{"id":9635,"date":"2024-03-01T14:12:05","date_gmt":"2024-03-01T14:12:05","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9635"},"modified":"2024-03-01T14:12:05","modified_gmt":"2024-03-01T14:12:05","slug":"roeddwn-in-argyhoeddedig-na-fyddwn-i-byth-yn-gallu-rhedeg-eto-cymryd-rhan-yn-hanner-marathon-caerdydd-ar-gyfer-ymchwil-canser","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2024\/03\/01\/roeddwn-in-argyhoeddedig-na-fyddwn-i-byth-yn-gallu-rhedeg-eto-cymryd-rhan-yn-hanner-marathon-caerdydd-ar-gyfer-ymchwil-canser\/","title":{"rendered":"&#8220;Roeddwn i&#8217;n argyhoeddedig na fyddwn i byth yn gallu rhedeg eto&#8221;: cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ar gyfer ymchwil canser"},"content":{"rendered":"<p><b><span data-contrast=\"auto\">Cyn-fyfyriwr ac aelod o staff Prifysgol Caerdydd yw Abyd Quinn-Aziz (MPhil 2012) sydd wedi bod yn rhedwr brwd ers ei ieuenctid. Yn dilyn rhai problemau iechyd, mae wedi dychwelyd i redeg yn ddiweddar ac mae wedi gosod her Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref eleni.<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Roeddwn i&#8217;n arfer rhedeg yn rheolaidd ac wedi rhedeg Hanner Marathon Caerdydd sawl gwaith o&#8217;r blaen, yn ogystal \u00e2 marathonau llawn. Ond yn ddiweddar rydw i wedi cael seibiant gan fy mod i wedi bod yn cael trafferth gyda COVID hir. Chwe mis yn \u00f4l, allwn i ddim rhedeg milltir heb orfod stopio, felly mae hyn yn ymwneud ag adeiladu fy nerth ac ail gydio ynddi. Dydw i ddim eisiau mynd allan o wynt yn cerdded i fyny&#8217;r grisiau rhagor.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Yn ogystal \u00e2 gwneud hyn er fy iechyd fy hun, rwy&#8217;n rhedeg gyda #TeamCardiff i godi arian ar gyfer ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd fy ngwraig Sue ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2017 ac er gwaethaf triniaeth, daeth yn \u00f4l yn 2019. Dywedwyd wrthi y byddai angen llawdriniaeth enfawr arni i achub ei bywyd, rhywbeth nad oedd ar gael yng Nghymru. Bu&#8217;n rhaid iddi symud i Birmingham i gael y llawdriniaeth arloesol hon. Bu\u2019n llwyddiannus ac mae hi bellach yn rhydd o ganser.<\/span><\/p>\n<figure id=\"post-9621 media-9621\" class=\"image align-left\"><img decoding=\"async\" style=\"width: 274px;height: 400px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/03\/MicrosoftTeams-image-13.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Trwy gydol triniaeth Sue, roedd fy nghyfaill rhedeg Paul yno i mi. Roedden ni&#8217;n ffrindiau am 20 mlynedd ac fe welodd e fi drwy gyfnodau tywyll. Roedd yn ffrind ffyddlon ac yn ddyn hyfryd. Yn anffodus, derbyniodd ei ddiagnosis ei hun o ganser yn 2022 a bu farw&#8217;n gyflym iawn. Sue a Paul yw&#8217;r rheswm pam fy mod i&#8217;n codi arian ar gyfer ymchwil canser. Rwyf am wneud fy rhan i helpu i wella diagnosis cynharach\/cynnar a datblygu triniaethau gwell sydd ar gael i bawb.<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Rhedais yn yr ysgol ac am ychydig yn ystod blynyddoedd cyntaf yn y brifysgol ond yna rhoi&#8217;r gorau iddi. Fe wnes i ddychwelyd i redeg yn fy mhedwardegau ar \u00f4l i fy mab cael ei eni . Roeddwn i eisiau gwneud yn si\u0175r fy mod i&#8217;n gallu cadw i fyny ag ef! Dechreuais loncian o amgylch Penarth ac yna fe wnes i ymuno \u00e2 chlwb Penarth a Dinas Runners. Roedd y clwb mor groesawgar, es i n\u00f4l i rhedeg pellteroedd hir, ac ar \u00f4l ychydig o argyhoeddi, dechreuais rhedeg marathonau.<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Un o&#8217;r prif bethau mae rhedeg yn ei wneud i mi yw rhoi lle i mi ddianc o&#8217;r gwaith; bod allan gyda rhywun yn sgwrsio a rhoi\u2019r byd yn ei le. Mae&#8217;n helpu fy lles meddyliol ac yn amlwg mae manteision iechyd corfforol hefyd. Er ar \u00f4l sesiwn fynydd weithiau nid yw\u2019n teimlo fel bod &#8216;na unrhyw fudd iddo o gwbl!<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<figure id=\"post-9622 media-9622\" class=\"image align-right\"><img decoding=\"async\" style=\"width: 306px;height: 400px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2024\/03\/MicrosoftTeams-image-14.