{"id":9717,"date":"2024-04-25T13:27:14","date_gmt":"2024-04-25T13:27:14","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9717"},"modified":"2025-02-04T11:29:31","modified_gmt":"2025-02-04T11:29:31","slug":"awgrymiadau-gwych-cyn-dechrau-eich-prosiect-creadigol-bossing-it","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2024\/04\/25\/awgrymiadau-gwych-cyn-dechrau-eich-prosiect-creadigol-bossing-it\/","title":{"rendered":"Awgrymiadau gwych cyn dechrau eich prosiect creadigol \u2013 Bossing It"},"content":{"rendered":"<p><strong>Gall prosiectau creadigol ddysgu sgiliau newydd, agor drysau newydd a rhoi rhagor o amser gwerthfawr ichi ganolbwyntio ar eich diddordebau personol. P&#8217;un a ydych chi&#8217;n dymuno troi hobi\u2019n yrfa neu ddod \u00e2 syniadau&#8217;n fyw yn eich amser hamdden, gall ychydig o arweiniad eich rhoi ar ben eich ffordd. Gofynnon ni i rai o&#8217;n cyn-fyfyrwyr gwych sydd wedi gweithio ar ystod o brosiectau &#8211; o gylchgronau i bodlediadau &#8211; i rannu eu hawgrymiadau mwyaf defnyddiol.<\/strong><\/p>\n<h2>Claudia Rutherford (BA 2019)<\/h2>\n<p>Claudia yw Golygydd Sefydlol <a href=\"https:\/\/www.instagram.com\/santesdwynwenmag\/\">Santes Dwynwen Magazine<\/a>, cyhoeddiad celfyddydau a diwylliant sy&#8217;n canolbwyntio ar Gymru. Tra\u2019n fyfyriwr, bu ar Leoliad Cyfleoedd Ymchwil Israddedig Prifysgol Caerdydd, yn ymchwilio i ymatebion y cyfryngau, y cyhoedd a gwleidyddion i d\u00e2n T\u0175r Grenfell. Ochr yn ochr \u00e2\u2019i hastudiaethau mewn Athroniaeth, bu\u2019n gynhyrchydd a chyflwynydd ar Radio Xpress sy\u2019n rhan o Gyfryngau Myfyrwyr Caerdydd, a bu\u2019n cyfrannu\u2019n rheolaidd i gylchgrawn Quench. A hyn o bryd mae\u2019n gweithio ym maes addysg.<\/p>\n<figure id=\"post-9722 media-9722\" class=\"image align-right\"><img decoding=\"async\" style=\"width: 278px;height: 278px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/04\/Claudia-Rutherford-BA-2019-scaled-e1713367104673.jpeg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p><strong>Does dim rhaid i chi adnabod y bobl &#8216;gywir&#8217; cyn i chi ddechrau<\/strong><\/p>\n<p>Mae diwydiannau creadigol yn atgyfnerthu pwysigrwydd rhwydweithio, ond dydy hyn ddim bob amser yn hygyrch. Rydw i wedi gweithio mewn caffis ac archfarchnadoedd ers pan oeddwn i yn fy arddegau. Gall y cysylltiadau a&#8217;r sgiliau y byddwch yn eu meithrin wrth wasanaethu pobl yn eich cymuned fod yn fwy gwerthfawr nag adnabod gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.<\/p>\n<p>Bydd cysylltu a chydymdeimlo \u00e2 phob math o bobl, nid yn unig y rhai sy&#8217;n gweithio mewn meysydd creadigol, yn gwneud eich gwaith yn fwy gwreiddiol a dilys. Yn ogystal \u00e2 datblygu eich sgiliau cyfathrebu, rydych chi&#8217;n dod i ddeall yr hyn sy&#8217;n bwysig i bobl &#8211; rhywbeth roeddwn i&#8217;n teimlo oedd yn hanfodol wrth greu fy nghylchgrawn.<\/p>\n<h2>Elinor Terry (BA 2017)<\/h2>\n<p><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/elinorterry\/\">Elinor<\/a> yw Pennaeth Dylunio a Chyfryngau Cymdeithasol <a href=\"http:\/\/www.redbricksmedia.co.uk\/\">Redbricks Media<\/a>. Hi oedd un o gyd-sylfaenwyr y cwmni cynhyrchu digidol yma yn 2023. Mae Redbricks Media yn arbenigo mewn ffilmiau digidol, podlediadau, y cyfryngau cymdeithasol a gwefannau.<\/p>\n<p>Cyn hynny, treuliodd Elinor bum mlynedd yn y BBC, yn gyntaf yn Ymchwilydd Digidol ac yn ddiweddarach yn Swyddog Gweithredol Cyfryngau Cymdeithasol. Bu\u2019n gweithio ar ymgyrch BBC Education, Tiny Happy People, gan lansio eu strategaeth gymdeithasol ar y cyd \u00e2\u2019r Sefydliad Brenhinol a Phalas Kensington. Ar \u00f4l graddio yn 2017, bu Elinor yn diwtor rhan-amser, yn creu cynnwys i YouTube ac yn awdur llawrydd.