{"id":9508,"date":"2023-10-27T11:21:08","date_gmt":"2023-10-27T11:21:08","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9508"},"modified":"2025-02-04T11:23:08","modified_gmt":"2025-02-04T11:23:08","slug":"bossing-it-sut-i-lwyddo-yn-eich-cyfweliad-nesaf","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/10\/27\/bossing-it-sut-i-lwyddo-yn-eich-cyfweliad-nesaf\/","title":{"rendered":"Sut i lwyddo yn eich cyfweliad nesaf \u2013 Bossing It"},"content":{"rendered":"<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Gwych \u2014 rydych chi wedi cael gwahoddiad i gyfweliad am swydd newydd a chyffrous, ond beth nesaf!? Yn aml, bydd aros am gyfweliad yn gallu codi braw ar rywun, ond drwy baratoi\u2019n effeithiol amdano, byddwch chi\u2019n dawel eich meddwl wrth wybod y gallech fynd i&#8217;r afael ag ef yn llawn hyder. Cawson ni sgwrs gyda rhai o&#8217;n cyn-fyfyrwyr gwych, ac maen nhw wedi rhannu awgrymiadau da iawn ar sut i lwyddo yn eich cyfweliad nesaf.<\/strong><\/p>\n<h4>Owain Gronow (BEng 2009, MSc 2010)<\/h4>\n<figure id=\"post-9497 media-9497\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"width: 222px;height: 222px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/10\/Owain.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Mae Owain yn Beiriannydd Sifil Siartredig ac yn Brif Beiriannydd Sifil yn gweithio yn y sector pontydd, yn dylunio ac yn asesu pontydd. Ar hyn o bryd mae Owain yn gweithio ar Reilffyrdd Craidd y Cymoedd gydag Amey, yn cefnogi\u2019r gwaith trawsnewid sydd ar y gweill o ran y rhwydwaith rheilffyrdd yn y De a datblygu\u2019r Metro.<\/p>\n<p><strong>Mae parodrwydd a brwdfrydedd yn allweddol.<\/strong><\/p>\n<p>Os ydych chi wedi cael eich gwahodd i gyfweliad, mae hynny&#8217;n dangos bod gennych chi&#8217;r sgiliau a\u2019r profiad angenrheidiol ar gyfer y r\u00f4l. Yr hyn fydd yn eich gwneud yn wahanol i\u2019r sawl sydd yn cystadlu yn eich erbyn nawr, yw\u2019r cyfweliad. Mae cyfweliad llwyddiannus yn dibynnu ar eich ateb i gwestiynau a sut rydych chi&#8217;n cyflwyno&#8217;ch hun. Paratowch ar gyfer y cyfweliad gan ymchwilio i&#8217;r cwmni, y r\u00f4l a cheisio cwrdd ag aelodau posibl o&#8217;r panel cyfweld &#8211; efallai y byddant yn rhoi awgrymiadau i chi ynghylch pa gwestiynau y gellid eu gofyn. Yn aml, mae gan gyflogwyr ddiddordeb yn p\u2019un ai ydych chi a\u2019r t\u00eem yn mynd i weddu i\u2019ch gilydd, felly dangoswch frwdfrydedd a gofyn cwestiynau sy&#8217;n dangos eich bod yn awyddus.<\/p>\n<h4>Nadine Lock (BA 2001)<\/h4>\n<figure id=\"post-9501 media-9501\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"width: 217px;height: 217px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/10\/Nadine-updated.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Astudiodd Nadine Lock (BA 2001) ar y cwrs Llenyddiaeth Saesneg gyda Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn cwblhau ei TAR. Arweiniodd waith Nadine gyda phobl at yrfa ym maes Adnoddau Dynol a Recriwtio yn y Sector Preifat a&#8217;r Trydydd Sector ar gyfer Co-operative Bank, Adecco a Hays. Mae Nadine wedi bod yn gweithio gyda Gofal Canser Tenovus am y deng mlynedd diwethaf, a nawr, mae hi ar secondiad lle mae hi\u2019n rheoli recriwtio, a hithau ar gyfnod o flwyddyn seibiant o&#8217;i r\u00f4l yn Rheolwr yn yr adran Adnoddau Dynol a Gwirfoddoli.<\/p>\n<p><strong>Gweld cyfweliadau yn gyfle i&#8217;r ddwy ochr.<\/strong><\/p>\n<p>Yn sicr, gall cyfweliad beri i ni gyd deimlo ofn weithiau. Ond, efallai y dylem ei ail-fframio pethau yn y meddwl. Gallwn edrych ar y cyfweliad fel sgwrs lle byddwch chi a\u2019r sawl sy\u2019n cynnal y cyfweliad yn casglu gwybodaeth. Felly, dyma&#8217;r amser i chi wirio mai dyma&#8217;r lle iawn i chi o ran bod yn le i chi wneud yr hyn rydych chi&#8217;n ei wneud yn dda, a dysgu a datblygu hefyd.<\/p>\n<p>Peidiwch \u00e2 bod ofn gofyn cwestiynau i ganfod hyn a dangoswch fod gennych ddiddordeb gwirioneddol yn y cyfle. Gwnewch nodiadau ynghylch eich cwestiynau, a gallwch gyfeirio atynt yn y cyfweliad os yw hynny&#8217;n helpu. A, gofynnwch ar y diwedd a ydych chi wedi ymdrin \u00e2&#8217;r hyn oedd ei angen ar y cyfwelydd cyn diolch iddyn nhw am eu hamser.<\/p>\n<p>Mae cyfwelwyr yn chwilio am sgiliau trosglwyddadwy cryf fel sgiliau datrys problemau, creadigrwydd, rhesymeg a sut rydym yn mynd ati i gyfathrebu. Byddant yn asesu a allwch ychwanegu\u2019r pethau hynny i\u2019r t\u00eem ac ychwanegu gwerth. Felly, gwrandewch ar y cwestiynau, gan oedi a chymryd amser i feddwl am eich atebion i sicrhau eich bod chi&#8217;n dweud wrthyn nhw pam y dylen nhw fuddsoddi ynoch chi.