{"id":9743,"date":"2024-03-15T13:26:47","date_gmt":"2024-03-15T13:26:47","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9743"},"modified":"2025-02-04T11:26:51","modified_gmt":"2025-02-04T11:26:51","slug":"gwybod-beth-hoffech-chi-ei-wneud-ar-ol-tyfu-i-fyny-bossing-it","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2024\/03\/15\/gwybod-beth-hoffech-chi-ei-wneud-ar-ol-tyfu-i-fyny-bossing-it\/","title":{"rendered":"Gwybod beth hoffech chi ei wneud ar \u00f4l tyfu i fyny \u2013 Bossing It\u202f"},"content":{"rendered":"<p>\u2018Beth hoffech chi ei wneud ar \u00f4l tyfu i fyny?\u2019 Mae hwn yn gwestiwn a ofynnir yn aml i blant, ond tra bod rhai yn cyflawni dyheadau eu plentyndod, efallai bod eraill yn dal i chwilio am eu swydd ddelfrydol pan yn oedolyn ac ni ddylai hynny fod yn dab\u0175! Cawsom sgwrs gyda rhai o&#8217;ncyn-fyfyrwyr anhygoel am y cwestiwn oesol hwn.<\/p>\n<h2>Sam MacGregor (BSc 2020)<\/h2>\n<p>Ar hyn o bryd, mae Sam MacGregor (BSc 2020) yn cyd-gyflwyno\u2019r sioe Weekend Breakfast ar BBC Radio 1. Cychwynnodd ar ei daith i fyd y cyfryngau gan wirfoddoli gyda Xpress Radio yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd. Ar \u00f4l iddo ennill sawl gwobr, gan gynnwys y wobr \u201cSioe Adloniant Orau\u201d gan Gyfryngau Myfyrwyr Caerdydd a\u2019r \u201cCyflwynydd Radio Gwryw Gorau\u201d yn y Gwobrau Radio Myfyrwyr yn 2019, buodd yn llwyddiannus wrth gipio\u2019r cyfle i weithio i BBC Radio 1 am y tro cyntaf, a hynny dim ond blwyddyn yn ddiweddarach. Dros y tair blynedd diwethaf, mae wedi bod yn gyflwynydd ar sawl sioe radio, sy\u2019n cynnwys, yn eu plith, &#8216;The Official Chart&#8217;, Early Breakfast ac roedd yn gyflwynydd radio a theledu byw yn ystod gwyliau cerddorol fel Reading a Leeds, Boardmasters, a Big Weekend Radio 1. Mae Sam hefyd yn cyflwyno digwyddiadau byw ac yn DJ, yn aml yn ymddangos ar lwyfannau ledled y DU.<\/p>\n<figure id=\"post-9738 media-9738\" class=\"image align-right\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/04\/Sam-MacGregor-Headshot.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h3>Dywedwch \u2018ie\u2019<\/h3>\n<p>Rydw i wastad wedi bod yn berson chwilfrydig iawn, ac wrth imi dyfu i fyny, roeddwn i&#8217;n gwybod mai gweithio mewn amgylchedd cymdeithasgar oedd fy nyhead. Pan oeddwn i\u2019n ifanc, byddwn i\u2019n gwrando ar y radio ar y ffordd i&#8217;r ysgol. Yn aml iawn, byddwn i\u2019n tueddu i feddwl am &#8216;y bobl hynny&#8217; yn siarad ar y radio, a gwnaeth daro deuddeg \u00e2 fi bod rhywun yn cael ei dalu (!) i eistedd gyda\u2019i ffrindiau a chael sgwrs a sbri yng nghwmni eu gilydd, tra bod eraill yn gwrando. Roedd gen i obsesiwn \u00e2 gwybod mwy, ac eisiau bod yn rhan o&#8217;r difyrrwch, pan wnes i diwnio i mewn.