{"id":9386,"date":"2023-08-14T09:29:49","date_gmt":"2023-08-14T09:29:49","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9386"},"modified":"2023-08-14T09:29:49","modified_gmt":"2023-08-14T09:29:49","slug":"dewch-i-gwrdd-a-phennaeth-newydd-yr-ysgol-cerddoriaeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/08\/14\/dewch-i-gwrdd-a-phennaeth-newydd-yr-ysgol-cerddoriaeth\/","title":{"rendered":"Dewch i gwrdd \u00e2 Phennaeth newydd yr Ysgol Cerddoriaeth"},"content":{"rendered":"<p><strong>Dechreuodd Dr Nicholas Jones (BMus 1994, MMus 1995, PhD 1999), ei swydd yn Bennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth ym mis Awst 2023, gan olynu\u2019r Athro Ken Hamilton. Yn gynfyfyriwr triphlyg o Gaerdydd, mae Nick wedi astudio a gweithio yn y Brifysgol ers dros 30 mlynedd. Cyn dechrau&#8217;r flwyddyn academaidd newydd, mae Nick yn rhannu ei obeithion a&#8217;i flaenoriaethau ar gyfer dyfodol yr Ysgol Cerddoriaeth.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Yn gynfyfyriwr Prifysgol Caerdydd, a allech chi s\u00f4n am rai o&#8217;ch hoff bethau ynghylch y Brifysgol a Chaerdydd ei hun?<\/strong><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"margin: 8px 8px 0px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/08\/Nicholas-Jones-PhD-graduation-July-2000.jpg\" alt=\"\" width=\"325\" height=\"271\" \/><\/p>\n<p>Mae fy nghysylltiad \u00e2 Chaerdydd, y Brifysgol a&#8217;r Ysgol Cerddoriaeth yn mynd yn \u00f4l dros 30 mlynedd. Pan es i fy nghlyweliad israddedig yn y 1990au cynnar, cefais fy nharo ar unwaith gan yr awyrgylch cynnes a chroesawgar, ac nid yw\u2019r awyrgylch hwnnw wedi newid o gwbl yn y blynyddoedd ers hynny. Yn wir, mae\u2019r Ysgol yn parhau i gynnig astudiaeth artistig ac academaidd ysgogol mewn amgylchedd cyfeillgar, cynhwysol a chreadigol. Mae myfyrwyr yn teimlo&#8217;n rhan o gymuned gerddorol glos lle maent yn medru cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys cymryd rhan mewn nifer o ensembles a digwyddiadau dan arweiniad yr Ysgol a myfyrwyr, rhaglen flynyddol o gyngherddau, a chyfleoedd i ymgymryd \u00e2 lleoliadau gwaith ac astudio dramor.<\/p>\n<p>Rwyf bob amser wedi teimlo\u2019n falch o fod yn rhan o\u2019r Brifysgol ehangach ac yn teimlo\u2019n angerddol iawn dros fyw a gweithio ym mhrifddinas Cymru. Mae Caerdydd yn ddinas ddiwylliannol fywiog iawn, gyda digon o fannau gwyrdd i ymlacio a mwynhau ynddynt. Mae hefyd yn lleoliad delfrydol ar gyfer astudio cerddoriaeth. Mae gan y ddinas nifer o leoliadau sydd o safon fyd-eang, megis Canolfan Mileniwm Cymru a Neuadd Dewi Sant, a llawer o leoliadau llai lle gall myfyrwyr a staff fwynhau gwrando ar amrywiaeth gyfoethog o gerddoriaeth, o jazz a gwerin i roc a phop, ac i berfformiadau gan gerddorion o bedwar ban byd sy\u2019n arddangos cerddoriaeth o&#8217;u diwylliant eu hunain.<\/p>\n<p><strong>Allwch chi s\u00f4n ychydig am hanes eich gyrfa?<\/strong><\/p>\n<p>Mae gan fy ngyrfa berthynas agos \u00e2 Phrifysgol Caerdydd. Dechreuais yn fyfyriwr israddedig yma ym 1991 a dyfarnwyd BMus imi dair blynedd yn ddiweddarach. Yn dilyn hyn, cwblheais radd meistr mewn cyfansoddi (MMus, 1995), ac yna cychwynais ar unwaith ar ymchwil doethurol yn ymwneud \u00e2 Thrydedd Symffoni Syr Peter Maxwell Davies (PhD, 1999). Dyma sbarduno angerdd a chysylltiad gydol-oes \u00e2\u2019r cyfansoddwr hwn, ac rwyf wedi ysgrifennu a chyd-olygu tri llyfr ar ei fywyd a\u2019i gerddoriaeth ers hynny.<\/p>\n<p>Mae fy niddordebau ymchwil hefyd yn ymwneud \u00e2 cherddoriaeth gelf Brydeinig yn ehangach, yn enwedig cerddoriaeth Gymreig ers 1945. Dechreuais ddysgu yn yr Ysgol Cerddoriaeth ym 1996, ac er fy mod hefyd wedi gweithio i Adran Addysg Barhaus a Phroffesiynol y Brifysgol a\u2019r Brifysgol Agored, rwyf wir wedi mwynhau dysgu ac arwain nifer o fodiwlau israddedig ac \u00f4l-raddedig yn yr Ysgol ers dros 25 mlynedd yn awr. O ystyried y cysylltiad cryf hwn, mae\u2019n anrhydedd mawr imi gael fy mhenodi\u2019n Bennaeth ar yr Ysgol ac rwy\u2019n ei hystyried yn fraint i arwain Ysgol fywiog ac uchelgeisiol gyda hanes mor gyfoethog.