{"id":9629,"date":"2024-03-04T16:36:40","date_gmt":"2024-03-04T16:36:40","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9629"},"modified":"2024-04-09T15:20:21","modified_gmt":"2024-04-09T15:20:21","slug":"datblygu-triniaethau-cynnar-hanfodol-ar-gyfer-canser-y-pancreas","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2024\/03\/04\/datblygu-triniaethau-cynnar-hanfodol-ar-gyfer-canser-y-pancreas\/","title":{"rendered":"Datblygu triniaethau cynnar hanfodol ar gyfer canser y pancreas\u00a0"},"content":{"rendered":"<p><b><span data-contrast=\"auto\">Ar hyn o bryd, dim ond 5% yw\u2019r gyfradd oroesi (o ddeng mlynedd) ar gyfer y rheiny sy\u2019n dioddef o ganser y pancreas. Gan mai anodd yw canfod y clefyd yn ei gamau cynnar, mae ymyrraeth yn aml yn dod yn rhy hwyr i nifer fawr o gleifion. Mae Josh D&#8217;Ambrogio (Y Biowyddorau 2021-) wedi bod wrthi\u2019n astudio canser y pancreas yn ei gamau cynnar, er mwyn dod o hyd i ddulliau pellach a all ganfod y clefyd yn fwy cynnar, a strategaethau ar gyfer ei drin yn fwy effeithiol.<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{&quot;134233117&quot;:false,&quot;134233118&quot;:false,&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559738&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Ffocws fy ymchwil yw mynd i\u2019r afael \u00e2 sut mae gordewdra (ymhlith oedolion) yn gallu effeithio ar allu&#8217;r pancreas i amddiffyn ei hun rhag celloedd mwtant a all ddatblygu i fod yn rhai canseraidd. Mewn ymchwil flaenorol a wnaed yn labordy Catherine Hogan, sef lleoliad fy ngwaith ar hyn o bryd, darganfuwyd mai, yn achosion pancreasau iach, ceir y broses hynod ddiddorol hon lle maent yn gallu gwaredu celloedd mwtant o&#8217;i haenau epithelaidd (amddiffynnol). Ond, yn ychwanegol at hynny, canfuwyd hefyd nad yw\u2019r broses hon bob amser yn llwyddiannus, gan arwain yn y pen draw at ganser y pancreas yn datblygu. Felly, os ydy\u2019r pancreas yn gallu amddiffyn ei hun pan mae\u2019n iach, beth yw\u2019r hyn sy\u2019n atal y broses hon ac yn achosi tiwmor i ddatblygu?<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;134233117&quot;:false,&quot;134233118&quot;:false,&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559738&quot;:0,&quot;335559739&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Gwyddom mai gordewdra yw un o&#8217;r ffactorau risg mwyaf ar gyfer canser y pancreas, ac felly rydym wedi bod wrthi\u2019n ymchwilio i sut mae hyn yn effeithio ar y broses hon o atal tiwmorau. Bu inni hefyd gwestiynu sut mae gordewdra yn effeithio ar allu\u2019r pancreas i aros yn iach, a sut mae hyn yn dylanwadu ar y celloedd mwtant hynny sy\u2019n niweidio iechyd cyffredinol y meinweoedd cyfagos.<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Rydyn ni ar fin dod \u00e2\u2019r prosiect hwn i ben, a&#8217;r hyn sy\u2019n dod i\u2019r amlwg inni yw nid yn unig bod gordewdra a ffactorau eraill yn gysylltiedig \u00e2 &#8216;tharfu\u2019 ar y broses atal tiwmorau hon dros dro, ond efallai na fydd y &#8216;tarfu\u2019 yma yn un parhaol. Y cwestiwn nesaf sydd gennym yw: a fedrwn ni ail-ysgogi&#8217;r broses hon &#8211; ac, os felly, sut? Byddai hyn yn darparu dull o amddiffyn y pancreas rhag celloedd sy&#8217;n achosi canser yn gynnar, gan ddefnyddio mecanweithiau amddiffyn y corff ei hun. Mae angen mwy o ymchwil arnom i ddeall yn llawn sut mae&#8217;r corff yn amddiffyn ei hun yn erbyn canser. Gallai hyn, yn ei dro, arwain at ddatblygu triniaethau newydd, a allai ail-ysgogi&#8217;r mecanweithiau amddiffyn yma. Ar ben hynny, drwy ddeall sut mae ffactorau risg fel gordewdra yn achosi canser, efallai y bydd modd i\u2019n hymchwil gael dylanwad go iawn ar bolis\u00efau a strategaethau atal canser yn y dyfodol.<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Ni all ein gwaith ddigwydd heb y bobl sy&#8217;n ein cefnogi, ac rwy&#8217;n hynod ddiolchgar i&#8217;r rhoddwyr a&#8217;r codwyr arian sydd wedi buddsoddi yn y prosiect hwn. Bu\u2019r cyllid a lwyddais i\u2019w gael i gefnogi fy ymchwil wneud gwahaniaeth mawr &#8211; mae wedi caniat\u00e1u i\u2019r t\u00eem ofyn y cwestiynau o bwys hynny sy\u2019n gallu cael effaith gadarnhaol iawn ar gleifion canser y pancreas yn y dyfodol.<\/span><\/p>\n<p><strong>I ddysgu mwy am y cysylltiad rhwng canser y pancreas cynnar a dietau braster uchel, <a href=\"https:\/\/youtu.be\/AKR_w-SkQh4\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gwyliwch weminar Arddangosiad Ymchwil Josh a Dr Catherine Hogan<\/a>.<\/strong><\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"High fat diets and pancreatic cancer | Diet braster uchel a ganser y pancreas\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/AKR_w-SkQh4?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p><strong>Darganfyddwch ragor am <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/donate\/how-you-can-help\/cancer-research\">ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd<\/a>.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ar hyn o bryd, dim ond 5% yw\u2019r gyfradd oroesi (o ddeng mlynedd) ar gyfer y rheiny sy\u2019n dioddef o ganser y pancreas. Gan mai anodd yw canfod y clefyd yn ei gamau cynnar, mae ymyrraeth yn aml yn dod yn rhy hwyr i nifer fawr o gleifion.\u00a0Mae Josh D'Ambrogio (Y Biowyddorau 2021-) wedi bod wrthi\u2019n astudio canser y pancreas yn ei gamau cynnar, er mwyn dod o hyd i ddulliau pellach a all ganfod y clefyd yn fwy cynnar, a strategaethau ar gyfer ei drin yn fwy effeithiol.\u00a0","protected":false},"author":904,"featured_media":9627,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[204,170],"tags":[],"class_list":["post-9629","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-donate-cy","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9629","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9629"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9629\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9677,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9629\/revisions\/9677"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9627"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9629"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9629"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9629"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}