<\/p>\n<p>Roedd cymaint o swyddi o ddiddordeb i mi, ond nid tan i mi ddod i&#8217;r brifysgol y cefais y cyfle i roi cynnig ar ystod o brofiadau newydd sydd bellach yn llywio&#8217;r gwaith rwy&#8217;n ei wneud. Er y gwnaeth astudio Daearyddiaeth roi boddhad i mi ar yr ochr academaidd, y cymunedau a&#8217;r cyfleusterau a fu i Gaerdydd eu cynnig i mi a wnaeth danio fy angerdd. Gwnes i wirfoddoli gyda Xpress Radio a arweiniodd at gyflwyno rhaglenni byw, cyfweld ag artistiaid, bod yn gyflwynydd ar y llwyfan, cynllunio digwyddiadau elusennol, a llawer mwy. Fel rhan o fy nhymor dramor yn Sydney, fe wnes i hyd yn oed gyflwyno rhaglenni dros nos ar orsaf radio yn Awstralia. Hon oedd y sioe unigol gyntaf imi erioed ei chynllunio, ei chynhyrchu a\u2019i chyflwyno, a\u2019r holl beth ar fy mhen fy hun \u2013 gwnes i hyd yn oed ferlota 30 munud drwy dirwedd wyllt er mwyn cyrraedd yn brydlon i gyflwyno\u2019r slot hanner nos tan 4am! Os nad oeddwn wedi dilyn fy chwilfrydedd ym m\u00ear fy esgyrn, ni fyddwn wedi gallu ymroi fy hun a gweithio yn y diwydiannau creadigol fel rwy\u2019n ei wneud ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Felly, fy nghyngor i yw rhoi cynnig ar gymaint o brofiadau newydd \u00e2 phosib, gan ddysgu sut i fethu ar hyd y ffordd! Gwthiwch eich ffiniau a dysgwch o&#8217;r profiadau newydd a gewch chi drwy hynny.\u202fGwnaeth ddweud &#8216;Ie&#8217; fy arwain at gwrdd \u00e2 ffrindiau gydol oes a dysgu set o sgiliau gwerthfawr na allwn wedi\u2019i chael drwy &#8216;ddarllen llyfr&#8217;. Rydw i o\u2019r farn yr ydych chi\u2019n dysgu\u2019r gwersi gorau wrth dreialu pethau newydd a gwneud camgymeriadau ar hyd y ffordd, ac mae\u2019r ddau brofiad wedi fy nhywys i ble rydw i heddiw.<\/p>\n<h2>Sheilla Mamona (BSc 2016)<\/h2>\n<p>Newyddiadurwr Llawrydd yw Sheilla Mamona, a adnabyddir fel arall fel Shei [SHAY] gyda chydnabyddiaeth mewn cyhoeddiadau fel Vogue, GLAMOR Magazine, Allure, The Sunday Times STYLE, Cosmopolitan a The Telegraph. Ers graddio mewn Mathemateg mae hi bellach yn treulio amser yn ysgrifennu am harddwch, chwaraeon, adloniant a ffordd o fyw yn ogystal \u00e2 chyfweld \u00e2 rhestr hir o enwogion. Mae amlygrwydd a gwaith Sheila wedi ennill Gwobr Canmoliaeth Uchel British Society of Magazine Editors Awards (BSMEs). Mae hi&#8217;n teimlo\u2019n angerddol am gydraddoldeb hil, a bellach yn treulio llawer o amser yn eirafyrddio, sglefrio a theithio.<\/p>\n<figure id=\"post-9739 media-9739\" class=\"image align-right\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/04\/Shei-Mamona-Headshot.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h3>Anaml y bydd llwybr bywyd yn gwbl syth, gwnewch beth sy&#8217;n eich gwneud chi&#8217;n hapus<\/h3>\n<p>Ar ben hynny Si\u0175r o fod, pan fyddwch chi&#8217;n graddio, byddwch yn ansicr o hyd o\u2019r hyn rydych chi eisiau bod pan fyddwch chi&#8217;n tyfu. Mewn gwirionedd, wrth i chi dyfu, efallai byddwch yn ceisio o hyd i ddarganfod beth rydych chi eisiau bod pan fyddwch chi wedi &#8216;tyfu lan&#8217;. Mae&#8217;n gas gen i ddweud hyn, ond lluniad cymdeithasol mewn gwirionedd yw amser. Yn blentyn roedd gen i lawer o ddyheadau mewn golwg: meddyg, cyfreithiwr, cantores, actores, peiriannydd, newyddiadurwr, athletwr, (roedd rhain yn gymharol gyfyngedig i&#8217;r hyn oedd y gymdeithas yn dangos i fod yn llwyddiannau).