{"id":9561,"date":"2023-12-04T14:33:07","date_gmt":"2023-12-04T14:33:07","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9561"},"modified":"2023-12-04T14:33:07","modified_gmt":"2023-12-04T14:33:07","slug":"rhedeg-hanner-marathon-caerdydd-er-budd-niwrowyddoniaeth-ac-ymchwil-iechyd-meddwl-yr-athro-neil-harrison","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/12\/04\/rhedeg-hanner-marathon-caerdydd-er-budd-niwrowyddoniaeth-ac-ymchwil-iechyd-meddwl-yr-athro-neil-harrison\/","title":{"rendered":"Rhedeg Hanner Marathon Caerdydd er budd niwrowyddoniaeth ac ymchwil iechyd meddwl \u2013 Yr Athro Neil Harrison"},"content":{"rendered":"<p><b><span data-contrast=\"auto\">Athro Clinigol mewn Niwroddelweddu yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu\u2019r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) yw Neil Harrison. Ym mis Hydref rhedodd Hanner Marathon Caerdydd yn rhan o #TeamCardiff i godi arian at niwrowyddoniaeth ac ymchwil iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd. Yma, mae\u2019r Athro Harrison yn s\u00f4n am baratoi ar gyfer rhedeg Hanner Marathon Caerdydd a&#8217;r gwahaniaeth y mae codi arian yn ei wneud i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.\u00a0\u00a0<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Gan fy mod i\u2019n seiciatrydd academaidd, mae gen i ddiddordeb mawr yn y ffordd y mae&#8217;r system imiwnedd a&#8217;r ymennydd yn rhyngweithio a\u2019i gilydd i newid ein hwyliau, ein cymhellion a&#8217;n syniadau, sut mae hyn yn cyfrannu at afiechydon meddwl cyffredinol a sut y gallwn ddefnyddio&#8217;r wybodaeth hon i ddylunio triniaethau newydd sy\u2019n fwy effeithiol o ran trin cyflyrau fel iselder a sgitsoffrenia.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Rwy\u2019n ddigon ffodus i fod wedi gweld \u00e2\u2019m llygaid fy hun sut mae\u2019r arian mae #TeamCardiff wedi\u2019i godi yn cefnogi\u2019r genhedlaeth nesaf o niwrowyddonwyr ac ymchwilwyr iechyd meddwl. Mae\u2019n rhoi\u2019r arian sydd ei angen i fynd ar y trywydd gwyddonol a all lansio meysydd ymchwil cwbl newydd, yn ogystal \u00e2 rhoi\u2019r cyfle iddyn nhw gyflwyno eu gwaith, gwella eu hyfforddiant a chreu\u2019r rhwydweithiau gwyddonol a fydd yn eu cefnogi drwy gydol eu gyrfaoedd.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Rwy wedi bod yn hoff iawn o rhedeg drwy gydol fy oes, a byddwn i fel arfer yn rhedeg am gyfnodau byr er mwyn ymlacio a lleddfu straen. Y gwir amdani yw mai damwain lwyr oedd dechrau\u2019n rhedwr pellter hir Es i ar goll wrth redeg o gwmpas Harrogate pan oeddwn i yno am gynhadledd ac yn lle gwneud y 20-30 munud arferol, rhedais i am awr a hanner, bron iawn!\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Fodd bynnag, sylweddoles i nad oedd y cyfan cynddrwg \u00e2 hynny, a phan welais i\u2019r cyfle i bobl redeg Hanner Marathon Caerdydd, penderfynais i y byddwn i\u2019n mynd amdani. Roedd yn gyfle gwych i godi arian at yr ymchwil ardderchog ar niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl sy&#8217;n cael ei wneud yng Nghaerdydd, ac yn gyfle gen i i gefnogi&#8217;r ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa y bydda i\u2019n eu gweld yn y Brifysgol.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Roedd ymarfer ar gyfer y ras yn amrywiol tu hwnt, ac roedd rhai uchafbwyntiau ac isafbwyntiau heb os nac oni bai. Ro\u2019n i&#8217;n mwynhau rhedeg 3-4 diwrnod yr wythnos, ac roedd yn wych gweld cynnydd go iawn o wneud hynny&#8217;n rheolaidd. Yr her oedd gwneud yn si\u0175r nad o\u2019n i\u2019n gwthio fy hun yn rhy galed. Mae&#8217;n hawdd ceisio gwneud gormod ond dyna pryd y byddwch chi\u2019n anafu eich hun &#8211; ac yn bendant ces i ambell un o\u2019r rhain. Dysgais i fy ngwers a byddwn i\u2019n annog pawb i wrando ar y cyngor, ei chymryd hi\u2019n araf deg ac i gynyddu\u2019n raddol.\u00a0\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Ro\u2019n i hefyd yn lwcus i gael criw o gefnogwyr yn ystod y cyfnod ymarfer a chodi arian. Roedd fy nheulu a ffrindiau yn gefnogol dros ben, gan gynnwys fy mrawd iau a oedd yn hoff iawn o ymffrostio yn ei amseroedd rhedeg lawer gwell (tua hanner yr amser a gymerodd i mi redeg yr un pellter fel arfer)!