{"id":9793,"date":"2024-05-29T15:27:36","date_gmt":"2024-05-29T15:27:36","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9793"},"modified":"2024-05-29T15:31:35","modified_gmt":"2024-05-29T15:31:35","slug":"fy-mhrofiad-o-raglen-menywod-yn-mentora-joanna-dougherty-bscecon-2017","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2024\/05\/29\/fy-mhrofiad-o-raglen-menywod-yn-mentora-joanna-dougherty-bscecon-2017\/","title":{"rendered":"Fy mhrofiad o raglen Menywod yn Mentora \u2013 Joanna Dougherty (BScEcon 2017)\u00a0"},"content":{"rendered":"<p><strong>Graddiodd Joanna o Brifysgol Caerdydd yn 2017 a hi yw Cyfarwyddwr Gweithrediadau Byd-eang Profiad y Cleientiaid yn JLL, cwmni eiddo tirol byd-eang. Ers gadael Caerdydd, mae Joanna wedi treulio ei gyrfa yn gweithio gyda rhaglenni profiad y cleientiaid a rheoli perthnasoedd cwmn\u00efau gwasanaethau proffesiynol. Mae\u2019n gweithio gyda chyfrifon mwyaf JLL i roi&#8217;r profiad gorau i gleientiaid a defnyddio profiad y cleientiaid i helpu i lywio penderfyniadau strategol a chefnogi twf y busnes.\u00a0\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Cymerodd Joanna ran yn ein cynllun Menywod yn Mentora yn 2024 a oedd wedi paru 24 o fentoriaid \u00e2 60 o fentoreion. Cafodd ei pharu \u00e2 Natalie Atkinson (BSc 2018) Rheolwr Cynorthwyol Cynllunio a Datblygu yn YTL Developments (UK) Ltd. ac mae\u2019n rhannu ei phrofiadau o fod yn fentor ar y rhaglen.\u202f\u00a0\u00a0<\/strong><\/p>\n<h4><b><span data-contrast=\"auto\">Pam gwnaethoch chi benderfynu ymuno \u00e2 chynllun Menywod yn Mentora i fod yn fentor?\u00a0<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559740&quot;:252}\">\u00a0<\/span><\/h4>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Cymerais i ran yng nghynllun Menywod yn Mentora yn 2021 ar sail mentorai ac roedd y profiad yn werthfawr iawn. Felly pan gefais i\u2019r gwahoddiad i ddychwelyd yn fentor, do\u2019n i ddim yn gallu colli&#8217;r cyfle i helpu rhywun arall. Rwy bob amser wedi mwynhau cysylltu \u00e2 phobl newydd ac ro\u2019n i\u2019n gwybod y byddai hyn yn gyfle gwych i wneud hynny. Rwy wedi cwrdd \u00e2 rhai cyn-fyfyrwyr dawnus a gwych yn y cynllun hwn.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559740&quot;:252}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<h4><b><span data-contrast=\"auto\">Pam mae cynllun mentora menywod yn bwysig ichi?\u00a0<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559740&quot;:252}\">\u00a0<\/span><\/h4>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae menywod sy\u2019n cefnogi menywod bob amser wedi bod yn bwysig i mi, a gwn na fyddwn i wedi cyrraedd y pwynt yma yn fy ngyrfa heb arweiniad llawer o fenywod ysbrydoledig. Boed hynny\u2019n gyngor gan gydweithwyr a mentoriaid blaenorol, galwadau ff\u00f4n gyda fy mam i gael sgwrs yn ystod diwrnodau anodd, neu fy ffrindiau ar WhatsApp sydd bob amser yn barod i drafod heriau a rhoi cyngor bob gafael pan fydd angen hynny arno i. Weithiau, bydd cael rhywun sydd wedi bod mewn sefyllfaoedd tebyg neu sy\u2019n fodlon gwrando arnat ti\u2019n beth pwerus iawn.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559740&quot;:252}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<h4><b><span data-contrast=\"auto\">A allwch chi ddweud wrthon ni am yr hyn sydd ynghlwm wrth y mentora?\u00a0<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559740&quot;:252}\">\u00a0<\/span><\/h4>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Cawson ni rai deunyddiau a hyfforddiant defnyddiol ar y ffordd orau o gefnogi ein mentoreion yn y rhaglen. Yna cefais i sawl sgwrs rithwir gyda fy mentoreion, pan fuon ni\u2019n trafod pynciau sy&#8217;n effeithio ar gynifer o fenywod megis delio \u00e2 syndrom y twyllwr, cynllunio eich gyrfa a bod yn nerfus cyn cyflwyno. Ni chymerodd ormod o fy amser, ac roedden ni\u2019n gallu ymdrin \u00e2 sut gymaint yn ein cyfarfodydd.