{"id":9549,"date":"2023-12-05T13:49:36","date_gmt":"2023-12-05T13:49:36","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9549"},"modified":"2024-04-11T07:52:10","modified_gmt":"2024-04-11T07:52:10","slug":"fy-mhrofiad-gyda-womentoring-jane-cook-ba-2008","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/12\/05\/fy-mhrofiad-gyda-womentoring-jane-cook-ba-2008\/","title":{"rendered":"Fy mhrofiad gyda Womentoring \u2013 Jane Cook (BA 2008)"},"content":{"rendered":"<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Ym mis Mawrth 2023, cymerodd Jane Cook (BA 2008), <\/strong><a href=\"https:\/\/www.janechicomendes.co.uk\/\"><strong>ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus annibynnol<\/strong><\/a><strong>, ran yn ein cynllun mentora fflach blynyddol ar gyfer cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd \u2013 Menywtora (Womentoring). <\/strong><strong>Isod, mae Jane yn myfyrio ar ei hamser yn fentor ar sawl cyd-fyfyriwr ac yn rhannu ei phrofiadau er mwyn galluogi\u2019r rhai sy\u2019n ystyried cymryd rhan yng nghynllun y flwyddyn nesaf amgyffred ag ef.<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Pam wnaethoch chi benderfynu ymuno \u00e2 chynllun Menywod yn Mentora i fod yn fentor arno?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Ces i dipyn o sioc pan ofynnwyd imi gymryd rhan, a dweud y gwir! Roedd y mentoriaid blaenorol a wyddwn amdanynt yn gweithio i sefydliadau mawr, mewn swyddi lle maent yn rheoli timau mawr neu gyllidebau enfawr. Er bod gennyf rwydwaith o weithwyr llawrydd y gallaf ddibynnu arnynt i weithio ar wahanol brosiectau, rwy&#8217;n hunangyflogedig, heb os.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Imi, roedd cael fy ngofyn i fod yn fenter yn hwb mawr, ac wrth fyfyrio arno, pan oeddwn yn fyfyriwr yn y brifysgol, ni feddyliais erioed y byddwn i\u2019n hunangyflogedig.\u00a0\u00a0 Byddwn wedi hoffi cael clywed gan amrywiaeth ehangach o bobl a\u2019r llwybrau gwahanol a gymeron nhw.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Pam fod y cynllun Menywtora yn bwysig ichi?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae cynllun mentora lle mae menywod yn helpu menywod eraill yn fy nharo i i\u2019r dim. Wrth i\u2019r blynyddoedd fynd heibio, rydw i wedi sylweddoli bod bywyd yn llawer anoddach i fenywod yn y gweithle.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Bu imi gychwyn fy ngyrfa mewn amgylchedd corfforaethol iawn ar \u00f4l graddio, ac mewn gwirionedd, nid oedd gen i ddealltwriaeth ddofn o&#8217;r rhwystrau hynny sy&#8217;n bodoli i fenywod. P\u2019un a yw hynny\u2019n jyglo pethau fel absenoldeb mamolaeth a gofal plant, neu gymryd mwy o\u2019r baich emosiynol yn y gweithle gan y\u2019i hystyrir yn sgil benywaidd. Mae nifer o ffyrdd y gall y gweithle fod yn lle anodd i fenywod sydd \u00e2 phlant <em>a&#8217;r<\/em> rheiny sydd heb blant hefyd.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Felly, os bydd angen i fenyw gael dyrchafiad neu\u2019n ymgeisydd posibl ar gyfer swydd, yn reddfol rydw i\u2019n ymateb mewn modd neilltuol er mwyn ceisio gwireddu hynny iddi.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>A allwch chi ddweud wrthym am yr hyn yr oedd y mentora yn ei olygu?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Ces i alwad gychwynnol gyda\u2019r tri o bobl yr wyf yn eu mentora i drafod ein gyrfaoedd hyd yma, y rhesymau pam wnaethom benderfynu cymryd rhan yn y cynllun, a\u2019r hyn yr oeddem am ei ddysgu ohono. Gwnes i geisio talu sylw i\u2019r tebygrwydd yn yr hyn yr oedd fy mentoreion eisiau symud ymlaen ato nesaf, megis newid gyrfa i lwybr gwahanol.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Yna fe wnes i gynnal sawl galwad un-i-un dros gyfnod o tua chwe wythnos, lle holais i ambell gwestiwn. Roedd fy mentoreion ar fin cymryd y cam nesaf neu wedi gosod y sylfaen i\u2019w gymryd, felly roedd y galwadau hynny\u2019n teimlo fel ffordd o gadw mewn cysylltiad tra\u2019r oeddent yn parhau \u00e2&#8217;r daith honno.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Sut deimlad oedd gwybod bod un o\u2019ch mentoreion, Jamie Marie Ellis, wedi cyhoeddi ei <\/strong><a href=\"https:\/\/www.atlasobscura.com\/articles\/how-to-make-sheep-shearing-cake\"><strong>darn llawrydd cyntaf o ysgrifennu ar fwyd<\/strong><\/a><strong> yn gynharach eleni?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Os gwnes i helpu, mewn pa bynnag ffordd, i roi hwb i hyder Jamie wrth iddi fentro i\u2019r byd mawr, yna rydw i wrth fy modd! Mae&#8217;n ddarn hynod ddiddorol o ysgrifennu ac mae&#8217;r adborth a gafwyd o\u2019m cymuned wedi bod yn gryf iawn. Rwy\u2019n si\u0175r y bydd gan Jamie lawer mwy i\u2019w gyfrannu.