyn-fyfyrwyr ddod yn \u00f4l i&#8217;r man lle dechreuodd y daith!&#8221;<\/em><\/p>\n<h4><strong>Gabriel Yomi Dabiri (LLB 2008)<\/strong><\/h4>\n<p>Gabriel yw Cyd-Gadeirydd Cangen Efrog Newydd y Gymdeithas Cyn-Fyfyrwyr, ac mae\u2019n helpu trefnu digwyddiadau a gweithgareddau\u2019r gr\u0175p. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/stay-connected\/alumni-chapters-and-groups\">Dysgwch am ein Canghennau Rhyngwladol.<\/a><\/p>\n<p><em>&#8220;Daeth nifer o bobl i\u2019r lansiad yn Efrog Newydd ac fe deithiodd rhai o bell i ymuno \u00e2 ni. Roedd hi\u2019n noson llawn hwyl. Roedd gen i deimlad bod pobl yn mwynhau eu hunain yn fawr ac mewn dim brys i adael! Rwy&#8217;n si\u0175r na fydd hi\u2019n cymryd llawer o amser i\u2019r gymuned ddechrau ffynnu. Mae&#8217;n gr\u0175p mor ddiddorol a llawn hwyl, ac rwy&#8217;n edrych ymlaen at weld beth fyddwn ni\u2019n ei adeiladu yma.<\/em><\/p>\n<p><em>Does dim reswm pam y dylai\u2019r manteision o astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ddod i ben ar ddiwrnod graddio, a hynny pan fod gennym amrywiaeth o gyn-fyfyrwyr o gefndiroedd diwylliannol gwahanol ledled y byd, gan gynnwys yma yn Efrog Newydd.&#8221;<\/em><\/p>\n<h4><strong>Jane Cook (BA 2008)<\/strong><\/h4>\n<p>Roedd Jane yn fentor ar ein cynllun <a href=\"https:\/\/campaigns.cardiff.ac.uk\/menywod-yn-mentora-2024\">Menywod yn Mentora<\/a> yn 2023, gan gefnogi 3 o fentorai.<\/p>\n<p><em>&#8220;Roedd yn braf iawn cael fy ngofyn i fod yn fentor, ac wrth feddwl am y peth, pan oeddwn i\u2019n fyfyriwr yn y brifysgol, doeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i\u2019n dod yn hunangyflogedig. Byddwn i wedi hoffi cael clywed gan amrywiaeth ehangach o bobl a\u2019r llwybrau gwahanol a gymeron nhw.<\/em><\/p>\n<p><em>Meddyliais efallai bod angen mentor arna\u2019 i! Roeddwn i\u2019n gallu gweld manteision mentora o\u2019r ddwy ochr ac mae gen i ddiddordeb mewn gwneud hyn eto yn y dyfodol.&#8221;<\/em><\/p>\n<p><strong>Ni fyddai\u2019n bosib cyflawni\u2019r hyn rydyn ni\u2019n ei wneud heb wirfoddolwyr gwych, felly os hoffech chi roi rhywbeth yn \u00f4l, dewch i gymryd rhan. Beth am ddechrau heddiw drwy gofrestru ar gyfer ein platfform rhwydweithio i gyn-fyfyrwyr, <a href=\"https:\/\/connected.cardiff.ac.uk\">Cyswllt Caerdydd<\/a>.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol a gynhelir rhwng dydd Llun 3 Mehefin a dydd Sul 9 Mehefin eleni, gan gydnabod cyfraniad miliynau o bobl ledled y DU trwy wirfoddoli yn eu cymunedau.\u00a0","protected":false},"author":904,"featured_media":9810,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,204,170],"tags":[],"class_list":["post-9812","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-donate-cy","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9812","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9812"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9812\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9820,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9812\/revisions\/9820"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9810"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9812"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9812"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9812"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}