<\/p>\n<p>Pan gyrhaeddais i lefel TGAU, Deintyddiaeth oedd y dewis, ond erbyn i ddiwrnod canlyniadau safon uwch gyrraedd, penderfynais setlo ac astudio gradd Mathemateg yn y brifysgol. Heb unrhyw uchelgais o fod yn fathemategydd (ro\u2019n i wastad yn gwybod fy mod yn greadigol wrth galon). Y cyfan ro\u2019n i&#8217;n ei wybod oedd bod angen cynllun wrth gefn arnaf, rhag ofn na fyddai bywyd fel newyddiadurwr, cyflwynydd, athletwr yn gweithio\u2019n dda. (Rhybudd: fe wnaeth)<\/p>\n<p>I mi (gyda\u2019r pwyslais arna I) roedd y cynllun wrth gefn hwn yn rhoi hyder llawn i mi ddilyn fy mreuddwydion eraill, gan wybod pe bai popeth yn mynd o\u2019i le, byddwn bob amser yn iawn. Hwn oedd y penderfyniad gorau y gallwn i fod wedi ei wneud bryd hynny ac nid wyf wedi edrych yn \u00f4l ers hynny.<\/p>\n<p>Fel rhywun sydd ag Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) heb ei ganfod, rwyf hefyd yn un o&#8217;r oedolion hynny sy&#8217;n gorfod archwilio pob hobi posibl a cheisio gwneud bywoliaeth ohono. Lawer gwaith fe wnaeth i mi deimlo nad oedd gen i unrhyw weledigaeth na phwrpas. Dim cyfeiriad clir ar ble roeddwn i eisiau bod, jac o bob crefft wedi drysu\u2019n llwyr a ddaeth yn feistr o rai a\u2019i gwrthdynnu gan freuddwydion a chyfleoedd eraill a ddaeth ar hyd y ffordd. Anaml y bydd llwybr bywyd yn gwbl syth, ac felly byddai&#8217;n wirion mabwysiadu agwedd o\u2019r fath at eich gyrfa, sy\u2019n chwarae rhan allweddol o&#8217;ch bywyd.<\/p>\n<p>Doeddwn byth yn gwybod yn iawn beth ro\u2019n i eisiau ei wneud pan oeddwn wedi \u201ctyfu lan\u201d. Mae un peth wedi parhau yn gyson serch hynny: y weledigaeth yw bod yn hapus, y pwrpas yw\u2019r daith wefreiddiol i gyrraedd yno.<\/p>\n<h2>Jessica Mullins (BSc 2011)<\/h2>\n<p>Mae Jessica Mullins (BSc 2011) yn Dyst Arbenigol a Therapydd Galwedigaethol ar gyfer Goruchaf Lys British Columbia. Ym mis Ionawr 2022, arweiniodd d\u00eem rhyngwladol rhwyfo cefnforol (o\u2019r enw IN DEEP SHIP) 3,000 milltir ar draws Cefnfor yr Iwerydd i godi arian ar gyfer elusen. Cymerodd 42 diwrnod, 4 awr a 54 munud a bu\u2019n rhaid iddyn nhw wynebu newyn, tonnau enfawr, dadhydradu, blinder a rhithwelediadau.\u202fNhw oedd y t\u00eem cymysg cyntaf (tair menyw ac un dyn) yn y byd i rwyfo unrhyw gefnfor.<\/p>\n<figure id=\"post-9740 media-9740\" class=\"image align-right\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/04\/Jess-Mullins-Headshot.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h3>Os oes gennych ddigon o ddyfalbarhad, gallwch gyflawni be bynnag yr hoffech chi.