<\/p>\n<figure id=\"post-9724 media-9724\" class=\"image align-right\"><img decoding=\"async\" style=\"width: 278px;height: 278px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/04\/Screenshot-2024-04-17-at-16.11.38-e1713367192104.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p><strong>Dylech chi greu fel petai neb yn gwylio nac yn gwrando (mae&#8217;n bur debyg nad ydyn nhw)!<\/strong><\/p>\n<p>Fyddwn i ddim wedi cael unrhyw un o\u2019r swyddi na\u2019r cyfleoedd gyrfaol rydw i wedi\u2019u cael heb bortffolio amrywiol o brosiectau creadigol. Yn aml, dim ond fy mam a&#8217;i ffrindiau Facebook oedd yn eu gweld. Prin fod gan fy mhrosiectau, gan gynnwys fy mlog Blwyddyn Dramor a fy sianel Booktube, rhyw 100 o ddilynwyr. Dydw i erioed wedi creu unrhyw beth oedd \u2018wedi llwyddo\u2019 o ddifri.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, fe wnaeth y sgiliau a ddysgais ar hyd y daith fy helpu i gael fy swydd gyntaf yn y BBC, a dechrau fy nghwmni cyfryngau digidol fy hun. Roedd y sgiliau hyn yn cynnwys siarad yn hyderus ar gamera, golygu fideo a sain, ac optimeiddio peiriannau chwilio. Fe wnaeth yr enghreifftiau hyn o brofiad ymarferol helpu fy CV i greu argraff (gobeithio).<\/p>\n<p>Yn y byd cynhyrchu digidol, dydy llwyddiant ddim bob tro\u2019n cael ei fesur gan nifer y bobl sy\u2019n eich \u2018hoffi\u2019 neu eich \u2018gwylio\u2019. Byddwch yn dysgu llawer drwy greu prosiect creadigol \u2013 felly daliwch ati. Dydych chi byth yn gwybod beth fydd y canlyniad. Gall fod yn gam tuag at gyfle hyd yn oed yn well, o leiaf.<\/p>\n<h2 style=\"font-weight: 400\">Ffion Clarke (MA 2020)<\/h2>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae <a href=\"https:\/\/ffionclarke.wixsite.com\/portfolio\">Ffion<\/a> yn gynhyrchydd sain llawrydd arobryn. Mae hi wedi gweithio mewn sawl genre, gan gynnwys ffyrdd o fyw, hanes, chwaraeon a sioeau cwis, gyda darlledwyr newydd a phrofiadol. O 2022, cynhyrchodd un o bodlediadau hyder corff gorau&#8217;r DU, \u2018Go Love Yourself.\u2019<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae Ffion yn angerddol am allu sain i gadw cwmni ar bobl a chreu&#8217;r cymunedau wyneb yn wyneb gorau posibl. Caiff ei chefnogi gan ei Chynhyrchydd Cynorthwyol &#8211; ei chi a&#8217;i ffrind gorau, Maggie.<\/p>\n<figure id=\"post-9731 media-9731\" class=\"image align-right\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/04\/Ffion-Clarke-MA-2020-black-and-white-e1714049887560.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Dod i adnabod eich cynulleidfa<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae gan bodlediadau y ffordd anhygoel unigryw hon o ymgysylltu \u00e2&#8217;r gwrand\u00e4wr \u2013 maent yn dewis treulio cryn dipyn o amser gyda chi yn eu bywyd o ddydd i ddydd. Ac yn ddelfrydol mae angen i chi ddefnyddio&#8217;r cysylltiad hwn a gweithio arni, fel eich bod bron yn rhan o hunaniaeth yr unigolyn hwnnw. Rydych chi am iddyn nhw feddwl: &#8220;Mae&#8217;n ddydd Llun, amser i wrando ar [insert show]&#8221;.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Felly, wrth ddechrau prosiect creadigol, mae angen i chi feddwl: ar gyfer pwy yw hwn \/ at ba fath o gynulleidfa rydw i am eu denu? A yw&#8217;n llenwi bwlch? Sut byddaf yn ymgysylltu \u00e2 fy nghynulleidfa? A oes ffyrdd y gallaf fynd \u00e2&#8217;r gymuned hon ymhellach (er enghraifft, trwy grwpiau Facebook )? Ydw i&#8217;n rhoi rhywfaint o werth iddyn nhw? Deunydd y gallant fynd yn \u00f4l gyda nhw?