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Roedd yn hyfryd cael bod yn gefn i\u2019m mentoreion a\u2019u hannog yn eu blaenau. Roeddwn i\u2019n gallu rhagweld y bydden nhw i gyd yn cyrraedd eu cyrchfan gyrfaol, gan sylweddoli mai bod yn fentor iddynt oedd yn greiddiol i helpu magu eu hyder. Wrth orffen pob galwad, meddyliais, \u201cbydd hi\u2019n wych a jyst angen mynd amdani\u201d.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>A oes gennych chi unrhyw awgrymiadau da i gyn-fyfyrwyr sydd am ymuno \u00e2 chynllun Menywod yn Mentora yn 2024?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Gwrandewch a thalwch sylw gymaint ag y gallwch chi a cheisiwch dreiddio i feddwl y person yr ydych chi ei fentora.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Yn ystod fy sesiynau, byddwn wrth reddf mewn sefyllfa le byddwn i\u2019n gofyn i&#8217;m mentoreion a wnaethon nhw roi cynnig ar hwn neu hwnna, neu&#8217;r weithred hon, a sylweddolais nad oes yn rhaid o reidrwydd ceisio dod o hyd i&#8217;r cyswllt cywir na&#8217;r cam nesaf bob tro. Er bod hynny&#8217;n ddefnyddiol, nid dyna yw prif ddiben bod yn fentor.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Weithiau, mae angen ichi fod ychydig bach yn fwy amyneddgar a gadael i syniadau a meddyliau ddatblygu&#8217;n naturiol. Efallai y bydd ambell i saib yn nawr ac yn y man, ond ceisiwch beidio \u00e2 phlymio\u2019n syth i mewn.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Sut mae\u2019r mentora wedi cael effaith gadarnhaol ar eich gyrfa eich hun? <\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Nid wyf erioed wedi gwneud unrhyw fentora o&#8217;r blaen, felly roedd yn ddefnyddiol iawn cael gwybod nad yw eich swydd yn mentora o reidrwydd yn\u00a0 datrys problemau\u2019n uniongyrchol. Yn hytrach, mae&#8217;n achos o helpu rhywun gyda\u2019u meddylfryd a thaflu goleuni ar yr hyn a allai fod yn rhwystr iddynt neu\u2019n eu dal nhw\u2019n \u00f4l.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Meddyliais efallai bod angen mentor arna\u2019 i! Roeddwn i\u2019n gallu gweld manteision mentora o\u2019r ddwy ochr, ac mae gennyf ddiddordeb mewn gwneud hyn eto yn y dyfodol.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Rhannodd Jamie Marie Ellis (MA 2019), un o fentoreion Jane, ei <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/12\/05\/fy-mhrofiad-gyda-womentoring-jamie-marie-ellis-ma-2019\/\">phrofiad o&#8217;r cynllun<\/a> Menywod yn Mentora hefyd. <\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Os ydych chi&#8217;n gyn-fyfyriwr o Gaerdydd sy&#8217;n awyddus i ddod o hyd i, neu ddod yn fentor i gyn-fyfyriwr, mae ein platfform rhwydweithio cyn-fyfyrwyr <\/strong><a href=\"https:\/\/connected.cardiff.ac.uk\/mentoring\"><strong>Cyswllt Caerdydd<\/strong><\/a><strong> yn eich helpu chi i ddod o hyd i&#8217;r gyfatebiaeth gywir. Mae cofrestru&#8217;n gyflym ac yn hawdd, a gallwch chi hidlo yn \u00f4l y diwydiant a\u2019r lleoliad i chwilio am y rheiny sydd naill ai\u2019n cynnig helpu neu\u2019n gofyn am gymorth.<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Mae yna hefyd lawer o ffyrdd eraill y gallwch chi <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/get-involved\"><strong>wirfoddoli eich amser a&#8217;ch arbenigedd<\/strong><\/a><strong> i helpu i ysbrydoli a chefnogi&#8217;r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ym mis Mawrth 2023, cymerodd Jane Cook (BA 2008), ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus annibynnol, ran yn ein cynllun mentora fflach blynyddol ar gyfer cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd \u2013 Menywtora (Womentoring). Isod, mae Jane yn myfyrio ar ei hamser yn fentor ar sawl cyd-fyfyriwr ac yn rhannu ei phrofiadau er mwyn galluogi\u2019r rhai sy\u2019n ystyried cymryd rhan yng nghynllun y flwyddyn nesaf amgyffred ag ef.","protected":false},"author":904,"featured_media":9546,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,1975,170,203,2067],"tags":[],"class_list":["post-9549","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-gyrfaoedd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy","category-womentoring-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9549","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9549"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9549\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9579,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9549\/revisions\/9579"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9546"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9549"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9549"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9549"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}