<\/h3>\n<p>Pan rydw i\u2019n edrych yn \u00f4l ar fy llwyddiannau, rydw i\u2019n gallu adnabod un thema hollbwysig \u2014 dyfalbarhad. Pan oeddwn i\u2019n blentyn, roeddwn i&#8217;n ddigon ffodus i ddysgu y gallwn gyflawni unrhyw beth roeddwn i eisiau, cyn belled \u00e2 fy mod yn canolbwyntio arno. Rydw i\u2019n ddyslecsig ac nid oeddwn yn athletwr, ond ychydig ddegawdau yn ddiweddarach, rydw i wedi chwalu trwy&#8217;r &#8216;rhwystrau&#8217; hynny. Rwy&#8217;n llwyddiannus iawn yn y gwaith, ac fe wnes i gwblhau un o&#8217;r rasys dygnwch anoddaf yn y byd. Pam? Oherwydd rydw i\u2019n credu, pan fydd gennych freuddwyd, mae rhaid i chi weithio\u2019n galed ac yn gyson neu ni fyddwch yn dwyn ffrwyth. Mae&#8217;n rhaid i chi anwybyddu&#8217;r rhai o&#8217;ch cwmpas sy&#8217;n dweud wrthych nad oes modd y gall eich breuddwyd ddod yn realiti ac mae\u2019n rhaid i chi ddangos i&#8217;r byd na ddylent danbrisio p\u0175er menyw. Felly, a wyddwn i pan oeddwn i&#8217;n ferch fach fy mod i eisiau bod yn ddeiliad record byd pan oeddwn i&#8217;n oedolyn? Nac oeddwn, mwy na thebyg. Ond, a oeddwn i&#8217;n gwybod fy mod i eisiau bod ymysg y gorau yn yr hyn a wnes i? Yn bendant!<\/p>\n<p><strong>Manteisio ar ddoethineb a gwybodaeth eich cymuned o gynfyfyrwyr am yrfaoedd. Mae ein cyfres <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/category\/cyswllt-caerdydd\/bossing-it-cy\/\">&#8216;Bossing It&#8217;<\/a> yn dwyn ynghyd gyngor ar yrfaoedd gan ystod o gynfyfyrwyr. Mae cynfyfyrwyr llwyddiannus yn rhannu eu profiadau ym mhob rhifyn i helpu cenhedlaeth nesaf cynfyfyrwyr Caerdydd. Mae&#8217;r rhain yn cynnwys awgrymiadau ymarferol ar gyfweliadau a CVs, blas ar fyd gwaith, ac ati.<\/strong><\/p>\n<p><b>Yn barod i gysylltu \u00e2 chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? Ymunwch \u00e2\u2019n\u00a0<\/b><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/groups\/112830\/\"><b>gr\u0175p LinkedIn<\/b><\/a><b>\u00a0a dechrau rhwydweithio.<\/b><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"\u2018Beth hoffech chi ei wneud ar \u00f4l tyfu i fyny?\u2019 Mae hwn yn gwestiwn a ofynnir yn aml i blant, ond tra bod rhai yn cyflawni dyheadau eu plentyndod, efallai bod eraill yn dal i chwilio am eu swydd ddelfrydol pan yn oedolyn ac ni ddylai hynny fod yn dab\u0175! Cawsom sgwrs gyda rhai o'ncyn-fyfyrwyr anhygoel am y cwestiwn oesol hwn.","protected":false},"author":904,"featured_media":9741,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[207,166],"tags":[],"class_list":["post-9743","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-bossing-it-cy","category-cyswllt-caerdydd"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9743","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9743"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9743\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10171,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9743\/revisions\/10171"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9741"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9743"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9743"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9743"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}