<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Roedd diwrnod y ras ei hun yn llawer o hwyl. Mwynheuais i\u2019r cyfan yn fawr &#8211; wel, yr hanner cyntaf o leiaf! Roedd sefyll ar y llinell gychwyn gyda miloedd o bobl o\u2019n cwmpas, y lle yn gynnwrf i gyd a&#8217;r cyfeillgarwch rhwng y rhedwyr yn anhygoel. Roedd clywed pobl yn bloeddio fy enw pan ges i drafferth yn bendant wedi fy helpu i ddal ati. Chwarae teg hefyd i&#8217;r dyn ym Mharc y Rhath a oedd yn dal arwydd \u00e2\u2019r geiriau &#8220;Cwrw ymhen 1 filltir!&#8221;\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae\u2019r cof yn dda o ran anghofio\u2019r darnau poenus, ond ro\u2019n i wedi mwynhau\u2019r broses gyfan yn fawr ac rwy\u2019n edrych ymlaen at redeg yn y dyfodol (a dod o leiaf ychydig yn nes at guro amseroedd personol gorau fy mrawd iau!)<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559739&quot;:160,&quot;335559740&quot;:259}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><b><span data-contrast=\"auto\">Oes diddordeb gennych mewn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref 2024 er budd niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl neu ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd? <\/span><\/b><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\/run-the-cardiff-half-marathon\"><b><span data-contrast=\"none\">Bellach gallwch chi wneud cais<\/span><\/b><\/a><b><span data-contrast=\"auto\"> ar gyfer lleoedd elusennol #TeamCardiff.<\/span><\/b><\/p>\n<p><b><span data-contrast=\"auto\">Neu os oes gennych chi awydd ymgymryd \u00e2 her fwy, mae hefyd nifer gyfyngedig o leoedd elusennol i redeg Marathon APB Casnewydd Cymru ar 28 Ebrill 2024. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\/run-the-newport-wales-marathon-with-teamcardiff\">Rhagor o wybodaeth.<\/a><\/span><\/b><\/p>\n<p><b><span data-contrast=\"auto\">Mae gwaith codi arian #TeamCardiff yn cefnogi ymchwil Prifysgol Caerdydd ar niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, a chanser. Drwy gefnogi&#8217;r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch chi helpu i ddod o hyd i atebion yn gynt, gan newid bywydau yn y broses a gwella\u2019r gwaith o atal, rhoi diagnosis a chynnig triniaeth i bobl sy&#8217;n byw gydag ystod eang o gyflyrau. Rhagor o wybodaeth ynghylch <\/span><\/b><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\"><b><span data-contrast=\"none\">codi arian ym Mhrifysgol Caerdydd<\/span><\/b><\/a><b><span data-contrast=\"none\">.<\/span><\/b><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Athro Clinigol mewn Niwroddelweddu yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu\u2019r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) yw Neil Harrison. Ym mis Hydref rhedodd Hanner Marathon Caerdydd yn rhan o #TeamCardiff i godi arian at niwrowyddoniaeth ac ymchwil iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd. Yma, mae\u2019r Athro Harrison yn s\u00f4n am baratoi ar gyfer rhedeg Hanner Marathon Caerdydd a'r gwahaniaeth y mae codi arian yn ei wneud i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.\u00a0\u00a0\u00a0","protected":false},"author":904,"featured_media":9557,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[212,166,170],"tags":[],"class_list":["post-9561","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-teamcardiff-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9561","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9561"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9561\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9563,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9561\/revisions\/9563"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9557"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9561"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9561"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9561"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}