<\/p>\n<h4>Joe Lowe (BA 2020)<\/h4>\n<figure id=\"post-9498 media-9498\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"width: 223px;height: 223px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/10\/Joe.jpg\" alt=\"\" width=\"231\" height=\"231\" \/><\/figure>\n<p>Astudiodd Joe Lowe (BA 2020) Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Caerdydd a dechreuodd weithio yn Admiral Group PLC ar yr un adeg ac yr oedd yn astudio. Aeth ymlaen wedyn i reoli rhaglenni cylchdro Admiral ar gyfer datblygu talent (gan gynnwys eu rhaglenni ar gyfer graddedigion). Mae hyn yn golygu creu llif o bobl dalentog sydd \u00e2\u2019r sgiliau sydd eu hangen arnynt i sicrhau eu twf a&#8217;u llwyddiant yn y dyfodol. Mae Joe wedi dechrau yn ei r\u00f4l newydd yn ddiweddar yn Arweinydd Gweithrediadau Data \u2013 yn Academi Data Admiral.<\/p>\n<p><strong>Dychmygwch eich hun yn y r\u00f4l.<\/strong><\/p>\n<p>Fy un darn o gyngor ynghylch cyfweliadau fyddai meddyliwch am sut y byddwch chi&#8217;n gwneud y r\u00f4l \u2013 sut fydd eich 30 diwrnod cyntaf, 90 diwrnod, blwyddyn? Bydd canolbwyntio ar sut y byddech chi&#8217;n gwneud y swydd yn hytrach na chanolbwyntio ar sicrhau\u2019r swydd yn unig yn llywio&#8217;ch ymchwil ac yn eich helpu i baratoi mewn ffordd gyflawn, ymarferol a dilys yn hytrach na thrwy roi atebion generig.<\/p>\n<h4>Snow Thant (BSc 2018)<\/h4>\n<figure id=\"post-9502 media-9502\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"width: 220px;height: 220px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/10\/Snow-updated.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Graddiodd Snow Thant (BSc 2018) o Brifysgol Caerdydd gyda gradd ym maes Niwrowyddoniaeth cyn dechrau ei gyrfa ym maes recriwtio. Mae Snow bellach yn Uwch Gydymaith Recriwtio Myfyrwyr yn PwC.<\/p>\n<p><strong>Gwnewch eich gwaith ymchwil!<\/strong><\/p>\n<p>Fy nghyngor mwyaf ynghylch cyfweliadau yw gwnewch eich ymchwil! Ymchwiliwch i&#8217;r cwmni a&#8217;r r\u00f4l, ac os gallwch chi, ceisio gair \u00e2\u2019r sawl fu\u2019n ymgymryd \u00e2\u2019r r\u00f4l o&#8217;ch blaen chi. Defnyddiwch offer fel Google, gwefan y cwmni, GlassDoor a LinkedIn. Mae eich profiad yn bwysig ond mae&#8217;n bwysicach fyth bod y cyflogwyr yn gwybod eich bod yn deall y cwmni, ei ddiwylliant, a&#8217;r r\u00f4l. Eich gwybodaeth fydd yn gwneud i chi fod ar y blaen o blith yr ymgeiswyr eraill, fydd yr un mor addas ar gyfer y swydd \u00e2 chi.<\/p>\n<p><strong>Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw o bobl sy\u2019n barod iawn eu cymwynas ac yma i\u2019ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Gallwch bori drwy eu cyngor a\u2019u hawgrymiadau ar ystod eang o bynciau busnes yn ein cyfres \u2018<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/category\/cyswllt-caerdydd\/bossing-it-cy\/\">Bossing It<\/a>\u2019.<\/strong><\/p>\n<p><b>Yn barod i gysylltu \u00e2 chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? Ymunwch \u00e2\u2019n\u00a0<\/b><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/groups\/112830\/\"><b>gr\u0175p LinkedIn<\/b><\/a><b>\u00a0a dechrau rhwydweithio.<\/b><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Gwych \u2014 rydych chi wedi cael gwahoddiad i gyfweliad am swydd newydd a chyffrous, ond beth nesaf!? Yn aml, bydd aros am gyfweliad yn gallu codi braw ar rywun, ond drwy baratoi\u2019n effeithiol amdano, byddwch chi\u2019n dawel eich meddwl wrth wybod y gallech fynd i'r afael ag ef yn llawn hyder. Cawson ni sgwrs gyda rhai o'n cyn-fyfyrwyr gwych, ac maen nhw wedi rhannu awgrymiadau da iawn ar sut i lwyddo yn eich cyfweliad nesaf.","protected":false},"author":904,"featured_media":9764,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[207,166,170],"tags":[],"class_list":["post-9508","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-bossing-it-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9508","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9508"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9508\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10169,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9508\/revisions\/10169"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9764"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9508"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9508"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9508"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}