<\/p>\n<h2 style=\"font-weight: 400\">Kacie Morgan (BA 2010)<\/h2>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/kaciemorgan21\/\">Kacie<\/a> yn awdur bwyd a theithio arobryn. Yn 2010, sefydlodd ei blog bwyd <a href=\"https:\/\/www.therarewelshbit.com\/\">\u2018The Rare Welsh Bit\u2019<\/a> i ddatblygu ei phortffolio ysgrifennu ar \u00f4l graddio. Heddiw, mae Kacie yn gweithio\u2019n llawn amser ar ei blog a\u2019i sianeli cymdeithasol, sydd wedi ymddangos ar BBC One, BBC Wales, Food 52, a Metro. Yn aelod o \u2018The Guild of Food Writers\u2019, mae Kacie hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau amrywiol, gan gynnwys Croeso Cymru, \u2018Sainsbury&#8217;s Magazine\u2019, a \u2018Co-op Food Mag\u2019.<\/p>\n<figure id=\"post-9726 media-9726\" class=\"image align-right\"><img decoding=\"async\" style=\"width: 278px;height: 278px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/04\/Kacie-Morgan-e1713366889328.jpeg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Anelu at adeiladu cymuned gefnogol, ysbrydoledig o bobl greadigol o&#8217;r un anian<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Gallai cymryd yr amser i ddod i adnabod pobl greadigol eraill eich helpu i sicrhau mwy o waith yn eich arbenigedd a hyd yn oed cwrdd \u00e2 darpar staff i\u2019w cyflogi yn y dyfodol. Hefyd, mae&#8217;n golygu y bydd gennych chi gr\u0175p o ffrindiau \u00e2 diddordebau tebyg i gymdeithasu \u00e2 nhw hefyd &#8211; sy&#8217;n arbennig o bwysig os byddwch chi&#8217;n gweithio ar eich pen eich hun, ar sail lawrydd.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">I ddechrau, ewch i ddigwyddiadau perthnasol yn eich ardal (mae <a href=\"https:\/\/creativemornings.com\/\">CreativeMornings<\/a> yn arbennig o boblogaidd), ymunwch \u00e2 grwpiau Facebook a LinkedIn i gysylltu ag eraill a rhyngweithio \u00e2 chyfrifon tebyg ar X, Instagram, neu TikTok.<\/p>\n<p><strong>Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw o bobl sy\u2019n barod iawn eu cymwynas ac yma i&#8217;ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Mae ein cyfres \u2018Bossing It\u2019 yn dod \u00e2 chyngor gan gyn-fyfyrwyr mewn sawl maes at ei gilydd \u2013 dewch i fanteisio ar eu doethineb a <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/category\/cyswllt-caerdydd\/bossing-it-cy\/\">phori drwy awgrymiadau gwych ar ystod eang o bynciau<\/a>.<\/strong><\/p>\n<p><b>Yn barod i gysylltu \u00e2 chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? Ymunwch \u00e2\u2019n\u00a0<\/b><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/groups\/112830\/\"><b>gr\u0175p LinkedIn<\/b><\/a><b>\u00a0a dechrau rhwydweithio.<\/b><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Gall prosiectau creadigol ddysgu sgiliau newydd, agor drysau newydd a rhoi rhagor o amser gwerthfawr ichi ganolbwyntio ar eich diddordebau personol. P'un a ydych chi'n dymuno troi hobi\u2019n yrfa neu ddod \u00e2 syniadau'n fyw yn eich amser hamdden, gall ychydig o arweiniad eich rhoi ar ben eich ffordd. Gofynnon ni i rai o'n cyn-fyfyrwyr gwych sydd wedi gweithio ar ystod o brosiectau - o gylchgronau i bodlediadau - i rannu eu hawgrymiadau mwyaf defnyddiol.  ","protected":false},"author":904,"featured_media":9735,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[207,166,171,1975,170],"tags":[],"class_list":["post-9717","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-bossing-it-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-our-alumni-cy","category-gyrfaoedd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9717","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9717"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9717\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10173,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9717\/revisions\/10173"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9735"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9717"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9717"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9717"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}