<\/p>\n<p><strong>Beth yw eich gobeithion a&#8217;ch blaenoriaethau ar gyfer dyfodol yr Ysgol Cerddoriaeth?<\/strong><\/p>\n<p>Rwy\u2019n rhagweld y bydd llwyddiant yr Ysgol Cerddoriaeth yn y dyfodol yn canolbwyntio ar nifer o feysydd eang. Bydd lles myfyrwyr a staff, yn ogystal \u00e2 chydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith yn cael eu hystyried yn flaenoriaethau. Hoffwn ddatblygu ein gweithgareddau rhyngwladol, gan gynnwys symudedd myfyrwyr a staff; parhau i hyrwyddo rhagoriaeth ym mhob maes addysgu a dysgu; meithrin cymuned ymchwil ac ysgolheictod lewyrchus; a sicrhau bod yr Ysgol yn cynnal ac yn adeiladu ar ei henw da fel amgylchedd ysgogol a chefnogol i astudio ynddo.<\/p>\n<p><strong>Sut brofiad fydd gweithio gyda chymuned y cynfyfyrwyr yn y dyfodol yn eich barn chi?<\/strong><\/p>\n<p>Rwyf wedi gwasanaethu yn Swyddog Cynfyfyrwyr yn yr Ysgol Cerddoriaeth am yr wyth mlynedd diwethaf ac rwyf bob amser wedi mwynhau cadw mewn cysylltiad \u00e2 myfyrwyr blaenorol i brofi sut mae eu gyrfaoedd wedi datblygu. Mae cynfyfyrwyr sy\u2019n dymuno ymweld \u00e2\u2019r Ysgol a chael taith o gwmpas yn cysylltu \u00e2 ni\u2019n rheolaidd. Yn ddiweddar, croesewais gr\u0175p o fyfyrwyr a oedd yn astudio yma yn israddedigion pan agorwyd yr Adeilad Cerddoriaeth am y tro cyntaf yn 1971! Yn ddigon naturiol, bydd y diddordeb hwn yn parhau wrth imi weithio yn fy swydd newydd, ond mae&#8217;n si\u0175r y bydd yn dod yn bwysicach fyth hefyd. Yn sicr, rwyf wedi ymrwymo i weithio\u2019n agos gyda\u2019n cymuned o gynfyfyrwyr a hyrwyddo datblygiad cysylltiadau cartref a rhyngwladol.<\/p>\n<p><strong>Beth ydych chi\u2019n edrych ymlaen ato fwyaf ynghylch eich swydd newydd?<\/strong><\/p>\n<p>Goruchwylio a rheoli gweithgareddau amrywiol yr Ysgol. Bydd yr amrywiaeth yn sicrhau swydd ddiddorol iawn ac yn fy nghadw ar flaenau fy nhraed! Rwyf bob amser wedi ei hystyried yn fraint i weithio gyda myfyrwyr mor dalentog a staff ymroddedig, ac rwy\u2019n edrych ymlaen at gryfhau\u2019r cysylltiad hwn. Fodd bynnag, ni all ysgol academaidd lewyrchus a deinamig oroesi a ffynnu os wedi\u2019i hynysu. Bydd cydweithrediad gyda chydweithwyr o fewn Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a\u2019r Gwyddorau Cymdeithasol, y Brifysgol a thu hwnt, gan gynnwys y gymuned leol a\u2019n partneriaid strategol, felly yn hollbwysig i lwyddiant yr Ysgol yn y dyfodol. Mae&#8217;n gyfrifoldeb enfawr, ond rwy&#8217;n edrych ymlaen yn fawr at yr her!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Dechreuodd Dr Nicholas Jones (BMus 1994, MMus 1995, PhD 1999), ei swydd yn Bennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth ym mis Awst 2023, gan olynu\u2019r Athro Ken Hamilton. Yn gynfyfyriwr triphlyg o Gaerdydd, mae Nick wedi astudio a gweithio yn y Brifysgol ers dros 30 mlynedd. Cyn dechrau'r flwyddyn academaidd newydd, mae Nick yn rhannu ei obeithion a'i flaenoriaethau ar gyfer dyfodol yr Ysgol Cerddoriaeth.","protected":false},"author":904,"featured_media":9378,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170,203],"tags":[],"class_list":["post-9386","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9386","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9386"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9386\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9389,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9386\/revisions\/9389"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9378"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9386"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9386"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9386"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}