{"id":9368,"date":"2023-07-26T13:28:05","date_gmt":"2023-07-26T13:28:05","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9368"},"modified":"2024-10-08T12:41:02","modified_gmt":"2024-10-08T12:41:02","slug":"beth-maer-eisteddfod-yn-ei-olygu-i-mi-beti-george-ba-1960-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/07\/26\/beth-maer-eisteddfod-yn-ei-olygu-i-mi-beti-george-ba-1960-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/","title":{"rendered":"Beth mae\u2019r Eisteddfod yn ei olygu i mi Beti George (BA 1960) \u2014 I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr"},"content":{"rendered":"<p><strong>Astudiodd Beti George (BA 1960) y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae&#8217;n ddarlledwr teledu a radio Cymreig o fri. Mae Beti yn fwyaf adnabyddus am gyflwyno&#8217;r rhaglen newyddion nosweithiol, Newyddion yn ogystal \u00e2 rhaglen wythnosol BBC Radio Cymru, Beti a&#8217;i Phobol ac mae&#8217;n llysgennad dros y Gymraeg. Yma, mae Beti yn rhannu atgofion ei phlentyndod o\u2019r Eisteddfod, ac yn s\u00f4n am yr hyn y mae hi, a\u2019r Gymraeg yn ei olygu iddi.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Os ydych yn bwriadu mynd i Eisteddfod Genedlaethol 2023, dewch i gyfarfod \u00e2\u2019ch cyd-gynfyfyrwyr yn <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/events\/view\/2718896-national-eisteddfod-of-wales-alumni-reception\">Nerbyniad Cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd<\/a> ddydd Iau, 10 Awst.<\/strong><\/p>\n<p>Cefais fy magu yng nghefn gwlad yn y gorllewin &#8211; ym mhentre\u2019 Coedybryn lle bu&#8217;r Prifardd a&#8217;r awdur T. LLew Jones yn brifathro ar ysgol fach y pentre\u2019. Roedd Eisteddfod yn y gwaed ac roedd &#8216;na ddisgwyl i ni blant gystadlu yn yr eisteddfodau fyddai &#8216;n cael eu cynnal rhywle yn yr ardal bob nos Sadwrn bron. Canu oedd y gamp yn ein t\u0177 ni a &#8216;nhad yn ein hyfforddi ni &#8211; fy mrawd a finne. Er fy mod i&#8217;n cas\u00e1u cystadlu, roedd hi fel petai&#8217;n fater o ddyletswydd. Ar ben fy hunan roeddwn mor nerfus, ond pan roedd y ddau ohonom yn canu deuawd, fe fuse\u2019r nerfau yn diflannu. Roedden ni&#8217;n ennill ymhobman. Gallwch ddychmygu y ddau blentyn bach &#8216;ma, brawd a chwaer a&#8217;r lleisiau yn asio i&#8217;r dim. Fy mrawd yn soprano, finne&#8217;n alto! Heddi, does dim dwywaith, fe fusen ni&#8217;n serennu yn X factor, neu Britain&#8217;s Got Talent!<\/p>\n<p>Aethon ni ddim i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol &#8211; doedd dim car &#8216;da ni i fynd ta beth!<\/p>\n<p>Ond roedden ni&#8217;n meddwl bod ennill yn y Genedlaethol yn gyfystyr ag ennill gwobr aur yn y gemau Olympaidd. Dw i&#8217;n cofio, yn blentyn bach, pan roedden ni ar fws yn mynd draw i draeth Langrannog, roedd mam yn siarad \u00e2 dyn oedd newydd ennill y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Finne yn edrych arno fel y dyn pwysica\u2019 yn y byd, ac eisiau gwbod ble roedd y gadair!<br \/>\nGallwn gyfri ar un llaw faint o Eisteddfodau Cenedlaethol i fi eu mynychu cyn 1981! Wedyn, daeth y cyfle i fi gyflwyno Tocyn Wythnos o&#8217;r Eisteddfod a bum wrthi tan 2019. Am fraint!<br \/>\nAlla i ddim dweud fy mod yn hollol gyffyrddus gyda&#8217;r peth cystadlu &#8216;ma. Hynny oherwydd mod i&#8217;n cas\u00e1u gweld pobl yn colli! (Efallai mai fi sy&#8217;n cas\u00e1u colli!) Digon hawdd yw dweud &#8220;byddwch yn gollwyr da&#8221;! Dw i&#8217;n amau a ydi hynny&#8217;n bosib! Fuswn i byth yn gallu bod yn feirniad achos pwy ydw i i ddweud pwy sy&#8217;n haeddu ennill a phwy sy&#8217;n HAEDDU colli.<\/p>\n<p>A buswn i ddim yn ddigon dewr i fod yn feirniad. Mae angen croen crocodeil ar feirniad yn \u00f4l straeon dw i wedi ei glywed am agwedd ymosodol ambell i riant ar \u00f4l i&#8217;w hepil gael cam!<br \/>\n&#8216;Sdim dwywaith, mae cythraul y canu yn fyw ac yn iach!<\/p>\n<p>Eto, rych chi&#8217;n clywed am s\u00ear fel Syr Bryn Terfel yn canu clodydd cystadlu mewn eisteddfodau oherwydd bod hynny wedi gosod sylfaen gref i&#8217;w yrfa, sydd wrth gwrs mor gystadleuol.<br \/>\nMae rhai yn ofni bod y newidiadau sy&#8217;n digwydd ar hyn o bryd yn mynd i arwain at droi&#8217;r Eisteddfod yn \u0174yl gyda llai o bwyslais ar y cystadlu. Er mai llugoer yw fy agwedd i at gystadlu, dw i ddim yn gweld diben cynnal eisteddfod heb fod yr elfen honno yn ganolog iddi. Dyna sy&#8217;n denu&#8217;r miloedd yn fy marn i achos yn y b\u00f4n dw i&#8217;n meddwl bod gweld pobl yn ennill A cholli yn rhan o natur dyn gwaetha&#8217;r modd!<\/p>\n<p>Yn ddiweddar mae &#8216;na drafodaeth danllyd wedi bod yngl\u0177n ag unieithrwydd yr Eisteddfod. Yr unig beth ddweda i yw, fy mod i am un wythnos y flwyddyn, yn gwerthfawrogi&#8217;r cyfle i ail wefru\u2019r batris Cymraeg sy&#8217; yn fy ngwaed.<\/p>\n<p><em><strong>Rydym wedi cyflwyno \u2018I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr\u2019 gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal \u00e2 chi! Byddem\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\">wrth ein bodd yn clywed gennych i<\/a>\u00a0gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw\u2019r stori! Edrychwch ar ein\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\">rhestr lawn o erthyglau<\/a>, a gwyliwch ein\u00a0<a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/playlist?list=PLBbUDRHpmzVvmG54TgwbGsJ-ElDjOAGIp\">rhestr o ddigwyddiadau byw<\/a>\u00a0eto.<\/strong><\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Astudiodd Beti George (BA 1960) y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae'n ddarlledwr teledu a radio Cymreig o fri. Yma, mae Beti yn rhannu atgofion ei phlentyndod o\u2019r Eisteddfod, ac yn s\u00f4n am yr hyn y mae hi, a\u2019r Gymraeg yn ei olygu iddi.","protected":false},"author":904,"featured_media":9367,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,2050,202,203],"tags":[],"class_list":["post-9368","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-eisteddfod-cy","category-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9368","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9368"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9368\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10044,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9368\/revisions\/10044"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9367"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9368"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9368"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9368"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}