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559740&quot;:252}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<h4><b>Oes gennych chi awgrymiadau defnyddiol i gyn-fyfyrwyr a hoffai ymuno \u00e2 chynllun Menywod yn Mentora yn 2025?<\/b><b>\u00a0<\/b><\/h4>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Ewch amdani! Bellach, ar \u00f4l bod ar ddwy ochr y rhaglen, galla i ddweud yn hyderus eich bod yn cael cymaint ohoni, y mentor a\u2019r mentorai fel ei gilydd.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559740&quot;:252}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<h4><b><span data-contrast=\"auto\">Sut mae\u2019r mentora wedi cael effaith gadarnhaol ar eich gyrfa?<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559740&quot;:252}\">\u00a0<\/span><\/h4>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Pan gymerais i ran yn y rhaglen hon yn 2021 ro\u2019n i ar groesffordd yn fy ngyrfa. Roedd cael mentor i siarad \u00e2 hi bryd hynny yn hynod o ddefnyddiol ac roedd wedi fy helpu o ran magu hyder a sicrhau dyrchafiad. Yn dilyn fy mhrofiad o fod yn fentor y tro hwn, rwy&#8217;n sylweddoli nad dim ond y mentorai sy&#8217;n elwa ar y mentora. Cefais i gymaint o fudd yn sgil cysylltu \u00e2 fy mentoreion &#8211; roedd siarad \u00e2 nhw yn fy ysbrydoli a gwn fy mod i wedi elwa&#8217;n fawr ar ein sgyrsiau hefyd.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559740&quot;:252}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><b><span data-contrast=\"auto\">Soniodd Natalie Atkinson (BSc 2018), un o fentoreion Joanna, hefyd am ei <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2024\/05\/29\/fy-mhrofiad-o-raglen-menywod-yn-mentora-natalie-atkinson-bsc-2018\/\">phrofiad o gynllun Menywod yn Mentora<\/a>.<\/span><\/b><\/p>\n<p><strong>Os ydych chi&#8217;n gyn-fyfyrwraig o Gaerdydd sy&#8217;n awyddus i ddod o hyd i rywun arall sydd wedi graddio, neu fod yn fentor i rywun arall sydd wedi graddio, mae ein platfform rhwydweithio i gyn-fyfyrwyr <a href=\"https:\/\/connected.cardiff.ac.uk\/mentoring\">Cyswllt Caerdydd<\/a> yn eich helpu i ddod o hyd i&#8217;r person cywir. Mae cofrestru&#8217;n beth cyflym a rhwydd i\u2019w wneud, a gallwch chi hidlo yn \u00f4l y diwydiant a\u2019r lleoliad i chwilio am y rheini sydd naill ai\u2019n cynnig helpu neu\u2019n gofyn am gymorth.\u202f\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Ceir hefyd lawer o ffyrdd eraill y gallwch chi <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/volunteer\">wirfoddoli eich amser a&#8217;ch arbenigedd<\/a> i helpu i ysbrydoli a chefnogi&#8217;r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.\u202f\u00a0<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Cymerodd Joanna ran yn ein cynllun Menywod yn Mentora yn 2024 a oedd wedi paru 24 o fentoriaid \u00e2 60 o fentoreion. Cafodd ei pharu \u00e2 Natalie Atkinson (BSc 2018) Rheolwr Cynorthwyol Cynllunio a Datblygu yn YTL Developments (UK) Ltd. ac mae\u2019n rhannu ei phrofiadau o fod yn fentor ar y rhaglen.\u202f\u00a0\u00a0","protected":false},"author":904,"featured_media":9787,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,171,170,203,2067],"tags":[],"class_list":["post-9793","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-our-alumni-cy","category-news-cy","category-alumni-stories-cy","category-womentoring-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9793","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9793"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9793\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9803,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9793\/revisions\/9803"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9787"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9793"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9793"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9793"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}