{"id":9434,"date":"2023-09-07T11:19:36","date_gmt":"2023-09-07T11:19:36","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9434"},"modified":"2023-09-07T12:38:15","modified_gmt":"2023-09-07T12:38:15","slug":"grym-mentora-gan-gyn-fyfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/09\/07\/grym-mentora-gan-gyn-fyfyrwyr\/","title":{"rendered":"Grym mentora gan gyn-fyfyrwyr"},"content":{"rendered":"<p><strong>Cafodd Tyrone Stewart (MSc 2022) ei fentora\u2019n rhan o&#8217;n rhaglen mentora gan gyn-fyfyrwyr yn ystod ei radd meistr. Andrew Jones (BSc 2014) sy\u2019n hyfforddwr busnes oedd ei fentor.<\/strong><\/p>\n<p>Yn ystod fy astudiaethau ar gyfer fy ngradd meistr roeddwn i wir eisiau bod yn rhagweithiol a rhoi fy hun yn y sefyllfa orau ar gyfer y cyfnod ar \u00f4l fy astudiaethau. Er i mi ddysgu llawer ar y cwrs ynghylch damcaniaethau busnes, ac i mi wneud cysylltiadau da gyda fy ffrindiau ar y cwrs, nid oedd yn teimlo\u2019n ddigon i&#8217;m rhoi ar y blaen.<\/p>\n<p>Pan soniwyd am y cynllun mentora, fe wnes i gais ar unwaith yn y gobaith y gallwn ddatblygu sgiliau ychwanegol a meithrin fy rhwydwaith.<\/p>\n<p>Roedd y rhaglen fentora ei hun yn wych. Cefais fy mharu ag Andrew Jones (BSc 2014), hyfforddwr busnes o gyflymydd busnes, NatWest, ac roedden ni\u2019n gwybod yn syth ein bod ni\u2019n mynd i fedru cyd-weithio. Fe wnaethom ni feithrin perthynas dda dros y sesiynau ac erbyn hyn rydyn ni\u2019n gyfeillion.<\/p>\n<p>Rhoddodd Andrew nifer o wahanol fathau o ddealltwriaeth ymarferol i mi ynghylch entrepreneuriaeth na fyddwn i wedi&#8217;u cael fel arall, ac fe fu\u2019n bosib i ni drin a thrafod rhai o\u2019i brofiadau ef ei hun. Fe helpodd i mi ddysgu hyn; er mwyn bod yn llwyddiannus ym maes busnes, mae\u2019n rhaid i chi gael rhwydwaith a dylanwad proffesiynol. Y peth cyntaf wnes i ar \u00f4l ein sesiwn gyntaf oedd mynd yn syth i LinkedIn i ehangu fy rhwydwaith ac estyn allan at bobl roeddwn i&#8217;n meddwl y gallai fod yn ddefnyddiol cysylltu \u00e2 nhw. Rhoddodd y ddealltwriaeth broffesiynol roeddwn wedi\u2019i chael gan rywun sydd \u00e2 phrofiad ym maes busnes ac entrepreneuriaeth yr hyder i mi wneud hynny, ac fe dalodd ar ei ganfed.<\/p>\n<p>Ers i mi orffen fy ngradd meistr, rwyf wedi dechrau gweithio i fusnes technoleg newydd, Governance360, yn y r\u00f4l Pennaeth Cynnyrch. Heb amheuaeth, fe wnaeth y rhaglen fentora fy helpu i ddatblygu&#8217;r sgiliau cyfathrebu, arweinyddiaeth a threfnu sy&#8217;n hanfodol ar gyfer fy r\u00f4l heddiw.<\/p>\n<p>Yn ddiweddar, fe ddes yn \u00f4l i siarad gyda myfyrwyr presennol ynghylch mentora, a sut y bu i hynny weithio i mi. Roeddwn i eisiau rhannu bod angen iddyn nhw fod yn rhagweithiol wrth ddilyn eu nodau. Fe wnes i elwa gymaint o&#8217;r rhaglen fentora ac o Brifysgol Caerdydd, roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn \u00f4l gan helpu darpar fyfyrwyr mewn unrhyw ffordd y gallaf.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Galw am fentoriaid sy\u2019n Gyn-fyfyrwyr<\/strong><\/p>\n<p>Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli i gefnogi&#8217;r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol yn eich sector a rhannu eich gwybodaeth, eich sgiliau a&#8217;ch profiad?<\/p>\n<p>Rydym yn chwilio am Gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd i gynorthwyo myfyrwyr presennol o ran cael cyngor a dealltwriaeth werthfawr; hyn i\u2019w helpu i fagu hyder yn eu dewisiadau o ran gyrfa trwy ein Rhaglen Mentora Gyrfa, ar-lein. <a href=\"https:\/\/forms.office.com\/pages\/responsepage.aspx?id=MEu3vWiVVki9vwZ1l3j8vGj-FB8I9ZJPuKdQZizDq7lUNU5aMVMzMDZNWjRIRlVYME5PTkU0VFFEVC4u\">Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 1 Hydref 2023.<\/a><\/p>\n<p><strong>Os ydych chi\u2019n gyn-fyfyriwr o Gaerdydd sy\u2019n awyddus i ddod o hyd i, neu ddod yn fentor i gyn-fyfyriwr, mae ein platfform rhwydweithio cyn-fyfyrwyr <\/strong><a href=\"https:\/\/connected.cardiff.ac.uk\/feed\"><strong>Cyswllt Caerdydd<\/strong><\/a><strong> yn eich helpu chi i ddod o hyd i\u2019r gyfatebiaeth gywir. Mae cofrestru\u2019n gyflym ac yn hawdd, a gallwch chi hidlo yn \u00f4l y diwydiant a\u2019r lleoliad i chwilio am y rheiny sydd naill ai\u2019n cynnig helpu neu\u2019n gofyn am gymorth.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Mae yna hefyd lawer o ffyrdd eraill y gallwch chi <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/get-involved\"><strong>wirfoddoli eich amser a\u2019ch arbenigedd<\/strong><\/a><strong> i helpu i ysbrydoli a chefnogi\u2019r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Cafodd Tyrone Stewart (MSc 2022) ei fentora\u2019n rhan o'n rhaglen mentora gan gyn-fyfyrwyr yn ystod ei radd meistr. Andrew Jones (BSc 2014) sy\u2019n hyfforddwr busnes oedd ei fentor.","protected":false},"author":904,"featured_media":9431,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170,203],"tags":[],"class_list":["post-9434","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9434","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9434"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9434\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9442,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9434\/revisions\/9442"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9431"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9434"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9434"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9434"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}