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Yn fwy diweddar, ar \u00f4l bod yn s\u00e2l roeddwn ar fin cael gwared ar fy holl bethau rhedeg, gan fy mod yn argyhoeddedig na fyddwn byth yn gallu rhedeg eto. Ond gyda chefnogaeth y clwb, teulu a ffrindiau, rydw i n\u00f4l allan yna ac yn cryfhau bob dydd. Er mwyn helpu i gael fy ffitrwydd yn \u00f4l i fyny, ymunais \u00e2 rhaglen \u2018Couch to 5K\u2019 a oedd newydd fy nghael yn \u00f4l i rythm o redeg tair gwaith yr wythnos. Daeth hynny \u00e2&#8217;r teimlad cadarnhaol hwnnw a&#8217;r positifrwydd yn \u00f4l ar \u00f4l rhedeg.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Fy nghyngor i unrhyw redwyr newydd yw cofio bod rhedeg mewn gwirionedd yn hwyl, er efallai na fydd yn teimlo fel hynny ar y pryd! Dwi wrth fy modd yn mynd allan a dod adref gyda theimlad &#8216;haeddiannol&#8217; yn hytrach na theimlad blinedig o&#8217;r gwaith yn unig.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Rwy&#8217;n edrych ymlaen at fwrlwm diwrnod y ras. Mae yna gyffro o fod gyda gr\u0175p o bobl, i gyd yn gwneud yr un peth. Mae&#8217;r llwybr yn wych hefyd, ac rwyf wrth fy modd yn rhedeg o amgylch y Bae. Ac mae croesi&#8217;r llinell derfyn o flaen Adeilad Morgannwg, lle dwi&#8217;n gweithio, yn wych!<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><b><span data-contrast=\"auto\">Cefnogi Abyd<\/span><\/b><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Dangoswch eich cefnogaeth i Abyd a&#8217;i helpu i gyrraedd ei darged codi arian. <\/span><a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/page\/abyd-quinn-aziz-1704295154810\"><span data-contrast=\"none\">Noddwch Abyd ar JustGiving<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><b><span data-contrast=\"auto\">Beth am redeg Hanner Marathon Caerdydd yn 2024?<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"none\">Rhedwch <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\/run-the-cardiff-half-marathon\">Hanner Marathon Caerdydd<\/a><\/span><span data-contrast=\"auto\"> ar Sul 6 Hydref a chodi arian ar gyfer niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd, neu ymchwil canser. Gwnewch gais am un o leoedd elusennol cyfyngedig #TeamCardiff.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Neu os oes gennych chi awydd ymgymryd \u00e2 her yn fwy, mae hefyd <\/span><span data-contrast=\"none\">nifer gyfyngedig o leoedd elusennol i redeg <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\/run-the-newport-wales-marathon-with-teamcardiff\">Marathon APB Casnewydd Cymru<\/a> <\/span><span data-contrast=\"auto\">ar 28 Ebrill 2024.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">I gael gwybod rhagor am godi arian ym Mhrifysgol Caerdydd, e-bostiwch <\/span><a href=\"mailto:donate@cardiff.ac.uk\"><span data-contrast=\"none\">donate@caerdydd.ac.uk<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Cyn-fyfyriwr ac aelod o staff Prifysgol Caerdydd yw Abyd Quinn-Aziz (MPhil 2012) sydd wedi bod yn rhedwr brwd ers ei ieuenctid. Yn dilyn rhai problemau iechyd, mae wedi dychwelyd i redeg yn ddiweddar ac mae wedi gosod her Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref eleni.\u00a0","protected":false},"author":904,"featured_media":9618,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[212,166,171,170,203],"tags":[],"class_list":["post-9635","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-teamcardiff-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-our-alumni-cy","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9635","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9635"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9635\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9638,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9635\/revisions\/9638"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9618"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9635"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9635"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9635"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}